Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Annie Meirion, blodau, Caio, dywediad, fysa, ipad, Nain, pinc, traed bach, Traed mawr, wele
Fy nain ydi hon, Annie Meirion Evans, fu farw fore Sul. Ei gor- or wyres, Cadi Fflur sy’n ei breichiau, ond mae honno’n 5 neu 6 rwan, a chanddi frawd bach, Caio. Ac mae na un arall yn cyrraedd wythnos nesa.
Ond chaiff Nain mo’i weld o neu hi rwan, bechod. Mae na ddywediad mae’n debyg, am draed mawr yn symud ar gyfer traed bach. Rhywbeth fel yna, rhowch wybod os ydach chi’n gallu rhoi’r dywediad yn gywir i mi. Rhywbeth am rywun hen yn ein gadael, a bywyd bach newydd yn cyrraedd.
Beth bynnag, roedd Nain yn hoffi iawn o flodau, yn enwedig rhai pinc. Ond roedd hi’n credu’n gryf bod rhai gwyn yn anlwcus yn y ty. Hen goel bod rhywun yn mynd i farw, am wn i.
Mi fysa hi wrth ei bodd efo’r blodau sydd wedi agor yn fy ngardd i yn sgil y tywydd braf yma. Dyma i chi gwpwl o luniau os wnaiff y bali WordPress ma fihafio …
Ac mae’r lluniau hynny newydd fynd i dop y bali blog rwan yndo. Iechyd, mae isio amynedd.
Efallai mai’r ipad ydi o. Ddim yn gallu gweithio’n iawn pan mae hi’n boeth.
Ta waeth, wele lun o fadarch brynes i, a fanna dwi wedi penderfynu ei roi o. Peidiwch a chymryd sylw o’r beipen werdd, di mond yna oherwydd y diffyg glaw dros dro.
A rwan dwi’n gweld bod ambell llun wedi penderfynu ymddangos ddwywaith… aaaaa!
Dwi byth wedi llwytho lluniau gardd Debbie ac Eifion chwaith. Maen nhw mewn rhyw gamera arall yn rhywle. A fory, rydan ni’nmynd yn ol i ffilmio yno! Wps… Gewch chi’r before & after yr un pryd…
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cymysgu, defaid, di-Gymraeg, dim diddordeb, dyffryn nantlle, ffens, Fy mlodau, gwenyn mêl, gwenyn meirch, lluniau, miniog, polytunnel, Pryfed genwair, Rachub, stici, stwff, Talysarn, twll, Urdd, veil, wasps, wyneb, Ysgol Tal y Sarn
Dwi newydd fod yn torri’r lawnt gan fod y criw ffilmio’n dod draw pnawn fory. Dim clem os fyddan nhw isio ffilmio’r ardd, ond gwell gneud rhag ofn. os dwi’n cofio’n iawn, dim ond isio ngweld i’n gadael y ty a gyrru i ffwrdd am Ddyffryn Nantlle maen nhw. Ond mi fysa’n bechod peidio dangos fy mlodau hyfryd yn bysa! Rhoswch funud, ai i’r ardd rwan i gymryd llun – yn sydyn er mwyn osgoi’r bali gwybed. Mi fues i’n gwisgo siaced efo veil i dorri’r gwair!
Do, aeth hi’n luniau yn hytrach na llun. A ges i mhigo ar fy wyneb, damia.
Mwy o luniau rwan, gan i mi gael rhai reit dda wrth helpu plant, rhieni a staff Ysgol Talysarn (neu ai Tal y Sarn ydi o fod?) i roi plastig dros eu polytunnel/poiltwnel/twnel poli ddoe. Ew, criw da! A rhyfedd sylwi mai’r rhieni di-Gymraeg (ar y cyfan) oedd wedi dod i helpu. Y Cymry’n rhy brysur? Neu jest a dim diddordeb mewn garddio? Ond bosib bod na adran yr Urdd neu bractis cor neu rywbeth… Ta waeth, wele luniau:<a
Ond mae WordPress yn dal i chwarae’n wirion! Wedi newid trefn y lluniau, ac roedd na 3 o’r llun ola na o Gethin bach a Gethin mawr yn cloddio – ac achub pryfed genwair. Un ddylai fod yna bellach.
