Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Byw yn yr Ardd, cymry, Del, dyffryn nantlle, ennill, felly, garddio, Juno, llysiau, Olga, radio Cymru, Sioe Rhydymain, Thorne, Thornton, tips, Tyfu Pobl, Wrecsam
Rhag ofn eich bod chi’n poeni ble mae Byw yn yr Ardd wedi mynd, mae’r enw wedi newid. Tyfu pobl fydd enw’r gyfres yma, ac mi fydd gwybodaeth amdani yn eich papurau lleol yn fuan, gobeithio. Roedd na rywbeth ar Radio Cymru hefyd, ond glywes i mono fo. Mi fedrai wastad ‘wrando eto’ mae’n siwr. Da ydi technoleg ynde? Heblaw am y dechnoleg ar y wefan yma, neu fy ipad i. Dyna un rheswm pam nad ydw i wedi bod yn blogio llawer yn ddiweddar – mae’n ormod o gybol! Methu cywiro fy hun heb fynd rownd y byd a chychwyn eto, ac mae’r cursor am ryw reswm yn y man gwbl anghywir felly dwi methu gweld be dwi’n depio! Aaaaa!
Nes i roi’r ffidil yn y to ar ol sgwennu hynna pnawn ma, ac mae’n bihafio’n well heno, diolch byth.
Reit, ble ro’n i? O ia. Tyfu pobl. Pan welwch chi’r gyfres mi fydd yn gneud mwy o synnwyr. A peidiwch a phoeni, mi gewch chi dips tyfu yr un fath- wel, tyfu llysiau o leia. Weles i’r rhaglen gynta wythnos dwytha ac mae’n edrych reit dda! Mae’r bosys yn hapus hefyd, felly ( yn dibynnu ar y ffigyrau gwylio am wn i), bosib y bydd na Dyfu Pobl o ardal wahanol flwyddyn nesa. Gawn ni weld pa mor blwyfol ydi’r Cymry. Ydi rhywun o Abertawe/ Machynlleth/Wrecsam yn mynd i fod a diddordeb mewn pobl o Ddyffryn Nantlle? Difyr fydd gweld.
Ond welwch chi fawr o ngardd i, felly dyma ambell lun!
A dyma lle bu coeden Dolig fechan wnes i ei phlannu ryw ddeg mlynedd yn ol, dyfodd i fod yn anghenfil – sitka spruce oedd hi os cofia i’n iawn. Blwmin pigog beth bynnag! Ond rwan, diolch i hen gyfaill a’i fwyell, mae hi wedi mynd, a’r dderwen fach yma’n cael llonydd i dyfu yn lle.
A dyma luniau o Sioe Rhydymain a’r cylch. Nid fy llysiau i oedd rhain, ond Crispin a Karen, dau ddysgwr lleol. Chawson nhw’m cynta chwaith, ond mae nhw’n ddel tydyn?
