Wel nefi wen, be ddeudis i? “Ond yn sicr, nid gwybedogiaid brith mohonyn nhw – dwi’m di gweld un o’r rheiny acw eleni eto. Byw mewn gobaith.”
Dwi bellach wedi sylweddoli mai gwybedogiaid brith ( pied flycatcher) sydd wedi nythu yn y bocs, nid titws. Sylwi ar swn deryn blin wnes i wrth gloi drws y ty bore ‘ma cyn mynd ar y beic efo Del; wedi craffu mewn i’r coed, dyma weld mai slaff o wybedog gwyrw, tew a’i fol gwyn wedi pwffian allan oedd yn protestio. Ro’n i’n falch iawn o’i weld o, gan mod i’n cael pâr yn nythu yma bob blwyddyn ond yn eu gweld y hwyr iawn yn cyrraedd eleni. Dyma i chi lun o un busneslyd iawn oedd yn mynnu hedfan mewn i nghegin i rhyw ddwy flynedd yn ôl:
Dowcs, tybed ai hwn sy’n y bocs wedi’r cwbl, ac yn meddwl bod Del neu fi’n mynd i fusnesa yno? Wedi dod nôl o’r beicio, roedd o’n cega eto, felly wedi mynd mewn i’r ty, nes i sefyllian wrth y ffenest fechan – am hydoedd – nes ei weld yn hedfan mewn i’r bocs. Ieeee!
Ond wedi rhoi’r teledu ymlaen, ges i siom. Dim ond un cyw sydd yno bellach; dwi’n gallu gweld corff marw un cyw oddi tano fo ond dim golwg o’r ddau arall. Unrhyw un ag unrhyw syniad be allai fod wedi digwydd?
Hefyd, dwi wedi gweld bod y rhiant yn dod mewn ac nid yn bwydo’r cyw. Tybed ydi o’n gallu clywed y sain o’r teledu ac yn drysu, methu dallt be ydi’r llais cyw ychwanegol ma? Dwi wedi troi’r sain reit i lawr rhag ofn.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: adar, bocs adar, Caio Gwilym, camera, cnocell fraith fwyaf, cnocell fraith leiaf, titw
Wel, daeth Iorwerth o Gwmni Da draw neithiwr, ac wele lun o’r bocs adar:
Ia, du a gwyn ydi’r llun sori, ond mae gen i sain hefyd felly dwi’n gallu clywed yn ogystal â gwylio’r 4 cyw yn mynd yn wallgo bob tro mae’r rhiant yn dod a bwyd iddyn nhw. Dwi’n meddwl mai titws o ryw fath ydyn nhw – mae’r rhieni’n hedfan mor gyflym i mewn ac allan, mae’n anodd deud! Ond yn sicr, nid gwybedogiaid brith mohonyn nhw – dwi’m di gweld un o’r rheiny acw eleni eto. Byw mewn gobaith.
Ond mae gwylio hyd yn oed adar bach cyffredin mor agos yn brofiad hyfryd, ac fel y byddan nhw’n aeddfedu, mi fydd hyd yn oed yn fwy difyr!
Ond mae na aderyn prin arall wedi dod i ngardd i am y tro cynta erioed:
Ond cnocell y coed ydi o wrth gwrs, ond nid yr un fawr – y gnocell fraith fwyaf, ond yr un prin, prin anodd ei weld: y gnocell fraith leiaf. Sut dwi’n gwybod? Am fod gen i lyfr adar Iolo Williams o mlaen, ac mae’r marciau yr un fath yn union â iar y brid hwnnw. Ac i brofi pa mor fach ydi o, dyma lun arall:
Cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy ac mi welwch fod na jibinc ar dop y bwa – sydd yr un maint â’r gnocell. Iawn? Coelio fi rwan? Da de! Dwi’n mynd i drio prynu charger newydd i’r camera mawr fel mod i’n cael gwell lluniau. Croesi bysedd hefyd y bydd y camera sydd wedi ei osod ar y bwa ei hun yn gweithio rwan. Doedd o ddim am ryw reswm ond gawn ni weld os oes gan Iorwerth y ‘magic touch’!
