BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Dathlu a ballu
Ionawr 13, 2012, 9:34 pm
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , ,

Nabod fama? Mae o yng Ngogledd Cymru …

Meirionnydd …?

Naci, nid Llyn Cynwch, ond Llynnoedd Cregennan. Rhywle sy’n hyfryd bob amser ond yn enwedig pan mae’r golau’n berffaith, fel hyn. Mi gymrais i hwn rhyw ddwy flynedd yn ôl, ond dwi newydd wneud calendr ( fymryn yn hwyr) ar fy nghyfer i a Mam, ac mae hwn yn un o’r lluniau.

 

Mam a fi oherwydd ein bod ein dwy yn cael penblwyddi go fawr o fewn y dyddiau nesa. Fi’n 50 ( ia, dwi’n gwybod, dwi isio crio) a Mam yn 70 ( mae’n rhaid ei bod hi mewn mwy fyth o sioc). A dan ni’n cychwyn am Gaerdydd bore fory i weld sioe Oliver. Dyna ydi ei hanrheg hi gen i a fy chwaer ( sy’n dod hefyd). Ond dwi wedi cael un dathliad yn barod.

Nabod fama ta?

Lawr yn y de tro ma.

Y Gorllewin?

Gwersyll go enwog yno … ia, Llangrannog. Dydd Sadwrn dwytha oedd hyn. Diwrnod perffaith ynde? Mi fues i a 10 o ffrindiau yn aros yn Nhresaith am y penwythnos, ac mi wnes i ac Ann feicio o Dresaith i Langrannog ac yn ôl ( do, i fyny ac i lawr yr elltydd erchyll yna!). Cychwyn yn ôl ydw i fan hyn:

Ac os dach chi’n beicio – dwi’n argymell prynu siaced y lliw yna – maen nhw’n eich gweld chi o bell! A dyna’r beic brynais i mi fy hun fel arheg Nadolig. A dyma’r ddau feic ( fy hen un ydi’r llall) yn erbyn wal tafarn y Ship yn Llangrannog, lle cafwyd prynhawn hwyliog a bwyd blasus tu hwnt – a phawb yno’n Gymry Cymraeg!

A dyna’r unig luniau dwi am eu rhannu efo chi. Mi fyswn i’n cael fy mlingo taswn i’n dangos y rhai dawnsio bogel (belly dancing).

Gyda llaw, roedd na goeden camelia wedi blodeuo’n llawn yn Nhresaith. Anhygoel ar gyfer Ionawr ynde?

Mae fy nghriw coleg yn trio trefnu penwythnos yn sir Fôn rwan – anodd a deud y lleia!

Iawn, pacio ar gyfer Caerdydd amdani. Dim amser i sbio ar yr ardd yn anffodus. Gyda llaw, newydd orffen nofel ‘The Help’ ac wedi mwynhau’n arw. Ysu isio gweld y ffilm rwan.

 



2012
Ionawr 3, 2012, 12:39 am
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

Mi fues i’n tynnu a chadw’r addurniadau Nadolig i gyd heddiw – dim mynedd aros tan y 5ed. Maen nhw’n edrych yn rhyfedd unwaith mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd yn fy marn i, yn hen a llychlyd rhywsut.

Ond dyma sut oedd fy nghoeden i. Naomi fy nith a Cadi Fflur fy ngor-nith sy’n busnesa yn yr anrhegion. A nagoedd, doedd hi ddim yn goeden werdd – h.y. coeden ro’n i’n gallu ei hail-blannu. Mae mrawd yn tyfu a gwerthu coed Dolig felly ro’n i’n ailgylchu mewn ffordd wahanol – cadw’r busnes yn y teulu ynde. Mae arna i ofn ei bod hi’n gwywo yn y gwyllt rwan, ond mi fydd yn troi’n gompost ymhen blynyddoedd yn bydd?

Roedd yr anrhegion yn plesio dwi’n meddwl – roedd Nain (96) yn edrych reit hapus efo’i llyfr ‘Taid/Tad-cu’ o leia.Chwip o lyfr difyr, gyda llaw. Adolygiadau da hyd yma – nid bod llawer o’r rheiny i’w cael y dyddiau yma, fel ers talwm. Adolygiadau hynny yw, nid rhai da. Felly dwi am ddeud mod i’n mwynhau hunangofiant Sharon Morgan ar hyn o bryd. Difyr ofnadwy. Felly dwi’n argymell hwnnw i chi hefyd. Ac mae un Tudur Owen yn rhyfeddol o ddiddorol hefyd – ond dwi wedi deud hynny o’r blaen. Dwi jest isio’i ddeud o eto am fod cyn lleied o gyfleon i bobl ganmol llyfrau yn gyhoeddus. Dwi’m wedi darllen un Elinor Bennett Wigley eto, felly methu rhoi fy marn am hwnnw.

