Filed under: 1
Welsoch chi’r eitem am dyfu heb bridd, do? Wel, os ydach chi am weld y broses efo’ch llygaid eich hun, mae croeso i chi fynd i Cae Gwyn, wrth ymyl Llannerchymedd ar Ynys Môn. Rowena a Philip Mansfield sy’n rhedeg y lle ac mi gewch groeso cynnes ganddyn nhw. Mae ‘na ddau ddiwrnod agored ar: Sadwrn Mehefin 26 1.00-6.00, a’r un oriau ar Sadwrn, Awst 28. A dyma Rowena a finna y diwrnod fuon ni’n ffilmio – pan oedd hi’n oer a gwyntog!
Hogan o Ddolgellau ydi hi’n wreiddiol, coeliwch neu beidio, ond mi symudodd y teulu – i Ynysoedd y Falklands os dwi’n cofio’n iawn! A dyna pryd gollodd hi ei Chymraeg. Mae hi’n dallt bob gair ond yn swil i’w siarad felly dyna pam na welsoch chi hi ar y rhaglen. Mae’r ddau’n defnyddio dulliau hydroponeg ers 2004, ac os dach chi isio mwy o wybodaeth, cliciwch ar eu gwefan:
Mi welwch chi bod Rowena hyd yn oed yn gwneud pob math o eli allan o wahanol blanhigion, rhai cwbl naturiol heb gemegolion. Mi brynais i gwpwl ac maen nhw’n grêt. Dwi’m yn siwr os ydw i i fod i roi ‘Lavender and marigold foot balm’ ar fy nwylo – ond mae’n gneud y tric!
A dwi’n meddwl mai Rowena ydi’r un sydd wedi ymateb i fy nghwestiwn i am goed ‘bay’ trist. Leah, fy nith ydi perchennog y coed, ac mae ei merch hi, Cadi Fflur wedi bod yn fy helpu i yn yr ardd yn ddiweddar. Dyma hi’n fy helpu i fwydo’r adar:
Mae hi’n ffrindiau mawr mawr efo Del hefyd, ac mae’r llun isod yn profi hynny …!
A sôn am blant bach, mae Russell bellach yn dad i Bleddyn – ac Aled, un o gynhyrchwyr y rhaglen, yn dad i Hedd! Llongyfarchiadau mawr i’r ddau deulu.
Filed under: 1
Dwi’n gorfod diflannu am y gororau rwan – i wisgo staes a bustle am 4 diwrnod. Ffilmio cyfres arall i Cwmni Da – am oes Fictoria efo Tudur Owen. Gobeithio na fydd angen shots agos o fy nwylo i achos maen nhw’n rêl dwylo ffarmwr erbyn hyn. Dwi wedi bod yn llifio coed, plannu coed, tatws, panas, moron, bitrwt a thrio stopio fy mhenbyliaid rhag diflannu drwy’r beipen o’r pwll am yr Wnion. Dwi wedi colli eu hanner nhw! Neu ai’r gena goegs sy’n eu bwyta nhw? Ydyn nhw’n bwyta penbyliaid? Rhywun yn gwybod?
Hefyd, SOS gan Leah fy nith – mi gafodd ddwy goeden ‘bay’ fawr ddel a chrwn yn anrheg priodas llynedd – mewn potiau. Mae na olwg truenus arnyn nhw ar ôl y gaea. Be ddylai hi ei wneud?
Reit, gorfod mynd rwan – hwyl!
Filed under: 1
Wedi gweld dau yn y pwll bore ma! Oh yes!!!
Filed under: 1
A voila – mae’r paneli yn eu lle. Edrych yn iawn tydyn? Fel stamp yn y gornel. Mae na ddau arall yn y cefn fel mod i’n cael haul neu olau dydd, o leia, drwy’r dydd. Roedd hi’n amhosib eu rhoi i wynebu’r de felly maen nhw’n wynebu’r dwyrain a’r gorllewin. Ac maen nhw’n gweithio’n arbennig o dda! Jest i mi losgi fy llaw wrth olchi llestri heno. Mi fydd yn cymryd blynyddoedd iddyn nhw dalu am eu hunain, ond dwi’n ei weld o fel buddsoddiad ariannol – ac amgylcheddol. Fe ddylai fod yn haws i bobl sy’n byw o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol i’w cael nhw rwan. Gawn ni weld!