Mae’n wir bechod na lwyddes i i gael lluniau o’r gnocell fraith fwyaf yn bwydo ei phlant ( un ceiliog ac un iâr) ar ben y bwa ma – roedd o’n hyfryd i’w gwylio nhw: y fam yn hel llond pig o gnau mwnci ac yna’n bwydo’r slaff o gyw mawr tew, blewog ( un ar y tro – weles i rioed y ddau gyw efo’i gilydd) a’r ceiliog yn enwedig yn swnllyd tu hwnt.
Pan mae adar cyffredin yn bwydo, mi fedrai fynd yn agos iawn:
Maen nhw bron yn ddof bellach, ond dwi’n gorfod aros yn y ty i wylio’r cnocelliaid. mae na un mawr wrthi’n bwydo rwan, tra dwi’n sgwennu hwn- a dyma i chi lun o un ohonyn nhw yn y bwydwr arall:
Efo jibinc yn ei wylio unwaith eto, ond dydi o’m yr un maint – jest chydig agosach wir yr!
Wel myn coblyn, fel o’n i’n sgwennu hwnna, mae’r ceiliog ifanc a’i riant newydd fod yn bwydo eto a dwi di cael lluniau – rhai sal, ond maen nhw’n profi fy ngeiriau! Arhoswch i mi eu llwytho nhw…
Dwi wedi cynhyrfu’n rhacs rwan! Ac yn sgrechian isio camera efo zoom lens… ac wrth gwrs, cyfraith Murphy, welith y camera sydd ar y bwa mo’r bwydo yma – gyferbyn â’r bwydwr mae o, nid y top! O wel … flwyddyn nesa …
O, ac i orffen, wele lun o’r cyw diweddara yn ein teulu ni: Caio Gwilym!
Filed under: Heb Gategori
Weihei! Mae ‘na gywion yn y bocs adar sydd â chamera ynddo fo! Ond dwi’m yn cofio sut i gael llun ar y teledu …
Unwaith gai gyfarwyddiadau gan Aled ( sy’n dallt y pethe ma) mi wnai gymryd llun o’r hyn fydd ar fy nheledu.
Yn obeithiol ac eitha cynh^yrfd …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: amgueddfa, Bill & Ben, gwenyn, haearn, Lambeth
Nos Sul: Mae gen i hymdingar o gur pen ar hyn o bryd. Blinder ar ôl pythefnos hurt o brysur a barbeciw dathlu priodas aur fy rhieni heddiw. Yyyy. Roedd y barbeciw’n llwyddiant mawr ac roedd yr haul yn tywynnu, diolch byth, ond dwi’n difaru mod i wedi cymysgu Pimms a siampên sgawen. A heb fynd i ngwely ynghynt neithiwr. Felly dwi’n mynd i ngwely. Nos da.
Bore Llun: teimlo gangwaith gwell, diolch byth. Wedi crwydro’r ardd bore ma ac yna mynd am dro ar y beic efo Del cyn mynd at y cyfrifiadur i drio dal i fyny efo bob dim, dwi’n teimlo fel person call unwaith eto. Mae’r ardd yn edrych yn hyfryd, dwi newydd roi ‘feed’ o haearn eto i’r camellia sydd braidd yn felyn ( dyma’r 3ydd ‘feed’ ers y gwanwyn cynnar) a dwi’n siwr ei bod hi’n edrych yn well. Ges i chydig o fafon cochion wrth basio – yum, hyfryd, ac agor drws y ty gwydr, lle mae’r tomatos yn edrych yn weddol iach a’r un pot ciwcymbar a’r un courgette yn edrych yn iach iawn, iawn. O feddwl nad oes dim wedi cael llawer o sylw ers pythefnos, mae popeth i’w weld yn hapus iawn ei fyd. Bu’n rhaid hel algae o’r pwll wrth gwrs, ond mae’r trigolion yn edrych yn hapus hefyd – ambell benbwl wedi tyfu coesau, ond y rhan fwya jest yn edrych yn fawr ac yn dew.
