Filed under: 1
Naddo, dwi’m wedi rhoi trimings Dolig i fyny yn hurt o gynnar; fydda i’m yn gwneud hynny tan o leia yr ail wythnos o fis Rhagfyr. Ffilmio rhifyn y Nadolig o Byw yn yr Ardd oedden ni, a Rhian Williams, un o’r ymchwilwyr ddoth â’r goeden ac ati efo hi. Gawson ni dipyn o hwyl yn gosod pob dim mae’n rhaid i mi ddeud, ac mae’r goeden ffug ma’n edrych yn rhyfeddol tydi? Biti am y teledu ond dyna fo. Mi brynai un newydd ryw ben – un du. Mae hwn fel rhywbeth allan o’r gofod.
Anaml fydd Russell, Sioned a fi efo’n gilydd o flaen y camera – dim ond unwaith y flwyddyn a deud y gwir! Ond roedd Sioned yn dod a gosodiad hyfryd i mi – dyma fo:
Mae’r rhosod wedi marw bellach, ond mi fedrai roi rhai newydd yn eu lle nhw yn nes at yr achos. A dyma Sioned yn esgus yfed peth o fy gin eirin surion i – roedd hi’n gyrru.
Ond dydi Russell ddim yn gyrru byth, felly roedd o’n hapus dros ben! A dyma fo wedi dod a chacen i’r adar yn anrheg i mi. Gareth Bonello wnaeth hi a deud y gwir ac mi gewch chi weld y broses ar y rhaglen. Mae hi’n werth ei gwneud achos aeth fy adar hi’n ‘nyts’ amdani … ( sori…)
Am 8.25 ar nos Lun Rhagfyr 21 y bydd y rhaglen gyda llaw, felly cofiwch wylio. Dwi’m wedi ei gweld hi eto fy hun, ond maen nhw’n deud ei bod hi’n llawn dop a hynod hwyliog.
Hwyliog oedden ni efo’r holl gin ‘na hefyd. Hwyl am y tro!
Filed under: 1
Wel, go brin bod na lawer o goed fel hyn â dail ar ôl wedi’r gwynt a glaw mwya ofnadwy ma. Ro’n i’n gyrru lawr i Abertawe nos Fercher gyda llaw – lwcus bod gen i gampafan (uchel) bellach ac nid golff – neu fyswn i byth wedi cyrraedd drwy’r holl ddwr na!
Beth bynnag, un o’r golygfeydd hyfryd yng Ngerddi Bodnant oedd y goeden yma. Mi fuon ni’n ffilmio darn hydrefol yno ar gyfer cyfres flwyddyn nesa (oes, mae na un arall – 20 rhaglen!) rhyw bythefnos yn ôl. Er mawr gywilydd i mi, fum i rioed yno o’r blaen. Wel, os oes gen i bnawn rhydd, tueddu i fynd am dro efo’r ci fydda i, a does na fawr o’r gerddi ma yn caniatau cwn nagoes? Dwi’n dallt pam wrth reswm, ond eto … os ydi ci yn bihafio, a’r perchennog yn cario bag baw, dwi’m yn gweld pam lai. Ond dyna fo.
Dyma’r plasdy ei hun: Lle crand iawn. Ond dydan ni’m yn cael gweld tu mewn. Chwarae teg, mae isio mynedd gadael i’r cyhoedd drampio drwy eich gardd chi heb sôn am fusnesa yn y ty, does.
Elfed Williams o Langaffo oedd yno efo fi. Mi fuodd Sioned yn gwneud eitem efo fo yn ei gartref dros yr haf – mae ganddo fo ardd anhygoel ac mae o’n wybodus tu hwnt am bob mathau o goed a phlanhigion. Mae o hyd yn oed wedi creu laburnum arch ( neu fwa tresi aur) fel un Bodnant yn ei ardd o. A do, dwi wedi cael côt newydd – wedi penderfynu bod pinc yn edrych yn llawer gwell na’r bali peth brown na pan dwi’n mynd rownd gerddi!
Mi gawson ni dipyn o hwyl yn crwydro Bodnant er gwaetha’r glaw a’r ffaith bod y gwynt wedi chwythu cryn dipyn o’r dail i bob man a’r aflwydd pethe hwfro dail yn gneud swn mwya diawchedig ar hyd y lle. Be sydd o’i le efo cribin dwch? Ond roedd na olygfeydd hyfryd yno er hynny.