A dyma gwpwl o luniau eraill o’n diwrnod Nadolig i chi:

Meg a Robin efo’u taid ( fy nhad i) ydi’r rheina. Es i am dro ar y beics efo nhw heddiw – fi ar fy meic newydd sbon danlli – a ges i bali pyncjar. Ho hym. Doedd Dad ddim efo ni, gyda llaw, jest y plant a Nia, eu mam. Ond roedd o’n antur a gawson ni hwyl.

A dyma fi efo nhw yn dynwared Thunk, cymeriad allan o gomic fyddwn i’n ei ddarllen pan ro’n i oed Robin. Alien bach efo clustiau mawr a thrwyn fel mochyn oedd o. Rhywun arall yn ei gofio? Mae fy chwaer yn taeru mai ‘Flunk’ oedd o, ond dwi’n 100% siwr mai Thunk oedd o.

A dyma i chi’r ieuenga yn ein teulu ni:

Caio ydi hwn, brawd bach Cadi, a thipyn o gymeriad sy’n tyfu’n gyflym, bobol bach. Llyfrau gafodd o gan ei anti ( ym, oce ta, hen anti) Bethan. Rhai am dractors ac ati. A Jac y Jwg a rheina. Mae’n bwysig eu cael nhw i fwynhau llyfrau cyn gynted â phosib tydi? Rhywbeth difyr, addysgiadol a hwyliog  i’w wneud tra mae’r tywydd yn rhy oer a gwlyb i wneud fawr ddim yn yr ardd. Mi ddylwn i glirio a chwynnu mwy rwan mae’n siwr, a dwi wedi gneud chydig. Ond ddim llawer. Mae’n ddrwg i’r lawnt i chi gerdded drosto pan mae hi mor wlyb â hyn tydi … dyna fy esgus i.

Iawn, trwsio pyncjar ydi’r joban nesa … ar ôl i mi hwfro’r llanast adawodd y goeden a’r holl gnau ar eu holau. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn treulio amser efo fy nheulu i wneud rhyw waith felly – o, a mynd i weld ffilm newydd ‘The Girl with the dragon tatoo” efo fy chwaer gyda llaw – wedi mwynhau’n arw. Dim mynedd efo pobl sy’n sbio lawr eu trwynau ar y llyfrau chwaith – mi wnes i eu mwynhau nhw’n aruthrol.

2012 wedi dechrau’n dda – ar wahân i’r pyncjar.

 

 



Nadolig ac ati
Rhagfyr 20, 2011, 1:04 pm
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

Dyma i chi lun gan Robin, fy nai. Wrth fy modd efo fo! Felly dyna ddechrau Nadoligaidd i’r cofnod – yr un olaf yn 2011, mae’n siwr. Fydda i ddim yn blogio mor aml tra mae’r rhaglen oddi ar yr awyr, dim ond yn achlysurol, os bydd rhywbeth difyr a pherthnasol yn codi, iawn?

Wedi cael ymateb da iawn i’r rhaglen Nadolig! A rhag ofn eich bod am wneud eich gwin poeth ( mulled wine) eich hun (ROEDD f’un i’n well nag un potel Steffan, wir yr …) dyma’r cynhwysion:

potel o win coch ( dim byd rhy ddrud)

sloch o frandi

sloch golew o sudd oren ( cranberry yn iawn hefyd)

sloch da o ddwr ( ddim yn siwr os nodwyd hyn ar y rhaglen)

bag neu becyn neu lond llaw o sbeisys ar gyfer gwin poeth ( ar gael mewn unrhyw siop groser fel arfer)

gallwch ychwanegu tangerine efo cwpwl o gloves ynddi os liciwch, jest cofiwch bod blas y cloves yn gallu bod yn ormod i rai.

siwgr ( ychwanegu fesul tipyn – jest blaswch y stwff bob hyn a hyn i weld os oes angen mwy). Dechreuwch efo llond llaw. Brown neu wyn yn iawn, dwi’n tueddu i ddefnyddio chydig o’r ddau.

