BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Y ffilmio
Hydref 19, 2013, 10:53 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

Meddwl y byswn i’n rhannu chydig mwy o luniau o’r ffilmio efo chi, ond yn gynta, dyma un o fy ngardd i – llun o blanhigyn sydd wedi cymryd ei amser i flodeuo a deud y lleia. Mae begonias i fod allan cyn rwan, siawns!
Ond mae o’n ddel, ac yn werth aros amdano fo, mwn.
image
A rwan dyma luniau amrywiol o’r cyfnod ffilmio. Ia, fi ydi honna, yn y siop yn gwerthu llysiau. Mi gewch chi hanes y diwrnod hwnnw yn y rhaglen olaf un, fydd mewn mis. Gan fod 2 raglen wedi bod ac felly 4 arall i fynd. Dwi’n gallu bod reit dda am wneud syms weithie. Os ydyn nhw’n syml. Ac roedd yn rhaid gwneud syms yn y siop. A dydi Russ fawr gwell na fi am syms a bod yn onest.
image
Craig ab Iago sy’n cario’r arwydd yna. Dwi’n meddwl y dyle bo nhw wedi ffilmio hynna. Swreal oedd y gair ddoth i fy meddwl i. Ac roedd pobol Penygroes yn sbio’n wirion arno fo. Dach chi’n eu beio nhw?
image

image
Lluniau madarch rwan. Wedi bod yn hymdingar o flwyddyn am fadarch tydi? Ac mae hwn yn uffernol o wenwynig – the destroying angel. Cliw reit dda yn yr enw deud gwir does? Dim clem os oes na enw Cymraeg eisoes ond Angel Angau’n swnio reit dda i mi.
image
Un arall gwenwynig – Devil’s Bolete. Bol y diafol? Diawl o fol? Pulpud y diafol? Ond coblyn o fadarch hardd beth bynnag.
image
A dyma lun ohona i heddiw. Fues i yn Bermo efo fy nith a’i mab hi, Mabon – fy ngor-nai. A nes i brynu sbectol ddarllen, achos dwi’m yn gallu darllen labeli bellach. Ddim ar labeli sut i olchi dillad, ddim ar duniau, ddim ar boteli shampw… Trist iawn. Ond chwip o sbectol am £2.99.
image
Gyda llaw, rydan ni’n cael ymateb reit dda i’r gyfres hyd yma, er nad ydi pawb yn hapus yn ol y rhifyn dwytha o Golwg. O wel, methu plesio pawb… Ond yn fy marn i, mae pob sylw yn werthfawr ac yn ein helpu i wella. Ac mae unrhyw fath o sylw yn well na dim tydi!
Hwyl am y tro.



Newid enw
Medi 7, 2013, 8:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , , , , , ,

Rhag ofn eich bod chi’n poeni ble mae Byw yn yr Ardd wedi mynd, mae’r enw wedi newid. Tyfu pobl fydd enw’r gyfres yma, ac mi fydd gwybodaeth amdani yn eich papurau lleol yn fuan, gobeithio. Roedd na rywbeth ar Radio Cymru hefyd, ond glywes i mono fo. Mi fedrai wastad ‘wrando eto’ mae’n siwr. Da ydi technoleg ynde? Heblaw am y dechnoleg ar y wefan yma, neu fy ipad i. Dyna un rheswm pam nad ydw i wedi bod yn blogio llawer yn ddiweddar – mae’n ormod o gybol! Methu cywiro fy hun heb fynd rownd y byd a chychwyn eto, ac mae’r cursor am ryw reswm yn y man gwbl anghywir felly dwi methu gweld be dwi’n depio! Aaaaa!

Nes i roi’r ffidil yn y to ar ol sgwennu hynna pnawn ma, ac mae’n bihafio’n well heno, diolch byth.
Reit, ble ro’n i? O ia. Tyfu pobl. Pan welwch chi’r gyfres mi fydd yn gneud mwy o synnwyr. A peidiwch a phoeni, mi gewch chi dips tyfu yr un fath- wel, tyfu llysiau o leia. Weles i’r rhaglen gynta wythnos dwytha ac mae’n edrych reit dda! Mae’r bosys yn hapus hefyd, felly ( yn dibynnu ar y ffigyrau gwylio am wn i), bosib y bydd na Dyfu Pobl o ardal wahanol flwyddyn nesa. Gawn ni weld pa mor blwyfol ydi’r Cymry. Ydi rhywun o Abertawe/ Machynlleth/Wrecsam yn mynd i fod a diddordeb mewn pobl o Ddyffryn Nantlle? Difyr fydd gweld.
Ond welwch chi fawr o ngardd i, felly dyma ambell lun!
image

image

A dyma lle bu coeden Dolig fechan wnes i ei phlannu ryw ddeg mlynedd yn ol, dyfodd i fod yn anghenfil – sitka spruce oedd hi os cofia i’n iawn. Blwmin pigog beth bynnag! Ond rwan, diolch i hen gyfaill a’i fwyell, mae hi wedi mynd, a’r dderwen fach yma’n cael llonydd i dyfu yn lle.
image

