BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Nadolig Llawen?
Rhagfyr 29, 2009, 3:57 pm
Filed under: 1

Wel, dwi’m wedi garddio o gwbl dros yr wyl. Roedd hi unai’n rhy wlyb neu’n rhy oer neu’n rhy braf. Os oedd hi’n braf, roedd yn well gen i fynd am dro i’r bryniau. Os yn wlyb neu’n oer, swatio yn y ty amdani ynde, yn gwylio rhyw rom-com fach ddiniwed neu DVD. O ia, mi ges i gip ar ffilm Rwsieg ar Film 4 rai wythnosau’n ôl – 9th Company. Dwi ddim yn un am ffilmiau rhyfel fel arfer, ond mi gydiodd hon ynof fi. Ond roedd hi mlaen yn hwyr a finne’n cysgu a byth wedi cael Sky+ (does na’m special offers i bobl sengl sydd ddim angen multiroom ac yn tanysgrifio i Sky yn barod, damia nhw) felly bu’n rhaid i mi ei gadael ar ei hanner a mynd i ngwely. Ond nes i brynu’r DVD!

Setlo i’w gwylio hi y noson o’r blaen – a ga fflamia, mae’r is-deitlau’n rhy isel a ddim yn dangos ar fy sgrin i – dim ond ambell linell bob hyn a hyn. AAAA! Ond mi wnes i ddal ati. Mae’r actio mor dda, mae ganddoch chi syniad golew be sy’n mynd ymlaen. Dwi’n ei hargymell hi 100%. Wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn yn Afghanistan yn 1988. Ac mi wnes i benderfynu ei gwylio hi am mod i wedi cyfarfod milwyr Rwsieg tra’n teithio drwy Siberia efo Ar y Lein – a gweld un cadfridog oedd yn greithiau i gyd ar ôl brwydro’n erbyn yr Afhganiaid. Mi gafodd y Rwsiaid brofiadau erchyll allan yna. Amserol iawn tydi?

Wps. Dwi fod i flogio am arddio tydw? O ia, y sied eco a’r llygod mawr … am fod gen i larwm tân oedd wedi dechre bibian bopb 40 eiliad ( a finne methu cofio lle rois i’r llyfryn cyfarwyddiadau) mi rois i’r bali peth yn y sied am ei fod o’n mynd ar fy nerfau i. Mae o’n dal i fibian yn fanno. A wyddoch chi be? Dwi’n meddwl ei fod o’n cadw’r llygod draw! Ieeee! Ond nid cyn i’r bygars gnoi twll yn fy hamoc i. Mae isio gras. A pheiriant gwnio.

I LOVED A RUSSIAN FILM CALLED ‘9TH COMPANY’ – BASED ON REAL EVENTS. 1988 AFGHANISTAN. AMAZING STUFF.

AND A FAULTY FIRE ALARM WHICH WAS GETTING ON MY NERVES IS NOW IN THE SHED AND SEEMS TO BE KEEPING THE RATS AWAY!



Fy mefus druan i
Rhagfyr 19, 2009, 11:32 pm
Filed under: 1

Ydach chi’n cofio’r eitem mefus? Ges i ddau bot pwrpasol i’w tyfu’n iawn a’u llenwi efo planhigion del, iach, a gosod tiwb yn y pot er mwyn eu dyfrio’n iawn a phob dim. Rhyw fis yn ôl, mi rois i’r potiau yn fy sied eco er mwyn gwneud yn siwr na fyddai’r rhew yn eu lladd nhw dros y gaeaf. A’r diwrnod o’r blaen, mi agorais ddrws y sied i weld hyn:

Ia, pridd dros y lle i gyd – a llwyth o faw llygod mawr. NAAAAAA!

O sbio’n agosach, roedd canol un pot wedi ei wagu’n llwyr a phob un planhigyn oedd ynddo fo wedi ei sglaffio’n ddim.

Dydi’r llun ddim yn dangos hynny’n glir – ond mi fedrwch chi weld nad oes unrhyw fath o wyrddni ar ôl yn y pot ar y chwith. Dim yw dim. Trio gwneud nyth yn y pot oedden nhw am wn i. Mi ddois o hyd i’r nyth yn nes ymlaen yn un o’r drorsus yn y cwpwrdd dal bob dim – ac mi wnes i ei chwalu wrth reswm. Yn y cyfamser, roedd Del yn mynd yn boncyrs yn snwffian drwy’r sied yn chwilio am y dihirod blewog, hyll, afiach, annifyr.

Rwan, be ddylwn i ei wneud am y llygod mawr ma? Maen nhw’n fy ngyrru i’n hurt. Y bin compost ddenodd nhw gynta, ac mi ges i wared o’r pla hwnnw efo gwenwyn. Ond maen nhw wedi dod yn ôl – ac os ydyn nhw’n nythu, maen nhw’n mynd i baru a chael llwyth o fabis. Mae’n siwr bod y ffrwd yn eu denu nhw ond does na’m byd fedra i wneud am honno. Mae ganddon ni gyfarfod Byw yn yr Ardd fore Gwener i drafod eitemau 2010 a gawn ni weld os fydd ‘sut i ddelio efo llygod mawr’ yn un ohonyn nhw!

Yn y cyfamser, os oes gan rywun dips, dwi’n barod i wrando. RWAN!

Mae’n parti Dolig ni yr wythnos yma hefyd, felly beryg y bydd gen i gur pen o fath arall toc.

Do, dwi wedi defnyddio’r llun yma unwaith yn barod, ond mae o mor addas i ddymuno Nadolig Llawen (di-lygod mawr) i chi.

Hwyl!



Llysiau Nadolig
Rhagfyr 7, 2009, 12:30 pm
Filed under: 1

Mae arna i ofn mod i wedi gorfod gyrru’r camera i gael ei drwsio felly dwi methu cymryd lluniau o’r hyn dwi wedi bod yn ei wneud yn yr ardd yn ddiweddar. Plannu tiwlips yn un peth, a dwi’n pasa plannu nionod toc – pan fydd y bali glaw ma wedi stopio rhywfaint. Iechyd, dwi’n colli haul a gwres Nigeria rwan. Er gwaetha’r mosgitos!

Ta waeth, eitem arall welwch chi ar y rhaglen Dolig (Rhagfyr 21) ydi rhandir Eirian a Richard Jones yn Rhandir Rhydypenau y Rhath. Mi fues i yno yn yr haf, cofio? Ac mi ddywedon nhw eu bod nhw am drio tyfu pob llysieuyn fyddai ar y bwrdd cinio Nadolig eu hunain. Aeth Russell a finna’n ôl yno fis Tachwedd i weld sut siâp oedd arnyn nhw.

Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld faint o obaith sydd ganddyn nhw, ond … doedd popeth ddim wedi bod yn hynci dori o bell ffordd! Mi fu Russ yn eu cynghori ar sut i ddelio efo’r gwahanol broblemau tro nesa, ond chlywes i fawr o’r sgwrs honno achos mi fu’n rhaid i mi fod yn ‘Anti Bethan’ a mynd â’r plant – Owain, Elen a Rhodri – am dro iddyn nhw gael llonydd a thawelwch! Dyma lun o Owain ac Elen yn yr haf: Maen nhw’n gymeriadau a deud y lleia! Ond ges i hwyl garw yn hel dail efo nhw – tip Russell ar gyfer cadw eich llysiau yn hapus dros y gaea – rhoi trwch o ddail neu redyn drostyn nhw.

Dwi’n siwr y bydd cinio Dolig y Jonesiaid yn fendigedig yn y diwedd – hyd yn oed os fydd y sbrowts fymryn yn fychan. Ond maen nhw’n well na fy rhai i – mae’r pethau hynny’n feicrosgopig. Ond dwi’m wedi rhoi llawer o sylw iddyn nhw, rhaid cyfadde. Maen nhw’n cael ‘feed’ o hylif y ty pryfed genwair/mwydy yn gyson gen i ond mae’n siwr bod yr holl law ma wedi gwanhau ei effaith o.

O wel. Rhyw 3 wythnos i fynd …