BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Grotto gwahanol Parc Pontypwl
Tachwedd 22, 2011, 7:30 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Rydan ni wedi gorffen ffilmio eitemau ar gyfer y rhaglen Nadolig. Wel, falle bod gan Russel un ar ôl – a llongyfarchiadau iddo fo a Jen ar enedigaeth babi rhif 2, hogan fach o’r enw Enid gafodd ei geni ar 11.11.11! Da de …

Beth bynnag, gewch chi weld lluniau o’r diwrnod ola yn Ffrwd y Gwyllt yn nes at yr achos, ond yn gynta, dyma i chi luniau o’r eitem arall wnes i, sef grotto ym Mhontypwl. Na, dydi o’m yn edrych yn le arbennig iawn nacdi? Dyna aeth drwy fy meddwl innau, ar ôl taith ddifyr tu hwnt mewn landrofyr i fyny i dop y bryn ym Mharc hyfryd Pontypwl. Wyddwn i rioed fod cystal parc yno. Ro’n i wedi gweld y cae rygbi o’r blaen, pan aeth byseidiau o Ddolgellau yno flynyddoedd yn ôl i gefnogi Dolgellau v Pontypwl. Colli wnaethon ni, ond roedd ‘na foi caled o’r enw David Bishop yn chwarae iddyn nhw … chwarae i Gymru doedd!

Ta waeth, pan gerddais i mewn i’r cwt bach cerrig yna, ges i sioc. Sbiwch! Dallt rwan pam mae’n cael ei alw yn Grotto Cregyn. Mae ‘na filoedd ar filoedd yna! A hynny diolch i ferch o’r enw Molly Mackworth, priod y boi oedd pia’r parc ar y pryd, nôl yn 1829. Roedd hi wedi mopio efo cregyn, yn eu casglu yn eu cannoedd ( yn amlwg) a’i syniad hi oedd addurno’r hen ‘summer house’ fel hyn. Ac roedd o’n rhywbeth i weithwyr y stâd ei neud yn ystod misoedd oer y gaeaf – roedd ‘na le tân yno hefyd. Ac mae’r cadeiriau’n dyddio’n ôl i 1829 hefyd – dyna oedd lliw y paent bryd hynny hefyd – a na, dydach chi’m yn cael eistedd arnyn nhw rwan. Ond gewch chi fynd i weld y grotto – ar adegau arbennig. Mae’n cael ei gloi rwan, am fod plant ( ac oedolion mwn) yn cymryd cregyn fel swfenirs, y diawlied bach. Mae’r gwaith yn anhygoel a’r patrymau yn rhyfeddol. Diolch yn fawr i Amy Evans am ddangos y lle i ni – a sori am anghofio cymryd llun ohoni!

Ond y rhan rhyfedda oedd y llawr … ydach chi’n gallu gweithio allan o be wnaethpwyd y patrymau hyn ar y llawr?

Na? Gwyliwch y rhaglen i gael gwybod! Ond dyma i chi lun chydig mwy manwl i chi gael craffu … Naci, nid cregyn mo’r rhain …

A llun bach o rannau o’r giatiau yn y brif fynedfa – wel, yr hen un. Yr un lliw â’r cadeiriau, sylwch. A tydi o’n le da i fynd am dro ar feic neu ar droed? Y gwaith haearn wnaeth y perchnogion mor ariannog, felly mae’n naturiol mai haearn ydi’r giatiau. Ew, tase gen i giatiau fel’na yn Ffrwd y Gwyllt …

Lle difyr iawn, iawn, ac mae’n werth teithio i Bontypwl i gael golwg ar y lle. Ewch a’r ci efo chi – lle da iddyn nhw fynd am dro. Ac mae’r cinio gawson ni yn y ganolfan hamdden yn un o’r prydau mwya rhesymol yng Nghymru – jest dros £3.00 am omlet a salad wirioneddol dda. Mae crwydro Cymru efo BYYA yn gallu bod yn bleser ac yn addysg, rhaid i mi ddeud.



Y ty Gwydr
Tachwedd 14, 2011, 11:35 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , ,

Ia, dyma be oedd yn fy nisgwyl pan ddois i’n ôl o ngwyliau – ac fel hyn mae o o hyd. Does gen i mo’r galon na’r mynedd i ffaffian efo fo, a phun bynnag, mae ‘na griw ffilmio yn dod yma wsnos nesa, felly dwi wedi ei adael iddyn nhw gael siot ohono fo er mwyn dangos i’r gwylwyr pa mor bali anobeithiol ydi ty gwydr sy’n llawn gwynt.

Y cwbl ges i allan ohono fo oedd rhyw 20 tomato a 2 gourgette a hanner – wedi’r holl ddyfrio! A bod yn onest, roedd popeth yn dod yn barod yn ystod y cyfnod ro’n i i ffwrdd (cyfraith Murphy) felly mae’n bosib bod Mam wedi cael rhywbeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond ddeudodd hi ddim.

Ydw i’n mynd i drafferthu trio ei chwythu eto a rhoi patsh ar y twll neu’r tyllau? Wel, fysech chi? Go brin. Dwi unai’n mynd i’w roi yn y bin neu ei gynnig i unrhyw un sy’n fodlon dod i’w nôl o. Mae croeso i chi gysylltu …

Ond mae gweddill yr ardd reit liwgar wrth gwrs, a lliwiau’r hydref yn fendigedig.

