Filed under: Heb Gategori | Tagiau: camau, cofio, hamstring, larvae, llewygu, llinyn y gar, poenus, Rhian Clwyd, rhywgo, sbio, wasp beetle
Naci, nid y fi ydi honna. Ond dwi wedi gwneud yr un peth â hi. A hwn:
Ond mae o wedi brifo go iawn. Actio mae’r llall de? Actio’n dda, cofiwch. Mae ei hwyneb hi’n gwneud i mi wingo. Wedi tynnu llinyn y gar maen nhw, neu’r hamstring. A dyma be mae hwnnw’n edrych fel:
O dan y croen o leia, ac fel y gwelwch chi, mae’n gyhyr reit fawr. A phwysig. Mi dynnais i f’un i flynyddoedd yn ôl yn y coleg, pan es i o cartwheel i’r sblits mewn rhyw sioe, heb lanio ar fy nhraed cyn gneud y sblits. Ia, aw. A dwi’n cofio sut boen oedd o ers hynny. Felly pan ges i godwm ar fy meic ddydd Mawrth dwytha, a theimlo’r un rhwyg, ro’n i’n gwybod. Mynd lawr allt fwdlyd wnes i, a dychryn am eiliad o weld patshyn mawr o fwd – a brêcio. Dyyh. Wrth drio peidio mynd dros yr handlebars, mi deimlais i’r rhwygo mwya ofnadwy ma. Argol, roedd o’n brifo. Llwyddo i godi ar fy nhraed, yn trio canolbwyntio ar anadlu’n gall drwy’r boen. Mynd rhai camau gan wthio’r beic a sylweddoli mod i’n teimlo’n sal, isio chwydu, a mod i’n gweld sêr… peth nesa, ddois i ataf fy hun ar y llawr oer, tamp efo’r beic ar fy nghhoesau. Ro’n i wedi llewygu! Dwi’m wedi llewygu ers …. ers priodas Rhian Clwyd yn Kinmel Manor pan gaeodd ffenest fel guillotine ar fy mysedd i. A ble roedd Del, fy unig gwmni? Yn sbio ar wiwer …
Nes i lwyddo i gyrraedd adre rhywsut , yn oer, oer ac yn crynu. Tynnu fy nhrowsus mwdlyd oedd y darn mwya poenus!
Ta waeth, ro’n i’n gwybod nad oes dim fedar Dr yn ei neud, na physio chwaith; rhew, ‘elevation’ a a compression ydi’r ateb. Felly ers bron i wythnos, dwi wedi bod fel morfil ar y soffa yn clymu ice-packs ar gefn fy nghoes. Ac mae’n dal i frifo! Dwi’n mynd at y physio fory jest rhag ofn … i neud yn siw mod i’n gneud y pethe iawn. Dwi di bod yn trio stwytho chydig arni, ond dwi jest isio sicrhau fy hun mod i’m yn gneud drwg iddi.
Mae rhai pobl yn cleisio’n arw fel hyn:
Ond clais go ddu dan foch fy mhen ôl sydd gen i a chewch chi’m llun o hwnnw! Mi fyddai allan ohoni am 6 wythnos o leia, waaaaa!
Dim mynd ar y beic eto am sbel ( Del druan, mae’r ddwy ohonon ni’n pesgi, bobol bach) a dim garddio yn sicr! Do’n i’m wedi sylweddoli faint mae rhywun yn defnyddio ar y cyhyr yna i chwynnu, tynnu, palu, ayyb. Felly dyna fy esgus i dros stâd yr ardd ar hyn o bryd, iawn?
O ia, un llun arall: Mae’r pryfed yma wedi bod yn crwydro o gwmpas y ty ers sbel, a do’n i methu dallt be oedden nhw, felly es i ar wefan NaturePlus i ofyn i’r arbenigwyr. ‘Wasp beetle’ ydi o – nid yn pigo na dim byd felly ac mae’n siwr bod wyau wedi deor yn y coed tân dwi’n ei sychu ar gyfer y llosgwr coed. Ond dywedodd un boi y gallan nhw ddodwy mewn distiau derw – ac y dylwn i gadw golwg! “The adults are pretty harmless its the Larvae that cause damage. Best check your beams for exit holes.”
