Filed under: Heb Gategori
Dwi’m yn rhy dda heddiw. Wedi gorfod gohirio diwrnod o ffilmio am mod i’n giami – a dydi hynna rioed wedi digwydd o’r blaen, i chi gael dallt! Dwi’m yn siwr be ydi/oedd o – unai mod i wedi bwyta rhywbeth oedd ddim fy hoffi i yng Nghaerdydd neu mod i wedi dal byg gan rywun, ond ro’n i’n swp sal yn trio gyrru adre ddoe. Bu’n rhaid stopio sawl tro rhag ofn i mi gael damwain. Ych a fi. Afiach, a dwi’n dal yn sigledig. A dwi i fyny’n hwyr am mod i wedi cysgu drwy hanner heddiw.
Ta waeth, dwi’n iawn i fedru sgwennu rhywfaint ac mae’n bryd blogio. Felly dyma i chi lun o griw hynod hwyliog o Lan Ffestiniog:
Wel, dydyn nhw ddim i gyd o Lan Ffestiniog, ond maen nhw’n cyfarfod yno 5 diwrnod yr wythnos i arddio. Gwilym ( 2il o’r dde) ydi’r bos ac mae’r gweddill yn gyfuniad o bobl sy’n ei gynorthwyo a phobl o’r ardal sydd ag anableddau dysgu o ryw fath. A nhw sydd wedi troi’r caeau ma yn ardd hyfryd, codi’r cloddiau a gwneud y fainc hyfryd rydan ni’n eistedd arni. Chwip o syniad ydi defnyddio’r darnau pren na felna y tu ôl iddi ynde?
Mi fues i’n helpu chydig arnyn nhw efo’r chwynnu, ond ro’n i’n fwy o hindrans na help efo’r basgedi crog dwi’n meddwl. Maen nhw’n gwerthu rhai ffantastic am ryw £23 os dach chi awydd un – os fydd na rai ar ôl wrth gwrs. Roedden nhw’n mynd fel slecs tra ro’n i yno.
A sbiwch siap da sydd ar eu lupins nhw: Mae’r malwod wedi sbydu fy rhai i ers llynedd, drapia nhw, felly dwi’n genfgennus iawn o unrhyw un sy’n gallu tyfu lupins fel rhain.
Gawson ni dipyn o hwyl yn ffilmio efo’r criw, fel mae’r llun yma’n ei brofi:
Roedd na lot o chwerthin a thynnu coes, ac mae Gwilym yn wych efo nhw. Yn amyneddgar ond yn awdurdodol hefyd – pa fo angen! A ges i lond gwlad o riwbob yn anrheg ganddyn nhw, cofiwch, ar yr amod mod i’n gneud cacen iddyn nhw. Ym, wel, mi wnes i crymbl ond mae o wedi mynd cyn i mi fedru picio yn ôl i Lan Ffestiniog. Tydw i’n ffilmio ar hyd a lled Cymru bron bob dydd! Ond dwi’n addo coginio eto ( efo riwbob fy mam) a galw heibio pan gai gyfle, cris croes tân poeth. Mi wnes i brynu chydig o blanhigion hefyd – yn rhesymol iawn – ac maen nhw’n ffynnu yma. Peidiwch a thrafferthu efo rhyw ganolfannau garddio drudfawr – gewch chi brisiau a safon tipyn gwell yn Llan!
A chroeso mawr hefyd … dwi wrth fy modd efo’r llun yma:
Ac yn edrych ymlaen yn arw at weld yr eitem!
Gyda llaw, os welsoch chi’r erthygl yn y Daily Post ddydd Sadwrn dwytha, roedd na gamgymeriadau ynddo fo: es i ddim â Del efo fi i erddi Dyffryn … a wnes i’m prynu dim yn y siop ym Modnant chwaith – roedd planhigion Llan ffestiniog yn apelio’n fwy!
Filed under: Heb Gategori
Ia, fy ngwyneb i ydi hwnna. Dyna ddigwyddodd i mi pan es i draw i Benfro wythnos dwytha. Pethe peryg ydi’r criw Wes-wes ‘na. Ond wyddoch chi be? Dwi’n eitha licio fo. Cuddio lot o bechodau! Yng Nghastell Henllys o’n i, hen bentre o Oes yr haearn, lle mae’r Parc Cenedlaethol wedi bod yn brysur yn eil greu yr hen dai crwn – a gardd berlysiau. Mae’n wirioneddol ddifyr yno, ac mae’r rheolwr, Rhonwen Owen, i’w chanmol am wneud cystal job o’r lle. A’r paentio! Ia, hi nath y gwaith artistig, a dyma hi yn ei gwisg Oes Haearn.