Ac mae’r goeden yma blannais i llynedd yn dod yn eitha da wedi i mi ei symud i le mwy cysgodol:

Edrych ymlaen yn arw i’w gweld hi’n liwiau fflamgoch chwe troedfedd yn y dyfodol. Ydw, dwi wrth fy modd efo lliwiau’r hydref. Pan fydd yr awyr yn las a’r haul yn tywynnu, does na’m byd gwell nagoes?

Mae Del a fi wedi bod yn cael modd i fyw yn trotian a phedlo ar hyd Llwybr Mawddach – bendigedig tydi?

Ond fedran ni ddim mynd eto am sbel. Yn un peth, mae hi’n cwna ac mae na wastad gryn dipyn o gwn diarth ar y llwybr – a dydan ni’m isio cwn bach eto! Dwi’n meddwl mynd a hi i gael y snip a deud y gwir. Dwi ddim yn edrych ymlaen – a fydd hi ddim yn hapus, ond dyna fo.

A dwi hefyd yn cychwyn am y de heno – gweithio mewn ysgolion yn ardal Llanhari am yr wythnos. Gweddiwch drostai! Ond dwi’n edrych mlaen at gael rhyddid o’r cyfrifiadur a gallu canolbwyntio ar y llyfr dwi’n ei ddarllen ar hyn o bryd – y 6ed mewn cyfres o 5 a deud y gwir. Dwi wedi gwirioni efo’r gyfres yma, sy’n fleiddiaid a dreigiau a ffantasi a hud a lledrith – gwych! Mae fersiwn HBO o’r llyfr cynta’n cael ei ddangos ar Sky ar hyn o bryd. Ond llyfr gwych arall sydd wedi bod yn rhan o mywyd i’n ddiweddar ydi hwn:Yr anrheg Nadolig perffaith i Taid! A Nain … ac unrhyw aelod o’r teulu a deud y gwir.

Iawn, gwell paratoi ar gyfer awduron y dyfodol rwan – dwi fod i wella eu sgiliau ysgrifennu. Hwyl!



Mel a ballu
Tachwedd 1, 2011, 1:50 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Dyma lle fydda i’n beicio efo Del bob dydd. Pam trafferthu chwilio am olygfeydd tlws dros y môr dwch? Yn enwedig yn yr hydref. Ew, mae’n braf bod adre, ac yn braf gallu byw ym Meirionnydd.

Yn enwedig pan mae gan rywun ardd sy’n denu a bwydo’r rhain: Do, dwi wedi bod yn prynu mwy o bling i’r ardd. Dwi wedi gwirioni efo ngwenyn! A dwi wedi cael mêl go iawn o’r diwedd. Braidd yn hwyr yn y tymor, ond ro’n i wedi bod i ffwrdd do’n, ac mae Carys Tractors yn hogan brysur. Ond un pnawn Sul, daeth hi draw i ddangos i mi be oedd angen ei neud. ges i fenthyg hwn gan y gymdeithas: Ia, twbyn mawr gwyn sy’n cymryd pedair ffram ar y tro ( dim ond pedair allwn i fforddio eu dwyn o’r cwch fel mae’n digwydd – roedd y gwenyn druan wedi gorfod sglaffio’n arw dros y mis Awst gwlyb, oer gawson ni). Dyma Carys yn fy nangos sut i’w rhoi i mewn ( ar ôl torri’r ochrau llawn cwyr i mewn i sosban efo cyllell fara). Troi’r handlen wedyn, ac roedd y mel yn tasgu allan o’r tyllau ac yn llifo i lawr ochr y twbyn. Wedi gadael i’r cyfan setlo dros nos, y cam nesa oedd agor y tap i adael iddo lifo i mewn i’r hidlwr dwi wedi ei brynu gan Carys am £40.

Mmm … mêl! Roedd yr arogl yn hyfryd! Wedi gadael iddo hidlo a setlo am ryw ddeuddydd, dri, mi fues i’n ei dywallt i mewn i jariau. Dwi’m wedi trafferthu i wneud labeli eto – dwi’m yn pasa gwerthu dim, anrhegion i ffrindiau a theulu ydi’r mêl yma – ac un yn anrheg i’r boi sy pia’r gwyllt! Ond ges i ddeg jar yn y diwedd, ond mi falodd un yn deilchion … grrr. A dyma be oedd ar ôl wedi rhoi un jar i Nain, un i fy rhieni, un i’r Gwanas ac un bychan bach i Chris ac Olga Malone, ddigwyddodd alw i ngweld i. Mae pawb yn canmol y blas yn arw – Himalayan Blossom yn gryf ynddo fo. Sef y stwff sy’n tyfu’n rhemp ar hyd glannau ein hafonydd, ond dydi o’m yn ddrwg i gyd felly nacdi? Ddim os ydi o’n cadw y gwenyn i fwydo’n hirach yn y tymor.Ond mi fydd raid i mi gadw golwg ar rhain rwan a’u bwydo’n gyson rhag iddyn nhw lwgu dros y gaeaf. Maen nhw wedi cael un llond bwced o hylif llawn siwgr yn barod.

Dwi am gael cwch arall ar gyfer flwyddyn nesa. A falle siwt sbâr i ffrindiau a theulu gael dod i fy helpu. Dyma fy mam a fy nith Ceri, yn y siwtiau ges i eu benthyg gan Carys am gyfnod. Roedden nhw’n hapus braf yn trin y gwenyn!