BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Y Fenni
Tachwedd 17, 2010, 12:50 pm
Filed under: Heb Gategori

Dwi wastad wedi mwynhau’r rhan yma o Gymru. Mae’n agosach na Chaerdydd yn un peth, ac mae’r tirwedd yn hyfryd a’r bobl yn glen. Felly ro’n i wrth fy modd pan gawson ni fynd yno i ffilmio eitem am uchelwydd. Am fod Mam ar ei gwyliau, doedd gen i neb i edych ar ôl Del, felly daethpwyd o hyd i lety oedd yn cymryd cwn hefyd, a nefi, am le da! The Guest House ydi’r enw, ac mae’r perchnogion, Jenny a Kevin yn glen tu hwnt. Mae’r wyau’n dod o’r ieir sy’n yr ardd, lle mae na foch a hwyaid hefyd. Ac roedd y brecwast yn anfarwol – bwyd da, ond cwmni dau barot, Alfie a Sammy hefyd. Dyma Aled y cyfarwyddwr yn trio peidio chwerthin ar ganol ei facwn wrth i Alfie regi yn y cefndir …

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

A  dyma Jenny yn siarad efo Sammy, oedd chydig tawelach nac Alfie, ond yn canu ‘O-ooo!’ pan fyddai Del yn mynd heibio.

Dwi’m yn meddwl i mi gael brecwast cweit mor ddigri yn fy myw! Ac roedd Del wedi gwirioni efo’r lle; fydd hi byth yn cael cysgu’n fy llofft i adre, a ges i neffro ganddi am 6 y bore yn llyfu fy mraich.

Aeth hi’n ôl at ei mat ei hun wedyn, diolch byth.

 

 

 

 

Ymlaen a ni wedyn at eglwys yn Llandeilo Gresynni- neu Llantilio Crossenny yn Wenglish. Ac yn fanno mae na hen, hen gerflun bychan o’r Dyn Gwyrdd – symbol paganaidd o ffrwythlondeb ac ati – a dyma fo.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Dr John Davies oedd am i ni gyfeirio at hwnnw, ac os cofia i’n iawn, mae’r cerflun yn dyddio o tua’r unfed ganrif ar ddeg. Gewch chi fwy o fanylion yn y rhaglen fydd yn cael ei darlledu ryw ben o gwmpas y Dolig.

 

 

 

 

Ymlaen wedyn at fferm fechan sydd â pherllan llawn uchelwydd, ond diolch i’r gwyntoedd cryfion, bu raid i fy fan i a fan y dyn camera fynd y ffordd hir rownd i osgoi’r goeden yma!

Mae’n edrych fan hyn fel tase na ddigon o le – ond credwch chi fi, doedd na ddim!

Roedd Del wrth ei bodd yn y berllan, a naddo, nath hi’m rhedeg ar ôl yr ieir na’r gwyddau. Ond mi nath hi fynd ar ôl y gath. Wps.

 

 

 

 

 

A dyma John Davies o flaen talp golew o uchelwydd. Gawson ni sws? Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen yn bydd!



Dilwyn y Draenog
Tachwedd 3, 2010, 6:48 pm
Filed under: Heb Gategori

Rydan ni wedi dechrau ffilmio ar gyfer rhaglen Nadolig arbennig o Byw yn yr Ardd. A ddydd Gwener, roedden ni acw yn Ffrwd y Gwyllt, yn creu cartref clyd ar gyfer draenog. Ac am y tro cynta yn fy myw, ges i gydio mewn draenog! Efo menyg wrth gwrs.

Draenog o ganolfan sy’n gofalu am ddraenogod sydd wedi brifo oedd o. Roedd Dilwyn reit fywiog, wedi gwella’n dda o ba bynnag anaf gafodd o, ond dydi o’n dal ddim yn ddigon iach i fyw yn annibynnol eto mae’n debyg.

Ond mi wnes i syrthio mewn cariad yn llwyr efo fo. Roedd o mewn pelen fach gron am hir, ond yn ara bach, mi gododd ei drwyn, snwffian yr awyr, estyn ei bawennau bychain am allan –  a dyma fo:

Tydi o’n hyfryd?

Ac yn un handi i’w gael yn yr ardd am ei fod o’n bwyta malwod ac ati. Yn anffodus, mae o hefyd yn bwyta wyau adar os gaiff o hanner cyfle, felly mae’n debyg bod yn rhaid meddwl yn ofalus cyn denu draenog i’ch gardd…

Roedd Del yn ei arogli o bell, a jest a marw isio’i weld o’n agosach, ond jest rhag ofn – wnes i’m gadael iddi ei gyffwrdd o.

1. er lles y draenog

2. er lles Del – mae’r pigau na’n bigog!

Rhodri Dafydd, sy’n gweithio i’r Cyngor Cefn Gwlad oedd efo fi – ein harbenigwr draenogod. Dyma ni’n dotio at Dilwyn:

Fel dau riant efo’u babi, myn coblyn… ond wir i chi, mae draenog yn gwneud i’r bobl ryfedda fynd yn rhyfedd i gyd. Maen nhw’n rhyfeddol o ciwt! A dyna i chi dri rhyfedd yn fanna… ar bwrpas, wrth gwrs.

Hei, dwi i fod yn awdures, wrth gwrs nad blerwch mohono.

O ia, roedd hyn y noson ar ôl lansio ‘Yn ôl i Gbara’, felly do’n i’m wedi cael llawer o gwsg… wedi cael ymateb da i’r gyfrol hyd yma – felly presant Dolig gwerth chweil!

Yn ôl at y draenog. Roedd o mor gyfforddus efo fi, aeth o am dro -aeth o hyd yn oed yn sownd yn fy ngwallt i! Ia, dwi’n gwybod, oes, mae ganddyn nhw chwain ond roedd Rhodri’n fy sicrhau nad ydyn nhw’n chwain sy’n hoffi pobl. dwi’m wedi dechre cosi eto o leia.