Gadael i’r cyfan gynhesu mewn sosban – peidiwch a gadael iddo ferwi. Mwynhewch!

Mae pobl yn holi am y gwenyn hefyd, wel, dwi newydd fod yn sbio arnyn nhw bore ‘ma ac maen nhw’n dawel iawn – y rhan fwya yn cysgu, ddeudwn i. Ro’n i wedi rhoi llond bwced o hylif llawn siwgr iddyn nhw sbel yn ôl ac mae o’n dal yn eitha llawn felly dydyn nhw’n amlwg ddim yn defnyddio llawer o egni rwan. Mi wnes i stwffio chydig o sbwng i’r hollt cefn ar waelod y cwch hefyd, i’w helpu i gadw’r cwch yn gynnes pan fydd hi’n oeri go iawn.

Mi wnes i archebu thermomedr ar gyfer cychod gwenyn ddoe, hefyd, a phan ddaw o mi wnai gymryd llun a gadael i chi wybod os ydi o’n werth ei gael. Doedd o’m yn ddrud iawn beth bynnag.

Ges i adroddiad blynyddol gwenynwyr Cymru hefyd, oedd yn fy annog i gofnodi fy manylion ar ‘beebase’, felly dwi newydd wneud. 101 o wenynwyr newydd oedd arno yn 2007, a 404 yn 2011 – 405 rwan! Difyr oedd gweld nad oes sôn am afiechydon yng Ngwynedd eleni, felly mae hynna’n ryddhad. Dwi’m wedi gneud dim i drin Varroa eto. Ond mae’n siwr y daw Carys heibio rhyw ben i ddangos i mi be sydd angen ei wneud.

Ches i’m digon o fêl eleni i fedru rhoi jariau fel anrhegion Nadolig; ro’n i eisoes wedi rhoi peth i fy rhieni a gweddill y teulu. Ond efallai y bydd o’n bosib flwyddyn nesa – gawn ni weld. Dwi isio cwch ychwanegol, mae hynny’n bendant – rhag ofn i rhain benderfynu heidio yn un peth! Ond maen nhw’n amlwg yn hapus eu byd yma hyd yma, a dwi’m wedi cael pigiad yn ystod fy mlwyddyn gynta o’u cadw, o leia. Ond ges i sgwrs ddifyr ym mharti Nadolig Cwmni Da nos Wener, efo rhywun oedd wedi casau cadw gwenyn efo’i dad. Bob tro roedden nhw’n tynnu gwenyn, mi fyddai bywyd yn uffern i bawb ( a’r ci a’r gath) am ddyddiau wedyn, gan fod y gwenyn wedi gwylltio’n rhacs ac yn ymosod ar unrhyw beth oedd o fewn cyrraedd. Doedd fy ngwenyn i ddim felly, rhaid cyfadde, ond pwy a wyr sut fydd hi tro nesa …

Y mwya dwi’n siarad efo gwenynwyr, mwya’n byd dwi’n meddwl bod yma ddeunydd rhaglen deledu neu lyfr, neu rywbeth. Roedd na raglen radio difyr yn ddiweddar yndoedd? Efo gwenynwyr Cymraeg Ceredigion. Dim ond ei hanner glywais i, ond mi wnes i fwynhau’n arw.

Iawn, dyna ni am eleni ta. Nadolig Llawen i chi i gyd a welai chi yn 2012!

o.n: Sbiwch be sydd ar do Ffrwd y Gwyllt rwan! Ia, gwrach. Fan hyn wnes i sgwennu ‘Gwrach y Gwyllt’ a dwi wedi bod isio un o’r rhain ers sbel … wrth fy modd!



Nadolig yn gynnar
Rhagfyr 4, 2011, 7:51 pm
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Daeth y criw draw ddiwedd Tachwedd i ffilmio diweddglo’r rhaglen Nadolig, ac addurno fy ngardd i efo llwythi o bling!

Gyda llaw, ymddiheuriadau am safon y lluniau ond bu farw fy nghamera bach yn Seland Newydd os cofiwch chi (dim ond £90 ges i’n ôl gan y cwmni yswiriant …) a dwi methu dod o hyd i charjar y camera mawr … felly lluniau ffôn ydi’r rhain.

