BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Siampên Sgawen eto
Mehefin 28, 2009, 1:40 pm
Filed under: 1

Mae’r blodau ysgaw yn blodeuo’n wych rwan, felly dyma’r amser i wneud eich diod blodyn ysgaw. Mi glywais i bod rhywun wedi holi criw Byw yn yr Ardd am y risêt ddefnyddiais i llynedd (yr un roddodd y wobr gynta i mi yn Sioe Rhydymain!), a dwi wedi cynnwys y cyfan ar waelod y cofnod yma. Dod o hyd iddo drwy Google wnes i llynedd, ond pan yn twrio drwy fy hen lyfr risetiau ddoe, mi ddois i ar draws hwn – wedi ei gael gan rhywun o Gymru sy’n hen law arni. Felly dyma fo, wedyn gewch chi ddewis pa un rydach chi ei ffansi. Dwi newydd wneud yr un yma heddiw – yn y gobaith o ennill unwaith eto eleni – gawn ni weld!

156
5 blodyn go fawr

2 lwy fwrdd o finag gwyn

1.5 lb o siwgr

galwyn o ddwr

1 neu 2 lemwn.

Cymysgu’r cyfan a’i adael dros nos (24 awr). Ei hidlo a’i roi’n y rhewgell.

A dyma’r un Saesneg:

Elderflower champagne is a clear, sparkling drink that is mildly alcoholic. It is easy to prepare and only takes two weeks to mature. As the name suggests, one of the primary ingredients are the white flowers of the Elder tree1. These trees are quite common in the UK, and if there aren’t any in your garden, they are often found around car parks, squares, schools and other open spaces. Make sure that you get the right tree though! The trees themselves are coarse and shrubby, with large flat heads of creamy white flowers in early summer and clusters of reddish-purple berries in the autumn.

Ingredients

This makes about 10 litres of elderflower champagne:

* 4 large heads of elder flowers – make sure that they are fully open, preferably facing the Sun
* 1kg of sugar
* 2 lemons
* 4 tablespoons of white wine vinegar
* 10 litres of cold water

Equipment/Utensils

* A ten-litre vessel – a large plastic bucket is ideal. Ensure that it is well washed out and preferably sterilised.
* Strong bottles – these need to withstand the pressure of the carbon dioxide gas produced. Two-litre plastic drinks bottles work, but old screw-cap glass bottles work better and don’t let as much gas escape.
* A large jug – about two litres in capacity.
* A small jug – ideally, this should hold about 750ml and is to act as a bailer.
* A lemon-squeezer
* A funnel
* A potato-peeler
* A tablespoon
* A sieve
* A strainer

Time-scale

* Preparation Time: 30 minutes
* Standing Time: 24 hours
* Maturing Time: two weeks plus

Method
1. Wash the lemons and use the potato-peeler to peel the lemon rind off as thinly as possible. Remove any insects, leaves or other unwanted objects from the elder flowers.
2. Squeeze the lemons and put the juice into the ten-litre vessel along with the lemon rind and flowers.
3. Add the sugar and the wine vinegar. Be careful not to crush the flower heads too much with the sugar.
4. Pour on the water. Put a lid or cover over the top of the vessel and leave to stand for 24 hours. Stir gently every six hours.
5. Sterilise the bottles either using sterilising chemical tablets or boiling water. If you use chemical tablets, rinse the bottles afterwards so that the chemicals don’t kill the yeast in the champagne mixture.
6. Take the lid off the vessel and remove any large flower heads or bits of rind.
7. Use the small jug to bail some of the mixture through the sieve and into the large jug. When the large jug becomes full, place the funnel in the top of a bottle. Pour the mixture through the strainer into the funnel.
8. Once all the bottles are full, put the caps (or corks) on firmly and place somewhere not too warm or too cold. A garage shelf is ideal.

After two weeks the champagne is ready for drinking. However, the taste does improve with time and can be left for up to two years2. It is probably best to leave it for six months to a year to mature, as this means the full taste will have developed, yet without any fizz escaping. (That’s assuming the caps have been done up properly.) Try to make as much as possible during the months of June and early July as this is when the flowers will be at their best. Typically, 20 litres should provide ample supply for a year’s worth of drinking for a family of four.



