Filed under: Heb Gategori | Tagiau: camelia, dringwr, heuchera, Russ, Sioned, ty gwydr
Wps – dwi ar ei hôl hi efo’r blog wythnosol. Dwi wedi bod yn brysur, sori.
Wel? Dach chi’n mwynhau gweld BYYA yn ôl ar y sgrin? Eitemau digon difyr does? Roedd hi’n amlwg mod i wedi cael llond bol yn trio rhoi’r ty gwydr i fyny doedd? A dwi ddim yn hapus efo fo – gorfod rhoi gwynt ynddo fo bob wythnos, ac yn y cyfnodau poeth, braf, mae o’n llosgi bob dim yn grimp! Dim ond un planhigyn courgette sy’n dal yn fyw a does na’m golwg rhy iach ar hwnnw chwaith ( mi gafodd y parsli oedd yn yr eitem ei chwalu’n rhacs pan fu’r bali peth yn fflapian yn y gwynt …). Ydw, dwi’n gallu rheoli’r tymheredd drwy agor y drws, ond os dwi i ffwrdd yn gweithio, fedrai ddim na fedra? Ac os dwi’n ei adael ar agor drwy’r amser, be am noson fel heno pan mae hi’n mynd i rewi, meddan nhw?
Ond dwi am roi fy nhomatos ynddo fo toc beth bynnag. Maen nhw’n tyfu rêl bois yn fy ‘wet room’ o dan y ffenest velux.
Tybed oes ‘na rai ohonoch chi wedi cael trafferth efo’ch camelias eleni? Oes, mae gen i un sy’n cael diod o haearn bob hyn a hyn – yn ôl cyfarwyddiadau Carol Gerecke, ond mae gen i ddwy arall – un na welais i’r un blodyn arni tro ma, ac un arall, sydd fel arfer yn wych, ond sy’n edrych yn symol iawn bellach. Mae’r blodau wedi hen wywo ers i mi gymryd y llun yma, ond y canghennau sy’n fy mhoeni i – dydyn nhw’m yn arfer sigo felna, ac mae na un at y gwaelod sy’n edrych fel tase fo ar fin marw go iawn. Dwi’n ei dyfrio, dwi wedi bod yn rhoi ‘feed’ iddi – ond mae’n dal i edrych yn sal. Unrhyw un ag unrhyw gyngor i mi?
Hefyd, dros y gaea, heb i mi ddallt, roedd ‘na ryw ddringwr wedi tyfu’n bellach na’r hen fonyn wedi pydru ym mhen draw’r ardd ac wedi crogi coeden fach arall ( dim clem be ydi hi – blodau pinc) a dau wrych nes eu bod yn gelain, fwy na heb. Dwi wedi bod yn rhwygo a thynnu a thocio ( a bytheirio, waeth i mi gyfadde) a dyma beth o’r llanast:
Does gan y ddau wrych ddim gobaith dod yn ôl – nid yn daclus o leia, ond mae’r goeden blodau pinc yn edrych yn obeithiol. Dwi angen tynnu’r lleill allan yn y bôn ryw ben a phlannu rhywbeth arall yn eu lle nhw. Ond be?!
A phryd gai amser? Dwi wedi bod yn ffilmio yn Waunfawr ddoe – gewch chi hanes Duncan Brown a’r gwyfynnod tro nesa, yn trio rhoi cwch gwenyn at ei gilydd heddiw ( mae ‘na draethawd yn fanna…) a dwi’n mynd i Lanbedr, Harlech fory. Wedyn mae’n benwythnos gwyl y banc tydi, a’r maes carafannau’n llawn a thoiledau angen eu glanhau, a dwi’n gobeithio mynd am dro ar y beics efo ffrind arall o gaerdydd a’i chi mawr bywiog hi bnawn Sadwrn. A dwi angen sgwennu beirniadaeth ar gyfer Steddfod Wrecsam … a dyfrio’r ardd. A llnau’r ty – sy’n edrych fel tase ‘na gorwynt wedi bod drwyddo fo. A golygu straeon ac ysgrifau ar gyfer cyfrol ‘Taid-Tad-cu’ … does ‘na’m llonydd i’w gael!