Mi wnes i gamgymeriad o drio mynd at y gwenyn neithiwr – efo’r cur pen. Do’n i jest ddim yn meddwl yn gall nac yn gweithio’n gyflym ac aeth y tân allan yn y fegin. Ges i amser i glirio chydig o gwyr oddi ar y bwced bwydo a dwy ffram ond roedden nhw’n dechrau mynd yn bifish felly rois i’r gorau iddi. A do’n i methu cofio’r cyfarwyddiadau ges i gan Carys, felly mi wnai gysylltu efo hi heddiw – rhag ofn! Ond mae ‘na olwg iach a phrysur arnyn nhw a digon o fêl ddeudwn i.
Dyma i chi chydig o luniau a hanes y lleoliad arall fuon ni ynddo yn Llundain – amgueddfa arddwriaethol yn Lambeth.
Mae’r lle’n llawn o hen declynnau – rhai’n hen iawn, a rhai sy’n amhosib deud faint ydi ei hoed nhw’n iawn. Cliciwch ar y lluniau ac mi ddown yn fwy i chi gael gweld y dyddiadau sydd ar y paneli ysgrifen. Roedd ambell banel yn deud 1800-1900 – amhosib gweithio allan yn fwy manwl na hynny! Roedd ‘na declynnau od ar y naw hefyd, fel y sythwr ciwcymbars yma ( 1850-1900)
Teganau wedyn, fel yr ardd gyfan yma – ond dwi’m yn meddwl eu bod nhw’n gwneud pethau fel hyn rwan nacdyn – dim ond ffermydd neu orsaf drên hyd y gwn i.
Ac wrth gwrs, roedd Bill & Ben yn deganau poblogaidd ers talwm. Nhw ydi’r ddau beth bach yn y cefn. Mi wnai ychwanegu mwy o luniau o’r tu mewn a’r tu allan i chi gael mwy o flas o’r lle. Lle bach difyr a gwahanol i ymweld ag o yn Llundain – ac mae’r bwyd yn fendigedig a rhesymol – a’r cyfan wedi ei wneud ar y lleoliad. Tipyn gwell na bali Macdonalds!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Caio Gwilym, flamingo, gardd do, Kensington roof gardens, Richard Branson, tad Ifor ap Glyn
Blog sydyn cyn mynd i weld fy ngor-nai ( great nephew?!) newydd, Caio Gwilym. Llongyfarchiadau i Leah a Gareth, y rhieni, a gobeithio y gwnaiff o dyfu i fod â bysedd gwyrddion ac i chwarae rygbi i Gymru!
Dwi am ddefnyddio chydig o ‘r golofn Herald sgwennais i ( ail-gylchu – pam lai?) felly dyma hanes fy nhrip diweddar i Lundain:
Mi fues i yn Llundain yn ystod y gwres mawr ’na. Felly efallai mai dyna pam wnes i ddrysu. Ro’n i’n gwybod bod y gwesty yn Russell Square ac nad ydi fan’no’n bell o Euston. Mi fyswn i wedi gallu cerdded a llusgo nghês y tu ôl i mi, ond ro’n i ar frys (cwta hanner awr i bicio i’r gwesty ac yna mlaen i Baker Street i weld sioe efo Paul Griffiths) felly nes i holi os oedd ’na fws yn pasio Russell Square. Oedd tad, rhif 91. Mi nath y ddynes ddeud bod angen chwilio am eglwys erbyn cofio, ond mi welais i fws efo rhif 91 arno fo a neidio mlaen yndo.
Chwarter awr yn ddiweddarach, ro’n i’n gwaredu at y traffic a’r holl oedi wrth oleuadau ond ro’n i’n dal yn weddol hapus yn pasio llefydd fel King’s Cross. Doedd fan’no ddim yn bell o Russell Square, mae’n siwr mai gwneud rhyw gylch bach oedd y bws.