Y potyn pryfed genwair
Mehefin 22, 2009, 11:00 am
Filed under: 1

P1010015Dyna be ydi hwn – potyn llawn pryfed genwair. Mi ddechreuodd yr holl beth pan ofynodd y criw Mudiad Ysgolion Meithrin i mi wneud rhywbeth ‘garddwriaethol’ efo plant meithrin yn Steddfod y Bala. Mi wnes i ymgynghori efo criw Byw yn yr Ardd, a dyma Euros yn cynnig y ‘Can-o-worms’ yma gan gwmni http://www.wiggglywigglers.co.uk

Yn anffodus, ges i’r cwbl lot, yn cynnwys dau becyn o bryfed genwair yn syth bin. Hm. Mi wnes i ffonio’r cwmni i ofyn pa mor hir fyddai’r pryfed yn byw yn y pecyn. ‘Til the weekend” oedd yr ateb. Hm. Dim pwynt eu cadw tan wythnos gyntaf Awst felly, os nad o’n i isio ypsetio plant bach Cymru’n rhacs. Doedd dim dewis ond gosod y cwbl yn syth.P1010001Roedd gan Del ddiddordeb mawr yn syth – roedd hi’n gallu arogli rhywbeth …

Y cam cyntaf oedd darllen y cyfarwyddiadau a gosod y tap a’r coesau:P1010004 Wedyn, llenwi hanner bwced efo dwr cynnes a rhoi’r blocyn o ffeibr cneuen goco i fwydo ynddo am rhyw dri chwarter awr. P1010006

Dyma’r stwff perffaith i’r pryfed genwair guddio a chloddio i mewn iddo mae’n debyg, a ges i hwyl garw yn ei falu i fyny’n ddarnau – mi fydd y plant wrth eu boddau hefyd, siawns. Yna, wedi gwasgu’r dwr allan ohono, ei daenu dros y potyn cyntaf, ac ychwanegu’r pryfed genwair:P1010011 Roedden nhw’n fywiog iawn! Ac yn claddu eu ffordd i mewn i’r stwff cnau coco yn syth, am eu bod nhw ddim yn or-hoff o olau’r haul. Daeth Robin (4 oed) i ngweld i’n nes ymlaen y pnawn hwnnw ac roedd o wrth ei fodd yn gafael ynddyn nhw – “O, am ciwt!” meddai am un o’r rhai bychan, gan ei gwpannu yn ei law  fel tasa fo’n drysor.

Tipyn o sbarion bwyd dros y cyfan, P1010013 ‘moisture mat’ dros hwnnw, caead am ben y cwbl a dyna ni. Mae’r pryfed genwair yn prysur droi fy sbarion yn gompost, neu o leia’n hylif llawn maeth. Mi fydd yn cymryd rhai wythnosau i hynny ddigwydd, ac efallai y cai broblemau efo morgrug a phryfed, ond hyd yma, mae popeth yn edrych yn iawn. Mi fydd raid i mi ei wagu (dros dro, gobeithio) a’i lanhau er mwyn gallu mynd a fo i’r Steddfod, a bydd yn rhaid prynu mwy o stwff coco a phryfed genwair er mwyn y plant meithrin, ond bydd hynny’n ddigon hawdd, siawns.

Mae ‘na sylwadau gan brynwyr eraill ar y wefan, sy’n ddefnyddiol iawn, a’r rhan fwya yn canmol yn arw. Ffansi cael potyn pry genwair eich hunain? Dydi o ddim yn rhad -£89 – a P&P ar ben hwnnw. Ond dwi’n gwybod ei fod o’n apelio’n arw at blant bychain – ac yn ffordd arall o ailgylchu eich sbarion bwyd – a darnau o bapur newydd a chardfwrdd. Wnai adael i chi wybod sut mae’n siapio – a sut aeth hi’n y Steddfod!