A dyma lun aneglur iawn ohona i’n helpu i addurno fy nghoeden geirios. Dwi’n gwisgo ffedog am mod i wedi bod yn gwneud gwin poeth ( mulled wine) efo Steffan o gaffi hyfryd Penceunant Isaf, Llanberis, a gewch chi weld sut hwyl gawson ni ar y rhaglen. Gawson ni hwyl beth bynnag!

Swatio tu mewn oedd y tri gwr doeth ( ha), Sioned, Carol a Russell, a nacdi, dio’m yn lun clir iawn, ond ro’n i jest isio profi eu bod nhw yno, ar fy soffa i. Yn mwynhau bara brith Steffan a fy ngwin poeth i. Rhaid oedd aros iddi dywyllu i ni gael effaith y bling yn iawn, a duwcs, mae’n edrych yn rhyfeddol tydi?Ond mi lwyddodd y criw i losgi’r cnau castan yn ulw ar y ‘brazier’ … dwi wedi eu rhoi i’r pryfed genwair.

Ges i gadw’r addurniadau? Naddo siwr! Bydd eu hangen eto yn 2012, beryg … ond mi falwyd sawl pelen liwgar ( a hynod frau) wrth glirio … hyd yn oed Russell yn helpu efo’r brwsh llawr!

Dwi’m yn barod o gwbl at y Dolig, dim ond ambell anrheg wedi ei brynu, ond dwi wedi gwneud cacen Dolig ac yn ei mwydo efo rum/brandi yn wythnosol. Aeth hi fymryn yn dywyllach nag arfer, ond nath hi’m llosgi o bell ffordd, diolch byth. A na, fydda i ddim yn rhoi marzipan nac eisin drosti. Y blas sy’n bwysig i mi …

Os ydach chi isio syniad am anrheg Dolig i rywun, mae hunangofiant Tudur Owen yn y gyfres ‘Nabod’ ( rhai efo llai o eiriau ond llwyth o luniau) yn werth ei gael, wir yr. Chwip o hanesion difyr ynddo fo. A lluniau hilêriys!

A sbiwch llun bach del sydd â wnelo  fo ddim oll â Tudur … nabod rhywun?

Ia, fi ydi’r un sy’n edrych ar ôl Rhiannon Frongoch, fy modryb sydd ddim ond 7 wythnos yn hyn na fi – ond dwi wastad wedi bod yn fwy … dwi’m wedi newid llawer naddo? Jest nad ydw i’n dangos fy nghoesau lawer y dyddie yma.

 

 



Grotto gwahanol Parc Pontypwl
Tachwedd 22, 2011, 7:30 pm
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Rydan ni wedi gorffen ffilmio eitemau ar gyfer y rhaglen Nadolig. Wel, falle bod gan Russel un ar ôl – a llongyfarchiadau iddo fo a Jen ar enedigaeth babi rhif 2, hogan fach o’r enw Enid gafodd ei geni ar 11.11.11! Da de …

Beth bynnag, gewch chi weld lluniau o’r diwrnod ola yn Ffrwd y Gwyllt yn nes at yr achos, ond yn gynta, dyma i chi luniau o’r eitem arall wnes i, sef grotto ym Mhontypwl. Na, dydi o’m yn edrych yn le arbennig iawn nacdi? Dyna aeth drwy fy meddwl innau, ar ôl taith ddifyr tu hwnt mewn landrofyr i fyny i dop y bryn ym Mharc hyfryd Pontypwl. Wyddwn i rioed fod cystal parc yno. Ro’n i wedi gweld y cae rygbi o’r blaen, pan aeth byseidiau o Ddolgellau yno flynyddoedd yn ôl i gefnogi Dolgellau v Pontypwl. Colli wnaethon ni, ond roedd ‘na foi caled o’r enw David Bishop yn chwarae iddyn nhw … chwarae i Gymru doedd!