Mae’r tywydd braf ma wedi bod yn ffantastic ar sawl cownt: mae gen i ddigon o ddwr poeth, ond mae’r ardd wedi dod yn fyw eto mwya sydyn. Mae’r camellia sydd wastad yr un orau ( mae gen i dair) yn edrych yn hyfryd fel arfer:
Ond dal i edrych yn felyn mae’r un gafodd y stwff haearn. O ia, wedi sbio ar dips y gwylwyr ar y wefan, mi wnes i weld tip VIvian Parry Williams o Blaenau Ffestiniog – sef rhoi hoelion wrth droed y goeden! Wel, roedd gen i hen beipen haearn felly dwi wedi gosod honno y tu ôl i’r bonyn i weld be ddigwyddith …
Ac mae’r goeden geirios wedi dechrau blodeuo. Fe ddylai edrych yn fendigedig ymhen wythnos neu ddwy. Roedd hi wedi tyfu’n arw felly dwi wedi gorfod tocio tipyn arni – neu roedd hi’n amhsoib cerdded heibio’r fainc bicnic heb gael slap go hegar gan y canghennau.
Dwi wedi bod yn hynod brysur yn yr ardd ma’n ddiweddar. Mae fy nwylo i’n rhacs ( pryd ydw i’n mynd i ddysgu gwisgo menyg?!) ond mae’r lawnt yn edrych yn llawer gwell nag oedd hi:
Dydi hi’m cweit yn wyrdd eto, ond o leia does na’m mwswg! Ac ydi, mae Del yn mynnu cael ei hun yn y lluniau ma.
Mi sylwais i hefyd bod yr unig teim (thyme) sydd gen i ar ôl yma wedi mynd i edrych braidd yn wantan. Wel, roedd hi wedi bod mewn pot ers blynyddoedd, felly dwi wedi ei thocio hi a’i gosod yn yr ardd ei hun i weld os fydd hi’n hapusach:
Dwi wedi bod yn llifio coed fel peth gwirion hefyd ond gewch chi wybod mwy am hynny wsnos nesa …
Filed under: 1
Roedd hi’n braf gallu rhoi wyneb i’r ferch sy’n arbenigwraig arddio ar raglen Jonsi yndoedd? Dyma hi, yn eistedd ar un o fy madarch pren i:
Cofiwch chi, os oeddech chi’n gwylio ‘Clwb Garddio’, mi fyddech chi’n ei chofio hi’n iawn. Neu yn gwsmer yng ngerddi Seiont wrth ymyl Caernarfon wrth gwrs. Mi welais i hi yn fanno ychydig fisoedd yn ôl ond ro’n i’n ormod o fabi i ddeud helo ac roedd hi’n edrych yn hynod brysur beth bynnag! Mi fydda i’n teimlo’n gwbl gysurus yn deud helo wrthi y tro nesa achos mi wnaethon ni ddallt ein gilydd i’r dim: mae hi’n gwybod yn iawn be mae hi’n ei neud yn yr ardd a dwi ddim!
Un o’r tasgau roddodd hi i mi oedd cael trefn ar y mwswg ar y lawnt:
Os welsoch chi’r rhaglen gynta, mi fyddwch chi wedi ngweld i’n chwysu yn trio cribinio’r bali stwff. Ond dim ond rhyw 5 munud o ffilmio oedd hynna. Dros yr wythnosau dwytha ma, dwi wedi cribinio gymaint, mi ges i swigen reit gas ar fy mawd ( er gwaetha’r menyg) ac mae’n siwr mod i wedi colli hanner stôn mewn chwys ( a bwyta digon i’w roi’n ôl mlaen yn syth wedyn wrth gwrs). Dwi’m yn siwr os oedd y tyllau wnes i efo’r fforch wedyn yn rhy ddwfn – doedd Carol ddim i’w gweld yn mynd cweit mor ddwfn pan wyliais i’r rhaglen, ond tyllau felna sydd dros yr ardd i gyd bellach, yn llawn tywod erbyn hyn.
Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio i dynnu llun o’r lawnt fel mae o bellach ( ocê, nes i anghofio …) ond mae’r llun o’r to yn dangos nad ydi o cweit mor felyn rwan, ac mae’r llun yma’n dangos ei fod o reit foel a brown ar y gwaelod – a phatsus melyn lle bu’r mynyddoedd mwswg yn sefyllian am ddiwrnod neu ddau … wps.
Mae’r camellia oedd angen haearn yn dal i edrych yn felyn ( wel, brown hefyd a bod yn onest) ond mi neith gymryd amser i ddod at ei hun mae’n siwr. Dwi hefyd wedi bod yn tocio’r grug oedd wedi mynd yn goesau i gyd, a’r lafant a’r trilliw ar ddeg. Dwi wedi plannu coed yn y bylchau yn y gwrych ond yn dal i aros i Richard lifio’r coediach sy’n dal ar ôl ac yn fy rhwystro rhag llenwi pob bwlch.
Dwi wedi bod yn rhoi cerrig go fawr yng ngwaelod y pwll fel bod y penbyliaid yn gallu cuddio oddi tanyn nhw – a gallu dringo allan pan ddaw’r amser, felly mae fy ‘biceps’ i wedi dyblu’n eu maint ers Dolig. Neu maen nhw’n teimlo felly …
O, a dach chi’n licio nghôt binc i?
Rhywun wedi holi sut mod i’n llwyddo i’w chadw mor lân. Wel dim ond ar gyfer ffilmio dwi’n gwisgo honna debyg iawn! Gwisgo pethe hynafol llawn tyllau fydda i i arddio, siwr! A bod yn onest, ro’n i wedi pasa ei thynnu ar gyfer y ffilmio ‘gweithio’ hefyd, ond roedd hi’n blwmin oer – nes i mi ddechre chwysu wrth gwrs … Ond swn i wrth fy modd yn gallu edrych mor smart ond ‘barod i weithio’ â Carol. Oes, mae gen i dipyn i ddysgu …
Filed under: 1
Jest i brofi bod y llyffant wedi ffansio fy mhwll i … dim ond un hyd yma, ond does wybod be ddaw yn yr holl law ma. Mi wnai gymryd llun o’r ‘rhaeadr’ fechan toc achos dwi wedi penderfynu bod angen rhyw fath o gerflun neu rhywbeth ar ei ben o a dwi isio syniadau!
Ta waeth, mae’r rhaglen gynta eleni heno dwi’n meddwl, tydi? Ond wela i mohoni achos dydi fy signal Sky i ddim yn gweithio ers ddydd Gwener am fod hwn ar y to:
Ar gyfer y paneli haul/heulol/solar mae hwnna. Ac mae’r bois newydd adael pnawn ma, wedi diwrnod a hanner yn eu gosod nhw. Dau foi clen iawn o Leeds. A dwi’n hapus iawn efo’r canlyniad! Dydyn nhw DDIM yn hyll! Gewch chi eu gweld nhw unwaith fydd y sgaffaldiau yma wedi dod lawr. Ond maen nhw wedi bod reit handi yn y cyfamser. Mae’n siwr mod i wedi torri’r rheolau yn rhacs ond nes i ddringo i jest o dan y platfform i baentio’r V gwyn na dros y ffenest. Does gen i’m ysgol digon hir i’w neud fel arfer! Mi nath fy nghoes chwith i ddechre crynu pan ro’n i’n hongian oddi ar un polyn … a finne rioed wedi diodde vertigo o’r blaen! Henaint mae’n rhaid . Yn anffodus do’n i methu cyrraedd y V arall felly mae golwg y diawl ar hwnnw o’i gymharu â’r llall rwan. O wel. Benthyg ysgol hir fydd raid. A duwcs, efallai gai gyfle i lanhau’r ffenest o’r tu allan am y tro cynta erioed!
Dwi wedi plannu rhai o’r coed yn barod i lenwi’r bylchau yn y gwrych ond mae gen i ryw 50 ar ôl. A dyma i chi lun ohona i efo Richard, fu’n gwneud y torri. Mae o i fod i ddod yn ôl i dorri’r bonion yn goed tân ond efallai fod y babi newydd gyrraedd – neu ar fin cyrraedd o leia. Mi wnai ei ffonio nes mlaen i weld be ydi be. Ond efallai mai disgwyl i’r siec fynd drwadd mae o …
Newydd fod ar ben y platfform na a dyma fy ngardd i fel mae aderyn yn ei gweld! Wel, aderyn ar y to.