Diolch Rhonwen – nes i fwynhau’n arw, ac mae’r lafant gwyn brynais i yn y siop yn tyfu’n dda.
Y diwrnod blaenorol, ro’n i adre yn Ffrwd y Gwyllt, yn cael blas o gelf amgylcheddol. be di hwnnw meddech chi? Wel, gneud celf efo’r hyn sydd o’n cwmpas chi, tu allan. Dydi o’m fel arfer yn gelf sy’n para ac ro’n i’n gweld hynny’n od. Gweithio’n galed ar rywbeth dim ond i’w weld o’n malu, marw neu wywo. Ond dyna ydi cymaint o arddio ynde!
Dyma Rowenna Williams, a’i mab Derwyn, y ddau o’r Bala, dim ond i fyny’r ffordd, ond doedden ni rioed wedi cyfarfod o’r blaen.
Roedden nhw wedi dod a bamboo efo nhw ac, wedi cael rhyw syniad o sut berson ydw i, wedi cael syniad golew o sut siap fyddai’r ‘cerflun’ yn ei gymryd. Siap fel hyn:
Rhyw fath o don, i dawelu fy mywyd hectig i!
Gewch chi weld gweddill y broses pan fydd yr eitem yn cael ei darlledu, ond ew, mi wnes i fwynhau. Roedd o fel bod yn blentyn eto, yn gneud den a’i addurno efo fy hoff bethau i, fel cerrig a chregyn ac ati. Ond yn yr achos yma, rhyw greiriau oedd o gwmpas yr ardd oedden nhw. Yr hen ferfa ( oedd wedi malu ers talwm) a rhyw ddarnau o lestri dwi wedi eu darganfod wrth balu yma. Mi wnaethon ni redeg allan o amser yn y diwedd, ond dyma Rowenna a Derwyn o flaen y canlyniad:
A dyma fo eto fymryn yn agosach. Dwi’n gwybod na fydd o at ddant pawb – ond dwi licio fo!
Filed under: Heb Gategori
Dwi’n meddwl ei bod hi’n bryd i mi ddangos sut mae pethau’n siapio acw rwan.
Wel, mae’r pwll yn ffynnu ac yn edrych yn hyfryd, er fod na chydig o’r hen algae na ynddo fo eto. Ond dwi’m wedi gadael i’r dwr redeg llawer yn ddiweddar: a) oherwydd bod y penbyliaid yn mynd i lawr efo’r lli, b) does gen i’m llawer o ddwr yma ac yn gweddio am law … a llwyth ohono fo!
Dwi wedi prynu cerflun bach i fynd ar ben y pistyll hefyd – ond ei brynu dros y we wnes i ac mae o chydig yn llai nag o’n i wedi’i ddisgwyl. O wel. Dwi’n hoff iawn o sgwarnogod dach chi’n gweld, ac er fod yn well gen i bethau mwy realistig fel arfer, mi gydiodd y ‘thinking hare’ ma yn fy nychymyg i … Mae ‘na sgwarnogod mwy ar gael ond mae’n nhw’n blincin drud!
Dwi wedi bod yn plannu blodau i gael mwy o liw, ond, wedi cael fy ysbrydoli gan y pethau bach difyr dwi wedi eu gweld mewn gerddi eraill ( fel un Bronwen Dorling yn Arthog, ac un Hilary Nurse y tu ôl i mi) , dwi wedi bod yn gwario ar bethau eraill hefyd, fel hwn sydd ar y bwa:
Mae’n gneud swn tincial hyfryd yn y gwynt, ac yn edrych yn ddel nes bydd y trachelospermum jasminoides ges i gan Carol Gerecke wedi tyfu drosto fo. Araf iawn mae hwnnw’n tyfu ar hyn o bryd – er mod i’n ei ddyfrio a’i fwydo’n gyson. Ond gesiwch be sydd wedi ail ddechrau tyfu? Ia, yr hollboellia coriecia sydd wrth ei ochr – oedd yn edrych yn fflatnar ar ôl y gaeaf. Dwi’n byw mewn gobaith …
Brynes i hwn hefyd: Nyth ydi hwnna ar y top ond dwi’m yn gweld unrhyw dderyn yn symud i mewn onibai ei fod yn gwerthfawrogi swn y darnau bamboo oddi tano. Ond dwi wrth fy modd efo’r swn wrth gwrs. Swn hamddenol, sy’n cario ar y gwynt.