Yr ardd ganol Mehefin
Mehefin 17, 2009, 10:08 am
Filed under: 1

Drapia, wnes i anghofio cymryd llun o’r ardd ddoe a hithau’n edrych yn wych yn yr heulwen wedi i mi fod yn torri’r gwair. AAA! A dwi newydd gofio bod y peiriant torri gwair yn dal tu allan a hithau’n tresio bwrw! O diar …

Ta waeth, mi fu’r criw ffilmio yma ddoe felly gewch chi weld yr ardd yn ei gogoniant ar y teledu toc. Roedden nhw’n synnu, rhaid cyfadde, gan fod pob dim wedi tyfu’n anhygoel ers iddyn nhw fod yma ddwytha. Wel, y rhan fwya o bethe. Gewch chi weld sut siap sydd ar yr holboellia coriecea ( ddim yn siwr os ydw i wedi sillafu hwnna’n iawn) ges i o Crug ar y rhaglen.

A be dwi fwya balch ohono fo? Wel fy mocs llysiau – yr un fu’n gymaint o boen i’w roi at ei gilydd a’i lenwi. Dyma fo ylwch:

llysiau Meip, letus, betys, radish, dill a rocet yn gwneud yn dda. Pys a ffa a moron yn gorfod brwydro yn erbyn yr adar, braidd. Sbrowts sydd o dan y tair potel blastig yn y canol a dwi wedi hau mwy o foron a rocet yn y darn gwag na. Mae na fwy o bys mewn toilet rolls yn barod i’w plannu toc hefyd. Dwi’m isio bob dim yn barod yr un pryd nacdw?

Ac mae na flas ( a graen) da ar fy radish …radish Gawson ni flas ohonyn nhw amser cinio – hyfryd iawn.

Rhywbeth arall fuon ni’n ei ffilmio oedd y pwll llyffantod. Wedi’r sbelan boeth na, mi wnes i sylwi bod y pwll wedi troi’n wyrdd a bod y penbyliaid (sawl un yn llyffant bach bellach!) yn cael trafferth symud. Llysnafedd afiach, tew oedd wedi dod o rhywle a chrogi pob dim. Mi wnes i ddechrau ei hel oddi yno cyn penderfynu gadael y gweddill er mwyn i’r camera gael ei weld. A dyma fo:

gync pwllgync pwll 2Do’n i ddim yn gallu gweld y cregyn na cyn dechrau tynnu’r stwff gyda llaw. Dwi’n falch o ddeud ei fod o’n edrych yn llawer gwell bellach a bod y penbyliaid yn gallu rasio ar hyd a lled y pwll eto. A hynny heb roi cemegolion ynddo fo. Mae na ateb ‘gwyrdd’ i broblem pwll gwyrdd. Ond beryg mai’r ffaith nad ydi o’n hanner ddigon dwfn yn y lle cynta sy’n rhannol gyfrifol!

Iawn, well i mi fynd i achub fy mheiriant torri gwair cyn iddo fo foddi.



Blodau courgettes
Mehefin 12, 2009, 7:38 pm
Filed under: 1

P1010072Nabod fan’ma? Sbiwch ar y lliw glaswyrdd ‘na ar y ffenestri … Ia, Portmeirion. Mi fuon ni’n ffilmio yno wythnos yma, a chael diwrnod braf o heulwen ac awyr las, diolch byth. Yn anffodus, mi fydda i’n cofio’r diwrnod am reswm braidd yn hurt. Ro’n i wedi bod yn merlota y diwrnod cynt – o gwmpas ardal Machynlleth, er mwyn dod i nabod ceffyl y bydda i’n ei ferlota efo Shan Cothi a’i chriw fis Awst. Roedd popeth yn mynd yn dda – mor dda, pan ofynodd Ceri, perchennog y ceffyl os o’n i awydd dal i fynd (am wyth milltir i gyd), ‘dim problem’ medda fi. Ro’n i fymryn yn stiff yn dod oddi ar y ceffyl wedyn, ond roedd hynny i’w ddisgwyl – do’n i’m wedi bod ar gefn ceffyl ers oes. Y diwrnod wedyn nath o nharo fi ynde … pan oedd Rhian Mair y cyfarwyddwr yn gofyn i mi wneud shots cerdded. Roedd y diawlied yn chwerthin – a finne mewn poen! Ches i rioed goesau cowboi fel yna o’r blaen. Ro’n i wir yn dal i deimlo’r hanner cobyn rhwng fy nghluniau. Aw.

