Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Carol Garddio, Coed camu-drosodd, dwyn ffrwyth, step-over trees, strimar, tensioners
Yn gynta, dyma i chi lun o waelod yr ardd, lle bu’r Jac Codi Baw yn tyllu – edrych yn well yn barod tydi?
Rhyw bythefnos yn ôl oedd hynna a bod yn onest. Erbyn heddiw, a’r holl law, mae’r darn moel wedi llenwi eto. A sylwch bod Del wedi stwffio ei hun i’r llun eto. Mae hi’n rêl pôsar.
Ac roedd hyn cyn iddi gael y ‘snip’. Bu’n rhaid iddi wisgo coler am wythnos a doedd hi ddim yn hapus. Dydi hi’m i fod i redeg am bythefnos ar ôl y driniaeth chwaith, ond trwich chi rwystro ci defaid rhag rhedeg! Mae’n trotian hyd yn oed pan fydd hi ar dennyn. Ond dwi’n ei rhwystro rhag neidio dros waliau a ffensus – geith hi aros wythnos arall cyn mentro gneud hynny!
Ta waeth, isio blogio am y diwrnod dreuliodd Carol Garddio yn yr ardd ydw i. Ges i ordars i glirio’r rhan bler, gwyllt yng nghornel ucha, bella’r ardd cyn iddi ddod. A dyma sut oedd o:Tipyn o waith clirio. Ac am y tro cynta ers oesoedd, mi dynnais i’r strimar allan o’r sied. Do’n i’m wedi ei ddefnyddio ers wyth mlynedd o leia (ges i chwip o beiriant torri gwair yn lle) ac ro’n i wedi anghofio sut i’w gychwyn o, heb sôn am ba danwydd i’w roi ynddo fo. Mi rois i’r petrol fydda i’n ei roi yn y peiriant mawr yn y twll pwrpasol a cheisio pwyso botymau a thynnu’r peth ’na ac ati – ond doedd dim byd yn digwydd. Felly es i a fo at fois clyfar y lle peiriannau garddio yn y Bala. Chwerthin wnaethon nhw a deud fy mod i’n lwcus nad oedd o wedi tanio, neu mi fyswn i wedi ei chwalu. Cymysgedd o betrol ac olew sydd i fod ynddo fo, debyg iawn. Dyyyh. Ac efo’r tanwydd iawn, mae’n gweithio’n champion. Wel, o feddwl bod y gwair hir, hir yn wlyb domen pan fues i’n strimio.
Gwaith torri rhych a phalu wedyn: nes roedd fy nghefn i’n sgrechian! A dyma sut oedd o’n edrych pan gyrhaeddodd y criw:
Coblyn o bridd da, gyda llaw. Mae’n rhaid bod y gornel yna wedi cael ei thrin yn dda flynyddoedd yn ôl.
Iawn, ‘step-over trees’ neu goed camu drosodd ydi coed afalau ( neu unrhyw ffrwyth tebyg am wn i) sy’n tyfu ar draws yn hytrach nac am i fyny. Dyna pam eich bod chi’n gallu camu drostyn nhw … Jest y peth os ydach chi’n brin o le. Ond mae angen gosod pyst bychain i ddal y canghennau yn gynta:
Wedyn, gosod weiran yn dynn efo’r teclynnau bach gwyrdd yma:
‘Tensioners’ – pethau bach clyfar iawn, ond mae set fel yna dros £20, felly nid yn rhad. Ac wedyn, plannu’r ddwy goeden a chlymu’r canghennau yn OFALUS i’r weiran.
Mewn pythefnos, mi fedrai dynhau mwy arnyn nhw – ac eto wedyn mewn pythefnos arall – fel mae rhywun yn dysgu gneud y sblits, ara bach a bob yn dipyn.
Mi wnes i fwynhau’r broses yn arw, rhaid i mi ddeud. Mi fydd raid aros cryn dipyn i weld os fydd yr holl waith yn dwyn ffrwyth ( ha – welsoch chi be wnes i fan’na rwan?) – dwi’m yn mynd i weld afalau am flwyddyn o leia, ond mae’r pethau gorau yn werth aros amdanyn nhw tydyn? A dwi’n gwybod sut i drin y strimar rwan – dim esgus dros adael i fan’na fynd yn wyllt eto!