Ond ia, dyna sut mae rhoi plastig am dwnel- creu ffos go ddwfn i gladdu’r plastig ynddo yn ddiogel. A bod yn ofalus efo’r plastig a pheidio a cerdded drosto fo pan mae o ar y llawr! A rhoi stwff stici fel cwshin dros y darnau miniog allai dorri’r plastig dros amser.
Siawns na chawn nhw well lwc efo’r ardd rwan. Roedd hi’n dod yn dda nes i ddefaid ddod o hyd i dwll mewn ffens!
O ia, ges i SOS gan Selwyn Jones o Rachub yn meddwl bod na wenyn mel wedi nythu yn ei focs adar. Ym… Swnio braidd yn fach i wenyn mel… Nes i ofyn os oedd o’n siwr mai gwenyn mel oedden nhw, nid gwenyn meirch (wasps). A phan ddeudodd o bod na stwff llwydaidd i’w weld- gwenyn meirch, garantid. Felly aeth i siop ym Mangor i brynu stwff lladd “wasps” am £1.98 a dyna ddiwedd y broblem. Lot fawr o bobol yn cymysgu rhyngddyn nhw does?
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Blodau haul coch, Chwilog, ennill, fframiau, goffa, gwenyn, gwobr, hoelen, king prawns, llyn, nofel, patsh, planhigion, pwll, sgwennu, T Llew Jones
Meddwl y byswn i’n rhannu llun o griw o bobol neis iawn efo chi:
Cymysgedd ydyn nhw o aelodau o bwyllgor Cronfa Goffa T llew Jones, trefnydd cystadleuaeth i gael mwy o lyfrau i blant 8-12, ac un o’r beirniaid. Pobol annwyl, clen a hynod glyfar, achos fi enillodd! Sgwennu pennod gyntaf nofel ac amlinelliad o weddill y llyfr oedd y dasg, a hynny dan ffug enw. Felly dim ffafriaeth! Ond myn coblyn, erbyn dallt, roedd y ddynes dal, smart na efo’r blodyn a’i gwr yn rieni i Rhun, cariad fy ffrind Cheryl – yr un fu’n gofalu am y gwaith sain pan wnes i’r ddwy raglen yn Nigeria ‘Gwanas i Gbara.’ Dwi’n son amdani yn fy hunangofiant.
Ydi, mae’r byd ma’n fach.
Beth bynnag, mi rydw i’n hynod hynod hapus mod i wedi fy newis. Braf ydi ennill rhywbeth – dwi’m wedi ennill unrhyw beth ers blynyddoedd…( ciw feiolins).
Nes i ddathlu? Wel do, es i heibio ffrind sy’n byw yn Chwilog – lle ges i’r wobr, paned efo hi a rhoi planhigion o’r pwll iddi am eu bod yn mygu fy mhwll i ac mae ganddi hi anferth o lyn sydd angen planhigion bach del. Dim lluniau sori – tro nesa. Mi gafodd dy gwydr yn anrheg Dolig gan ei gwr, a nefi, am un da! Os fydd BYYA yn mynd yn ol i’r hen drefn mi fysa’n dda ei ddangos i chi. A’r patsh llysiau. Newydd ddechrau garddio mae hi, ond ew, bysedd gwyrddion! A ges i blanhigion ganddi – blodau’r haul coch. Ia, coch. Gewch chi lun o’r rheiny pan dyfan nhw. A rhyw flodau bach melyn ar gyfer rockery. Wedi bod yn eu plannu bore ma.
O, ac i ddathlu mwy es i heibio siop fawr yn Port a phrynu king prawns bendigedig i mi fy hun. Iym.