Ond mi ges i amser i blannu heuchera a rhywbeth ges i gan Meryl i fyny’r ffordd ( gwraig Buck, y boi oedd yn gneud sloe gin efo fi llynedd) – dwi’m yn siwr be ydi o, nid anhebyg i deulu’r heuchera, ond dail tipyn mwy. Maen nhw’n edrych yn eitha hapus lle bu’r hebe mawr ‘na.
Wythos dwytha gymrais i’r llun yma – mae’r patshyn wedi tyfu’r hurt ers hynny – gewch chi weld llun ryw ben eto.
O, a llun bach del o Sioned, Russ a fi yng Nghaerdydd i orffen. Mae Sioned yn priodi toc – ond dwi’m yn cofio pryd. Wythnos nesa efallai? Neu’r wythnos wedyn. Efallai y gwnaiff rhywun ddeud yn gall wrthai – mae ngho i fel gogor … henaint dicini …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: blodau pinc, charleston, coed afalau Enlli, dagrau solomon, gwas y neidr, honesty
Dwi wedi bod yn dawel efo’r blogio am mod i wedi bod yn ffilmio’n y de –
Cyfres newydd efo Tudur Owen – ‘Byw yn ôl y Papur Newydd’, a’r 1920au y tro yma. Coblyn o hwyl ond gwaith caled, ac ar ôl trio dawnsio’r charleston ddoe, mae fy mhengliniau’n sgrechian heddiw.
Ta waeth, hyfryd ydi bod adre a ges i fraw wrth fynd rownd yr ardd.
Do, mae’r honesty wedi tyfu dros nos. Mae’n siwr bod ‘na enw Cymraeg
ond sgen i’m mynedd sbio ar hyn o bryd.
Mae’r acer wedi deilio o’r diwedd, a’r peth oren ‘na wedi blodeuo. Dim clem be di’r enw, sori. Rwbath japonica? A sgen i’m clem pam fod y sgrifen yma wedi troi’n las wedyn yn goch ac yna’n ddu eto. Byd y blog – rhyfedd yw. Ac ydi, mae’r ty gwydr yn dal ar ei draed a’r courgettes ( rhai ohonyn nhw) yn ffynnu. Y lleill unai wedi boddi neu losgi.
Rhywbeth arall nad oes gen i syniad mwnci be ydi o ydi hwn, y blodau pinc yma:
Dim ond un oedd yma pan brynais i’r ty ddeg mlynedd yn ôl, ond mae’n rhaid ei fod o’n fy hoffi i achos mae gen i domen ohonyn nhw rwan. Rhyw fath o ‘tuber’ ydi o, un digon od yr olwg. Rois i un i fy chwaer ond dwi’n mau’n gry ei bod hi wedi ei roi’n y bin wrth glirio… hmff. Dyma fy rhai i, ylwch, wedi tyfu fel madarch tra ro’n i i ffwrdd.
Os oes gan unrhyw un syniad be ydi o, plis gadewch i mi wybod!
Reit, pa luniau eraill sy gen i? O ia, meddwl y byddech chi’n hoffi gweld sut siap sydd ar y darn fu Carol yn ei blannu efo fi – y gornel dywyll. Wel, mae fy nagrau Solomon i wedi tyfu fel pethau gwirion er i’r criw sathru a malu eu hanner nhw, felly maen nhw’n cuddio’r hellebores braidd. Ac mae’r malwod wedi bwyta cryn dipyn o fy snakes heads. Fawr o liw yno eto, ond pan fydd y bysedd y cwn amryliw yn blodeuo – helooo!
