BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Llyn Gwenfron Evans
Ebrill 28, 2009, 10:59 pm
Filed under: 1

Dach chi’n cofio’r eitem am y ddynes efo dros 50 o focsys adar yn ei gardd? Gwenfron Evans o Llanfairynghornwy, Sir Fôn oedd honno. Ges i focs bach ar gyfer titw tomos ganddi a dwi wedi’i roi o ar ochr fy sied eco. Mi welais i ditw’n busnesa yno ond dwi’m yn meddwl ei fod o wedi symud i mewn chwaith. Gawn ni weld.

Beth bynnag, roedd ganddi lyn go fawr (60 troedfedd) yn ei gardd hefyd, a ges i sioc o ddeall nad un naturiol mohono – roedd o’n edrych mor … wel, naturiol.

p10100131Yn wahanol i f’un i! Dwi wrth fy modd efo fo cofiwch, ond mi gymrith sbel i bethau dyfu digon i guddio’r holl rwber. Dwi’m yn siwr faint ydi oed llyn Gwenfron, ond roedd o’n llawn o bob math o greaduriaid, yn cynnwys llwyth o genau goegiaid (newts). Dyma i chi un arhosodd yn llonydd jest yn ddigon hir i mi gael llun ohono fo.

p1010015Mae’n debyg mai’r math cyffredin neu lyfn ydi o, un gwryw. Ia, y peth efo cynffon hir a sbotiau sy’n hanner cuddio. Does gen i’m camera efo zoom gwych iawn, sori. Mi fyswn i wrth fy modd tasen nhw’n dod i fy mhwll bach i  – heblaw am un peth – maen nhw’n bwyta penbyliaid. A does gan fy mhenbyliaid i fawr o le i ddianc.

Denu cymaint o fywyd gwyllt â phosib ydi nôd Gwenfron yn ei gardd hi; mae hi’n caru anifeiliaid go iawn, yn gwneud gwaith gwirfoddol i’r R.S.P.C.A. ac yn edrych ar ôl anifeiliaid ‘strae’. Mae hi wedi cadw un ci, un annwyl iawn sydd wrth ei fodd yn chwarae yn y llyn, a sawl cath – sydd ddim yn poeni’r adar. “Sut lwyddoch chi i i’w dysgu nhw i adael llonydd i’r adar?” gofynnais. “Drwy daflu jygiau o ddwr drostyn nhw os oedden nhw’n trio!” Iawn, felly os fydd Del yn mynd ar ôl fy llyffantod i (pan dyfan nhw), jwg o ddwr geith hithe hefyd.

Mae na ryw 200 o benbyliaid yno ar hyn o bryd ond gawn ni weld faint gaiff fyw i fod yn llyffantod. Dwi wrth fy modd efo nhw, cofiwch, fel plentyn yn union. Falle mai dyna pam wnes i sgwnenu stori fer yn ddiweddar am hogyn yn cadw llyffant – sydd i’w gweld mewn llyfr o’r enw ‘Honco’ erbyn hyn – 9 o straeon od ar y 9 i ddarllenwyr tua 10-13 oed. A na, chai ddim mwy o bres am roi hysbys i’r gyfrol! Dydi pethe ddim yn gweithio fel’na yn anffodus …



Russell a Beti
Ebrill 24, 2009, 2:19 pm
Filed under: 1

Dim ond nodyn sydyn yn sgil sgwrs ffôn ges i efo Russell bore ‘ma. Isio ei gyngor o ar sut i wneud fy ‘raised bed’ cynta o’n i (maen nhw’n dod i ffilmio’r broses ddydd Llun) ac mi aeth y sgwrs i bob man – fel arfer! Roedd o wedi bod yn siarad efo MYW Brynsiencyn, a pwy oedd yno ond un o’i hoff sopranos, Marian Roberts, a digwydd bod, dwi’n ei nabod hi (mi ddaeth i ganu i Nigeria pan ro’n i yno), a digwydd bod ( dal efo fi?!) roedd o newydd ddewis un o’i chaneuon hi ar gyfer Beti a’i Phobl.

Ydi, gyfeillion, mae o wedi cyrraedd. Mi fydd y rhaglen ar Radio Cymru ddydd Iau nesa. Mi fydda i’n sicr yn gwrando! Gyda llaw, mi aeth a’i ieir efo fo i weld MYW. Yn y capel!

Dyma fo, yn dangos rhai o’r hadau gafodd o i’w plannu dro’n ôl gan uwch-gynhyrchydd y gyfres. Sbiwch yn ofalus ar y pecynnau.

russ-ar-hadauIa, chwyn! Dail poethion a dant y llew! Dwi’n meddwl bod gan bawb ddigon o’r rheiny, Mr Uwch-gynhyrchydd …



Y pwll hyd yma
Ebrill 20, 2009, 2:13 pm
Filed under: 1

p1010025Dyma sut mae’r pwll yn edrych bellach. Mi setlodd y baw o’r cerrig mân ar ôl rhyw bythefnos, ac mae’r planhigion yn tyfu ar ras wyllt. Mae gan y lili ddwr ddail yn barod. Waw. Mi gewch chi well llun o’r planhigion yn nes ymlaen, ond dwi’n hoffi’r llun yma am ei fod o’n dangos bod plant wrth eu boddau efo’r pwll! Dwi’m wedi bod mor boblogaidd ers talwm.

