Filed under: Heb Gategori | Tagiau: afalau, gormod, gwefan, sylwadau, Tyfu Pobl
Wedi meddwl cymryd llun y goeden hon ers tro. Mi wnai ei chodi pan gai afael ar ddyn mawr cry sy’n fodlon helpu. Mae hi’n drom!
Coeden afal Enlli ydi hi gyda llaw.
O, a gobeithio i chi fwynhau rhaglen gynta Tyfu pobl neithiwr. Falch iawn o unrhyw sylwadau, canmol neu beidio. Wastad angen gwybod be sy’n plesio neu’n gweithio – neu ddim!
Gwefan tyfupobl.com reit ddifyr hefyd.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: afalau, bumblebees, cachgibwm, cacwn, Coed camu-drosodd, gwenyn mêl, gwenyn meirch, popsox, wasps
Iawn, dwi wedi cael llond bol o bobol yn drysu rhwng gwenyn mêl, gwenyn meirch/cacwn a cachgibwms!
Dyma fy ngwenyn mêl Cymreig i yn yr ardd ddoe: bach, mwy du/brown na melyn a wnawn nhw mo’ch pigo chi onibai eu bod nhw’n meddwl eich bod chi’n ymosod ar eu cwch nhw ( neu’n eistedd arnyn nhw) – – un pigiaid gewch chi ac mi wnan nhw farw wedyn. Ond mae ‘na wahanol fathau sydd efallai fymryn mwy neu â mwy o felyn/aur.
A dyma wenyn meirch/cacwn/wasp sy’n fwy milain, yn niwsans pan fydd hufen iâ neu rywbeth melys o gwmpas lle ac yn gallu eich pigo fwy nag unwaith:Mae ‘na wahanol fathau o’r rhain ym Mhrydain hefyd, ond maen nhw wastad â streips melyn llachar.
A dyma’r cachgibwm/bumble bee:yn dewach, yn llawer mwy swnllyd ac yn flewog, ac yn anaml yn pigo. Dwi’m yn nabod neb sydd wedi cael eu pigo gan rhain, er fod y peth yn bosib os fydd rhywun yn gas efo nhw.
Iawn, ydi hynna’n glir rwan?!
Gyda llaw, i’r rhai sydd â diddordeb, mae fy ngwenyn yn dal yn fyw, dim golwg heidio ar neb eto, a dwi wedi rhoi’r gorau i roi siwgr iddyn nhw tra bydd y tywydd gwell yn para. Ac mae’r haid ges i dipyn mwy blin na’r rhai ges i gan Carys. Dwi’n gallu mynd drwy’r haid wreiddiol heb iddyn nhw styrbio o gwbl, ond mae’r haid ddiarth yn ddiawlied bach piwis! Efallai nad ydyn nhw wedi arfer efo rhywun yn eu trin nhw, dwn i’m – ond mi fydd raid iddyn nhw arfer fan hyn, mêt!
Mae na lawer ohonoch chi’n holi am y coed camu drosodd. Wel, mae gen i flodau hyfryd arnyn nhw’n barod, ond mi wnes i dynnu mymryn bach gormod ar un fel bod y ‘V’ wedi hollti fymryn. Wps. Ond dwi wedi lapio hen bopsox amdano ac mae’n edrych reit hapus. Ffiw.
O ran y coed afalau eraill, mae’r un Enlli’n mynd i roi ryw 6 afal i mi leni, ond mae’r hen, hen goeden afalau ( fymryn yn sur) yn drymlwythog a deud y lleia – pob cangen fel hyn:
Os oes rhywun isio gneud chytni afal, dewch draw. Gewch chi lwyth gen i cyn iddyn nhw ddenu’r gwenyn meirch/cacwn.
Mae’r malwod wedi chwalu fy llysiau eto eleni. Coblyn o job ydi trio bod yn organig. Dwi wedi taenu chydig o belets glas yn fy rhywstredigaeth mae arna i ofn – rhy hwyr i’r swej a’r ffa a’r bitrwt, ond yn help gawr i’r blodau. maen nhw hyd yn oed wdi sglaffio fy lilis gwynion del i, sbiwch!
Wedyn dyma i chi ddau lun ‘arti’ ( wel, mwy arti na’r hyn dwi’n arfer eu cymryd) nad o’n i’n gallu penderfynu pa un oedd orau:
Gewch chi benderfynu. Ac ydw, dwi’n gwybod, dwi’n ‘biased’ os ydi Del yna …
Iawn, i dre rwan i nôl y fforch rois i fid arni yn y sêl ddydd Iau – hen un – cryfach na’r pethau newydd sy’n malu o hyd, gobeithio! A welai chi yn y Sioe ddydd Mawrth. Dwi’m yn gweithio yno, dim ond mynd o ran mwynhad a chymdeithasu. Hwyl am y tro!