Ond heddiw, nol at the day job, sgwennu a sgwennu – a gofalu am y gwenyn. Dyma un o’r tasgau: gwneud mwy o fframiau i ddal y mel. Ond fel y gwelwch chi o siap yr hoelen na, dwi’m yn rhy dda am y job.
Dwi’n defnyddio’r teclyn glas na sy’n gwthio hoelion i mewn i’r pren dach chi’n gweld. Haws na morthwl i fod… Mae’n rhaid eu gosod jest lle mae’r weiars na’n cyfarfod mewn V o dan y pren tenau na – i gadw’r ffram rhag chwalu. Haws deud na gneud.
Ac weithiau, os nad ydach chi’n canolbwyntio, dach chi’n rhoi hoelen yn y teclyn heb gofio bod un ynddo’n barod ac wedyn mae hyn yn digwydd.
O wel, dwi’n gwella.
Bu Carys acw yn fy helpu i wahanu a chael trefn ar y cychod
A dyma hi yn Nolgamedd, lle mae fy rhieni’n byw. Mae brenhines y cwch flin yn fanna rwan a’r hanner cwch sydd ar ol yn prysur fagu brenhines newydd. Ac wyddoch chi be, o’u gwahanu felna, mae’r 2 gwch yn llawer cleniach! Hyd yma o leia …
Wedi gweithio’n galed i gael y lle’n smart ar gyferr ymweliad Merched y Wawr Maesywaen…
A dyma nhw, wedi eu plesio a Del wrth ei bodd yn cael sylw!
Filed under: Heb Gategori
Mi wnes i gyhoeddi hwnna cyn cinio, wedyn mi ddiflannodd. Wedi trio eto. A rwan dwi’n mynd i roi mhen yn y rhewgell.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Bala, Bryngwern, cacennau, Dolgellau, Eisteddfod Meirion 2014, gardd ar agor, gemau, Gorffennaf, Hilary, NGS, rasys, Rhydymain
Ydach chi’n cofio ni’n mynd i ardd Bryngwern, jest y tu ôl i mi ( led cae neu ddau) dair blynedd yn ôl? Fel hyn oedd o’n edrych bryd hynny:
Mae’n ran o gynllun yr NGS, ond pan oedd o ar agor yn swyddogol yn gynharach eleni, mi fu’n tresio bwrw, bechod. Ond na phoener! Fel rhan o syniadau Rhydymain i godi pres at Eisteddfod Meirion 2014, mi fydd ar agor eto rhwng 2 a 5 y pnawn ar bnawn Sul, Gorffennaf y 7fed. Mynediad yn £3 i oedolion ond mae plant yn cael dod mewn am ddim – dim ond y bydd ‘na gemau fydd yn 50c y tro … a rasys rhedeg ac ati yn y cae cyfagos.
Te a sgons arbennig Hilary, y perchennog ar gael hefyd ( dyma hi fan hyn, efo ci bach sydd ddim efo ni bellach yn anffodus, mae ei fedd yn yr ardd, ond mae hi wedi cael ci bach arall, Ozzy sydd bron yr un sbit).
Ac mi fydd stondin gacennau hefyd, cacennau wedi eu gwneud gan gogyddesau dawnus y fro. A fi. ha.
Os dach chi am ddod, mi fydd ‘na arwyddion ar y ffordd rhwng Bala a Dolgellau ( A494). Mae’n agos at Rhydymain, ond os dach chi’n pasio Bontnewydd o gyfeiriad y Bala ( a Rhydymain o gyfeiriad Dolgellau), dach chi wedi mynd yn rhy bell.
Ac mae’r ardd yn edrych yn anhygoel eleni, ac erbyn Gorffennaf mi fydd y clematis ac ati i gyd allan. Dewch yn llu!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Byw yn yr Ardd, Del, ffrwd y gwyllt, instagram, Jac a Tesni, Meg, mentro, Sioned, Wordpress
Mentro i flogio dwi’n ei feddwl. Mae angen amynedd Job i wneud hynny efo WordPress y dyddie yma. Dwi’n meddwl mai isio pres gen i i gael fersiwn gwell maen nhw. Ond gawn nhw fynd i ganu! Onibai fod Byw yn yr Ardd yn fodlon talu, wrth gwrs … mae’r ceinioge’n brin yn Ffrwd y Gwyllt a dyna fo.
