BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Clychau’r Gog
Mai 30, 2010, 12:27 pm
Filed under: Heb Gategori

Mi fuon nhw’n ddigon hir yn dangos eu hunain eleni ond maen nhw yma o’r diwedd. Llond caeau a choedwigoedd o glychau’r gog. Neu Bwtias y Gog, Croeso’r Haf, Cennin y Brain, neu nifer o enwau lleol eraill. Ond be bynnag rydach chi’n eu galw nhw, hyfryd ydyn nhw ynde? Er bod rhai dwi’n eu nabod yn casau eu gweld am eu bod yn eu cysylltu â marwolaeth. Efallai mai cyd-ddigwyddiad ydi o, ond o mhrofiad i, mae’n sicr yn wir bod yr adeg yma o’r flwyddyn yn aml yn drist tu hwnt. Meddyliwch am y peth … ydach chi’n cofio gweld carped o las wrth fynd am dro wedi clywed am farwolaeth sydyn un o’ch cyfoedion? Mmm …

Ond digon o’r felan, maen nhw’n flodau hyfryd, ac wythnos dwytha, mi fues i’n ddigon lwcus i dreulio pnawn hyfryd yn eu canol nhw. A hynny yng nghwmni Almaenes sy’n eu ffarmio yn Llanberis!

Dyma fi yn eistedd uwch ben Llanberis efo Vera Thoss, sydd wedi byw yma ers 15 mlynedd, a’i chyfaill Rebecca Huck, sy’n byw ym Môn ond yn gallu siarad am y blodau yn Gymraeg! Daeth y ddwy i nabod ei gilydd drwy’r Brifysgol ym Mangor, lle mae Vera yn ddarlithydd cemeg. Ac fel mae’n digwydd, hi ydi’r unig berson yng Nghymru sydd â thrwydded i werthu clychau’r gog gwyllt. Mae’n anghyfreithlon i godi a gwerthu’r blodau yma fel arfer ( wps, mi fues i’n gwerthu llond gwlad ohonyn nhw wrth ochr y ffordd yn y Brithdir pan o’n i’n hogan fach!) ond mae’n iawn os oes gynnoch chi drwydded fel Vera.

Wyddoch chi eu bod nhw’n wenwynig? Na finna, ond mae Vera a’i myfyrwyr yn gwneud profion arnyn nhw am ei bod hi’n bosib bod rhywbeth ynddyn nhw all drin afiechydon fel canser, y diciau a chlefyd y swgr rhyw ddydd.

Roedd y tywydd yn hyfryd, y golygfeydd yn wych, ac mi ges i fwynhad garw yn eu cwmni nhw, yn enwedig pan gyrhaeddodd merch Rebecca a f’atgoffa mod i newydd roi gweithdy sgwennu iddi yn Ysgol Llanfairpwll! Ac ew, criw da o blant oedd rheiny. A hi gymrodd y llun uchod, chwarae teg iddi. Mae gan Vera ferch fach hynod fywiog hefyd, sy’n amlwg yn ferch yr awyr agored fel ei mam, er mai dim ond 14 mis oed ydi hi.

Roedd y ty a’r blodau mewn llecyn bendigedig yn Clegir, sydd i fyny ffordd fynyddig a chul o Lanberis. Mi wnes i sylwi ar hen furddun o dan y cae blodau, ac mi ddywedodd Vera bod bardd yn arfer byw yno. Ap Glaslyn, a ges i wybodaeth amdano ganddi. Tipyn o gymeriad! John Owen oedd ei enw iawn o, a chafodd ei eni ym Meddgelert yn 1857. Roedd o’n gerddor ( bariton arbennig mae’n debyg), llenor , a gweinidog. Bu’n ddisgybl-athro, ac yna’n gweithio yn chwareli Ffestiniog a Llanberis.  A thra’n byw yn ‘Foty’, y ty sydd bellach ynghanol y blodau glesion, daeth yn enwog fel adroddwr, actor a datganwr o fri. Wedi hynny bu’n areithiwr dylanwadol ar lwyfan dirwest ac yn ystod Diwygiad 1904-5 ac wedi hynny bu’n efengylydd.

Yn 1926 roedd ei wyres, Olwen, oedd wedi byw efo fo ar hyd ei hoes, yn 18 a dyma gerdd fach sgwennodd o iddi:-

“Daeth Ebrill gyda’i flodau tlws

A’r adar ganant wrth fy nrws;

A minau’n hynach nag erioed

Tra Olwen bach, yn ddeunaw oed.”

