Filed under: Heb Gategori | Tagiau: acer, blodau haul, chilli, hydref, jeli mafon duon, lliwiau, pechu, Penygroes, rhaglen arddio, Tyfu Pobl
Am fod lliwiau’r ardd mor fendigedig heddiw, rois i’r gorau i weithio ar y nofel a mynd allan efo’r ipad. Cymaint haws na chwilio am y camera mawr. A dyma i chi agweddau gwahanol o ngardd i – ac ydw, i loves my acer, i do.
Dwi wedi gwirioni bod cymaint o flodau’n dal yn fyw, a rhai wedi atgyfodi o’r marw. Sbiwch ar fy mlodau haul i:
Dwi wedi’i ddeud o o’r blaen, ac mi ddeudai o eto: yr Hydref ydi fy hoff dymor i o ddigon. Es i am dro efo Del ar y beic bore ma, a sbiwch golygfeydd – Dolgamedd, ty fy rhieni ydi’r lle bach llwyd yna yn y coed – yn y pellter. Nefoedd ynde!
A dyma lun gymres i efo fy ffon 3G o dy fy ffrindiau, Luned a Richard morgan neithiwr. Machlud gwefreiddiol.
O, a gyda llaw, rois i lwyaid bach o’r jeli mafon duon a chilli mewn grefi efo’n cinio dydd Sul, ac roedd o’n flasus, bobol bach.
Ac mae’n wir ddrwg gen i bod rhaglen Tyfu Pobl wedi pechu rhai o drigolion Penygroes – mi wnaethon ni ffilmio mwy o bethau fyddai wedi eu plesio nhw, ond rhaglen am arddio ydi hi yn y diwedd, a doedd na’m lle i’r darnau hynny yn y diwedd. Gobeithio y gwelan nhw fwy i’w plesio erbyn diwedd y gyfres…
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brifo, Byw yn yr Ardd, cysgu fel twrch, dyffryn nantlle, gordd, gwaith caled, Llanllyfni, palu, palu dwbl, Penygroes, rhaw
WEDI GWYLLTIO’N GANDRYLL AM FOD WORDPRESS YN DAL I CHWARAE SILI BYGYRS FELLY LLUNIAU A SGRIFEN AR WAHAN, IAWN!!!
Do, dwi wedi bod ar ei hôl hi efo’r blogio. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio, dyna pam!
Dwi wedi bod i fyny ac i lawr fel io-io i Ddyffryn Nantlle, gan mai dim ond yn yr ardal honno y bydda i a Russell yn ffilmio eleni. Dim ond 12 diwrnod ffilmio sydd wedi eu clustnodi i mi am y flwyddyn ( toriadau S4C yn taro rhai yn waeth na’i gilydd!) a dwi wedi gwneud 5 diwrnod o fewn cyfnod byr – mewn termau garddwriaethol.
A iechyd, rydan ni wedi bod yn gweithio’n galed. Ty Margaret ym Mhenygroes oedd yr un caleta – llond gardd o goncrit a cherrig oedd angen ei balu’n ddwbl. Roedd ein cefnau, ein dwylo, ein breichiau – bob dim yn sgrechian ar ôl hynna! A chwarae teg, er mai dim ond Russ, Craig, Margaret a fi welwch chi wrthi ( o, a mab Margaret weithiau ond doedd o’m yn teimlo’n rhy dda y diwrnod hwnnw, y creadur) ar y sgrin, roedd y criw i gyd yn palu mewn pan nad oedden nhw’n ffilmio – efo rhawiau, gordd, sgriwdreifar, y cwbl. Fydden ni byth wedi gorffen onibai. Diolch, hogia.
Oes, mae gan raglenni garddio dros y ffin fyddin o weithwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw, ond S4C dlawd ydi hyn, a does dim byddin, iawn! Mi gysgais i fel twrch meddw y noson gynta honno ar ôl slafio yng ngardd Margaret. Dim ond gobeithio y tyfith y llysiau yno, ddeuda i!
Gardd Lynwen yn Llanllyfni oedd hi wedyn – gardd dipyn llai a dipyn haws ei thrin, diolch byth, gan fod Lynwen eisoes wedi palu chydig arni dro’n ôl, ac roedd y pridd gymaint haws ei dorri a’i balu o’r herwydd. Ond roedd hi’n dal yn waith caled.
Diolch byth am help Llywela, merch Lynwen, oedd yn chwip o weithwraig er mai dim ond 4 oed ydi hi. Gawson ni lot fawr o hwyl efo hi, a dwi’n meddwl ei bod hithau wedi mwynhau hefyd. A synnwn i daten na fydd Lynwen yn chwip o arddwraig …
Drannoeth, gardd Debbie ac Eifion oedd dan sylw. OND GEWCH CHI’R HANES HWNNW TRO NESA ACHOS DWI DI LARU EFO WORDPRESS AM HEDDIW …