Filed under: Heb Gategori
Wel, barodd yr heulwen ddim yn hir naddo? Mae hi’n tresio bwrw fan hyn, drapia.
O leia gawson ni gyfle i gael barbeciw teuluol dros wythnos yn ôl rwan – rhyw fath o ‘fyw yn yr ardd’ ynde? Dim ond mai gardd anferthol ydi hon – maes carafannau fy rhieni! Sy’n gyfleus iawn i’r rhan fwya ohonon ni.
Roedd Russell wedi rhoi llond bocs o lysiau wedi i mi roi lifft adre iddo rhyw ddiwrnod ynghynt, felly mi fues i’n brysur yn gwneud math o coleslaw efo’r foron piws a melyn o, a salad tatws efo’r tatws glas anhygoel ma!
Dyma luniau o Cerys Rhydydefaid a Meg fy nith yn eu sglaffio…
Ydyn , maen nhw’n wirioneddol las! Sy’n gwneud i lond sosban o datws stwmp edrych yn rhyfedd iawn.
Fymryn yn frau ydyn nhw, blas blawd, braidd, ond yn hwyl eu rhoi ar y bwrdd. Pawb mewn sioc i ddechrau, rhai yn nerfus … ond neb yn eu drwglecio nhw. Dim ond tatws ydyn nhw wedi’r cwbl!
Teulu ochr fy mam, sy’n un o ddeg o blant, ddaeth draw. Roedd rhai’n byw’n rhy bell wrth gwrs, ond daeth ambell un o Langernyw a Llanrug – sy’n ddigon pell!
O Frongoch y daeth Yncl Dewi – landiodd efo’r swydd o baratoi salad cyn i’r gweddill gyrraedd… ac yntau’n ffermwr – ond roedd o wrth ei fodd.
Dyma i chi un o’r byrddau yn
llawn sglaffwyrs…
A phan aeth hi’n dywyll, roedd y tân yn handi – ac yn wych am gadw’r gwybed draw.
Robin ydi hwn, wrth ei fodd ei fod wedi helpu i gynnau’r tân!
Roedd pawb wedi mwynhau’n arw; mae na rywbeth arbennig am gael bod allan yn yr awyr iach wedi’r cwbl, ac roedd hi’n gymaint haws cymdeithasu fel hyn na mewn rhyw westy fel y byddan ni’n arfer ei wenud o gwmpas y Flwyddyn Newydd. Felly o hyn allan, barbeciw amdani – gan weddio y bydd y tywydd yn glen efo ni ynde…
Filed under: Heb Gategori
Wel, mae’n braf gweld yr haul eto tydi? Mae’n braf gallu torri’r lawnt yn un peth. Do’n i byth adre pan roedd o’n ddigon sych i’w dorri felly roedd hi fel jyngl acw.
Lwc mul oedd hi ei bod hi’n braf pan fuon ni’n ffilmio’r sioe fach ar y patsh hefyd. Sbiwch ar y cymylau oedd yn gwibio tuag aton ni jest cyn amser cinio!
Mi fu’n tresio bwrw dros amser cinio a Russ druan yn poeni am yr holl gerbydau ar ei wair newydd – ond aeth popeth yn iawn diolch byth. Un fan hufen ia yn sownd am chydig ond fawr mwy na hynny.
Rydan ni wedi cael ymateb da i’r rhaglen, felly diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth. Pan mae rhai yn honni bod neb yn gwylio S4C, mae’n braf cael gwybod bod pobl yn ein gwylio wedi’r cwbl!
Dyna’r unig lun gymerais i mae arna i ofn – ro’n i braidd yn rhy brysur wedyn.
Ro’n i’n brysur yn Sioe Rhydymain ar ddydd Llun Gwyl y Banc hefyd, ond ges i lun neu ddau – a sbiwch ar hon! Os wnewch chi sbio’n ofalus ( neu glicio ar y llun ei hun – eith o’n fwy wedyn) gewch chi weld mai ‘Bethan Gwanas’ sydd ar ei het.
Ond Hannah Meirion ydi hi – gafodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth gwisg ffansi! A Del ydi’r ci…! Chafodd honno run wobr tro ma, doedd hi’m yn bihafio’n rhy dda, ond erbyn deall, mae hi newydd ddechrau cwna ac wastad yn ymddwyn yn od bryd hynny. A nacdw, dwi ddim yn bwriadu chwilio am gi iddi y tro yma. Flwyddyn nesa falle, gawn ni weld.
Mi wnes i roi cynnig ar arddangosiad blodau mewn esgid – a dyma’r ddwy i chi:
Ond ches i’m byd. Roedd y blodau wedi gwywo erbyn i’r beirniaid eu gweld – er gwaetha’r dwr yn yr oasis! A dim ond 3ydd efo fy jeli mintys tro ma! A dim byd am y dorth Weetabix ond doedd hi’m wedi coginio’n iawn yn y canol. O wel.
A wnes i’m gadael i Del gymryd rhan yn y ras gwn tro ma wedi iddi dorri’r rheolau a dal y gynffon llwynog tro dwytha.
Ond roedd hi’n Sioe llwyddiannus iawn fel arfer a diolch i bawb am ddod – a diolch yn arbennig i Rhys a Gwion o Traws am ein helpu i glirio’r byrddau wedyn! Mae’n fy mlino i mai’r un criw sy’n gorfod gwneud pob dim felly es i ar ôl y dynion yn crefu am help a nhw oedd y cyntaf i gamu i’r adwy. A llongyfarchiadau i Rhys am ennill ras y tadau hefyd ac i mrawd Geraint am ddod yn ail. Dwi’n siwr y byddai Alun Caecoch (Elidyr) wedi gallu eu curo ond roedd o newydd ei rhedeg efo’r hogia ifanc funudau ynghynt, ac mae o dros ei 50 rwan, chwarae teg.
Mi gewch chi hanes a lluniau parti ‘awyr agored’ teulu Frongoch tro nesa – pan fuon ni’n bwyta tatws glas Russell…