BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Plas yn Rhiw a Dafydd Cadwaladr
Ebrill 26, 2010, 12:33 pm
Filed under: Heb Gategori

Mi fuon ni’n ffilmio fan hyn ddydd Sadwrn. Ew, lle braf. Dwi wedi pasio ar y beic efo fy ffrind, Ann Charles a’r cwn o’r blaen, ond gan nad yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caniatau cwn yn unlle, dim ond pasio wnaethon ni. Ond aros adre fu raid i Del tro ‘ma ( mae hi’n hel cwn yn un peth) a ges i weld yr ardd a chydig o’r ty ei hun. Dyma’r olygfa o Borth Neigwl:

Hyfryd tydi? A diolch i’r chwiorydd Keating  roddodd y lle i’r Ymddiriedolaeth, mae ganddyn nhw ddigon o blanhigion difyr, o’r goeden sy’n arogli fel siocled a magnolia prin iawn, i’r tiwlips bendigedig ‘ma:

Mae fy nhiwlips i allan, ond dydyn nhw’m byd tebyg i hwnna!

Siarad efo Mary fues i ar y rhaglen ( hogan glen iawn), ond mae Ann Charles yn gweithio yno hefyd, a hi sydd wedi bod yn bwydo’r robin goch yno, fel bod mwy nag un ohonyn nhw yn hynod ddof. Does gen i’m zoom da iawn ar y camera bach yma, ond sbiwch agos ddoth o ata i! Ac mae o’n ffati lwmp bach go iawn tydi? Ond gwyliwch eich hunain – maen nhw’n tueddu i fusnesa yn eich car chi!

Ond welwch chi mo’r eitem yna am sbel; yn y rhaglen nesa, eitem efo Dafydd Cadwaladr welwch chi, sef y boi o Bethesda sy’n fwyellwr o fri (er gwaetha trafferthion efo’i ben-glin – join the club!). Dyma fo’n dangos sut i dorri coed:

Mi nath o drio fy nysgu i sut i drin bwyell yn ddiogel hefyd … gyda phwyslais ar y trio. Ges i well hwyl ar lifio a bod yn onest. Dwi’m wedi gweld yr eitem eto felly dwi’m yn gwybod faint o shots ohono fo’n chwerthin am fy mhen i sy ‘na … Ond mi gawson ni hwyl – a chacen hyfryd gan Fiona, ei wraig o. Wyau chwaden … dach ch’n gallu gweld a blasu’r gwahaniaeth. Ac mi roedd y gwersi llifio yn help i mi ar gyfer llifio’r coed fan hyn. Ond roedd na ormod, felly mi ddoth Rich Dwy Olwyn draw efo’r li gadwyn wythnos dwytha, diolch byth.

Dwi’n iawn am goed am sbel rwan. Ond fydda i’m yn gneud tân am dipyn – dwi’n cychwyn ar wyliau i Florida fory. Felly wela i mo’r rhaglen tan fydda i’n ôl. Tan hynny – twdlw. A dwi’n gweddio y bydd hi’n glawio rhywfaint yn fy absenoldeb …



Hydroponeg a Cadi Fflur
Ebrill 22, 2010, 3:30 pm
Filed under: 1

Welsoch chi’r eitem am dyfu heb bridd, do? Wel, os ydach chi am weld y broses efo’ch llygaid eich hun, mae croeso i chi fynd i Cae Gwyn, wrth ymyl Llannerchymedd ar Ynys Môn. Rowena a Philip Mansfield sy’n rhedeg y lle ac mi gewch groeso cynnes ganddyn nhw. Mae ‘na ddau ddiwrnod agored ar: Sadwrn Mehefin 26 1.00-6.00, a’r un oriau ar Sadwrn, Awst 28. A dyma Rowena a finna y diwrnod fuon ni’n ffilmio – pan oedd hi’n oer a gwyntog!

Hogan o Ddolgellau ydi hi’n wreiddiol, coeliwch neu beidio, ond mi symudodd y teulu – i Ynysoedd y Falklands os dwi’n cofio’n iawn! A dyna pryd gollodd hi ei Chymraeg. Mae hi’n dallt bob gair ond yn swil i’w siarad felly dyna pam na welsoch chi hi ar y rhaglen. Mae’r ddau’n defnyddio dulliau hydroponeg ers 2004, ac os dach chi isio mwy o wybodaeth, cliciwch ar eu gwefan:

www.herbsfromwales.co.uk

Mi welwch chi bod Rowena hyd yn oed yn gwneud pob math o eli allan o wahanol blanhigion, rhai cwbl naturiol heb gemegolion. Mi brynais i gwpwl ac maen nhw’n grêt. Dwi’m yn siwr os ydw i i fod i roi ‘Lavender and marigold foot balm’ ar fy nwylo – ond mae’n gneud y tric!