image
A dyma luniau o Sioe Rhydymain a’r cylch. Nid fy llysiau i oedd rhain, ond Crispin a Karen, dau ddysgwr lleol. Chawson nhw’m cynta chwaith, ond mae nhw’n ddel tydyn?
image
Ond fi nath y chytni yma – efo afalau o’r ardd (mae gen i gannoedd) a nionod coch (siop – dwi’n cael dim hwyl ar dyfu nionod) a ges i 3ydd, cofiwch. Haeddu cynta os dach chi’n gofyn i mi, ond dyna fo…
image
A dyma fy ffrind Olga, a’i dalmatian, Juno. Doedd hi’m wedi meddwl cystadlu, ond nes i fynnu ac mi enillodd ddosbarth y ci mawr! Ro’n i wedi gadael Del druan adre…
image
A cwpwl o luniau eraill dwi’n eitha balch ohonyn nhw:
image

image
Ac yn olaf, Del efo’i ffrind newydd Thor, neu Thorne neu Thornton. Ddim yn siwr iawn pa un sy’n gywir bellach. Ffrindiau wedi ei fabwysiadu a ddim yn rhy hoff o’r enw Thorne. O’n i’n meddwl sa Sion yn swnio’n debyg i Thorne i glustiau ci ond dyna fo. Doedd Del ddim yn rhy hoff ohono fo i gychwyn ( mae o dwtsh yn fawr a thrwm a thrwsgl…) ond maen nhw’n gneud yn iawn rwan a’i chynffon yn troi fel hofrennydd pan mae’n ei weld. Diolch byth!
image



Cafn Llysiau
Mawrth 14, 2012, 11:23 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , ,

Wel, rydan ni wedi dechre ffilmio eto o’r diwedd. Tywydd bendigedig heddiw, a digon o hwyl yn trio rhoi trefn ar un o fethiannau llynedd, y ty gwydr ‘chwythu i fyny’. Roedd o wedi bod yn grempog ers i mi fynd i Seland Newydd fis Hydref (coblyn o storm o wynt yn fy absenoldeb). Dacw fo yn lwmp o blastig hyll ar y chwith:

Ges i help Buck ( Geraint Jones) saer coed lleol i’w hel i’r ochr, a gesiwch be – roedd y llygod wedi dechrau gwneud nyth ynddo fo ac wedi bod yn cnoi’r darnau sbwng yn ei ‘lawr’ o. Be i’w wneud efo’r bali peth ydi’r broblem rwan.

Ydi o’r math o blastig fyddai’r lle ail-gylchu newydd yn Nolgellau yn ei dderbyn? Ond mi fyddai mynd a fo yno yn broblem – mae o’n afiach o fudur a gwlyb ac ych-a-fi. Ond mae o’n sicr yn rhy fawr i fy min gwyrdd i. Hm. Unrhyw syniadau?

Roedden ni’n ei symud o’r diwedd am mod i am ddefnyddio’r rhan yna o’r ardd ar gyfer teclyn newydd – cafn i dyfu llysiau. A dyma fo: Mi gostiodd £99 ( allwch chi gael un mwy am £129) a diaw, doedd o’m yn rhy drafferthus i’w roi at ei gilydd. Wel, gawson ni ambell broblem, ond gewch chi weld rheiny pan gaiff yr eitem ei darlledu. Mi fuon ni’n chwerthin gryn dipyn – a chwysu.

Diben cafn fel hwn ydi i gadw’r bali llygod draw – a’r malwod! Pethau sy’n bwyta pob dim dwi’n ei blannu, drapia nhw. Ac mae’n debyg nad ydi’r carrot fly yn hedfan mor uchel â hyn … dwi’m yn siwr am hynna ond gawn ni weld pan fydd fy moron wedi tyfu. Ac os fydd o’n dal i sefyll ymhen blynyddoedd pan fydda i wedi cicio’r bwced, diawch, mae o’r maint perffaith i fy rhoi i ynddo fo. Dwi’n licio’r syniad o droi’n gompost.

Mi wnes i gymryd llun o fy mhenbyliaid hefyd – maen nhw wedi dod allan o’r grifft yn barod ac wedi dechrau ysgwyd eu cynffonau – rhywbeth sy’n gwneud i mi wirioni bob blwyddyn.

Pam? Am fod natur mor rhyfeddol am wn i. A’r ffaith bod na filoedd ar filoedd yn y pwll acw, ond y bydd na lawer iawn llai cyn bo hir, gan fod cymaint o bethau yn eu bwyta nhw, bechod. Ond mi fydda i’n edrych ar eu holau nhw hynny fedra i – dwi wrth fy modd efo penbyliaid a llyffantod. Am mod i’n edrych fel llyffant, meddai athro wrtha i ryw dro, pan ddywedon nhw pam roedden nhw wedi fy newis i i chwarae rhan y broga yn ‘Broga Plas Brog’ ( Toad of Toad Hall) yn Ysgol y Gader flynyddoedd yn ôl … Tase fy sganar ddim wedi cicio’r bwced, mi fyswn i’n dangos y llun ohona i wedi fy ngwisgo fel broga i chi. Ond gan ei fod o, fedrai ddim. Bechod.