Gyda llaw, ro’n i wedi dotio at hwn gan Carol. Os dach chi awydd prynu anrheg i mi ryw dro – mi fysa hwn yn plesio! Gewch chi hanes gwenyn gwyllt Commins Coch wsnos nesa!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bocs adar, Cynefin yr Ardd, Del, Dochan, Emrys Frongoch, Gwyn Dolhendre, perthyn, Rhiannon Frongoch, sied eco, snip, titw tomos las, to
Mi fydd gwylwyr y gyfres wedi gweld y to newydd bellach. Ond mae ‘na fwy i’r stori na’r hyn welsoch chi!
I ddechrau, sbiwch ar y llun yma ( cliciwch arno i’w wneud yn fwy): Dyma’r sied cyn i Gwyn a’r hogia ddod i gael trefn. Mi sylwch fod ‘na focs adar yn crogi ar y dde. Ond oedd o’m yno pan ddechreuon ni ffilmio … dim ond cysgod lle bu. Dach chi’n gweld, roedd ‘na ditws tomos gleision wedi nythu ynddo fo – ac roedd na gywion ynddo fo. Ond byddai’n rhaid ei symud os am neud y to.
Rwan, do’n i’m isio gneud hynny, ond doedd na’m dewis – rhaid oedd cael to newydd! Mi wnes i ffonio cyfaill sy’n dallt adar ac mi ddeudodd o y gallen ni ei symud os oedd raid – ond fesul chydig, a ddim yn rhy bell. Faint ydi rhy bell?! Chydig lathenni. O diar… nes i ei roi yn y goeden ar y dde i gychwyn ond doedden nhw’n fel tasen nhw’n ei weld nac yn clywed y cywion yn galw – gormod o swn dwr o’r rhaeadr fechan o bosib. Iawn, y sied ar y chwith ta. Dyma ei osod yno – a gweddio.
Ond roedd y titws druan yn dal i hedfan i lle bu’r bocs. Os gwyliwch chi’r rhaglen eto, mi welwch chi’r titw’n mynd nôl a mlaen mewn panics glân y tu ôl i mi tra dwi’n trio gneud darn i gamera. Roedd y cyfarwyddwr, y dyn camera a’r dyn sain yn gwneud dim ond gwylio’r adar a finne’n gneud fy ngorau glas i drio bod yn naturiol a pheidio dangos mod i mewn gwewyr! Pam na wnaethon ni ffilmio hyn neu gyfeirio ato fo? Am ein bod ni’n teimlo’n gas ac euog ac yn cachu brics, dyna pam! Ond diolch byth, mi doth un rhiant o hyd i’r lleoliad newydd yn y diwedd, a sôn am floedd, sôn am ryddhad, bron nad o’n i isio rhoi clamp o sws i bawb! Mi fyddwch chi’n falch o glywed bod y cywion bellach wedi dysgu hedfan a gadael y nyth yn ddiogel. Ffiw. Ond wnai’m gwneud hynna eto ar frys.
Beth bynnag, dyma lun o’r hogie – Gwyn Dolhendre, Dochan, ei fab, ac Emrys fy nghefnder. Ia, yr un tal, golygus. Gallu deud ein bod ni’n perthyn tydach? 😉 Mae o’n fab i Rhiannon Frongoch, sef chwaer ieuengaf fy mam, ac mae hi’r un oed â fi. Roedd Mam a Nain yn feichiog yr un pryd – hawdd ei neud pan mae gynnoch chi ddeg o blant.
Beth bynnag, dyma i chi fwy o luniau o’r broses: Ac oedd raid iddyn nhw ddangos y bali porta-potty yn y sied ar y rhaglen? prynu hwnna ar gyfer y campafan wnes i, ond mae’n rhy fawr o beth coblyn, felly os dach chi’n nabod rhwyun sydd angen un, rhowch wybod. Fawr o awydd ei roi ar ebay …
A thra roedd yr hogia ( a finne, gyda llaw) yn gweithio’n galed a chwysu, ( coblyn o hogie da ydyn nhw, yn gwybod be ydi gwaith, yn gyflym ac yn daclus tu hwnt, a dwi’m jest yn deud hynna am mod i’n perthyn) ble roedd y criw ffilmio? Yn torheulo yn y cae.