Y penbyliaid sy’n denu wrth gwrs. Maen nhw’n dew rwan, a siap eu boliau yn dechrau newid, felly mi fydd ganddyn nhw goesau ôl toc. A hyd yma, maen nhw’n delio reit dda efo’r sioc o gael eu dal gan ddwylo bach busneslyd. Dwi wedi trio egluro eu bod nhw’n bethe bach delicet, ond eto, dwi’n cofio’r mwynhad fyddwn i’n ei gael o wneud yr un peth yn union pan o’n i run oed â Meg a Robin. Os ydi hyn yn meithrin diddordeb mewn natur, popeth yn iawn efo fi.

O ia, wedi plannu swej ddoe – y planhigion ar eu hanner gewch chi am £2.50 o Seiont. 10 planhigyn – dyna i chi 25c am bob swejan yn barod. Hm. Dydyn nhw’m llawer mwy na hynna’n y siop – wedi tyfu’n fawr. Ac mae Del wedi sathru un. Tyfu o hadau sydd rata o ddigon, ond mae na wastad ormod mewn paced yndoes? Dwi wedi bod yn rhannu’r hadau bitrwt ges i gan Russell a dwi newydd hau’r seedlings heddiw, yn y gobaith y caiff rhain lonydd gan Del…



Coed ffrwythau
Ebrill 15, 2009, 3:21 pm
Filed under: 1

Iawn, mae ‘na arbenigwyr garddio wedi deud wrtha i y byddan nhw’n synnu os fydd fy nghoed ffrwythau yn tyfu o gwbl wedi gweld y ffordd wnes i eu plannu ar y rhaglen. Y cwbl wnes i oedd gwneud twll, ychwanegu tipyn o gompost yna rhoi’r coed i mewn, llenwi’r twll, gwasgu lawr chydig efo nhroed a dyna fo. Oedd, mae’n siwr ei fod o’n edrych braidd yn sydyn ar y rhaglen – ond doedden nhw’m yn mynd i ddangos pob eiliad o’r broses nagoedden?! Mae’n debyg eich bod chi i fod i ychwanegu ryw esgyrn pysgod wedi malu ayyb – y stwff ‘meal’ na, ond wnes i ddim. Ond mi wnes i daenu tipyn o lwch o’r llosgwr coed o gwmpas y bonion wedi i’r camerau adael – rhywun wedi deud wrtha i bod hynny’n beth da. A’u dyfrio nhw’n dda am y 3 wythnos cynta o leia.

A’r canlyniad? Wel, dyma chi’r goeden geirios yn y llun mawr isod, a dyma’r goeden bricyll /apricots ar y dde:

ceirios

apricot

eirinDo, mi nath y goeden Victoria Plums (llun bach ar y chwith – dwi’n cael trafferth gneud i’r lluniau ma fynd i’r lle iawn, drapia nhw) gymryd mwy o amser i setlo a dangos unrhyw fath o flagur – ond dyma ni ylwch!

Ac yn ôl yr hysbyseb yn y papur, mi gai mhres yn ôl os na chai ffrwythau o fewn 12 mis. Maen nhw’n edrych reit iach i mi, a dwi’n eitha siwr y cai ambell geiriosen a bricyllsen cyn bo hir iawn. Ond os na chai, wel yr arbenigwyr oedd yn iawn, mwn.

Dwi’n croesi mysedd …



Clychau Du-las a genau goeg
Ebrill 6, 2009, 10:29 am
Filed under: 1

Un o’r ychydig enwau blodau rydw i’n llwyddo i’w cofio am ryw reswm ydi grape-hyacinth. Am eu bod nhw’n edrych fel bwnsiad o ‘grapes’ mae’n siwr. Dyma lun rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod be ydyn nhw:

images

Muscari neglectum yn Lladin. Ond dydyn nhw ddim yn hyacinths o gwbl, mae’n debyg, felly dydi’r enw Saesneg ddim yn gwneud llawer o synnwyr wedi’r cwbl. Ta waeth. Doedd gen i ddim clem be oedd yr enw Cymraeg, a, gan mod i’n gymaint o arbenigwraig bellach (ha!), mi nath aelodau o Ferched y Wawr Maelog, Ynys Môn, ofyn i mi ddod o hyd i’r enw – os oedd ‘na un.

Holi’r criw yn y swyddfa wnes i, a dyma’r ateb: Yr enw Cymraeg ydi Clychau Du-las neu  Clychau Glas yr Ardd. Dwi’n gweld yr ail un braidd yn rhy debyg i Glychau’r Gog, ac mae na dipyn o ddu yn fy rhai i, felly dwi am fabwysiadu Clychau Du-las.Mi ddylwn i gofio hynna rwan, siawns.