Sbel yn ddiweddarach, a finnau’n teimlo mod i mewn gêm Monopoly yn pasio llefydd fel carchar Pentonville, ro’n i’n gwybod bod rhywbeth mawr o’i le. Ond roedd y bws yn orlawn a doedd y dyn tywyll oedd yn fy wynebu unai ddim yn deall fy acen neu jest ddim yn deall be oedd y broblem. Oedd, roedd y bws yn mynd i basio Russell Square – ond dim ond ar ôl mynd i Crouch End. Be?!
Roedd ei hogyn bach yn teimlo drosta i ac yn estyn ei fanana i mi, un slwtshlyd oedd wedi bod yn ei geg o ers Euston. Plis paid a cholli hwnna dros fy nillad i … Yn y diwedd, mi ddalltodd y dyn mod i’n dechre panicio a dweud y dylwn i fynd oddi ar y bws, croesi’r ffordd a dal bws 91 y ffordd arall …
Wedi ffonio Paul, dyma redeg am y gwesty, gollwng fy mag, chwistrellu chydig o stwff lladd chwys a rhedeg yn ôl am y tiwb drwy’r torfeydd am Baker Street lle roedd Paul druan yn dal i ddisgwyl amdana i. Chwerthin nath o ond dwi’n siwr ei fod o isio ’nghrogi i.
Brysio am y theatr awyr agored yn Regent’s Park, a llwyddo i fynd i mewn er ein bod ni wedi colli’r dechrau. Fues i rioed mor falch o gael eistedd. Ond ro’n i wedi anghofio am boen y cymalau o fewn dim. Addasiad o nofel ‘Lord of The Flies’ William Golding oedd y ddrama, a’r cast i gyd yn hogia ifanc. A nefi, roedden nhw’n dda, o ran actio, cwffio, dringo, bob dim. Dwi’n cofio gweld y ffilm du a gwyn yn yr ysgol, ac mae’r sioc ges i bryd hynny yn dal yn fyw. Efallai na wnes i ddychryn cymaint tro ’ma (gwybod be oedd yn mynd i ddigwydd do’n) ond roedd o’n dal yn brofiad. Roedd y llwyfannu’n wych: gweddillion awyren ynghanol y coed, cêsus a’u cynnwys ar hyd y ‘traeth’ ac yn crogi o ganghennau. Ac erbyn yr ail hanner, roedd hi wedi nosi a’r fflamau a’r gweiddi gymaint mwy effeithiol o’r herwydd. Do’n i methu peidio a meddwl pam na fedrwn ni gael theatr awyr agored yng Nghymru hefyd, nes i mi gofio ei bod hi’n glawio dipyn llai yn Llundain. Ac ydi, mae’r sioe yn mynd yn ei blaen hyd yn oed yn y glaw.
Roedden ni’n dau’n ysu am ddiod ar ôl hynna, felly dyma fynd i’r dafarn gynta welson ni ac eistedd wrth yr unig fwrdd lle roedd ’na le i ni. Yn sydyn, dyma Paul yn sbio’n hurt ar y dyn wrth fy ochr i, a gofyn: ‘Ym … ddim tad Ifor ap Glyn ydach chi?’ Ia, cofiwch. O’r holl dafarndai yn Llundain …!A dyma’r prawf i chi. Digon tebyg i’w fab tydi?
Fel mae’n digwydd, Ifor ydi un o fosys Cwmni Da, y cwmni sy’n gyfrifol am ‘Byw yn yr Ardd’, ac wedi mynd i Lundain i ffilmio ro’n i. Felly drannoeth, ges i ddiwrnod difyr mewn amgueddfa erddi yn Lambeth ( mwy am hwnnw tro nesa), a’r diwrnod canlynol, diwrnod difyrrach fyth yn yr ardd ar ben to rhif 99, Kensington High Street.