A dyma sut siap sydd ar do’r sied eco ..
Filed under: 1
Tydi o’n ddel! A ddeuddydd wedi ei gwblhau, roedd na lyffant wedi galw a gadael blob reit dda o rifft llyffant ynddo fo. Wir yr! Gewch chi lun o hwnnw fory neu drennydd. Jest isio rhannu fy hyfryd bwll efo chi!
Filed under: 1
Ydach chi’n cofio Russell a’i frawd yn fy helpu i wneud pwll i ddenu bywyd gwyllt llynedd? Union flwyddyn yn ôl fel mae’n digwydd … wel, roedd o’n edrych yn eitha i ddechre. Braidd yn fach, a do’n i’m yn siwr am y ffaith bod yr holl rwber yn y golwg, ond duwcs, roedd o’n iawn, ac mi ddoth y penbyliaid. Ond doedd o’m yn ddwfn iawn, ac unwaith iddi ddechre cynhesu, dyma be digwyddodd:
Ia, rhyw hen algae hyll, afiach oedd yn crogi pob dim. A thros y gaea ma, mi rewodd yn golsyn fel bod pob dim yn gelain – hyd y gwelwn i beth bynnag. Anghofies i dynnu llun ohono fo cyn i’r dynion mawr o Lanuwchllyn gyrraedd dydd Iau dwytha. Gwyn, ei fab Dochan a Dilwyn. Mi ddoth y tri yn gynnar iawn – wel, Dochan a Dilwyn chydig hwyrach am eu bod nhw mewn layby, methu dod o hyd i’r ty nes i mi eu pasio ar feic efo Del …
A chyn pen dim, roedden nhw wedi gwagu’r hen bwll a thyllu un mwy a thipyn dyfnach …
gwaith caled, a dyna pam fod Dilwyn yn sychu’r chwys oddi ar ei dalcen. Roedd hi’n eitha braf a sych drwy’r bore, ond roedd y glaw ar ei ffordd a phawb yn gwybod hynny ac yn mynd fel fflamia. Cinio hwyr iawn amdani! Ro’n inne’n trio helpu ond mi wnes i sylwi’n o handi mod i o’r ffordd felly mi es i gribinio mwswg yn lle – a sbiwch – mi weles i bod gynnon ni gynulleidfa – madfall.
Mae gen i deulu ohonyn nhw’n dod i’r golwg bob ha – ond rioed mor gynnar â hyn o’r blaen. Ta waeth, mi ddoth y glaw wrth gwrs, a chyn pen dim roedd y pridd yn llaid ond roedd y rwber i lawr mewn pryd diolch byth. Ro’n i wedi meddwl rhoi cerrig crynion o gwmpas y pwll, ond mi sylwodd Gwyn fod gen i lechi mewn pentwr wrth y fynedfa. Ia, iawn, defnyddia nhw ar bob cyfri meddwn yn llawen.
A dyma’r gwaith ar ei hanner – cot law Richard y gwr camera yn dangos fod y tywydd wedi troi.
Roedd hi wedi tywyllu erbyn i ni orffen a finne’n gorfod brysio am y de reit handi. Ond dyma lun ohonon ni’n sefyll ar lan fy mhwll newydd hyfryd! Gewch chi lun yng ngolau dydd ryw ben!
Filed under: 1
Dwi wedi bod isio plygu’r gwrych rhwng y ty a’r ffordd fawr erioed. Ond wedi bod yma ers deg mlynedd, do’n i’m wedi gneud dim am y peth a jest gadael i’r coed dyfu nes eu bod nhw’n llawer rhy uchel. Ond ddoe, daeth tro ar fyd. Daeth Richard Dwy Olwyn draw efo’i li gadwyn … Er mwyn plannu coed bach newydd hawdd eu plygu, mae’n rhaid gwneud lle. Felly hacio a chwalu amdani …
Bore ddoe, fel hyn roedd hi’n edrych o’r ochr arall o’r ffordd:
Ond erbyn y pnawn, roedd gyrrwyr ceir rhwng Bala a Dolgellau yn cael braw … sbiwch gwahaniaeth!