Dwi’m yn siwr os ydi merched Maelog wedi llwyddo i ddod o hyd i’r wefan yma eto, ond os ydach chi’n eu nabod nhw – a Violet Jones, Bryngwran yn benodol, newch chi sôn wrthi, plîs? mae hi’n dipyn o arddwarig, meddan nhw – a chês a hanner, felly wyddoch chi byth, efallai y cawn ni weld ei gardd (a’i Chlychau Du-las hi) ar y gyfres ryw ben. Ac mae hyn yn brawf ar y criw cynhyrchu rwan – gawn ni weld os ydyn nhw’n darllen fy mlog i!

O, gyda llaw, mae’r pwll yn dechrau setlo. Dwi wedi plannu chydig o blanhigion rownd yr ochrau a rhoi cerrig mawr ynddo fo, am fod y penbyliaid ac ati angen gallu dringo allan yn hawdd unwaith y byddan nhw wedi tyfu coesau. Achos, oes, mae gen i benbyliaid yna. A do, sori, mi wnes i dwyllo. Dwi’n gwbod mod i’m fod i symud grifft llyffant, ond duw duw, doedd rhein ddim ond lawr y ffordd, ac maen nhw’n edrych reit iach a di-haint hyd yma!

O, a chwestiwn arall am enwau Cymraeg: ‘newt’ i mi ydi genau goeg. imagesDim clem be ydi ‘great crested ‘ fel hwn ar y chwith, chwaith. Yr un cyffredin sydd ar y dde. Ond mae rhai yn deud mai ‘lizard’ ydi genau goeg, ac mai madfall ydi ‘newt’. images-1

Oes na rywun allan fanna yn gwbod pa un sy’n gywir os gwelwch yn dda?



Y pwll llyffantod
Ebrill 2, 2009, 10:55 am
Filed under: 1

p1010009 Gan fod gen i gymaint o falwod acw, ro’n i ffansi pwll i fagu llyffantod. Maen nhw’n mwynhau bwyta malwod mae’n debyg – o leia, dwi’n gobeithio eu bod nhw. Ro’n i hefyd awydd mwy o fywyd gwyllt yn yr ardd.

Ro’n i wedi trio rhoi grifft llyffant yn y ffrwd pan symudais i yma gynta, ond syniad twp oedd hynny wrth gwrs, gan fod cawod drom yn golygu bod y ffrwd yn troi’n afon wyllt, a ta ta penbyliaid.

Felly rhyw bythefnos yn ôl, daeth Russell a’i frawd James draw i fy helpu i greu pwll o ddwr llonydd. Mi fydd yr hanes i’w weld ar y gyfres ryw ben, ond dyma i chi flas beth bynnag. Uchod mae’r man lle benderfynwyd y dylid creu’r pwll, ond fel y gwelwch chi, roedd na dipyn o waith clirio drain a mieri yn gynta. O, ac roedd angen ffilmio’r cwbl o fewn diwrnod! Doedd yr hogia ddim yn cael dechrau cyffwrdd y drain nes i mi orffen ffilmio sgwrs efo arbenigwr llyffantod yn gynta (pethau swnllyd ydyn nhw – Russ a’i frawd, nid llyffantod).

Iawn, wedi clirio’r llanast (oedd yn lladdfa!) dyma ddechrau cloddio …p1010013

Do, mi gawson ni hwyl, ond nefi, roedd o’n waith caled. Roedd na greigiau caled, ofnadwy o galed o dan y pridd na. llechi o bethau mawr oedd yn eich brifo o’ch traed i’ch ffilings bob tro roeddech chi’n eu taro efo rhaw/gordd/be bynnag. Doedden ni ddim yn meddwl y bydden ni’n llwyddo i greu pwll cyn iddi nosi.

Aeth y cyfarwyddwr i nôl brechdannau i arbed amser a’n gadael ni i ddal ati i balu a chwysu. Ond doedd na’m amser i gynllunio na mesur na dim!

Wedi tyllu digon (fwy neu lai) roedd angen rhoi tywod i mewn wedyn, ac yna rhyw fath o orchudd ‘fleece’, yna’r rwber mawr tyff  ‘ma, a llenwi’r cyfan efo dwr cyn tywallt cregyn, cerrig mân ac ati i’r gwaelod.

Lwcus mod i wedi gneud cacen sbwng hyfryd y diwrnod cynt – roedden ni angen y carbs i gael egni myn diawl.p1010018

A dyma’r pwll ar ddiwedd y pnawn. Nid yn daclus iawn, nacdi, a dwi’m yn meddwl bod y rwber i fod i ddangos cweit cymaint a hynna. Ond diaw, be dach chi’n ddisgwyl ar frys! Mae’n bwll, a dwi’n gobeithioy bydd y planhigion yn tyfu dros rywfaint o’r rwber du hyll na . Gewch chi weld sut mae’n edrych yn nes ymlaen yn y gyfres, pan fydd y lilis dwr yn drwch drosto a llyffantod yn sboncian dros bob man.

Falle …