Yn y cyfamser, rhegi a gwylltio wrth lwytho lluniau a thrio rhwystro’r hyn dwi’n ei sgwennu rhag diflannu fydd hi.
Yn gynta, dyma i chi rai lluniau dwi wedi eu cymryd efo’r ipad drwy’r app instagram. Hoffi rhain, rhai i mi ddeud.
Ond mae llwytho’r rheina’n cymryd drwy’r nos. Asiffeta, mae isio gras.Iawn, driwn ni lun gymerwyd bore ma ta, o Meg fy nith a Del fy nghi yn y cae nid nepell o’r ty pan aethon ni am 8 milltir ar y beic bore ma. Dwy ddel, ylwch …
Mi fu Jac a Tesni, plant Sioned fy nghnither yma chydig ddyddiau’n ôl, ac mae’r ffrwd fel magned i blant yr oed yna:
Ond mae chwarae’n siwr o droi’n chwerw yn y diwedd, pan ti’n chwarae efo dwr, ac mi gafodd Tesni druan socsan…
Gwell oedd eu gyrru i rannau eraill o’r ardd i sychu:
Ydi, mae fy ngardd i’n nefoedd i blant! Ac i minna, rhaid i mi ddeud.
O, a mae na griw arall o Ferched y Wawr yn dod draw wythnos nesa. Felly dwi wedi bod yn chwynnu, bobol bach. Mae’n edrych yn dda yma!
Ac er mod i wedi pasa llwytho mwy o stwff am y cynllun yn Nyffryn Nantlle heddiw, mae gen i ofn colli hwn i gyd, felly dyna ni am y tro. Ffiw!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brifo, Byw yn yr Ardd, cysgu fel twrch, dyffryn nantlle, gordd, gwaith caled, Llanllyfni, palu, palu dwbl, Penygroes, rhaw
WEDI GWYLLTIO’N GANDRYLL AM FOD WORDPRESS YN DAL I CHWARAE SILI BYGYRS FELLY LLUNIAU A SGRIFEN AR WAHAN, IAWN!!!
Do, dwi wedi bod ar ei hôl hi efo’r blogio. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio, dyna pam!
Dwi wedi bod i fyny ac i lawr fel io-io i Ddyffryn Nantlle, gan mai dim ond yn yr ardal honno y bydda i a Russell yn ffilmio eleni. Dim ond 12 diwrnod ffilmio sydd wedi eu clustnodi i mi am y flwyddyn ( toriadau S4C yn taro rhai yn waeth na’i gilydd!) a dwi wedi gwneud 5 diwrnod o fewn cyfnod byr – mewn termau garddwriaethol.
A iechyd, rydan ni wedi bod yn gweithio’n galed. Ty Margaret ym Mhenygroes oedd yr un caleta – llond gardd o goncrit a cherrig oedd angen ei balu’n ddwbl. Roedd ein cefnau, ein dwylo, ein breichiau – bob dim yn sgrechian ar ôl hynna! A chwarae teg, er mai dim ond Russ, Craig, Margaret a fi welwch chi wrthi ( o, a mab Margaret weithiau ond doedd o’m yn teimlo’n rhy dda y diwrnod hwnnw, y creadur) ar y sgrin, roedd y criw i gyd yn palu mewn pan nad oedden nhw’n ffilmio – efo rhawiau, gordd, sgriwdreifar, y cwbl. Fydden ni byth wedi gorffen onibai. Diolch, hogia.
Oes, mae gan raglenni garddio dros y ffin fyddin o weithwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw, ond S4C dlawd ydi hyn, a does dim byddin, iawn! Mi gysgais i fel twrch meddw y noson gynta honno ar ôl slafio yng ngardd Margaret. Dim ond gobeithio y tyfith y llysiau yno, ddeuda i!