A dwi’n meddwl mai Rowena ydi’r un sydd wedi ymateb i fy nghwestiwn i am goed ‘bay’ trist. Leah, fy nith ydi perchennog y coed, ac mae ei merch hi, Cadi Fflur wedi bod yn fy helpu i yn yr ardd yn ddiweddar. Dyma hi’n fy helpu i fwydo’r adar:

Mae hi’n ffrindiau mawr mawr efo Del hefyd, ac mae’r llun isod yn profi hynny …!

A sôn am blant bach, mae Russell bellach yn dad i Bleddyn – ac Aled, un o gynhyrchwyr y rhaglen, yn dad i Hedd! Llongyfarchiadau mawr i’r ddau deulu.



plannu a mynd
Ebrill 17, 2010, 5:39 pm
Filed under: 1

Dwi’n gorfod diflannu am y gororau rwan – i wisgo staes a bustle am 4 diwrnod. Ffilmio cyfres arall i Cwmni Da – am oes Fictoria efo Tudur Owen. Gobeithio na fydd angen shots agos o fy nwylo i achos maen nhw’n rêl dwylo ffarmwr erbyn hyn. Dwi wedi bod yn llifio coed, plannu  coed, tatws, panas, moron, bitrwt a thrio stopio fy mhenbyliaid rhag diflannu drwy’r beipen o’r pwll am yr Wnion. Dwi wedi colli eu hanner nhw! Neu ai’r gena goegs sy’n eu bwyta nhw? Ydyn nhw’n bwyta penbyliaid? Rhywun yn gwybod?

Hefyd, SOS gan Leah fy nith – mi gafodd ddwy goeden ‘bay’ fawr ddel a chrwn yn anrheg priodas llynedd – mewn potiau. Mae na olwg truenus arnyn nhw ar ôl y gaea. Be ddylai hi ei wneud?

Reit, gorfod mynd rwan – hwyl!



Gena goegs/newts!
Ebrill 15, 2010, 11:15 pm
Filed under: 1

Wedi gweld dau yn y pwll bore ma! Oh yes!!!



Paneli haul/heulol
Ebrill 12, 2010, 8:21 pm
Filed under: 1

A voila – mae’r paneli yn eu lle. Edrych yn iawn tydyn? Fel stamp yn y gornel. Mae na ddau arall yn y cefn fel mod i’n cael haul neu olau dydd, o leia, drwy’r dydd. Roedd hi’n amhosib eu rhoi  i wynebu’r de felly maen nhw’n wynebu’r dwyrain a’r gorllewin. Ac maen nhw’n gweithio’n arbennig o dda! Jest i mi losgi fy llaw wrth olchi llestri heno. Mi fydd yn cymryd blynyddoedd iddyn nhw dalu am eu hunain, ond dwi’n ei weld o fel buddsoddiad ariannol – ac amgylcheddol. Fe ddylai fod yn haws i bobl sy’n byw o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol i’w cael nhw rwan. Gawn ni weld!

Mae’r tywydd braf ma wedi bod yn ffantastic ar sawl cownt: mae gen i ddigon o ddwr poeth, ond mae’r ardd wedi dod yn fyw eto mwya sydyn. Mae’r camellia sydd wastad yr un orau ( mae gen i dair) yn edrych yn hyfryd fel arfer:

Ond dal i edrych yn felyn mae’r un gafodd y stwff haearn. O ia, wedi sbio ar dips y gwylwyr ar y wefan, mi wnes i weld tip VIvian Parry Williams o Blaenau Ffestiniog – sef rhoi hoelion wrth droed y goeden! Wel, roedd gen i hen beipen haearn felly dwi wedi gosod honno y tu ôl i’r bonyn i weld be ddigwyddith …

Ac mae’r goeden geirios wedi dechrau blodeuo. Fe ddylai edrych yn fendigedig ymhen wythnos neu ddwy. Roedd hi wedi tyfu’n arw felly dwi wedi gorfod tocio tipyn arni – neu roedd hi’n amhsoib cerdded heibio’r fainc bicnic heb gael slap go hegar gan y canghennau.

Dwi wedi bod yn hynod brysur yn yr ardd ma’n ddiweddar. Mae fy nwylo i’n rhacs ( pryd ydw i’n mynd i ddysgu gwisgo menyg?!) ond mae’r lawnt yn edrych yn llawer gwell nag oedd hi:

Dydi hi’m cweit yn wyrdd eto, ond o leia does na’m mwswg! Ac ydi, mae Del yn mynnu cael ei hun yn y lluniau ma.