Rhyfedd ei fod o’n sôn am glychau’r gog ynde! A dyma gerdd sgwennodd o yn Saesneg:

“When I was born in the month of May,

The cuckoo called that very day,

For all the birds to come and see

A little babe born in a tree.

Come all ye birds, come now and see,

That very babe is sixty three”.

Na, doedd o’m yn fardd mawr hyd y gwela i, ond yn swnio’n foi difyr tu hwnt. Tydi o’n rhyfedd be dach chi’n ei ddysgu wrth sbio ar flodau …



Bryn Gwern
Mai 21, 2010, 10:33 pm
Filed under: Heb Gategori

Dyma i chi be ydi gardd! Ia, y Gader sydd o’ch blaen chi yn fanna, ond dyma’r olygfa o ben ucha’r ardd, sy’n rhoi rhyw syniad i chi o’i maint hi:

Ffantastic tydi? A dim ond y tu ôl i fy nhy i mae o. Wel, ryw 5 munud o gerdded drwy’r cae. Dwi’n nabod y perchnogion, Hilary a Peter Nurse ers blynyddoedd; ro’n i’n yr ysgol efo’u meibion nhw. Ond er mod i’n byw yn Ffrwd y Gwyllt ers deng mlynedd rwan, do’n i’m wedi gweld yr ardd yn iawn tan yn ddiweddar iawn. Ro’n i wedi bod yn y ty a dwi’n cyfarfod Hilary’n aml am ein bod ni’n mynd a’n cwn am dro ( mae ganddi bedwar) ar hyd yr un llwybrau.

Ond pan welais i hyd a lled a chyfoeth yr ardd go iawn, ges i fraw. Sbiwch mewn difri calon!

Mae ‘na gymaint i’w weld, allwch chi dreulio diwrnod cyfan yno heb ddiflasu. A dyna pam ei fod o’n un o erddi y National Gardens Scheme; un o hanfodion bod yn un o’r gerddi hynny ydi gallu diddori rhywun am o leia 45 munud. Roedd yr ardd hon ar agor ddydd Sul dwytha ac mi nath o leia un cwpwl aros yno drwy’r dydd! Rydach chi’n talu £3 i fynd i mewn ar ddiwrnod penodol ac mae’r pres i gyd yn mynd i elusennau. Mi nath Hilary £800 ddydd Sul! A hi ydi’r un sy’n garddio, nid y gwr. A dyma hi efo un o’r cwn – Barnaby. Diawl bach drwg sy’n addoli Del:

A dyma i chi’r un bychan, bach, Lily, sydd fymryn yn fwy swil ond mae Del wrth ei bodd  efo hi. Maen nhw’n wych am hel llygod a wiwerod o’r ardd. Ond yn gadael llonydd ( fel arfer) i’r dwsinau o hwyaid a guinea fowl a ieir o bob math sy’n rhannu’r ardd efo nhw.

Nyrs oedd Hilary, a phan symudon nhw yma 30 mlynedd yn ôl, doedd na’m gardd yma, dim ond drain a choed. Wedi 3 blynedd, mi ddechreuodd hi glirio’r lle yn ara bach a fesul tipyn – ar ddydd Sul yn unig. A 27 mlynedd yn ddiweddarach, dyma’r canlyniad. Mae’n anhygoel ac yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd newydd brynu ty efo gardd sy’n ddim byd ond anialwch. Mae ei phridd hi’n symol felly mae’n gorfod ei brynu i mewn- a gwneud compost wrth gwrs. Ac am ei fod ar lethr, nid mewn grisiau fel fy ngardd i, mae’r barrug yn rhowlio i lawr y llethrau (fel y dysgais gan Bronwen Dorling) a dyna pam fod ganddi gymaint o blanhigion a choed difyr sydd ddim yn trengi dros y gaeaf! Embothriums, paulonia tormentosa, clerodendrum, arbutus, ayyb ayyb a rhododendrons hyfryd.

Mi fydd ar agor eto Awst 29 a Medi 19 ond mi gewch weld tipyn o’r ardd cyn hynny am i ni fod yn ffilmio yno ddydd Llun – mewn haul bendigedig. Dwi’m yn siwr pryd fydd o mlaen ond yn o fuan. Mwynhewch!



Plas y Dduallt, Maentwrog
Mai 15, 2010, 1:00 pm
Filed under: Heb Gategori

Dwi’n cael mynd i dai a gerddi wirioneddol ddifyr y dyddie yma. Ac roedd Plas y Dduallt yn un o dai cynta’r ardal i gael ei restru mae’n debyg. Dwi’m yn synnu – mae’r adeilad yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif. Mi fu teulu’r Llwydiaid ( o dras Llywelyn Fawr) yn byw yno am ganrifoedd, ond Cyrnol Campbell gododd y lle yn ôl ar ei draed yn y 60au – a gofalu bod rheilffordd Ffestiniog yn codi platfform personol iddo fo yno! Ond Huw Jenkins a’i deulu sy’n byw yma rwan, a dyma fo wrth yr arwydd ar y platfform uwch ben y ty:

O, a sbiwch croeso oedd i mi yn un o’r twbiau blodau ar y platfform!