Syniad am anrheg i arddwyr
Chwefror 1, 2012, 7:47 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Chwefror yn barod?! Mae 2012 yn rasio heibio myn coblyn. Mi fues i’n tacluso a thocio dros y penwythnos, jest cyn iddi rewi. Siapio chydig ar goediach a gwrychoedd, fel eu bod nhw’n tyfu’n well pan ddaw’r gwanwyn. Mae’r bin brown yn orlawn, y bin compost yn llawn at yr ymylon a llwyth o stwffiach yn pydru mewn pentwr yn y gornel bellaf ( rhyw fath o domen gompost sy’n sicr yn gweithio gan fod gen i chwyn ffantastic yn tyfu yno).

A sôn am chwyn, tydi’r llun uchod yn grêt? Anrheg bach Cymraeg, difyr ar gyfer y dynion yn eich bywyd sy’n garddio – neu o leia’n rhoi cynnig arni. Fan hyn maen nhw ar gael:

http://www.adrahome.com/index.php?main_page=product_info&products_id=575&language=cy

Cyfle i chi gefnogi cwmni Cymraeg. Ydw i’n cael hysbysebu ar hwn dwch? Dwi’m yn gweld pam lai a dwi’n meddwl ei bod hi’n ddyletswydd arnai i roi sylw i gynnyrch Cymraeg o Gymru. Dach chi’n cytuno? Cofiwch chi, dydi’r llechi bach yma’n dda i ddim i mi gan nad oes gen i unrhyw ddyn yn fy nheulu sy’n garddio. Roedd Taid Frongoch, tad fy mam, yn tyfu llysiau yn arbennig o lwyddiannus, ond mae o wedi’n gadael ers blynyddoedd rwan, fel y taid arall, Taid Gronant, ond doedd o’m yn trafferthu efo llysiau o gwbl mae’n debyg. Nain oedd yr un oedd yn hoffi blodau ond er ei bod hi’n rhyfeddol am 96 ac yn dal i fyw ar ei phen ei hun ( dyma hi efo Del), dydi hi’m yn gallu garddio ryw lawer rwan. Fi sy’n gneud hynny iddi, fwya. Jest plannu pethau mewn potiau a chadw trefn ar y rhosod a’r chwyn. Mae hi wrth ei bodd efo lliw o gwmpas y lle,  a gawson ni flwyddyn dda yn 2011, chwarae teg.

Mae Mam yn garddio’r mymryn lleia ( ond fi sy’n tocio’r rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd. Ond mae’n un da am godi waliau, chwarae teg. Y ddawn yn dod yn handi acw weithie!

Rhywbeth arall sydd ar werth ar wefan ‘Adra’ ydi hwn:

Mae gen i bot neu ddau fel yna fy hun a dwi wrth fy modd efo nhw. A rhag ofn nad ydw i i fod i hysbysebu un cwmni yn ormodol, maen nhw ar gael hefyd ( neu mi roedden nhw llynedd …)  yn y farchnad ar sgwâr Dolgellau sy’n cael ei chynnal ar fore Sul unwaith bob mis. Braidd yn drwm i’w postio hefyd, ddeudwn i. Ond mae o i fyny i chi! Roedd na rai yn ‘Spectrum’ Machynlleth ar un adeg hefyd.

Er mod i wedi bod yn tacluso, mae arna i ofn bod y ty gwydr ‘chwythu i fyny’ yn dal yn grempog ar y gwair. Dwi’m wedi sbio ar y bali peth. Mi wnai drio ei chwythu i fyny eto pan gai’r amser a’r awydd, jest i weld faint o byncjars sydd ynddo fo. Ac ydw i’n mynd i drio eu trwsio? Ym … gawn ni weld.

O ia, ges i goblyn o hwyl yn sgwrsio efo Gaynor Davies ( nid Gaenor ydi hi naci? Naci, siwr mai Gaynor ydi hi) ar Radio Cymru bnawn Sul. Ro’n i’n cael dewis tair cân a malu awyr am hir rhyngddyn nhw – pleser pur. Os ydach chi isio gwybod sut fath o falu wnes i, mi fydd i’w glywed ar yr iplayer ar wefan radio Cymru am ryw bythefnos, dwi’n meddwl. Dwi’n mwynhau’r radio fel cyfrwng. Cymaint mwy o ryddid na sydd ar deledu – am ei fod o gymaint rhatach, felly llai o bwysau i fod yn fyr a chryno.

Yn darllen ‘When God was a rabbit’ rwan – hwnnw’n bleser pur hefyd.