Beth bynnag, dyma’r to ar y diwedd:
A dyna ddangos bod chydig o’r sedum yn fyw o hyd. Mae’r system draenio wedi bod yn gweithio’n wych yn ystod y glaw mawr diweddar, felly mae gen i ffydd bod y sied yma i aros. Felly beryg y dylwn i ffendio’r amser i’w dacluso eto. Pan fyddai wedi gorffen y nofel ma i’r arddegau! Dwi ar y bennod olaf, diolch byth.
O, a sôn am lyfrau – dyma i chi un da. A lluniau arbennig o bwll i’r ardd os gai ddeud – efo ci coch del iawn. Ci sydd newydd gael y ‘snip’ heddiw ac sy’n crio yn ei choler lampshed tra dwi’n sgwennu hwn. Y greadures. A chaiff hi’m rhedeg am bythefnos! Nefi wen. Be wnawn ni’n dwy? Pesgi, beryg …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cwch gwenyn, diod siwgr, gwenyn duon Cymreig, haid, heidio, siwgr
Dim lluniau – rhy wlyb a sgen i’m mynedd, ac mi wnai eu hychwanegu eto – ond bellach, mae gen i dair cwch o wenyn!
Y cwch cyntaf, sy’n hapus braf. Gwenyn duon Cymreig
Yr haid – sydd rwan yn y cwch newydd ro’n i wedi ei pharatoi ers prynu’r stwff yn Llanelwedd. Cymysgedd ydi’r rhain dan ni’n meddwl – y drones yn wahanol – mwy o felyn ynddyn nhw.
Cwch llawr caled – brynais i gan John Porthmadog am £35, sydd â niwc brynais i gan Carys. Roedd hyn wedi ei drefnu cyn i’r haid hedfan dros fy mhen i! Gwenyn duon Cymreig.
Wedi rhoi digon o ddiod siwgr i’r 2 gwch newydd i’w helpu i setlo, ac hefyd am fod neges wedi dod drwy’r gymdeithas gwenynwyr bod llawer o wenyn yn llwgu i farwolaeth ar hyn o bryd am nad oes digon o fwyd iddyn nhw. Dyna pam fod rhain wedi heidio mae’n siwr, i chwilio am rywle efo mwy o fwyd. Wel, mi edrycha i ar eu holau nhw.
Iawn, gwell picio i dre – dwi wedi rhedeg allan o siwgr.
Dyna lle ro’n i a Del yn chwynnu yn yr ardd ( wel, chwilio am lygod oedd Del) pan glywais i’r ‘hum’ uchel ma…
sbio i fyny i weld haid o wenyn yn troi’r awyr uwch fy mhen yn ddu. Wel, yn llwyd ta, doedd hi’m yn haid anferthol.
Brysio i gau drws y gegin, yna rhedeg i nôl fy nghamera a mynd am y gwyllt – ffor’na roedden nhw wedi mynd.
A myn coblyn, dyma’r bocs ‘niwc’ brynais i gan John Porthmadog am ddegpunt wythnos dwytha. Ro’n i wedi rhoi fframiau ynddi, yn cynnwys dwy ffrâm gafodd eu bwyta gan lygod yn y cwch sbâr. Wedi ffonio Carys, ac os fedar hi, mae hi am ddod draw heno neu fory. Ecseiting de!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: beic, beicio, brenhines, Glynllifon, gwenyn diarth, Gwenynwyr Meirionnydd, heidio, Herald Gymraeg, Merched y Wawr, swarm control, yr urdd
Wedi bod braidd yn brysur yn ddiweddar, rhwng sgwennu nofel ar gyfer yr arddegau, chwynnu ( rhywfaint), lladd malwod, gweithio yn ein maes carafannau ( oedd fel ffair dros y gwyliau ond sydd fel y bedd rwan), a beicio i Steddfod yr Urdd efo Merched y Wawr. Hanes hynny yn yr Herald ddydd Mercher, a dyma lun o’r ddwy fues i’n beicio efo nhw ar y dydd Sul: A’r criw i gyd wedi cyrraedd Glynllifon ar y dydd Llun:
Ond dwi wedi bod yn brysur efo’r gwenyn hefyd. Yn un peth, mae gwenyn diarth wedi bod yn ymosod ar fy nghwch i! Ga drapia nhw. Roedden nhw wrthi eto pnawn ma felly dwi wedi gneud y fynedfa’n llai i ngwenyn druan i fedru amddiffyn y lle’n haws. A myn coblyn, roedd fy mhortsh i’n llawn gwenyn am sbel pnawn ma – methu dallt pam nes i mi gamu tu allan a gweld eu bod nhw’n hofran o gwmpas twll yn nho y portsh. Dwi’m yn siwr ai fy ngwenyn i ai’r gwenyn diarth oedden nhw, ond maen nhw wedi rhoi’r gorau iddi rwan. Roedd ‘na ddwy wenynen arall wedi landio’n y portsh erbyn i mi ddod nôl o fynd am dro ar y beic, ond roedden nhw wedi blino’n rhacs, ac er i mi eu rhoi ar goeden mewn pot tu allan tua hanner awr yn ôl, maen nhw’n dal yno, heb symud.
Bydd raid cysylltu efo Carys Tractors i ofyn be sy’n mynd ymlaen. Mae gen i gwch arall yn barod iddyn nhw os mai isio heidio oedden nhw, ond dwi wedi bod yn checio celloedd brenhines yn rheolaidd, a does na’m golwg heidio arnyn nhw. O, arhoswch chi funud … mae na wythnos wedi pasio’n sydyn ar y naw does? Ddylwn i fynd atyn nhw rwan – heno – ond mi fyddan nhw’n flin oherwydd yr ymosodiad gan y gwenyn eraill a dwi’m isio creu hafoc! Dwi am aros tan fory. Ond ddoth Carys yma wsnos cyn dwytha, ac mae fy nghwch i’n gneud yn iawn – ond ddim llawer o fêl hyd yma, a’r penderfyniad oedd y dylid gadael iddi gryfhau yn hytrach na’i sblitio. A brenhines gweddol ifanc ydi hi o hyd felly ddylen nhw ddim bod yn rhy awyddus i heidio.
Ac mi ddylwn i ddallt y busnes heidio ma rwan, achos o’r diwedd, ges i fynd ar ddiwrnod agored Gwenynwyr Meirionnydd, a heidio ( swarm control) oedd y pwnc.
Dyma ni, yn heidio i lawr am gychod Paul & Pauline Aslin yn Arthog, wrth ymyl Dolgellau ar bnawn Sadwrn Mai 19. A dyma ni wrth y cychod.
Criw mawr ohonon ni does?! Do, ges i fraw hefyd. A’r rhan fwya yn wenynwyr newydd fel fi – dyna pam eu bod nhw yno – i ddysgu. Nifer fawr yn Gymry Cymraeg hefyd, a dysgu Cymraeg mae Pauline, ond mae’n hogan glyfar, felly fydd hi’m chwinciad cyn dod yn rhugl. Ond fel mae’n digwydd, 5 o’u cychod nhw sydd i lawr y ffordd yn Nantycneidiw, a’r rheiny sy’n ymosod ar fy nghwch i, y diawlied! Dwi’n gallu deud nad rhai bach duon Cymreig ydyn nhw achos maen nhw’n fwy, ac yn fwy melyn:
Doedd Pauline ddim yn siwr pam eu bod nhw wedi penderfynu trio dwyn mêl fy nghwch i chwaith … hm. Ta waeth, difyr ydi gweld sut mae pobl eraill yn gofalu am eu gwenyn, ac mae Paul & Pauline mewn lle delfrydol – coed Sycamorwydden ymhobman, ac mae’n llawer cynhesach yno ( yn nes at y môr) nac i fyny fan hyn. Felly efallai mai isio bwyd hawdd ei gael mae eu blwmin lladron nhw!
Beth bynnag, yn Arthog, mi fuon nhw’n dangos a thrafod sut i reoli heidio efo neu heb ddod o hyd i’r frenhines. A sut i’w cael nhw’n ôl os ydyn nhw’n heidio. Dwi wedi prynu sgep yn barod ar gyfer yr achlysur – roedd John o Borthmadog, gwenynwr profiadol yn gwerthu llwyth o’i hen offer a waries i £100 yno – yn syth! Mi wnai gymryd lluniau o be brynais i rywbryd eto – ond nefi, dwi angen sied ar gyfer yr holl stwff ma.
Mae ‘na gyfarfod arall yn lle Sue a John yn Nhai Cynhaeaf y Sadwrn yma ( 16) a dwi am drio mynd. Marcio brenhinesau sydd dan sylw tro ma. Mae dysgu pethau yn ddifyr, ond cyfarfod pobl eraill sydd wedi gwirioni fel fi, yr un mor ddifyr!