BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwylio adar yr ardd
Ionawr 29, 2011, 12:00 am
Filed under: Heb Gategori

Heddiw ( Ionawr 29) neu fory, os oes gynnoch chi awr yn sbar, be am wylio’r adar sy’n dod i’ch gardd chi?

Mae’r RSPB wedi gofyn i bobl gofnodi’r adar yn eu gerddi am awr unrhyw bryd sy’n eich siwtio chi dros y penwythnos. mi wnes i hyn y tro dwytha ac mae’n ddigon hawdd, dim ond mater o ddeud be oedd y rhif mwyaf o’r un math o dderyn welsoch chi ar un adeg. e.e os welwch chi bump titw tomos ar yr un pryd.

Does na’m pwynt cyfri bob tro dach chi’n gweld un – falle mai’r un un ydi o.

A dyma sut mae titw tomos las yn edrych. Wel, ei ben o o leia. Nid y fi gymrodd y llun yma gyda llaw – dim ond ei fenthyg o galeri’r RSPB.

Ond beryg bod y rhan fwya o bobl Cymru’n nabod titw. A robin goch. Os nad ydach chi’n siwr o’r gweddill, mae na help i’w gael ar wefan yr RSPB. Neu prynwch gopi o lyfr adar Iolo Williams wrth gwrs. A sôn am hwnnw, dwi’n mwynhau’r gyfres am y Gwylliaid yn arw – roedd yr un Cherokee yn arbennig o ddifyr.

Ond nôl at yr adar. Tip gen i – rhowch fwyd allan iddyn nhw – mi welwch chi fwy. Ac mi fydd yn llawer mwy difyr i chi, yn lle fferru’n yr ardd yn sbio ar un robin goch.

Mi allech chi wylio drwy’r ffenest wrth gwrs, ond mi fyswn i’n syrffedu braidd yn sbio drwy’r ffenest am awr. O leia yn yr ardd mi wnai arddio chydig yr un pryd. Ond os ydach chi’n berson oer, mi allai fod yn syniad i chi llnau tu mewn eich ffenestri yn ystod yr awr yna wrth gwrs.

Be wedyn? Wel, wedi nodi’r cyfansymiau ar ddarn o bapur, llenwch y ffurflen ar y wefan isod:

http://www.rspb.org.uk/birdwatch/?gclid=CPfT34eG3qYCFQse4Qoddwn_0g

O ia, mae’n rhaid nodi’r adar sy’n glanio ar y lawnt neu’r coed, dim pwynt nodi’r rhai sydd jest yn hedfan heibio. Ac maen nhw angen gwybod os na fyddwch chi’n gweld unrhyw beth hefyd – isio gwbod os oes na fwy neu lai o adar o gwmpas maen nhw wedi’r cwbl. Sy’n f’atgoffa – does na’m un blwmin deryn wedi darganfod y bocs bwydo rois i ar ffenest Nain ar ôl Dolig! Ddim hyd yn oed y fat-ball ar y lein ddillad! Dyna brofi mai adar twp neu ddall neu rhyw dew sydd o gwmpas sbyty Dolgellau. Na, dydi hi’m yn y sbyty, byw wrth ymyl mae hi.

Dwi’n gwbod mod i’n mynd i weld llwyth o adar – fues i’n prynu llwyth o fwyd yn y Bala ddoe. A dwi’n gweld un neu ddau o’r rhain yn gyson:

Ia, cnocell y coed. Naci, nid fi gymrodd hwnna chwaith. Sgen i’m zoom lens felna. Ond maen nhw’n ddel tydyn.

Pob lwc efo’r gwylio. Betiai chi y bydda i’n gweld o leia chwech titw tomos i gyd yr un pryd. Ac os ydach chi’n curo hynna, gadewch i mi wybod.

 

17.00 – Wedi llenwi fy ffurflen.

1 deryn du

9 Titw tomos las

4 ji-binc ( chaffinch)

2 ditw penddu ( coal tit)

3 titw mawr ( Great tit)

1 robin goch

1 cnocell fraith fwyaf ( Great spotted woodpecker)

2 delor y coed ( nuthatch)

Rhywbeth tebyg i llynedd, dim ond mwy o ditws tomos. Y diawlied yn symud mor sydyn, bosib bod ‘na fwy. Yr un peth yn wir am y titws penddu. Rioed wedi gweld drudwy yma, a run deryn y to ers sbel.



Prynu o gatalogs ai peidio
Ionawr 26, 2011, 7:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau:

Mae ‘na ddwsinau o gatalogs blodau a bylbiau yn dod drwy’r blwch llythyrau bob blwyddyn, a bob blwyddyn run fath, dwi’n gwario ffortiwn arnyn nhw. Maen nhw’n edrych mor ddel, jest y peth i roi lliw i ardd sydd braidd yn … wel, yn wyrdd.

Ond eleni, dwi wedi penderfynu peidio, a hynny am sawl rheswm:

1. Ychydig iawn ohonyn nhw sy’n tyfu o gwbl, heb sôn am oroesi.

2. Os ydyn nhw’n tyfu’n dda i ddechrau, mae rhywbeth yn eu bwyta nhw wedyn.

3. Mae pethau’n mynd i fod yn dynn eleni: dwi wedi cael estyniad bychan i’r ty; dwi newydd orfod prynu tair teiar newydd i’r fan ac mi fydd y timing belt bron yn £300; mae pris olew wedi codi, a phris diesel, heb sôn am brisiau pob dim arall; dwi’n mynd am benwythnos hir i Rufain efo’r genod fis Chwefror ac mae fanno’n ddrud meddan nhw.

Felly dyna ni. Dim ond y  blodau a’r bylbiau sydd yma ers llynedd fydd yn rhoi lliw i ngardd i eleni, os fydd unrhyw beth wedi dod drwy’r gaeaf yn ddi-anaf wrth gwrs. Mae fy rosmari i’n ddu bitsh ar ôl y rhew a’r eira, a dwi’n mwynhau coginio efo rosmari ffresh o’r ardd, felly mi fydd raid prynu un newydd o’r rheiny mwn. Nai aros sbel i weld os fydd hon yn dod at ei hun – rhy gynnar i’w thocio dwi’n meddwl, tydi? Ond dwi’n eitha siwr ei bod hi’n gelain. Mae’r teim yn amlwg yn fwy tyff. Er bod y malwod yn mwynhau hwnnw.

Ia, malwod. Neu wlithod, galwch nhw be fynnwch chi – a dwi’n eu galw nhw’n bob enw dan haul yn aml. Gas gen i’r bali pethau. Nhw sy’n bennaf gyfrifol am fwyta fy mhlanhigion catalog i, garantîd. Maen nhw wedi sglaffio gwerth cannoedd o bunnoedd yn yr ardd ma ers i mi symud yma 11 mlynedd yn ôl. Rois i lond powlen fas o gwrw yn yr ardd i’w dal nhw wythnos dwytha – ges i ryw hanner dwsin, ond wedyn mi ddoth y glaw mawr yndo… shandy gwan iawn sydd ynddo bellach.

Ond mae llygod yn broblem hefyd – ddois i o hyd i ddau fylb tiwlip ar y gwair ddoe – a system o dwneli yn y pridd lle roedden nhw i fod. Wedyn roedd y malwod wedi sglaffio’r bylbiau doedden, ga damia nhw. Argol, mae isio gras.

Ond mae fy mwydy ( y ty pry genwair) wedi profi i fod yn ddefnyddiol mewn mwy nag un ffordd – dwi’n aml yn dod o hyd i lygoden wedi boddi yn y bwced dwi’n ei gadw o dan y tap. Nacdw, dwi’m yn teimlo drostyn nhw o gwbl – un llygoden yn llai – grêt.

Dwi wedi dechrau clirio’r tyfiant marw fel bod y malwod ddim yn cael cuddio oddi tano, ac i’r adar fedru dod o hyd iddyn nhw – ac i unrhywbeth sydd i fod i dyfu, gael golau i fedru gwneud hynny. Mae ‘na ambell gennin pedr wedi codi bys bach gwyrdd, ond does ‘na’m golwg o unrhyw lilis bychain gwynion ( dwi’m yn hoffi’r enw Eirlys am ryw reswm).

Mi fyddan ni’n dechre ffilmio eto tua canol Chwefror felly dim ond gobeithio y bydd rhywbeth call wedi tyfu acw!

 



Dechrau eto
Ionawr 9, 2011, 4:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

Heddiw oedd y tro cynta i mi weithio yn yr ardd. Dod hyd i fenyg oedd y dasg gynta (mae’n rhaid i mi gael trefn yn y sied na, mae o’n ôl yn fler ac orlawn fel y sied wreiddiol) ond wedi dod o hyd i bâr o rai ‘heavy duty’, mi fues i’n brysur yn tynnu a thorri y deiliach sydd wedi hen farw. Mae fy wheely bin brown bellach yn orlawn ac yn pwyso tunnell, mae fy min compost plastig yn gwegian ac mae’r pentwr o lanast ( sydd i fod yn domen gompost o ryw fath) yn gorlifo hefyd – a dim ond chwarter yr ardd wnes i.

Mi fues i hefyd yn trio hel algae allan o’r pwll. Ydi, er gwaetha’r ffaith iddo rewi’n gorn am o leia wythnos – falle pythefnos, dwi’m yn siwr – wnes i’m sbio – mae’r bali stwff gwyrdd afiach na’n dal yno. Dyma lun o Robin a fi’n sefyll ynghanol y pwll i brofi ei fod o wedi rhewi’n solat:

Ro’n i wedi gwirio ( checkio) ei fod o’n ddiogel yn gynta wrth gwrs. Mi fysa Robin wedi torri ei galon tasen ni wedi disgyn drwodd a gwlychu’r camera gafodd o gan Siôn Corn. Mae o wedi bod fel Japanî bach ( dydi hynna ddim yn hiliol nacdi?) o gwmpas y lle yn tynnu pawb a phopeth.

Ond ia, y blydi algae na – ydw, dwi’n rhegi – felna dwi’n teimlo! Mi wnes i drio rhoi’r parseli bychain o wellt barlys ( barley straw) ynddo fo llynedd a’r flwyddyn cynt ond yn ofer. Beryg mod i angen anferth o big bêl neu rywbeth. Hefyd, mae’r dwr wedi stopio lllifo drwy’r beipen o fy hen danc dwr. Es i i sbio be oedd, ac roedd y bali peth yn llawn llaid… fues i wrthi’n ei wagio ( un hanner) fel bod y beipen yn glir ond doedd na’m byd ond dod drwodd wedyn. Unrhyw syniadau? Mae’r beipen yn llawer rhy hir i wthio bechingalw – peips tenau sy’n slotio i’w gilydd i fyny’r bali peth. Methu cofio be ydi’r enw ond mae na rai yn y sied  – yn rhywle. Dwi’n meddwl.

Anrhegion Nadolig rois i fy Nain a Mam oedd pethau bwydo adar sy’n glynu i’r ffenest. Rhai sgwar o’r RSPB oedd rheiny, ond un posh, del sydd gen i:

Mae’r adar yn tyrru ato fo, ond mae’n boen trio cael yr hadau i mewn am fod y slot mor fach. Taswn i’n prynu un arall, mynd am yr un sgwar o’r RSPB fyddwn i – lot haws. Ond ddim mor steilish…

Mae Mam wrth ei bodd efo’i un hi ( llwythi o adar yn Nolgamedd ynghanol y coed) ond dydi adar Dolgellau ddim wedi darganfod un Nain eto. Dwi am drio hongian ‘fat ball’ oddi ar ei lein ddillad hi pan ai yno wythnos nesa i’w denu. Am fod Nain yn 95 a methu symud o’r ty yn aml, mae’n treulio oriau meithion yn ei chadair wrth y ffenest ac ro’n i’n meddwl y byddai hi wrth ei bodd yn gwylio ambell ditw tomos yn agos, agos. Ond mae titws Dolgellau yn dwp – hyd yma!

O, ac yn sgil ymateb i’r blog dwytha, dwi am drio tagio am y tro cynta – dim clem os dwi’n ei neud o’n iawn, ond yn rhoi cynnig arni…



Blogio
Ionawr 2, 2011, 12:01 pm
Filed under: Heb Gategori

Newydd gael neges gan WordPress.com, y cwmni sy’n rhedeg y safle blogio yma.

Isio gadael i mi wybod pa mor lwyddiannus fu my mlogio yn ystod 2010 oedden nhw.

‘You’re doing awesome!’ oedd y sylw. 3,100 o ‘views’ – be ydi ‘view’ yn yr ystyr yma yn Gymraeg dwch? 3,100 o gliciau?

Dydi hynna ddim yn ddrwg o feddwl mai cul iawn ydi apêl y blog yma mewn gwirionedd – sef pethau’n ymwneud â garddio, neu bethau’n ymwneud â’r ardd mewn rhyw ffordd neu fod tu allan. Mae hynny’n gallu bod yn eitha rhwystredig weithiau, felly dwi’n sgwennu am bethau chydig yn wahanol o dro i dro. Ydach chi’n meddwl y dylwn i sgwennu am fwy o bynciau amrywiol?

Dwi wedi fy synnu bod gymaint o glicio wedi bod a bod yn onest. Wedi’r cwbl, chydig iawn o arddwyr sy’n ffidlan efo’r we hyd y gwela i. Ydw i’n anghywir? Gadewch i mi wybod. A dydi ymateb i’r golofn ddim yn hawdd nacdi, gan fod angen google account neu flog eich hun er mwyn gallu gwneud sylw.

O ble daeth y clics? Wel, yn ôl y wefan, y rhai mwya prysur oedd bywynyrardd.net, blogiadur.com, blog-golwg360.com, obama-scandal-exposed.co.cc, a facebook.com. Dwi’m cweit yn dallt y cysylltiad efo Obama a’r sgandal…
Daeth rhai o hyd i’r blog drwy chwilio am y canlynol:  blog bethan gwanas, bethan gwanas blog, bethan gwanas, siani flewog, a dewi goulden. Unai mae Dewi yn googlo ei hun gryn dipyn neu mae o’n foi poblogaidd iawn!

Y diwrnod prysura eleni yn ôl y neges oedd Ebrill 14, a’r post mwy poblogaidd oedd ‘Paneli Haul’. Ond yn ôl fy ystadegau ar y dudalen, Hydref 22 2009 oedd y prysuraf erioed. 53 clic. Pam? Bydd raid i chi chwilio i weld yn bydd!

O ia, ges i gais i sgwennu’n ddwy-ieithog hefyd a nes i ddechrau gneud hynny – wel, ychwanegu darn Saesneg yn deud yn fras be oedd cynnwys y blog. Ond ges i lond bol -roedd o’n cymryd amser i’w neud. Ddylwn i ddal ati? Neu ei wneud yn haws i ddysgwyr neu bobl sydd ddim wedi arfer darllen Cymraeg? Should I make this blog easier for Welsh learners to understand? Let me know.

Yn y cyfamser, Blwyddyn Newydd Dda i chi! Mae 2011 yn argoeli i fod yn brysur i mi eto.  Dwi wedi cytuno i wneud cyfres  arall o ‘Byw yn yr Ardd’ ac mi fyddwn ni’n dechre ffilmio eto ymhen rhyw ddeufis dwi’n meddwl. Bydd Russell a Sioned yn dal efo ni hefyd. Ac mi fydd cyfres arall o ‘Byw yn ôl y Llyfr’ efo Tudur Owen ond mewn cyfnod gwahanol. Gewch chi fwy o wybodaeth am hynny nes mlaen yn y flwyddyn hefyd.

Hwyl!