Roedd o’n dipyn o sioc, rhaid cyfadde. Ond rwan, fe ddylai fy ngardd fwynhau’r holl oleuni newydd, a’r lawnt yn diodde llai o fwsog efallai. A beryg y bydd yr ochr yna o’r ty yn gynhesach! Ar yr ochr negyddol wrth gwrs = llai o breifatrwydd – dwi’n teimlo’n noeth! Mae pawb yn gallu ngweld i rwan – a gweld pob dim dwi’n ei hongian i sychu ar y lein ddillad!
Mae na dipyn o waith clirio canghennau i’w wneud heddiw. Dwi’n cadw cryn dipyn fel coed tân wrth gwrs. Eith y llwch lli ddim yn ofer chwaith.
A sbiwch – o graffu’n ofalus ar dalcen y ty mae’n bosib gweld RW a AM (Vaughan – nhw gododd y ty) a’r dyddiad 18/37 bob ochr i’r ffenest.
Iawn, dydi o’m yn glir – ond maen nhw yno, wir yr! Roedd Dafydd y gwr camera yn meddwl y dylwn i eu paentio i wneud iddyn nhw sefyll allan ond dwi’m yn siwr.
A nefi wen, dwi newydd gael gwybod mod i wedi cael caniatad i roi paneli haul ar y to (i gynhesu dwr) – roedd y Parc wedi gwrthod ddwywaith ond daeth boi i fyny o’r Cynulliad wedi i mi roi apêl i mewn. Doedd o’m yn gweld pam na ddylwn i eu cael nhw wir (dydi’r ty ddim wedi ei gofrestru) – “… ac mae na wrych mawr yn cuddio’r ty beth bynnag”. Wps. Ond dim ond ddoe ges i wybod ei fod o wedi deud hynna!
Ond dwi’n licio paneli haul, dydyn nhw ddim yn bethau parhaol beth bynnag a dwi’n gneud lles i’r amgylchedd! Yn enwedig pan fydda i wedi plannu’r 85 o goed bychain ges i gan fy mrawd … pan gai gyfle wrth gwrs …
Filed under: 1
Dydi’r holboellia coriecia ddim yn edrych yn rhy iach nacdi? Dwi’n meddwl ei fod o wedi marw a deud y gwir, ond wythnos nesa, mi fydd y camerau yn ôl yn yr ardd, ac arbenigwraig arddio o’r enw Carol yn crwydro drwy fy mhlanhigion druan yn deud wrthai be fedrai ei wneud – a be i beidio a’i wneud! Dwi’n ofni’r gwaetha … a dydi’r planhigyn arall ges i o Rug ddim yn edrych yn hapus chwaith – yr un efo arogl mêl arno fo:
Rhywbeth mellifera neu rywbeth felna. Dwi’m yn meddwl gai arogl mêl ohono fo eleni rhwysut. Onibai fod Carol yn gwybod yn wahanol wrth gwrs. Croesi bysedd. Ond os fyddan nhw’n gelain, stwffio fo, dwi’m am brynu planhigion ecsotig eto. Does gen i’m amser na mynedd i roi gwlan cotwm am bob dim dragwyddol!
Dydi’r lawnt ddim yn edrych yn sbeshal chwaith. Mwy o fwsog na gwair. Dwi’n gobeithio cael cyngor am hynna hefyd ac yn gweddio na fydd yn golygu oriau poenus o gribinio’r bali stwff. Ges i swigod y tro dwytha. Mae’n rhaid bod na ateb haws!
O leia mae rhai o’r blodau’n edrych yn hapus er gwaetha’r rhew a’r oerfel: A typical! Newydd gymryd y llun yna ydw i, ac wedi i mi daro golwg drwy’r ffenest, mae ugain munud wedi gwneud byd o wahaniaeth – sbiwch arnyn nhw rwan!
Ac mae gen i newydd-ddyfodiaid eraill i’r ardd hefyd, sy’n poeni dim am yr oerfel. Anrheg gan hen gyfaill. Del tydyn?!