Ta waeth, pan gerddais i mewn i’r cwt bach cerrig yna, ges i sioc. Sbiwch! Dallt rwan pam mae’n cael ei alw yn Grotto Cregyn. Mae ‘na filoedd ar filoedd yna! A hynny diolch i ferch o’r enw Molly Mackworth, priod y boi oedd pia’r parc ar y pryd, nôl yn 1829. Roedd hi wedi mopio efo cregyn, yn eu casglu yn eu cannoedd ( yn amlwg) a’i syniad hi oedd addurno’r hen ‘summer house’ fel hyn. Ac roedd o’n rhywbeth i weithwyr y stâd ei neud yn ystod misoedd oer y gaeaf – roedd ‘na le tân yno hefyd. Ac mae’r cadeiriau’n dyddio’n ôl i 1829 hefyd – dyna oedd lliw y paent bryd hynny hefyd – a na, dydach chi’m yn cael eistedd arnyn nhw rwan. Ond gewch chi fynd i weld y grotto – ar adegau arbennig. Mae’n cael ei gloi rwan, am fod plant ( ac oedolion mwn) yn cymryd cregyn fel swfenirs, y diawlied bach. Mae’r gwaith yn anhygoel a’r patrymau yn rhyfeddol. Diolch yn fawr i Amy Evans am ddangos y lle i ni – a sori am anghofio cymryd llun ohoni!

Ond y rhan rhyfedda oedd y llawr … ydach chi’n gallu gweithio allan o be wnaethpwyd y patrymau hyn ar y llawr?

Na? Gwyliwch y rhaglen i gael gwybod! Ond dyma i chi lun chydig mwy manwl i chi gael craffu … Naci, nid cregyn mo’r rhain …

A llun bach o rannau o’r giatiau yn y brif fynedfa – wel, yr hen un. Yr un lliw â’r cadeiriau, sylwch. A tydi o’n le da i fynd am dro ar feic neu ar droed? Y gwaith haearn wnaeth y perchnogion mor ariannog, felly mae’n naturiol mai haearn ydi’r giatiau. Ew, tase gen i giatiau fel’na yn Ffrwd y Gwyllt …

Lle difyr iawn, iawn, ac mae’n werth teithio i Bontypwl i gael golwg ar y lle. Ewch a’r ci efo chi – lle da iddyn nhw fynd am dro. Ac mae’r cinio gawson ni yn y ganolfan hamdden yn un o’r prydau mwya rhesymol yng Nghymru – jest dros £3.00 am omlet a salad wirioneddol dda. Mae crwydro Cymru efo BYYA yn gallu bod yn bleser ac yn addysg, rhaid i mi ddeud.



Y ty Gwydr
Tachwedd 14, 2011, 11:35 am
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , ,

Ia, dyma be oedd yn fy nisgwyl pan ddois i’n ôl o ngwyliau – ac fel hyn mae o o hyd. Does gen i mo’r galon na’r mynedd i ffaffian efo fo, a phun bynnag, mae ‘na griw ffilmio yn dod yma wsnos nesa, felly dwi wedi ei adael iddyn nhw gael siot ohono fo er mwyn dangos i’r gwylwyr pa mor bali anobeithiol ydi ty gwydr sy’n llawn gwynt.

Y cwbl ges i allan ohono fo oedd rhyw 20 tomato a 2 gourgette a hanner – wedi’r holl ddyfrio! A bod yn onest, roedd popeth yn dod yn barod yn ystod y cyfnod ro’n i i ffwrdd (cyfraith Murphy) felly mae’n bosib bod Mam wedi cael rhywbeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond ddeudodd hi ddim.

Ydw i’n mynd i drafferthu trio ei chwythu eto a rhoi patsh ar y twll neu’r tyllau? Wel, fysech chi? Go brin. Dwi unai’n mynd i’w roi yn y bin neu ei gynnig i unrhyw un sy’n fodlon dod i’w nôl o. Mae croeso i chi gysylltu …

Ond mae gweddill yr ardd reit liwgar wrth gwrs, a lliwiau’r hydref yn fendigedig.

Ac mae’r goeden yma blannais i llynedd yn dod yn eitha da wedi i mi ei symud i le mwy cysgodol:

Edrych ymlaen yn arw i’w gweld hi’n liwiau fflamgoch chwe troedfedd yn y dyfodol. Ydw, dwi wrth fy modd efo lliwiau’r hydref. Pan fydd yr awyr yn las a’r haul yn tywynnu, does na’m byd gwell nagoes?

Mae Del a fi wedi bod yn cael modd i fyw yn trotian a phedlo ar hyd Llwybr Mawddach – bendigedig tydi?

Ond fedran ni ddim mynd eto am sbel. Yn un peth, mae hi’n cwna ac mae na wastad gryn dipyn o gwn diarth ar y llwybr – a dydan ni’m isio cwn bach eto! Dwi’n meddwl mynd a hi i gael y snip a deud y gwir. Dwi ddim yn edrych ymlaen – a fydd hi ddim yn hapus, ond dyna fo.

