Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brenhines, gwenwyn, gwenyn, haid, heidio, hollti, marw, mel i gyd, neithdar, paill, poison, Poisoning, robbing, trist, ymosodol
Newyddion trist mae arna i ofn. Cofio’r cwch o wenyn blin oedd gen i? Yr haid hedfanodd dros yr ardd gan fy nychryn yn rhacs oedd hi. Gwenyn prysur tu hwnt, yn hel paill a neithdar fel pethe gwirion, ond ymosodol a deud y lleia! Felly mi nath Carys a fi hollti’r cwch fis Mehefin a mynd a 4 ffram, gan gynnwys y frenhines, i’r cwch gwag oedd gen i yng ngardd fy rhieni.
Carys ydi honna, a hen gwch ges i’n ail law ydi hwnna. Rois i niwc ges i gan Carys ynddi llynedd, ond naethon nhw rioed lwyddo’n dda iawn, a rheiny fu farw dros y gaea.
Wel, roedd gen i obeithion mawr am y gwenyn yma a’u brenhines hynod gref. Ac roedden nhw’n gneud yn dda.
Ond rhyw dair wythnos yn ol, dyma be oedd ar lawr o flaen y fynedfa:
Pentwr o wenyn wedi marw, wedi pentyrru ar ben ei gilydd ac wedi dechrau cynthroni. Roedd y drewdod yn ofnadwy. A thu mewn i’r cwch, roedd hi’n waeth. Carped dwfn o gyrff.
Wel, ro’n i’n meddwl i ddechre mai haid arall oedd wedi ymosod arnyn nhw, achos doedd na’m tamed o fel ar ol yn y fframiau.
Roedd Carys yn ofni mai salwch o ryw fath oedd o, felly nes i ffonio’r insbector gwenyn. Mi ddoth fore Sadwrn, a deud nad oedd o rioed wedi gweld y fath beth o’r blaen.
“Possibly robbing,” medda fo, “but probably poisoning.” Ond roedd y cyrff wedi pydru gormod i ni gael sampl digon mawr i’w yrru i’r gwyddonwyr wneud profion i weld sut wenwyn oedd o.
Mi ddylwn i fod wedi hel llond jar yn syth a’i gadw yn y rhewgell.
A ble fysen nhw wedi dod o hyd i’r gwenwyn? Wel, os oedd rhyw arddwr/ ffarmwr wedi bod yn defnyddio chwynladdwr cry ar ‘chwyn’ oedd mewn blodau ar y pryd… Mi fysa hynny’n ddigon. Does na’m gwenyn lleol eraill wedi marw, jest y cwch yma oedd yn anlwcus, beryg.
Mor drist. Ond dyna ni, dydi cadw gwenyn ddim yn fel i gyd … (Sori!)
A gan mod i wedi hollti’r cwch arall hefyd, dwi’m yn meddwl y bydd gen i fel i’w roi i neb eleni, sori… Flwyddyn nesa ella!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bling, camelia, clust-dlws, cricmala, cwch, diarth, Ground elder, gwenyn, gwenynen fach hapus, hen gyllyll, llygoden, llysiau'r Gymalwst, Rhufeiniaid, Roundup, snichyn, sparkplug, styfnig, trist, wenci
Argol, mae isio gras efo hwn! Mi wnes i gadw drafft o hanner y blog yma amser cinio. Mynd yn ôl ato heno i’w orffen – a dim ond un llun oedd wedi ei gadw fel drafft – a dim geiriau! Felly bydd raid gneud y cyfan eto. Dim rhyfedd bod gen i wallt gwyn.
Iawn … co ni off ‘to … llun trist i gychwyn. Nes i sôn mod i wedi mynd a’r cwch wan oedd yn cael ei bwlio i Ddolgamedd yndo? Wel, yn anffodus, aeth na lygoden neu wenci neu rywbeth i mewn i’r cwch a chwalu’r fframiau i gyd a bwyta pob gronyn o fêl.
Mae’n rhaid bod y tyllau anferthol wedi golygu na allai’r gwenyn gadw’n gynnes – heb sôn am fwydo ( er fod gen i ddiod siwgr yn y top iddyn nhw na lwyddodd y snichyn diarth fynd ato) a phan agorais i’r cwch, roedd y cyfan wedi marw. Nid fod ‘na lawer ohonyn nhw ar ôl, bechod. Ond mae eto haul ar fryn – mae hyn yn golygu rwan bod gen i gwch wag yn barod ar gyfer niwc newydd os gai frenhines newydd go gry. Gawn ni weld.
Mae’r ddwy gwch arall i’w gweld yn gneud reit dda, er fod rhyw wenyn diarth yn ymosod ar yr un ‘flin’ dridiau’n ôl. Y rhai o Loegr sydd mewn 4 neu 5 cwch i lawr y ffordd ers llynedd tybed? Dwn i’m. Ond dwi reit falch bod rhain yn wenyn blin neith ddim cymryd unrhyw lol rwan!
Bechod na fyddai Chwiorydd Rehoboth wedi dod wythnos neu hyd yn oed bythefnos yn ddiweddarach na wnaethon nhw. Ar ôl y glaw, mae hi wedi altro’n arw yma – mae na liw yn yr ardd eto!
Mae’r dagrau Solomon wedi neidio allan o nunlle fel rhyw nadroedd:
Ond yn anffodus, mae’r chwyn yn tyfu hefyd a dwi wedi bod yn chwynnu, bobol bach. Ond ges i siom o weld fod hwn yn ei ôl:
Ground elder neu llysiau’r Gymalwst, sy’n un styfnig ar y naw. Roedd o’n bla yma rhyw ddeng mlynedd yn ôl, ond diolch i Roundup (gofalus) ro’n i’n meddwl mod i wedi cael gwared o’r crinc am byth. Ddim cweit … mae angen craffu am y peth dragwyddol. Maen nhw’n deud mai’r Rhufeiniaid ddaeth a fo yma oherwydd ei fod yn dda at gricmala ( egluro’r enw Cymraeg, debyg) ond nes cai brawf o hynny, mae o’n ‘gonar.’
Chydig o bling yr ardd rwan. Be iw neud efo clust-dlws sydd wedi malu? Wel ei osod ymysg y blodau ynde. Be dach chi’n feddwl? A sbiwch fe fedrwch chi neud efo sparkplug a chwpwl o hen gyllyll:
Ond er fod un goeden camelia yn llawn blodau rwan, dydi hon ddim. Un blodyn bach sy na – wedi’i guddio reit yn y gwaelod:
Unrhyw un yn gwybod pam? Y tywydd oer tybed?
Iawn, mwy o luniau amrywiol a dyna ni, cyhoeddi hwn cyn i’r cwbl ddiflannu eto.
Ac un wenynen fach hapus i orffen: