BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Torri gwair
Mai 26, 2009, 11:39 pm
Filed under: 1

bwnisWel? Unrhyw syniad be ydi’r teclyn yma? Gewch chi wybod toc, mi fydd yr eitem ar y rhaglen yn o fuan. Ond roedd o’n un o’r pethau od mewn lle llawn pethau od yn Southport. Dwi wir yn meddwl mai dyna’r bore mwya od i mi ei dreulio eto yn ffilmio BYA. Ac mae hynna’n cynnwys y sgwrs 6 awr + ges i efo Russell am ieir. Wel, y monolog ta.

Mewn amgueddfa peiriannP1010003au torri gwair oedden ni. A dyma i chi rai o’r hen bosteri oedd ar y waliau, a dwi’m yn siwr ai denu dynion neu ferched oedd hwn i fod i neud: dangos i ferched bod torri’r lawnt yn beth benywaidd, secsi ta be?

Mae’r ddynes hyd yn oed yn dangos ei nicyr!

cetyn

Wedyn, mi nath y poster arall ma fy nhiclo i hefyd.

Tydi’r oes wedi newid dwch?

Roedd y boi oedd yn rhedeg y lle wedi cysylltu efo llwyth o enwogion yn gofyn iddyn nhw roi eu hen declynnau garddio a thorri gwair i’r amgueddfa, ac roedd y dewis yn rhyfedd a deud y lleia. Dyma Barry (y dyn sain) efo hen beiriant Hilda Ogden.Hilda

A finna efo hen strimmer rhywun enwog arall. Joe Pasquale os ydi’r llun yn rhy fach i chi fedru darllen yr arwydd. Que?! Roedd Paul O grady wedi rhoi rhywbeth iddyn nhw hefyd, a Richard & Judy. Neb o Gymru wrth gwrs, er, dwn i’m be fysan nhw’n ei feddwl o beiriant Russell. Dach chi wedi gweld hwnnw ar y rhaglen yndo? Gwahanol a deud y lleia.

Iawn, dwi’n diflannu am chydig ddyddie yn y Campafan efo Del. Dwi wedi chwynnu, taflu pelets ac ati yn barod – a thorri’r gwair wrth gwrs …

P1010009



Rhydychen
Mai 22, 2009, 10:24 pm
Filed under: 1

Dwi newydd gael hartan! Agor fy iphoto i gael rhoi lluniau o’r diwrnod ffilmio yn Rhydychen ar hwn, a myn coblyn – pob llun ers 2007 wedi diflannu! Pob un!! Wedi hir chwilio, dwi wedi dod o hyd iddyn nhw yn rhywle arall. Wel, rhai ohonyn nhw. Dwi’n siwr bod na rai’n dal ar goll, ond mae rhai Rhydychen yno am ryw reswm. P1010007Ffiw. Ond dwi’m yn mynd i drystio’r bali peth eto, mae hynna’n bendant. Lwcus mod i’n argraffu fy ffefrynnau yn weddol reolaidd.

Ta waeth, dyma fi yn Rhydychen – ro’n i’n gorfod cael beic toeddwn? (£15.00 i logi beic du gyda basged + £75.00 deposit )Dim gêrs arno fo, ond ro’n i’n licio’r darn plastic dros y tsiaen oedd yn ei rwystro rhag bachu godre fy nhrowsus. Syniad da.P1010003

Ro’n i yno i gyfarfod aelodau o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym: ‘Y Dafydd’, gafodd ei sefydlu ym 1886; y gymdeithas hynaf ond un yn y Brifysgol. O.M. Edwards (ia, boi’r Urdd) fathodd yr enw, oedd yn enw addas iawn gan mai sefydlu cymdeithas lenyddol Gymreig oedd bwriad y saith aelod cyntaf: O.M. ei hun a J. Puleston Jones o Goleg Balliol, John Morris Jones o Goleg Iesu, Edward Anwyl o Goleg Oriel, J. Owen Thomas o’r Coleg Newydd, D. Lleufer Thomas a D.M. Jones o Goleg Worcester – fo gafodd y syniad yn y lle cynta mae’n debyg. Syr John Rhys, Athro Celteg y Brifysgol a Phrifathro Coleg Iesu yn hwyrach yn ei yrfa, oedd y llywydd cynta.

P1010011Wedi mwynhau gerddi coleg Penfro (hen goleg Tolkien), aethon ni i ‘barti gardd’ efo Dafydd Green, Caplan presennol Y Dafydd (2il o’r dde) – hogyn o Fynydd Bodafon, Sir Fôn.  Yn ei bedwaredd flwyddyn yn astudio Tseinëeg. Mae’r boi tal ar y dde, Dewi Goulden o Fethesda, yn astudio’r un pwnc – ac yn ffrind Facebook i mi bellach! Hen fois iawn oedden nhw. Dysgu Cymraeg oedd y dyn gwallt gwyn, ac mae’r ddynes fach yn perthyn drwy briodas i Gareth Charles (os nes i ddallt yn iawn). Gardd neis iawn, a buffet hyfryd. Bechod bod y criw wedi cael cinio cyn mynd yno – a dyma i chi Owain Llyr y cyfarwyddwr yn chwysu peintiau dros powlen o chili. Ro’n i’n dechre poeni amdano fo. Chili ges inna hefyd, ond mae’n rhaid mod i wedi arfer mwy na fo efo pethe poeth. Neu wedi mynd i ngwely’n gynt …P1010010



Y gwely dyrchafedig
Mai 16, 2009, 11:25 am
Filed under: 1

Dwi ddim yn meddwl mai dyna’r term gorau ar gyfer ‘raised bed’. Gwely uchel? Llys y llysiau? Unrhyw gynigion, gadewch i ni wybod!
Ta waeth, fy mreuddwyd i ers tro ydi gallu tyfu llysiau – llysiau gwell na’r hyn sy’n tyfu acw hyd yma. Moron mwy na hyd fy mys i, nionod sy’n fawr a harti, pys a ffa sydd ddim yn cael eu bwyta gan lygod cyn cael cyfle i dyfu dim – y math yna o beth.
Ac maen nhw’n deud bod codi gwely yn well i’r cefn, yn fwy o job i’r malwod lysnafeddu eu ffordd i mewn iddo fo ayyb.
Felly, es i ati i glirio chydig o’r patsh gwyllt drws nesa i’r pwll penbyliaid. Fues i wrthi am wythnos yn palu dwbl, yn chwynnu, yn tynnu ar wreiddiau, a chwysu peintiau.
Y syniad wedyn oedd y byddai’r criw yn fy ffilmio yn rhoi’r bocs pren at ei gilydd.
cam 1
Roedd gen i ddarnau o bren yn sbar o gwmpas y lle, ond roedden nhw’n fawr a thrwm – rhy fawr a thrwm i mi symud y bali ffram ar fy mhen fy hun! Ond wnes i’m sylweddoli hynny nes i’r criw ddechre ffilmio. Ro’n i wedi bod yn hogan dda ac wedi mynd i dre i brynu sgriws. Yn anffodus, do’n i ddim wedi mesur y preniau – doedd y bali pethau ddim yn ddigon hir! AAAAA! Dyma’r criw druan yn sbio ar fy ffram i, yn trio gweithio allan sut i ffilmio hyn …
2 sbio x
Hefyd, doedd gen i’m chwarter digon o bridd/compost/unrhyw beth i lenwi chwarter y bali ffram yn diwedd! Dwi wir ddim yn siwr fydd yr eitem yma yn gweld golau dydd … dydi pethau ddim wastad yn gweithio allan yn y byd ma … ond dwi wedi dysgu lot fawr ers hynna! Dwi wedi bod yn ôl ac ymlaen fel io-io o faes carafannau fy rhieni (lle mae na domen o dopsoil reit dda ar hyn o bryd) yn llwytho trugs, bwcedi, sachau i mewn i’r fan a’u gwthio mewn berfa i fyny at lefel ucha’r ardd wedyn. Dwi’m yn dallt sut mod i’m yn denau fel styllen ar ôl hyn i gyd ond dyna ni.
Dyma sut mae’n edrych bellach bellach x
Ond mae na lygoden neu rywbeth eisoes wedi ymosod ar y ffa …mae isio gras! A manicurist … sbiwch golwg ar fy mysedd i ar ôl yr holl lwytho a sgriwio.dwylo garddwrx



Russell a Beti
Mai 10, 2009, 10:24 pm
Filed under: 1

Glywsoch chi o ta? Mi wnes i fwynhau’n arw, a dwi’n meddwl bod Beti wedi mwynhau hefyd. Does na’m llawer o bobol fatha Russell o gwmpas – nid dan 50 beth bynnag! Mi fydd sawl un wedi eu synnu efo’i ddewis o o fiwsig, ond roedden ni yn Byw yn yr Ardd yn gwybod hyn ers talwm – a phawb sydd wedi bod allan efo fo gyda’r nos. Mae o wrth ei fodd yn canu’r hen ganeuon ar dop ei lais wedi peint neu ddau …

Felly llongyfarchiadau i ti Russell – roeddet ti’n grêt! Ac mae Nain yn meddwl dy fod ti’n annwyl ofnadwy. O, ac mi fydd Marian Roberts yn dy addoli di am byth, rwan.

Be oeddech chi’n ei feddwl o’r sgwrs ta?



Y pwll bellach
Mai 6, 2009, 3:03 pm
Filed under: 1

p1010001Wel, dyma sut mae o’n edrych rwan. Fues i’n brysur yn llwytho mwy o gerrig mawr ynddo fo er mwyn i’r penbyliaid gael lle i guddio, ond dwi angen gneud mwy i guddio’r rwber aflwydd na rownd yr ochrau. Mae’r planhigion i gyd wedi tyfu’n anhygoel o sydyn ac mae na bob math o bryfetach yno rwan. Ond y lili ddwr sy’n tynnu fy sylw i bob tro. Dim blodau eto, ond mae’r dail yn gosod eu stondin yn dda:p1010003

Y dail coch na ydyn nhw. Del tydyn? Mi fydda i wedi cynhyrfu’n rhacs pan ddaw’r blodau a does gen i ddim syniad pryd fydd rheiny yn ymddangos. Dim coesau ar y penbyliaid eto chwaith. Pawb yn edrych ymlaen!

Edrych ymlaen at Beti fory hefyd – os mai Russell sydd wrthi tro ma wrth gwrs. Amynedd pia hi …

O ia, cofiwch fynd i’ch mart lleol i chwilio am fargeinion i’r ardd – ges i ‘water butt’ am £8 a bin tyfu tatws am £4! Newydd eu plannu …



wps
Mai 1, 2009, 1:46 pm
Filed under: 1

Ddrwg iawn gen i os wnes i eich camwarwain. Dwi’n beio Russell fy hun. Fo ddeudodd ei fod o’n meddwl ei fod o ar Beti a’i Phobl ddydd Iau. Mi wnes i aros adre’n sbeshal i wrando, ac nid y fo oedd o!

Efallai mai wythnos nesa fydd o ta. Dwn i’m.

Wedi bod yn plannu yn fy ngwely uchel/dyrchafedig/be bynnag ydi ‘raised bed’ ddoe a heddiw ond dim mynedd i lwytho llun heddiw felly bydd raid i chi aros. Tyff! Mae gen i gampafan i’w glanhau.