A dyma’r sied:
Er gwaetha’r llygod dros y gaeaf, mae’r mefus yn gwneud yn champion – hyd yma, ac mae na ditw tomos las wedi symud mewn i’r bocs adar na. O, a’r basgedi ben i lawr? Hyll ydyn nhw ynde? Dwi’m yn impressed iawn efo nhw hyd yma ( dim ond dwy rois i i fyny) – mae’r dwr yn diferu i lawr y planhigyn ac yn gneud dim lles o gwbl. Ond dwi wedi penderfynu peidio a llenwi’r peth dwr i’r top bob tro wedyn maen nhw’n edrych yn llawer gwell ac yn dechrau tyfu yn hytrach na chrino fel roedden nhw’n gneud i ddechre. Ond os fydd y tomatos yn troi’n goch, mi fwyta i fy het. A dim ond un sydd ar y fasged yma hyd yma! O leia mae na ryw bedwar blodyn ar y llall.
O, ac mi fu Meg a Robin yn fy helpu y diwrnod o’r blaen: Hel compost o’r bin i mi gael plannu delphiniums brynes i’n y co-op. Fy helpu i glirio lle i’w plannu ac ati, a dyfrio wedyn. Ond y noson honno, pan es i allan ar sgowt am falwod efo fy fflachlamp – roedd y planhigyn wedi diflannu! Dim byd ond twll tywyll! Sgen i’m syniad be ddigwyddodd, onibai fod na lygod wedi dod i fusnesa yn y compost a Del wedi carlamu ar eu holau gan chwalu’r delphinium druan yn y broses. Ond roedd y planhigion o’i gwmpas yn berffaith iawn. Unrhyw syniadau?!
Filed under: Heb Gategori
Mi fydd nifer ohonoch chi’n nabod yr olygfa yma; ia, o’r bont yng ngwaelodion Gardd Bodnant ( dydach chi’m i fod i’w galw yn ‘Erddi’ Bodnant bellach). Mi fuon ni’n ffilmio yno’n ddiweddar, ynghanol cantamil o ymwelwyr eraill. Mae’r ardd ar ei gorau ar hyn o bryd, yr azaleas yn danbaid fel y gwelwch chi, a’r goeden fflamgoch hon yn anhygoel:
Dwi’m yn cofio ei henw hi rwan, rwbath efo Chile yn yr enw, ac mae’n edrych hyd yn oed yn fwy trawiadol am fod na rododendrons ac azaleas oren, coch a phinc o’i chwmpas. Dwi ddim eto wedi gallu meistroli’r grefft o blannu pethau sy’n ‘mynd’ efo’i gilydd. Mae angen amser ac amynedd i wneud hynny, a does gen i fawr o’r ddau. Ond dwi awydd prynu mwy o azaleas lliwgar rwan – pan gai gyfle! Ond seren Bodnant ar hyn o bryd ydi’r tresi aur – y laburnum. Dyma un llun ohono i chi – pan doedd y lle ddim yn berwi efo pobl:
Mae o’n fendigedig tydi? Ac ro’n i yno efo rhywun sydd wedi tyfu ei dresi aur ei hun – yn Llangaffo o bob man. Elfed Williams ydi’r garddwr; mi fu Sioned yn ei ardd o llynedd, ac mi fues inna ym Modnant efo fo i weld lliwiau’r hydref llynedd – ond welwch chi mo’r eitem honno tro ma mae arna i ofn. Ta waeth, es inna draw i weld ei dresi aur o, sydd dipyn llai na Bodnant, ond dim ond 10 oed ydi’r bwa yma chwarae teg, ac mae un Bodnant yno ers yr 1880!
Mi welwch chi fwa Elfed ar y rhaglen toc, ond yn y cyfamser, dyma flas ohoni i chi: Ac Elfed ydi’r dyn balch oddi tani.
Y diwrnod wedyn, ro’n i yng nghyffiniau Caerdydd (ddeudis i mod i’n brysur yndo) yng Ngerddi Dyffryn. Yn anffodus, doedd y tywydd ddim cystal, ond mi wnes i fwynhau fy hun yn arw efo Carys Whelan, a dyma hi wrth y wisteria:
Mae gerddi Dyffryn yn wahanol iawn i Bodnant – llawer mwy o le i blant grwydro, a sbiwch – maen nhw’n caniatau cwn! Ar dennyn.
Yn bersonol, mi fyswn i’n mynd i weld llawer iawn mwy o erddi cyhoeddus tasen nhw’n rhannu’r un weledigaeth â Dyffryn. Marciau llawn i Dyffryn am ganiatau cwn! Ac am adael i chi fwyta eich picnics eich hun ar y lawnt os dach chi isio. Dyw Bodnant ddim yn caniatau hynny … Mi gewch chi weld cryn dipyn o erddi Dyffryn yn y rhaglen ( dim clem pryd fydd hynny sori) ond dyma i chi flas bach i aros pryd:
A choeden Jiwdas ydi honna meddai Carys. Enw anffodus, ond coeden ddel iawn!