Gardd Lynwen yn Llanllyfni oedd hi wedyn – gardd dipyn llai a dipyn haws ei thrin, diolch byth, gan fod Lynwen eisoes wedi palu chydig arni dro’n ôl, ac roedd y pridd gymaint haws ei dorri a’i balu o’r herwydd. Ond roedd hi’n dal yn waith caled.
Diolch byth am help Llywela, merch Lynwen, oedd yn chwip o weithwraig er mai dim ond 4 oed ydi hi. Gawson ni lot fawr o hwyl efo hi, a dwi’n meddwl ei bod hithau wedi mwynhau hefyd. A synnwn i daten na fydd Lynwen yn chwip o arddwraig …
Drannoeth, gardd Debbie ac Eifion oedd dan sylw. OND GEWCH CHI’R HANES HWNNW TRO NESA ACHOS DWI DI LARU EFO WORDPRESS AM HEDDIW …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: beic tair olwyn, blodeuo, cennin pedr, chwaer, chwarae teg, dyffryn nantlle, feic, ffilmio, honesty, nith, pesgi, Rehoboth, uchelseinydd
Dwi wedi gwneud diwrnod o ffilmio o’r diwedd! Ddydd Gwener oedd hi, ym Mhenygroes, ac yn ardal Dyffryn Nantlle y bydd 6 rhaglen o’r gyfres nesa o Byw yn yr Ardd, sef y rhaglenni y bydda i a Russell yn eu gwneud. Mi wna i egluro pam mewn blog arall, ond yn y bôn, ceisio perswadio, annog a helpu pobl yr ardal i dyfu eu bwyd eu hunain fyddwn ni.
Mynd o gwmpas y dre yn cnocio drysau i weld pwy fyddai â diddordeb oedden ni. Yn anffodus, chydig iawn o bobl Penygroes oedd adre ar ddydd Gwener … ond mi ddaethon ni o hyd i rai, peidiwch a phoeni!
Ac os oeddech chi’n pasio drwy Benygroes ddydd Gwener, mae’n bosib y byddwch chi wedi gweld Russ ar feic tair olwyn a finnau’n eistedd yn gweiddi/gwichian/gwingo ar y cefn. Mi rois i gynnig ar bedlo’r beic hefyd, ond iechyd, roedd angen ymarfer. Dydi o’m byd tebyg i feic dwy olwyn a do’n i jest methu gneud i’r blwmin peth droi i’r chwith. Ond mae Russ wedi bod yn ymarfer ac yn mynd rêl boi arno. Chwarae teg, dim ond 3 gêr sydd ar y peth!
Wele lun ohonon ni ar ganol ffilmio – o, ac oedd, roedd gen i fegaffôn/uchelseinydd/ be bynnag dach chi’n eu galw nhw. Gewch chi weld pam pan gaiff y gyfres ei darlledu fis Medi.
Nefi, dwi newydd sylweddoli mod i wedi pesgi. Bydd raid torri’r carbs eto mwn. Ho hym.
A dyma i chi luniau o ngardd i heddiw:
Yr Honesty wedi tyfu dros nos, rhyw gennin pedr hwyr nad oes gen i syniad pam eu bod nhw gymaint hwyrach na’r lleill, a’r un ola ma – dim clem be di’r enw ond mae’n tyfu o wreiddiau mawr tew, digon hyll, yn cael blodau sydd fel madarch i gychwyn, wedyn yn blodeuo’n fawr ac yn binc a phan ddaw’r dail, mae’r rheiny bron fel riwbob. Rois i gwpwl o ddarnau o’r gwreiddiau i ferched Rehoboth. Difyr fyddai cael gwybod ymhen blwyddyn neu ddwy sut siap sydd arnyn nhw. Mynd i fynd a peth i fy chwaer a fy nith heddiw. Mae gan y nith ddwylo gwyrdd. Ddim yn siwr am y chwaer eto – dyddie cynnar …