Dyma’r ardd ‘do’ fwya yn Ewrop, gafodd ei chynllunio nôl yn y 1930au gan Gymro o Gaerdydd – Ralph Hancock! Richard Branson pia hi bellach, ond weles i mo’no fo. Ond mi welais i’r flamingos sy’n byw yn yr ardd: Ro’n i wedi meddwl mai rhai ffug oedden nhw a bod yn onest, ond wir yr, rhai go iawn ydyn nhw, a’u hadennydd wedi eu clipio fel na fedran nhw hedfan i ffwrdd. Ro’n i wedi gwirioni, fel sy’n amlwg yn y llun yma – fflamingo ydi’r blob pinc yn y cefndir.
Ac mi brynais i’r top yna y diwrnod cynt yn Covent Garden – roedd y dillad oedd gen i yn llawer rhy gynnes yn y gwres llethol ‘na. Dyma i chi fwy o luniau, yn cynnwys yr ardd Sbaeneg ( efo fflag Virgin yn cyhwfan), y stafell ‘Moroccan’ a’r riwbob sy’n tyfu ar y balconi wrth y ty bwyta ( crand iawn) ar y top.
Mae hi’n ardd rhyfeddol o fawr, efo bron i gant o wahanol fathau o goed, sy’n tyfu mewn dim ond 18 modfedd o bridd! Maen nhw’n llogi’r lle ar gyfer partion, ac roedd Branson ei hun yn mynd i gael un yno toc, i ddathlu’r ffaith ei fod yn berchen ar y lle ers 30 mlynedd. Parti 80au dwi’n meddwl, efo roller disco a bob dim.
Mi wnes i wir fwynhau ein diwrnod ar ben y to, ac roedd David, y garddwr, un o’r garddwyr clenia i mi ei gyfarfod erioed. Bonheddwr go iawn, efo un o’r swyddi garddio gorau yn y byd – fo sydd yng ngofal yr ardd arall sy pia Branson ym Morocco hefyd!
A dyma lun i chi gael cymharu gardd do Kensington efo fy ngardd do i ( bw hw):
Iawn, mynd i weld Caio rwan …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: ailgylchu, Bronant, Bwlch y Geuffordd, cors, NGS
Jim a Gay Acers ydi’r ddau yma, a nhw yw perchnogion un o’r gerddi hyfryta i mi ei gweld eto! Bwlch y Geuffordd ydi’r enw, mewn man anghysbell iawn yn ochrau Bronant, rhwng Aberystwyth a Thregaron. Mae’n rhan o gynllun yr NGS felly os gewch chi gyfle i fynd yno, cerwch da chi.
Y peth rhyfedda am y lle ydi eu bod wedi creu gardd eden o fewn cors. Wir yr, mae’r tir yn fanna yn erchyll. A be wnaethon nhw ond plannu llwyth o goed rownd yr ochrau yn gynta, i sychu rhywfaint ar y lle. Ond fel y gwelwch chi o faint y dail yma, mae hi’n dal yn o damp yno!
Ond dim ond angen gwneud twll sydd er mwyn creu pwll neu lyn o fewn dim – maen nhw jest yn llenwi’n naturiol. Felly mae na ddigonedd o byllau a nentydd yno, yn llawn planhigion o bob math.
Ond mae na fwy na pyllau yma. Yr ardd Siapaneiadd welwch chi uchod – wel, rhan ohoni, ond mae na ardd y Canoldir hefyd, a hyd yn oed gardd Affricanaidd, efo cwt mwd hyfryd!
A dwi’n cynnwys llun agosach o’r ffenestri o’r tu allan i chi gael gweld. Syniad gwych, ac ailgylchu efo steil ynde.
Er mai ffisiotherapydd ydi Gay, mae hi’n amlwg yn artist hefyd gan mai hi sydd wedi gneud y rhan fwya o’r cerfluniau sydd ar hyd y lle.
Ond mae Jim yn artistig hefyd a fo nath hwn efo llewpart ar ei ben.
Ond y piece de resistance ydi’r aderyn anhygoel wnaeth y ddau a’u merch allan o hen danciau dwr a mwy o boteli a marblis, er cof am ferch arall fu farw’n ifanc iawn. Dyma i chi luniau o wahanol onglau.
Do, mi wnes i gymryd llwyth o luniau – methu peidio!