Mi sylwais i hefyd bod yr unig teim (thyme) sydd gen i ar ôl yma wedi mynd i edrych braidd yn wantan. Wel, roedd hi wedi bod mewn pot ers blynyddoedd, felly dwi wedi ei thocio hi a’i gosod yn yr ardd ei hun i weld os fydd hi’n hapusach:

Dwi wedi bod yn llifio coed fel peth gwirion hefyd ond gewch chi wybod mwy am hynny wsnos nesa …



Carol Gerecke
Ebrill 5, 2010, 7:33 pm
Filed under: 1

Roedd hi’n braf gallu rhoi wyneb i’r ferch sy’n arbenigwraig arddio ar raglen Jonsi yndoedd? Dyma hi, yn eistedd ar un o fy madarch pren i:

Cofiwch chi, os oeddech chi’n gwylio ‘Clwb Garddio’, mi fyddech chi’n ei chofio hi’n iawn. Neu yn gwsmer yng ngerddi Seiont wrth ymyl Caernarfon wrth gwrs. Mi welais i hi yn fanno ychydig fisoedd yn ôl ond ro’n i’n ormod o fabi i ddeud helo ac roedd hi’n edrych yn hynod brysur beth bynnag! Mi fydda i’n teimlo’n gwbl gysurus yn deud helo wrthi y tro nesa achos mi wnaethon ni ddallt ein gilydd i’r dim: mae hi’n gwybod yn iawn be mae hi’n ei neud yn yr ardd a dwi ddim!

Un o’r tasgau roddodd hi i mi oedd cael trefn ar y mwswg ar y lawnt:

Os welsoch chi’r rhaglen gynta, mi fyddwch chi wedi ngweld i’n chwysu yn trio cribinio’r bali stwff. Ond dim ond rhyw 5 munud o ffilmio oedd hynna. Dros yr wythnosau dwytha ma, dwi wedi cribinio gymaint, mi ges i swigen reit gas ar fy mawd ( er gwaetha’r menyg) ac mae’n siwr mod i wedi colli hanner stôn mewn chwys ( a bwyta digon i’w roi’n ôl mlaen yn syth wedyn wrth gwrs). Dwi’m yn siwr os oedd y tyllau wnes i efo’r fforch wedyn yn rhy ddwfn – doedd Carol ddim i’w gweld yn mynd cweit mor ddwfn pan wyliais i’r rhaglen, ond tyllau felna sydd dros yr ardd i gyd bellach, yn llawn tywod erbyn hyn.

Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio i dynnu llun o’r lawnt fel mae o bellach ( ocê, nes i anghofio …) ond mae’r llun o’r to yn dangos nad ydi o cweit mor felyn rwan, ac mae’r llun yma’n dangos ei fod o reit foel a brown ar y gwaelod – a phatsus melyn lle bu’r mynyddoedd mwswg yn sefyllian am ddiwrnod neu ddau … wps.

Mae’r camellia oedd angen haearn yn dal i edrych yn felyn ( wel, brown hefyd a bod yn onest) ond mi neith gymryd amser i ddod at ei hun mae’n siwr. Dwi hefyd wedi bod yn tocio’r grug oedd wedi mynd yn goesau i gyd, a’r lafant a’r trilliw ar ddeg. Dwi wedi plannu coed yn y bylchau yn y gwrych ond yn dal i aros i Richard lifio’r coediach sy’n dal ar ôl ac yn fy rhwystro rhag llenwi pob bwlch.

Dwi wedi bod yn rhoi cerrig go fawr yng ngwaelod y pwll fel bod y penbyliaid yn gallu cuddio oddi tanyn nhw – a gallu dringo allan pan ddaw’r amser, felly mae fy ‘biceps’ i wedi dyblu’n eu maint ers Dolig. Neu maen nhw’n teimlo felly …

O, a dach chi’n licio nghôt binc i?

Rhywun wedi holi sut mod i’n llwyddo i’w chadw mor lân. Wel dim ond ar gyfer ffilmio dwi’n gwisgo honna debyg iawn! Gwisgo pethe hynafol llawn tyllau fydda i i arddio, siwr! A bod yn onest, ro’n i wedi pasa ei thynnu ar gyfer y ffilmio ‘gweithio’ hefyd, ond roedd hi’n blwmin oer – nes i mi ddechre chwysu wrth gwrs … Ond swn i wrth fy modd yn gallu edrych mor smart ond ‘barod i weithio’ â Carol. Oes, mae gen i dipyn i ddysgu …