A dwi hefyd yn cychwyn am y de heno – gweithio mewn ysgolion yn ardal Llanhari am yr wythnos. Gweddiwch drostai! Ond dwi’n edrych mlaen at gael rhyddid o’r cyfrifiadur a gallu canolbwyntio ar y llyfr dwi’n ei ddarllen ar hyn o bryd – y 6ed mewn cyfres o 5 a deud y gwir. Dwi wedi gwirioni efo’r gyfres yma, sy’n fleiddiaid a dreigiau a ffantasi a hud a lledrith – gwych! Mae fersiwn HBO o’r llyfr cynta’n cael ei ddangos ar Sky ar hyn o bryd. Ond llyfr gwych arall sydd wedi bod yn rhan o mywyd i’n ddiweddar ydi hwn:Yr anrheg Nadolig perffaith i Taid! A Nain … ac unrhyw aelod o’r teulu a deud y gwir.

Iawn, gwell paratoi ar gyfer awduron y dyfodol rwan – dwi fod i wella eu sgiliau ysgrifennu. Hwyl!



Mel a ballu
Tachwedd 1, 2011, 1:50 pm
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , ,

Dyma lle fydda i’n beicio efo Del bob dydd. Pam trafferthu chwilio am olygfeydd tlws dros y môr dwch? Yn enwedig yn yr hydref. Ew, mae’n braf bod adre, ac yn braf gallu byw ym Meirionnydd.

Yn enwedig pan mae gan rywun ardd sy’n denu a bwydo’r rhain: Do, dwi wedi bod yn prynu mwy o bling i’r ardd. Dwi wedi gwirioni efo ngwenyn! A dwi wedi cael mêl go iawn o’r diwedd. Braidd yn hwyr yn y tymor, ond ro’n i wedi bod i ffwrdd do’n, ac mae Carys Tractors yn hogan brysur. Ond un pnawn Sul, daeth hi draw i ddangos i mi be oedd angen ei neud. ges i fenthyg hwn gan y gymdeithas: Ia, twbyn mawr gwyn sy’n cymryd pedair ffram ar y tro ( dim ond pedair allwn i fforddio eu dwyn o’r cwch fel mae’n digwydd – roedd y gwenyn druan wedi gorfod sglaffio’n arw dros y mis Awst gwlyb, oer gawson ni). Dyma Carys yn fy nangos sut i’w rhoi i mewn ( ar ôl torri’r ochrau llawn cwyr i mewn i sosban efo cyllell fara). Troi’r handlen wedyn, ac roedd y mel yn tasgu allan o’r tyllau ac yn llifo i lawr ochr y twbyn. Wedi gadael i’r cyfan setlo dros nos, y cam nesa oedd agor y tap i adael iddo lifo i mewn i’r hidlwr dwi wedi ei brynu gan Carys am £40.

Mmm … mêl! Roedd yr arogl yn hyfryd! Wedi gadael iddo hidlo a setlo am ryw ddeuddydd, dri, mi fues i’n ei dywallt i mewn i jariau. Dwi’m wedi trafferthu i wneud labeli eto – dwi’m yn pasa gwerthu dim, anrhegion i ffrindiau a theulu ydi’r mêl yma – ac un yn anrheg i’r boi sy pia’r gwyllt! Ond ges i ddeg jar yn y diwedd, ond mi falodd un yn deilchion … grrr. A dyma be oedd ar ôl wedi rhoi un jar i Nain, un i fy rhieni, un i’r Gwanas ac un bychan bach i Chris ac Olga Malone, ddigwyddodd alw i ngweld i. Mae pawb yn canmol y blas yn arw – Himalayan Blossom yn gryf ynddo fo. Sef y stwff sy’n tyfu’n rhemp ar hyd glannau ein hafonydd, ond dydi o’m yn ddrwg i gyd felly nacdi? Ddim os ydi o’n cadw y gwenyn i fwydo’n hirach yn y tymor.Ond mi fydd raid i mi gadw golwg ar rhain rwan a’u bwydo’n gyson rhag iddyn nhw lwgu dros y gaeaf. Maen nhw wedi cael un llond bwced o hylif llawn siwgr yn barod.