Ac i orffen, mwy o luniau o wahanol rannau o’r ardd. Do, mi gafodd Del ddod tro ma hefyd, am fod yr ardd wedi hen arfer efo cwn. Ond ffoniwch mlaen llaw i weld os ydyn nhw’n hapus i chi fynd a’ch ci chi yno hefyd.
01974 251559
Mwynhewch! Mi wnes i.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Boiler Slab, Caerynwch, gwenyn, Mary Richards, siwgr
Wedi bod yn sbio ar y gwenyn efo Carys pnawn ma! Maen nhw’n edrych yn ddigon hapus, ond roedd y bwced o ‘fwyd’ ( siwgr wedi’i doddi) yn wag felly bu’n rhaid i mi doddi llond sosban iddyn nhw. Y tywydd gwlyb, gwyntog sydd wedi bod yn eu cadw rhag nôl eu bwyd eu hunain, ond ar ôl heddiw a’r haul maen nhw’n ei addo weddill yr wythnos, dwi’n cymryd y byddan nhw allan yn nôl paill fel pethau gwirion.
Ta waeth, isio sôn am eitem arall fydd yn cael ei dangos cyn bo hir ydw i: gerddi Caerynwch, plasdy mawr nid nepell o fan hyn: lle mawr, smart de? Os sbiwch chi i’r chwith wrth yrru o Ddolgellau am Cross Foxes, toc ar ôl y tro am Brithdir, mi allwch chi weld y ty i lawr yn y dyffryn. Anodd yn yr haf drwy’r holl goed, ond digon clir yn y gaeaf. Nhw oedd y meistri tir lleol, ond ers i’r hen Commander Richards farw, mae’r meibion wedi gorfod gwerthu bron bob un o’r ffermydd ( yn cynnwys y Gwanas). Ac fel hanes sawl hen blasdy tebyg, maen nhw’n gorfod meddwl am ffyrdd i dalu am gynnal a chadw’r ty a’r gerddi. Dyna pam eu bod nhw wedi dechrau agor y lle i’r cyhoedd ar adegau arbennig. Gewch chi weld un diwrnod agored ar BYYA toc.
Mae ‘na azaleas a rhododendrons sy’n werth eu gweld.
Y rhan fwya wedi eu plannu gan nain Andrew, y perchennog presennol. Botanegydd oedd Mary Richards, fyddai’n dod a hadau efo hi o dros y byd i gyd.
Ond dwi’m yn meddwl mai hi blannodd y Douglas Fir anferthol syrthiodd mewn storm rai blynyddoedd yn ôl, ac sydd bellach wedi ei lifio a’i gerfio yn le chwarae plant – os ydyn nhw’n ofalus!
Ges i gwmni Meg a Robin, plant fy mrawd, a dyma nhw’n chwarae ar y goeden efo’u ffrindiau o Ysgol y Brithdir. Fel y gwelwch chi, mae gan Meg ( mewn du a llwyd) falans da iawn. Fel ‘na ro’n i ers talwm … Ond mae Robin, fel cymaint o fechgyn ei oed, dipyn trymach ar ei draed, ac yn fuan ar ôl y llun yma gymrais i ohono’n camu’n hyderus, mi gafodd godwm, y creadur!
Nid ar gamera fel mae’n digwydd, ond mi naethon ni stopio ffilmio nes i’r dagrau beidio. Dim ond sgriffiad bach neu ddau gafodd o, diolch byth – ond coeden ar gyfer plant weddol fawr a heini ydi hon, nid plant bach, bach iawn!
Cafwyd diwrnod hyfryd beth bynnag, a nes i brynu cwpwl o’r planhigion oedd ar werth yno. Prisau reit gall hefyd. Galwch yno y tro nesa y bydd yr arwyddion yn nodi bod y lle ar agor eto.
O, a jest i brofi mod innau’n dal i fedru dringo, diolch yn fawr, dyma lun ohona i ar Boiler Slab ar y Gwyr, yn ddiweddar. Penwythnos drefnwyd gan Glwb Mynydda Cymru – a chwip o benwythnos oedd o hefyd!