BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Madarch!

I ddechre, dyma lun o lansiad yr hunangofiant:Robin fy nai 8 oed sydd efo fi – seren y noson! Mi wnaeth o araith fach hyfryd wrth gyflwyno’r copi cynta o’r wasg i mi – ei ewyrth Rhys yn ei ddagrau!

Ond blog am arddio ydi hwn i fod, felly dyma luniau o’r Ardd Fadarch ( The Mushroom Garden) yn Nantmor, lle fuon ni’n ffilmio wythnos dwytha: Cynan Jones a’i deulu sy’n rhedeg yr ardd ( fo sy’n y llun efo fi). Hobi ar ran Cynan oedd o i gychwyn, ar ôl mynd ar gwrs adanabod madarch ym Mhlas Tanybwlch, ac mae o’n cyfadde iddo droi’n obsesiwn. Ond mae’n obsesiwn sydd wedi troi’n fusnes llwyddiannus, sy’n gyrru rhwng 60 a 100 kilo dros Brydain gyfan. Rhai wedi eu sychu: A rhai yn ffres o’r ddau ‘container’ mawr sy’n twyllo’r madarch i dyfu fel pethau gwirion. Madarch wystrys llwyd neu grey oyster ydi’r rheina, a rhai melyn neu aur ydi’r rhai … wel, melyn … edrych fel clustiau Shrek tydyn?Ond mae o’n tyfu rhai ‘chestnut’ neu gnau castan hefyd. Grrr … llun anghywir. Wystrys ydi’r rheina – mae’r lleill wedi mynd i dop y blog am ryw reswm! Ond y rhai crwn, siap madarch mwy cyffredin ydyn nhw. Blasus tu hwnt. A sut yn union mae o’n llwyddo i’w tyfu? Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen yn bydd! Cyn Dolig ryw ben – dwi’m yn gwybod pryd yn union.

Ond yn y cyfamser, os dach chi isio anrheg Nadolig cwbl wahanol ( a rhesymol), am £8, gewch chi flocyn tyfu madarch shiitake ganddo fo – efo taflen cyfarwyddiadau. A nagoes, does dim angen rhyw sied dywyll, dim ond sil ffenest a dwr. Dwi wedi cael un a dwi’n edrych ymlaen yn arw at fedru casglu a choginio a bwyta fy madarch fy hun! Efo bacwn ac wy yn y bore … mmm.

Mae o’n gwerthu rhywbeth rhyfeddol o’r enw Umami hefyd: Blas cwbl wahanol i unrhyw flas arall, metalig, bron. Gawson ni flasu peth, a doedd Gwennan ddim yn ‘keen’ ond roedd y gweddill ohonon ni wedi gwirioni. Edrych ymlaen at ei ychwanegu at gawl neu omlet neu rywbeth. Iym.

O, a dyma’r llyfr madarch mae Cynan yn ei argymell – os ydach chi awydd dysgu sut i gasglu madarch gwyllt yn ddiogel.

Ges i ddiwrnod hyfryd efo Cynan a June yn yr Ardd Fadarch – er ei bod hi’n oer yno! Ac mi wnai adael i chi wybod sut mae fy mlocyn madarch yn dod yn ei flaen.

Llun o Cynan a June i orffen: A sylwch ar y wasgod ‘fadarch’ ddel gan Cynan! Obsesiwn?! Nes i anghofio gofyn os oedd o’n breuddwydio am fadarch.



Tachwedd
Tachwedd 1, 2012, 11:22 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Dwi newydd gofio mod i wedi anghofio nôl fy mheiriant torri gwair o’r garej lawr y ffordd! Bywyd wedi bod mor wirion bost, dwi’n anghofio pethau felna – a ffonio’r plymar ac ati ac ati. Ro’n i wedi meddwl torri’r lawnt am y tro ola eleni yn ystod y plwc braf, sych na – ond mi chwythodd rhywbeth … grrr. A finne newydd dalu dros £100 i’w drwsio!

Ta waeth, cyfnod pysur oherwydd hyn yn un peth:Gwahoddiad (Hanas Gwanas)

Ddim yn siwr os ydi hwnna wedi gweithio. PDF ydi o beth bynnag, gwahoddiad i lansiad fy hunangofiant – Hanas Gwanas. Sydd ddim yn sôn llawer am arddio, ond mae o yno. Braidd yn nerfus. Nofel newydd wastad yn fy ngwneud yn nerfus ond mae hwn ganmil gwaith gwaeth. Yyyyyy.

Ac mae fy annwyl frawd, Geraint – dyma fo ( un o luniau’r hunangofiant) yn yr ysbyty, am fod ei fraich wedi mynd yn ddrwg a chwyddo’n uffernol oherwydd orf. Fydd o ddim adre tan ddydd Sadwrn o leia, y creadur. A be ydi orf? Wel dyma luniau ges i oddi ar y we:

Edrych yn boenus tydi? Mae o. Feirws sy’n cael ei gario gan ddefaid a geifr ydi o, ac mae ffermwyr yn gallu ei gael os ydyn nhw’n trin defaid a hwythau efo briw neu glwyf agored – ar eu dwylo gan amlaf. Mae’r drwg yn mynd i mewn i’r cnawd, ac weithiau’n gallu mynd yn ddrwg iawn – fel y lluniau yma. Does gen i ddim llun o’r orf ar law Geraint achos pan welais i o, roedd ei law wedi ei orchuddio gan blastars a bandejus. Roedd o wedi bod ar dabledi gwrthfeiotig ers tridiau ond roedd ei fraich yn dal wedi chwyddo, a thop ei fraich wedi mynd yn goch a chaled. Mi gafodd ei yrru i sbyty Wrecsam yn nes mlaen y noson honno ( nos Lun) ac yno mae o byth. Maen nhw wedi rhoi llawdriniaeth iddo fo i dynnu’r drwg, a rhoi gwahanol fathau o wrthfeiotig ( doedd o’m yn gweithio am hir) ac mae’n gwella rwan, diolch byth. Ac o leia mae o wedi cael cyfle i ddarllen y llyfr! Dim cwynion ganddo fo hyd yma – ddim am y llyfr o leia.

Felly mae angen bod yn ofalus yng nghefn gwlad ac efo anifeiliaid! Dyn a wyr pryd fydd o’n gallu gweithio eto – ac mae o’n dipyn o weithiwr. Dyma fo’n tacluso fy ngwrych i a gwneud y fynedfa’n lletach ddiwedd yr haf. Roedd o’n mynd i ddod a ‘digar’ draw i orffen tacluso’r fynedfa ond dal i ddisgwyl fydda i am sbel rwan … brysia wella Ger! Nid oherwydd y fynedfa wrth reswm, ond mae dy blant a dy wraig di’n gweld dy isio di! Ac mae diesel i Wrecsam yn ddrud… ac mae Dad yn mynd braidd yn hen i wneud bob dim ei hun … 🙂

Dwi’n siwr bod ‘na gantamil o jôcs am ‘orf’ ond ddeuda i run – ddim nes iddo fo ddod adre.