Dwi am gael cwch arall ar gyfer flwyddyn nesa. A falle siwt sbâr i ffrindiau a theulu gael dod i fy helpu. Dyma fy mam a fy nith Ceri, yn y siwtiau ges i eu benthyg gan Carys am gyfnod. Roedden nhw’n hapus braf yn trin y gwenyn!



Go the All Blacks!
Hydref 23, 2011, 2:59 pm
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , ,

Ffiw. Dwi mor falch bod y Crysau Duon wedi ennill y cwpan. Oedd, roedd hi’n gêm fler,  a do, mi chwaraeodd Ffrainc yn dda, ond y Crysau Duon oedd i fod i ennill a dyna fo! Roedd y pwysau oedd arnyn nhw yn anhygoel, yn gwneud i’r pwysau oedd ar Gymru edrych fel pluen, ac fel ddeudodd Grant Fox, roedd y wlad angen iddyn nhw ennill er mwyn ‘their sanity’. Mi fyddai colli mewn ffeinal eto – ac i Ffrainc – eto! – wedi bod yn rhy greulon o lawer. Roedd fy nghalon i’n mynd fel peth gwirion, dyn yn unig a wyr sut oedd un Graham Henry, heb sôn am Mr Perffaith ei hun – Richie Mc Caw.

Y chwaraewr rygbi delfrydol, sy’n ofni dim na neb a wastad yn rhoi 100%. Ac sy’n digwydd bod yn ddel …

Wel, do’n i ddim yno bore ma wrth gwrs, ond ro’n i yno rhyw wythnos yn ôl, ac wele Eden Park, lle digwyddodd y ddrama:

Fi gymrodd y llun yna, o gopa Mt Eden (roedd Lawrence Dallaglio yno yr un pryd), jest cyn mynd i weld blodau yn y Wintergardens, yn arbennig ar gyfer y blog yma! Dau dy gwydr anferth efo pwll llawn lilis rhyngddyn nhw ydi’r Wintegardens, a ges i awren fach hyfryd iawn yn sbio ac arogli efo fy ffrind Kiwi, Marian Evans.

Dyma i chi rai o’r blodau hyfryd sydd yno ar hyn o bryd:

Ddrwg iawn gen i, wnes i’m cymryd cofnod o’r enwau, ond ges i sypreis neis iawn o weld cennin pedr yno! Maen nhw yng nghefn y llun uchod. Dim syniad mwnci be oedd rhain chwaith, ond maen nhw’n edrych reit ddifyr ac ecsotig i mi.

Hollyhocks ydi’r rhain dwch? Dwi’m yn siwr, achos does gen i ddim yn fy ngardd i. Ond mae gen i lilis dwr digon tebyg i’r rhain:

Ond mae na well graen ar rhain, rhaid cyfadde. Yn anffdus, bu farw fy nghamera yn fuan wedyn, pan ro’n i ar draeth Cathedral Cove – fan hyn: Hyfryd tydi? Wedi bod yn canwio ro’n i, ond roedd y camera mewn bag sych a chafodd o mo’i wlychu. Dim ond wedyn, ar y traeth aeth o’n kaput. Felly bu’n rhaid defnyddio fy iphone i gymryd lluniau o hynny mlaen, a dyma i chi rywbeth ges i dafliad carreg o stadiwm Eden Park – cacen foron. Y gacen fwya hyfryd i mi ei blasu erioed. Na, fydda i ddim fel arfer yn cymryd lluniau o gacenni, ond roedd hon yn haeddu cwpan y byd am y gacen orau yn y byd! Nefoedd ar blât …



Dan y dwr
Hydref 16, 2011, 10:59 am
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , ,

Helo, ia, fi ydi honna ac ydw, dwi’n ôl yng Nghymru. Mi ddois i’n ôl jest cyn y gêm yn erbyn Ffrainc, diolch byth. Gobeithio y gwnawn nhw chwalu Awstralia wythnos nesa rwan, jest i brofi pwynt …

Ond ges i amser da iawn yn Bali a Seland Newydd. Mi fydd raid i mi weithio fel ffwl rwan i dalu’r biliau, ond roedd o werth o!

A dyma i chi chydig o luniau dan dwr yn Bali i ddangos pa mor debyg i ardd ydi hi lawr fanna:

Lliwgar, hyfryd, bendigedig! Ac roedd y seren fôr yna’n fawr, credwch chi fi. Weles i gryn dipyn o bysgod anhygoel a hyd yn oed crwban môr:

Tydi o’n smart? A ges i wefr go iawn wrth nofio ynghanol cannoedd ar gannoedd o jackfish:

Ac os ydach chi’n meddwl tybed pam ro’n i’n nofio efo mwg … wel, nes i addo cymryd lluniau yn arbennig ar gyfer rhyw gwmni gneud cardiau a mwgiau o Gaernarfon … gwell peidio dangos y neges ar y mwg yn rhy amlwg, gan ei fod o chydig bach yn ‘rude’ …

Ges i o leia ddau ac weithiau dri plymiad bob diwrnod, ac felly, wedi deng mlynedd o beidio plymio, dwi’n teimlo mod i unwaith eto ‘yn y groove’ ac yn marw isio mynd dan dwr eto. Ond mi fydd raid cynilo gryn dipyn cyn gallu meddwl am fynd. Ges i wneud ‘night dive’ hefyd, oedd yn brofiad a hanner, ond roedd ‘na lif anhygoel o gry y noson honno, oedd yn ei gwneud hi’n anodd i aros mewn un lle i sbio’n iawn ar bethau. Dwi isio cyfle i roi cynnig arall arni mewn dwr llonydd!

Mwy o luniau i orffen:



Gwyliau!
Medi 17, 2011, 11:03 am
Wedi'i ffeilio o dan: Heb gategori | Tagiau: , , , , , ,

Ydw, dwi’n cael mynd. Ie, i fan’no. I Seland Newydd – cwpan y byd, rygbi, kiwis, maoris … fydda i yno! Dim byd i neud efo Byw yn yr Ardd ( y gyllideb ddim cweit yn stretsho digon) ond rwan bod y ffilmio a’r trosleisio wedi dod i ben ( tan rhaglen y Nadolig wrth gwrs) – dwi’n rhydd! A digwydd bod, ges i ebost gan ffrind i mi o Auckland yn deud “I’ve a spare room if you want to come for the rugby …” Wel. Wel wel wel! Be fysech chi wedi ei neud?! Ro’n i wedi cadw cyfnod o 3 wythnos yn rhydd ar gyfer mynd i rhywle, oedd yn digwydd taro ar gêm Cymru v Fiji, De Affrica v Samoa a’r chwarteri. Ond mi fyddai adre erbyn y gêm derfynol. Neu yn yr awyr – dwi’m yn cofio rwan.

A dwi wedi cael tocynnau ar gyfer y ddwy gêm uchod! Gai weld Sam ein capten glew a’i hogia yn stwffio’r Fijiaid – gobeithio. ( Dwi’n sgwennu hwn cyn gêm Samoa ac yn nerfus baridd). Mi fydda i yno beth bynnag – chwiliwch amdanai mewn het Gymreig – efo 3 hogan arall o Seland Newydd. A dau gennin wedi eu chwythu i fyny ( hi ofynnodd…). Roedd hi’n arfer bod yn briod efo Cymro; gwraig weddw ydi hi bellach, ers blynyddoedd, bechod.

Ond gan mod i wedi pasa plymio scuba, dwi’n mynd i Bali yn gynta, i Tulamben lle mae na lefydd gwych i wneud scuba. Ac mae’n rhad, bobol bach – wel, efo’r cwmni dwi wedi dod o hyd iddyn nhw. A llofft yng nghefn yr ysgol blymio am 10 euro y noson! Nai adael i chi wybod sut le oedd o – ond mae’n well gen i lefydd plaen, syml. Dwi wastad yn teimlo’n annifyr mewn gwesty crand. Ac mae’r rhain yn swnio’n hynod llorweddol ( laid-back?!) a dwi’n mwynhau bod efo pobl felna. A chroesi bysedd y cai weld pob math o bethau. Os nad ydach chi wedi plymio dan dwr – mae’n union fel gardd lawr fanna, felly byw yn yr ardd dan dwr fydda i!

Hyfryd de? Felly tan fyddai wedi dod yn ôl – hwyl i chi – a chofiwch wylio rhaglen Enlli a’r rhaglen o ffefrynnau’r gyfres dros y flwyddyn! O, a ‘Byw yn ôl y Papur Newydd’ sy’n dechrau ar ddechrau Hydref. Mae’r cyfan ar Sky+ gen i, achos dwi na Tudur wedi gweld y gyfres ‘BYOYPN’ yn iawn eto chwaith.

Tan toc.




Follow

Get every new post delivered to your Inbox.