Ond fi nath y chytni yma – efo afalau o’r ardd (mae gen i gannoedd) a nionod coch (siop – dwi’n cael dim hwyl ar dyfu nionod) a ges i 3ydd, cofiwch. Haeddu cynta os dach chi’n gofyn i mi, ond dyna fo…
A dyma fy ffrind Olga, a’i dalmatian, Juno. Doedd hi’m wedi meddwl cystadlu, ond nes i fynnu ac mi enillodd ddosbarth y ci mawr! Ro’n i wedi gadael Del druan adre…
A cwpwl o luniau eraill dwi’n eitha balch ohonyn nhw:
Ac yn olaf, Del efo’i ffrind newydd Thor, neu Thorne neu Thornton. Ddim yn siwr iawn pa un sy’n gywir bellach. Ffrindiau wedi ei fabwysiadu a ddim yn rhy hoff o’r enw Thorne. O’n i’n meddwl sa Sion yn swnio’n debyg i Thorne i glustiau ci ond dyna fo. Doedd Del ddim yn rhy hoff ohono fo i gychwyn ( mae o dwtsh yn fawr a thrwm a thrwsgl…) ond maen nhw’n gneud yn iawn rwan a’i chynffon yn troi fel hofrennydd pan mae’n ei weld. Diolch byth!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Blodau haul coch, Chwilog, ennill, fframiau, goffa, gwenyn, gwobr, hoelen, king prawns, llyn, nofel, patsh, planhigion, pwll, sgwennu, T Llew Jones
Meddwl y byswn i’n rhannu llun o griw o bobol neis iawn efo chi:
Cymysgedd ydyn nhw o aelodau o bwyllgor Cronfa Goffa T llew Jones, trefnydd cystadleuaeth i gael mwy o lyfrau i blant 8-12, ac un o’r beirniaid. Pobol annwyl, clen a hynod glyfar, achos fi enillodd! Sgwennu pennod gyntaf nofel ac amlinelliad o weddill y llyfr oedd y dasg, a hynny dan ffug enw. Felly dim ffafriaeth! Ond myn coblyn, erbyn dallt, roedd y ddynes dal, smart na efo’r blodyn a’i gwr yn rieni i Rhun, cariad fy ffrind Cheryl – yr un fu’n gofalu am y gwaith sain pan wnes i’r ddwy raglen yn Nigeria ‘Gwanas i Gbara.’ Dwi’n son amdani yn fy hunangofiant.
Ydi, mae’r byd ma’n fach.
Beth bynnag, mi rydw i’n hynod hynod hapus mod i wedi fy newis. Braf ydi ennill rhywbeth – dwi’m wedi ennill unrhyw beth ers blynyddoedd…( ciw feiolins).
Nes i ddathlu? Wel do, es i heibio ffrind sy’n byw yn Chwilog – lle ges i’r wobr, paned efo hi a rhoi planhigion o’r pwll iddi am eu bod yn mygu fy mhwll i ac mae ganddi hi anferth o lyn sydd angen planhigion bach del. Dim lluniau sori – tro nesa. Mi gafodd dy gwydr yn anrheg Dolig gan ei gwr, a nefi, am un da! Os fydd BYYA yn mynd yn ol i’r hen drefn mi fysa’n dda ei ddangos i chi. A’r patsh llysiau. Newydd ddechrau garddio mae hi, ond ew, bysedd gwyrddion! A ges i blanhigion ganddi – blodau’r haul coch. Ia, coch. Gewch chi lun o’r rheiny pan dyfan nhw. A rhyw flodau bach melyn ar gyfer rockery. Wedi bod yn eu plannu bore ma.
O, ac i ddathlu mwy es i heibio siop fawr yn Port a phrynu king prawns bendigedig i mi fy hun. Iym.
Ond heddiw, nol at the day job, sgwennu a sgwennu – a gofalu am y gwenyn. Dyma un o’r tasgau: gwneud mwy o fframiau i ddal y mel. Ond fel y gwelwch chi o siap yr hoelen na, dwi’m yn rhy dda am y job.
Dwi’n defnyddio’r teclyn glas na sy’n gwthio hoelion i mewn i’r pren dach chi’n gweld. Haws na morthwl i fod… Mae’n rhaid eu gosod jest lle mae’r weiars na’n cyfarfod mewn V o dan y pren tenau na – i gadw’r ffram rhag chwalu. Haws deud na gneud.
Ac weithiau, os nad ydach chi’n canolbwyntio, dach chi’n rhoi hoelen yn y teclyn heb gofio bod un ynddo’n barod ac wedyn mae hyn yn digwydd.
O wel, dwi’n gwella.
Bu Carys acw yn fy helpu i wahanu a chael trefn ar y cychod
A dyma hi yn Nolgamedd, lle mae fy rhieni’n byw. Mae brenhines y cwch flin yn fanna rwan a’r hanner cwch sydd ar ol yn prysur fagu brenhines newydd. Ac wyddoch chi be, o’u gwahanu felna, mae’r 2 gwch yn llawer cleniach! Hyd yma o leia …