Mi fu ‘Most Haunted’ yn ffilmio yno, a ‘4 Wal’ a ‘Countryfile’ dwi’n meddwl – a rwan, ‘Byw yn yr Ardd’! Ond canolbwyntio ar yr ardd oedden ni wrth gwrs, a dyma Huw yn ei ardd lysiau:

Roedd o’n tyfu moron mewn biniau llawn compost wedi ei wneud o redyn ac roedden nhw’n edrych yn eitha iach, rhaid deud. Ac er fod y lle mor uchel, dydi hi byth yn rhewi’n rhy galed yno – oherwydd y Gulf Stream – dwi methu cofio be di hwnnw yn Gymraeg, sori. Llif y gwllf? Dwn i’m.

Wedi dysgu Cymraeg mae Huw. Un o’r Drenewydd ydi o’n wreiddiol, ac wedi teithio’r byd yn gweithio efo cyfrifiaduron, roedd o isio dod yn ôl i Gymru. Mae o’n amlwg wrth ei fodd yma, yn cerdded, garddio, bwydo’r ieir a’r hwyaid a chadw bobl ddiarth – yn ogystal â gohebu o’r cylch i Radio Wales, a dyma i chi lyfr mae o newydd ei gyhoeddi – ac yn ei hysbysebu ar y wal wrth yr ardd!

Mae ‘na filoedd o bobl yn cerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus sy’n mynd heibio’r ty dach chi’n gweld … clyfar. Pam na feddylies i am hynna? Poster yn hysbysebu bob llyfr newydd wrth droed Cader Idris … hm. Falle na chawn i ganiatad i neud hynna.

A sut mae ngardd i y dyddie yma? Hyfryd diolch yn fawr. Fues i’n torri’r lawnt echdoe a lladd malwod neithiwr. Mwy o chwynnu heddiw … ew, braf ydi bod adre hefyd.



Sarasota ac Arthog
Mai 8, 2010, 11:48 pm
Filed under: Heb Gategori

Dyma i chi fachlud o draeth Siesta Key, Sarasota, Florida, lle ges i wythnos hyfryd yn ymlacio, canwio a chrwydro efo dwy ffrind mewn convertible … a dyma ni:

Smart ynde! Ffrind ysgol, Claire, sydd ar y dde, ac Emily sy’n y canol, gwraig boi reit enwog yn ur UDA am sgwennu llyfrau, dramau teledu ac ati. Welsoch chi ‘The Wire’? Wel George y gwr oedd un o’r cynhyrchwyr a’r sgriptwyr. Wir yr. A hogan annwyl oedd hi hefyd. Dyma lun gwell ohoni hi – a fi – ar ôl chydig o Bloody Marys rhyw noson … Os am wybod mwy o hanes yr wythnos, darllenwch y Daily Post ddydd Mercher nesa!

Ta waeth, ro’n i’n falch iawn ei bod hi wedi bwrw glaw yng Nghymru tra ro’n i i ffwrdd – mae’r ardd fel jyngl bellach a phob dim yn tyfu’n rhyfeddol o sydyn. Yn cynnwys y lawnt, yn anffodus. Ond dwi’m wedi cael amser i wneud dim eto, ro’n i’n gorfod ffilmio y munud ddois i’n ôl … wel, y bore wedyn. A mynd i weld Bronwen Dorling a’i gwr yn Arthog wnes i.

Dyma Bronwen i chi:

Athrawes Fathemateg yn Rhydychen oedd hi cyn dod i fyw i Gymru a dysgu Cymraeg yn rhyfeddol o dda. Gewch chi glywed pa mor dda ydi hi yn yr wythnosau nesa – dwi’m yn siwr pryd fydd yr eitem hon yn cael ei darlledu eto. Ond be sy’n arbennig am ei gardd ydi’r twll chwarel sydd ynddi – a dymo fo:

Mi gewch chi wybod faint o dwll ydi o yn y rhaglen. A gweld mwy o’r ardd sy’n llawn rhyfeddodau a phethau bach digon od. Dyma flas i chi:

Ia, crocodeil. A naddo, weles i’r un alligator tra’n canwio yn Florida, dim ond racoon bach del. O – a Stephen King. Wir yr!