AAAAA! Di’m yn dda ma …
Wps – bron anghofio – mae ‘na un neges hapusach – ffigyrau gwylio rhaglen Dolig Byw yn yr Ardd yn dda! Dim ond Pobol y Cwm a Dechrau Canu gurodd ni!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Beddgelert, bore hole, colofnwyr, Daily Post, Dinas Emrys, dwr glan, llwch, Llywelyn Fawr, Rhosgadfan, tyllu, y ddraig goch, y Lôn Wen, yr herald
Dyma i chi liwiau difyr ynde? Ro’n i wedi mynd â chamera efo fi, ond roedd y crinc yn gwrthod gweithio felly bu’n rhaid troi at yr iphone ac ew, mi ges fy synnu. I fyny ar ben Dinas Emrys rydan ni fan hyn, nid nepell o Feddgelert. Mae ‘na hen, hen gaer yno, ac olion castell Llywelyn Fawr, a fan hyn mae’r chwedl am y ddraig goch a’r ddraig wen yn brwydro. Ro’n i wedi mynd yno efo colofnwyr eraill yr Herald ac mi fydd colofnau am y lle gynnon ni i gyd ddydd Mercher nesa ( ynghanol y Daily Post rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod).
Ta waeth, gawson ni dywydd perffaith yndo? A thywydd perffaith fu hi pan fues i’n ffilmio efo Russell wythnos dwytha hefyd.
Ar y Lôn Wen ydan ni, rhwng Rhosgadfan a Waunfawr, lle fuon ni’n arbrofi efo fformat newydd. Sef fi a fy fan a Del yn gyrru o gwmpas – a Russell efo ni. Credwch neu beidio, nes i adael i Russ yrru’r fan rhyw chydig. Hm. Nid yn syniad da. Ac roedden nhw isio i Del eistedd ar y sedd, ond dwi wedi ei dysgu i BEIDIO mynd ar y seddi! Felly pan driodd Russ ei chodi, doedd hi ddim yn hapus. Dwi’m yn meddwl y byddan nhw’n dangos be ddigwyddodd, er ei fod o ar gamera (!) ond rhowch o fel’ma … dyna’r tro cynta i mi weld fy ngast fach annwyl i’n brathu rhywun. Wel, doedd o’m yn frathiad yn gymaint â rhybudd …!
Felly do, dwi wedi bod yn crwydro yn ddiweddar, oedd yn braf, achos mae’r ty acw â golwg y diawl arno. Dwi wedi rhoi fyny brwsho a golchi’r llawr – am mai dyma’r llwch sy’n mynd i fod y tu allan i’r ty am sbel eto. maen nhw wedi bod yn tyllu drwy’r graig i wneud ‘bore hole’ i mi, a dyma’r peiriant:
Drilio drwy’r graig maen nhw yn yr un cynta, a sbiwch llwch llwyd, mân sy’n dod allan. Coblyn o graig galed yn ôl y boi. Gosod peipiau i mewn maen nhw’n yr ail.
A dyma i chi ymddygiad sydd wastad yn gneud i mi chwerthin: rhowch chi beiriant yn rhywle, ac mae na griw o ddynion yn siwr o ffurfio hanner cylch o’i gwmpas, yn gneud dim byd ond sbio.
Fy nhad a mrawd wedi dod i fusnesa. Wel, ar ôl cryn ddrilio, roedd y ty a’r coed i gyd yn llwch drostyn nhw, fel rhywbeth allan o’r lleuad. Sbiwch!
Ond do, diolch byth, fe ddaethon nhw o hyd i ddwr ar ôl 135 troedfedd, wedyn roedd y llwch a’r dwr yn cymysgu i wneud past sydd fel glud yn union ac sy’n mynnu glynu at eich sgidiau. Afiach. Ond mi neith ddiflannu ar ôl mwy o law, siawns.
Yn y cyfamser, doedd na’m digon o ddwr yn dod drwy’r graig felly maen nhw wedi drilio’n bellach i lawr i 380 tr fel bod gen i reservoir o ddwr yn y peipiau glas yna – 19 ohonyn nhw i lawr fanna mae’n debyg! Anodd dychmygu tydi? Ond mae angen gosod pwmp a chreu ffos i’r peipiau gysylltu efo’r ty rwan, felly mi fydd na gryn dipyn o faw a gwaith gneud paneidiau am sbel eto!
Pam ro’n i isio bore hole? Am mod i isio dwr glân, dyna pam! Roedd y dwr oedd yn dod o’r ffos yn fudur ac yn boen. Pam na fyswn i wedi gneud hyn o’r dechrau?!