Iawn, gan fod y lluniau ma wastad yn mynnu pentyrru ar ben ei gilydd yn y diwedd yn lle aros lle dwi’n eu rhoi nhw, dyma i chi bentwr o luniau yn cynnwys fy nghoeden afalau Enlli sydd bellach yn tyfu am i fyny gyda help polyn ffens a phar o deits ( diolch am y tip, Carol) A rhyw chydig o bethe brynais i’n y sioe flodau yng Nghaerdydd. Do’n i’m wedi pasa gwario cymaint ond Russell oedd yn ddylanwad drwg arnai! Ac oes, mae gen i ‘thing’ am was y neidr…
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Crwys, Eisteddfod yr Urdd Abertawe, Gwilym Herber Williams, Siwrne Lawn, Y Border Bach
Mae’n siwr mai chydig iawn o bobl sy’n darllen blogiau sy’n cofio cerdd ‘Y Border Bach’ gan Crwys.
“Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai’r ardd yn ddwy,
Roedd gan fy mam ei border bach
O flodau perta’r plwy…” ayyb. Na? Cofio dim? Efallai bod ‘Melin Trefin’ yn canu cloch ta? Fo sgwennodd honno hefyd, ond roedd ‘y Border Bach’ yn gerdd hynod adnabyddus a phoblogaidd ers talwm, a dyma’r ardd a dyma’r awdur yn sefyll o flaen y riwbob.
Gareth Richards yrrodd y llun i ni, wedi iddo gysylltu efo’r syniad i ni fynd i weld yr ardd fel mae hi heddiw a’i helpu i geisio ei gwneud yn debycach i fel roedd hi yn nyddiau Crwys, fel ffordd o godi arian at Eisteddfod yr Urdd, Abertawe eleni.
Ond mwy am Crwys: cafodd ei eni yn 1875, a’i enw bedydd oedd William Williams, ond mi gymrodd ei enw barddol o’r capel lleol, sef Pant y Crwys. Enillodd y Goron deirgwaith a dod yn Archdderwydd hefyd. Ac yn ôl y sôn, roedd o’n dipyn o gymeriad.
Ei nith, Enid Harper, sy’n byw yma rwan, a dyma hi a’i brawd, Gwilym Herber Williams yn cael eu ffilmio:
Mae Gwilym yn gymeriad, bobol bach, ac yn llawer iau na’i 92 mlynedd ar y ddaear yma. Mi fues i’n chwerthin nes o’n i’n sal efo fo. Ond mae Heledd, y cyfarwyddwr wedi deud wrthai na fydd yr eitem, pan gaiff hi ei darlledu, yn gwneud tegwch â’i ffraethineb. Roedd o’n siarad fel pwll y môr ac yn anodd iawn ei olygu mae’n debyg, felly bu’n rhaid torri talpiau allan. Bechod garw. dwi’n gobeithio yr aiff y criw’n ôl i’w ffilmio ar ei batsh ei hun cyn bo hir ( llysiau, tair iâr a shetland pony) i’r genedl gael dod i nabod dyn wirioneddol ‘sbeshal’!
Mae Enid yn berson llawer mwy swil a thawel, a doedd hi’m isio siarad ar gamera o gwbl. Ein bwydo efo hot cross buns a brechdannau samwn fuodd hi drwy’r dydd! Dau berson oedd yn bleser i fod yn eu cwmni – roedd y criw i gyd wedi gwirioni efo nhw.
Dyma fwy o luniau i chi:
A dyma’r ardd o’r un safle â’r llun gwreiddiol heddiw:
Fel y gwelwch chi, nid yn debyg iawn, ond yn debycach nag oedd o wedi i Gareth a’i gyfeillion glirio a chwynnu cyn i ni gyrraedd. Doedd gynnon ni fawr o amser na phlanhigion i wneud llawer o wahaniaeth ond mae gareth wedi addo gyrru llun unwaith y bydd wedi plannu cyrains duon, riwbob ayyb ddiwedd yr haf. A dwi’n croesi mysedd y bydd modd ei ffilmio eto beth bynnag pan fyddan nhw’n mynd i weld Gwilym ar ei batsh ei hun, jest dros y ffordd. Mae ‘na lyfr am Gwilym, ‘Siwrne Lawn’, gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, gyda llaw. Gwerth ei ddarllen ddeudwn i!
Mwy o luniau o’r border bach efo “… dwy neu dair briallen ffel,
A daffodil, bid siwr…”