BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwirioni efo gwenyn!
Mawrth 30, 2012, 7:54 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , ,

Ie, fy nghlust i ydi honna, a do dwi wedi prynu clust-dlysau gwenyn. Do, dwi wedi gwirioni braidd. Mae gen i hefyd bot mêl efo gwenynen arni, a theclyn i roi bagiau te efo gwenynen fach ddel yn y canol. Mae’r rheiny gen i ers Dolig a deud y gwir. Mae’r clwy gwenyn wedi cydio ers tro ond mae’n waeth rwan.

Ia, Carys Tractors welwch chi yn y cefndir – es i efo hi i Lanelwedd ar gyfer Cynhadledd Gwenynwyr Cymru. Angen prynu mwy o offer ro’n i, Stwff ar gyfer gneud cwch arall, sy’n dod fesul tamaid fel hyn, onibai eich bod chi’n drewi o bres ac yn gallu prynu un wedi ei gwneud yn barod. Tydw i ddim, iawn? Mae’r toriadau wedi taro pawb, mêt.

Ro’ i hefyd isio gwisg arall fel mod i’n gallu mynd ag ymwelwyr i weld fy ngwenyn yn berffaith ddiogel. Rhywbeth reit ‘creepy’ am rhain, does? Ond siaced fer brynais i yn y diwedd. Mi gaiff yr ymwelydd wisgo fy siwt lilac fawr i, ac mi rydw i’n ddigon hapus efo llai o wisg bellach. A ges i fenyg am £5. Falch bod rhywbeth yn rhad! Achos mi wariais i ffortiwn yn y diwedd, rhwng y jariau ( bach a chanolig) a brwsh bach meddal ( wedi laru aros am bluen gwydd gan Russell) a stwff i ladd Verroa ( braidd yn hwyr yn ei roi yn y cwch, ond dyna fo, mae o yna rwan). Roedd ‘na gymaint o bethau yn fy nenu … Ond nes i lwyddo i gyfyngu fy hun i jest y sebon – heb ei ddefnyddio eto ond dwi’n edrych ymlaen i fod ag arogl mêl hyfryd arna i. Er, dwi’m yn siwr os ydi o’n syniad da i mi gael cawod cyn mynd at y gwenyn … gawn ni weld. Mi wnai arbrawf ryw dro.

Mi wariais i dros £250 yn y diwedd. Ond mi wariodd Carys lawr iawn mwy. Tydi cadw gwenyn ddim yn hobi rhad. O leia mae Carys yn cael rhywfaint yn ôl drwy werthu ei mêl, ond dwi’n bell o fedru cyrraedd y lefel hwnnw, a dwi’m yn siwr os dwisio chwaith. Hapus i roi ambell jar fel anrheg, dwi’n meddwl.

Ond y prif bleser o’r diwrnod crasboeth yn Llanelwedd ( ar wahân i fod efo’r criw: Rhys ( wedi cael joban newydd ar ôl colli Wedi 7), Mark a Gwennan), oedd cyfarfod cymeriadau difyr sydd hefyd yn cadw gwenyn. Roedd un yn balmer’ ac mae un o’r cwmniau teledu yn ei ddilyn am 6 mis wrth ei waith – a’i bleser efo’r gwenyn. Edrych mlaen at hwnna!

Ond yr un mwya ffraeth a difyr ohonyn nhw i gyd ydi Wil Griffiths, dyn y mêl. Dyma glawr ei lyfr o:A dwi wedi bod yn ei ddarllen byth ers hynny. Wel, am chwip o lyfr difyr! Dwi wedi chwerthin, was bach. A dysgu LLWYTH. Ac os o’n i wedi gwirioni cynt, dwi’n hurt bost rwan. A dwi’n cael mynd i ffilmio efo Wil a chyfarfod ei wenyn o cyn bo hir. Methu aros.

Mwy am fy ngwenyn tro nesa – garantîd!



Cafn Llysiau
Mawrth 14, 2012, 11:23 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , ,

Wel, rydan ni wedi dechre ffilmio eto o’r diwedd. Tywydd bendigedig heddiw, a digon o hwyl yn trio rhoi trefn ar un o fethiannau llynedd, y ty gwydr ‘chwythu i fyny’. Roedd o wedi bod yn grempog ers i mi fynd i Seland Newydd fis Hydref (coblyn o storm o wynt yn fy absenoldeb). Dacw fo yn lwmp o blastig hyll ar y chwith:

Ges i help Buck ( Geraint Jones) saer coed lleol i’w hel i’r ochr, a gesiwch be – roedd y llygod wedi dechrau gwneud nyth ynddo fo ac wedi bod yn cnoi’r darnau sbwng yn ei ‘lawr’ o. Be i’w wneud efo’r bali peth ydi’r broblem rwan.

Ydi o’r math o blastig fyddai’r lle ail-gylchu newydd yn Nolgellau yn ei dderbyn? Ond mi fyddai mynd a fo yno yn broblem – mae o’n afiach o fudur a gwlyb ac ych-a-fi. Ond mae o’n sicr yn rhy fawr i fy min gwyrdd i. Hm. Unrhyw syniadau?

Roedden ni’n ei symud o’r diwedd am mod i am ddefnyddio’r rhan yna o’r ardd ar gyfer teclyn newydd – cafn i dyfu llysiau. A dyma fo: Mi gostiodd £99 ( allwch chi gael un mwy am £129) a diaw, doedd o’m yn rhy drafferthus i’w roi at ei gilydd. Wel, gawson ni ambell broblem, ond gewch chi weld rheiny pan gaiff yr eitem ei darlledu. Mi fuon ni’n chwerthin gryn dipyn – a chwysu.

Diben cafn fel hwn ydi i gadw’r bali llygod draw – a’r malwod! Pethau sy’n bwyta pob dim dwi’n ei blannu, drapia nhw. Ac mae’n debyg nad ydi’r carrot fly yn hedfan mor uchel â hyn … dwi’m yn siwr am hynna ond gawn ni weld pan fydd fy moron wedi tyfu. Ac os fydd o’n dal i sefyll ymhen blynyddoedd pan fydda i wedi cicio’r bwced, diawch, mae o’r maint perffaith i fy rhoi i ynddo fo. Dwi’n licio’r syniad o droi’n gompost.

Mi wnes i gymryd llun o fy mhenbyliaid hefyd – maen nhw wedi dod allan o’r grifft yn barod ac wedi dechrau ysgwyd eu cynffonau – rhywbeth sy’n gwneud i mi wirioni bob blwyddyn.

Pam? Am fod natur mor rhyfeddol am wn i. A’r ffaith bod na filoedd ar filoedd yn y pwll acw, ond y bydd na lawer iawn llai cyn bo hir, gan fod cymaint o bethau yn eu bwyta nhw, bechod. Ond mi fydda i’n edrych ar eu holau nhw hynny fedra i – dwi wrth fy modd efo penbyliaid a llyffantod. Am mod i’n edrych fel llyffant, meddai athro wrtha i ryw dro, pan ddywedon nhw pam roedden nhw wedi fy newis i i chwarae rhan y broga yn ‘Broga Plas Brog’ ( Toad of Toad Hall) yn Ysgol y Gader flynyddoedd yn ôl … Tase fy sganar ddim wedi cicio’r bwced, mi fyswn i’n dangos y llun ohona i wedi fy ngwisgo fel broga i chi. Ond gan ei fod o, fedrai ddim. Bechod.