Os na fuoch chi yno erioed, ewch yno ar bob cyfri, a’ch camera efo chi. Mae’n fendigedig, ac yn hawdd dod o hyd iddo, rhwng Llanrwst a Llandudno. Mi fysa’n well fyth tasen nhw’n caniatau cwn wrth gwrs…
O, a sôn am gamera, dwi’m yn siwr faint o luniau welwch chi ar y blog ma am sbel. Mae f’un i wedi cael cnoc ac angen ei drwsio. Dyna be dwi’n ei gael am ei gadw yn fy mhoced.
Filed under: 1
Ro’n i braidd yn hwyr yn meddwl am wneud gin eirin tagu (neu surion neu sloes) eleni. Roedd yr eirin yn edrych yn eitha pathetic yn ochrau Rhydymain, felly aeth Meg a fi am dro ar ein beics i Dir Stent, tir comin wrth ymyl Tabor, uwch ben Dolgellau. Ac oedd, roedd na ddigon o wrychoedd yn llawn eirin yn fanno.
Ond pan aeth Buck a fi yno i ffilmio, roedd na rywun wedi bod yno o’n blaenau ni! Ond roedd na ddigon ar ôl i wneud potel neu ddwy. Fel arfer, mi fydda i’n eu rhoi yn syth yn y rhewgell, achos maen nhw’n deud bod angen iddyn nhw rewi cyn gallu gwneud gin da. Ac wedyn fydda i’m yn trafferthu eu pigo nhw wedyn. Ond roedd Buck yn daer bod angen gwneud hynny. Ac roedd ganddo fo riset oedd ddim yn defnyddio siwgr, dim ond almond essence! Do’n i ddim yn siwr o gwbl am hynny, ond mi wnaethon ni gyfaddawdu a gwneud un efo fy riset i, ac un efo rhyw hanner ei riset o. Dyma lun ohonon ni’n cega …
Wel, a chwerthin lot hefyd. Ond mae arna i ofn mod i wedi drysu efo fy riset i braidd, a beryg mod i wedi rhoi gormod o siwgr mewn un o’r poteli – yr un wnaethon ni ei ffilmio wrth gwrs … 4oz o siwgr i botel litre o gin ydi o i fod, nid potel 70cl. Ac un efo o leia 6oz o eirin ynddi. A gawn ni weld sut flas fydd ar yr un efo almond essence ynddi – rhaid aros o leia dau fis cyn y byddan nhw’n barod, a throi neu ysgwyd y botel bob hyn a hyn. Dyma sut oedden nhw’n edrych ar ôl ugain munud:
Ond erbyn hyn, maen nhw’n biws iawn, iawn. Wel, coch tywyll ta, ac ogla da hefyd. Cyfaddefiad: mi wnaethon ni anghofio pigo’r eirin efo’r botel gynta hefyd a gorfod tywallt y cwbl allan a dechra eto. Wps. Beryg mai yfed gormod o gin llynedd fuon ni yn y broses. Cafwyd hwyl garw beth bynnag, a dyma sut o’n i’n edrych yn nes mlaen y noson honno …
Filed under: 1

Naci, nid fy nghoed i ydi’r rheina. Dwi newydd weld yr eitem ffilmwyd ym Mhlas Newydd ar lan y Fenai, a lluniau gymrais i y diwrnod hwnnw ydi’r rhain. Eitem gafodd ei ffilmio hydref dwytha oedd honna a deud y gwir (handi ydi meddwl ymlaen llaw fel’na achos ro’n i i ffwrdd yn Nigeria tro ma do’n?). Awen Haf oedd efo fi – dyma hi:
Hogan sy’n gwybod bob dim am arddio. Falle eich bod chi’n nabod ei gwyneb hi, achos mae hi’n gweithio yng nghanolfan arddio Frongoch, wrth ymyl Caernarfon. Rhywle na fum i yno erioed o’r blaen – ond mi ai eto (Mi ddywedais i hynna llynedd a dwi byth wedi bod! wps … ond dwi’n hogan brysur tydw). Beth bynnag, mi brynais i ddwy goeden yndo, a’u plannu yng ngwaelod yr ardd – hydref dwytha. A dwi wedi darganfod be oedden nhw:
Do’n i ddim yn hollol siwr pa Enkianthus brynais i’n y diwedd, roedd na 2 label arno fo.
Felly roedd o unai yn:
Neu Enkianthus campanulatus – “dail hyfryd yn yr hydref a blodau hufen a choch fis Mai.” Dwi’m yn cofio gweld rheiny chwaith.
Cotinus Grace ‘smoke bush’ oedd y goeden arall – “dail mawr cochbiws yn yr haf sy’n troi’n fflamgoch yn yr hydref. Blodau sy’n edrych fel ‘fiery smoke’ ym mis Gorffennaf.”