Diolch byth nad oedd angen i mi gerdded llawer, gan mai yno i fwyta o’n i mewn gwirionedd. A dyma fi’n edrych yn llawer hapusach ar fy eistedd:P1010075 Be ro’n ei fwyta? Wel, cig oen Cymreig – a llysiau gafodd eu tyfu ym Mhortmeirion ei hun – yn cynnwys rhywbeth difyr ofnadwy efo blodyn courgette! Bydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld be’n union oedden nhw’n ei neud efo’r blodyn, ond dyma i chi olwg mwy manwl ar y blat o mlaen i:P1010065 Ond cofiwch, os ydach chi am ddefnyddio eich blodau courgette chithau – tynnwch y canol allan yn gynta. Dim ond y petalau ddylech chi eu defnyddio.

Roedd Arwel y garddwr a Wayne a Steve y cogyddion yn falch iawn o’u prosiect newydd – sef defnyddio eu llysiau eu hunain. Felly os am bryd o fwyd organig, iach, lleol – Portmeirion amdani!

Ac ydw, dwi’n gallu cerdded yn weddol erbyn hyn, diolch yn fawr …



Bwa Buck
Mehefin 7, 2009, 12:57 pm
Filed under: 1

Ro’n i wedi anghofio bod y gyfres yn ôl  ar yr awyr, felly ar S4C Clic welais i’r rhaglen wythnos yma. Mae na ailddarllediad heno (nos Sul) wrth gwrs, ond cofiwch rwan – bob nos Iau am 8.25!

Dwi’n edrych ymlaen at weld rhaglen wythnos nesa am fod ‘na eitem ges i hwyl garw yn ei gwneud arni. Dwi’m wedi gweld yr eitem am mod i’n gwneud fy nhrosleisio yn “ddall” y dyddie yma – sef i mewn i ryw feicroffon digidol yn ty a’i yrru at y criw cynhyrchu dros y we. Dwi jest yn deud be maen nhw’n deud wrthai i’w ddeud – maen nhw wedi arfer efo fy amseru i bellach. Mae hyn yn llawer mwy gwyrdd na gyrru’r holl ffordd i Felinheli ac yn ôl am joban deg munud!

Be ydi’r eitem ta? Wel, am mod i isio rhywbeth fel pergola ar gyfer y planhigyn dringo (holboellia coriacea) ges i yn Fferm Crug, mi wnes i benderfynu y byswn i’n gallu gwneud un allan o’r hen ddarnau sbar o bren oedd gen i o gwmpas y lle. Ond dwl o’n i de – peth mawr ydi pergola. Bwa o’n i’n ei feddwl. Dyyh. Wel, mi gawson ni Geraint “Buck” Jones i ddod draw i fy helpu i, gan mai saer coed ydi o – sy’n byw jest i fyny’r ffordd. Mae Del yn ffrindie mawr efo Mot, ei labrador du o. P1010083 Dyma lle ro’n i am i’r bwa fod, un goes yn y twll yma, a’r llall ar y lefel ucha, ac mi wnes i glirio tipyn o blanhigion cyn i’r criw gyrraedd – sbario iddyn nhw gael eu sathru’n slwtsh ynde.

Mae Buck yn gês a hanner, felly mi fuo ‘na gryn chwerthin yn ystod y mesur, llifio a morthwylio. A dyma ni’n sefyll o dan y bwa gorffenedig.P1010088 Yndi, mae o’n fawr, ond os fydd y planhigyn ma’n tyfu fel mae o i fod i neud, mi fydd na flodau a deiliach yn hongian i lawr, ac mi fydd angen digon o le i gerdded oddi tano fo yn bydd? A sut mae o’n tyfu? Wel …yn uffernol o araf a bod yn onest! Ond dwi wedi plannu rhyw fath o glematis (methu cofio ei enw) yr ochr arall, jest rhag ofn ac mae hwnnw’n dod reit dda. Amynedd sy pia hi rwan.



Gwyliau hyfryd
Mehefin 3, 2009, 11:11 am
Filed under: 1

P1010268Dwi’n ôl ar ôl wythnos o grwydro de Cymru yn y campafan efo Del, ac am wythnos i’w dewis ynde! Es i draw i ardal Aberhonddu i ddechre, aros efo ffrind yn Nhrefeca a mynd i weld cwpwl o bethe yng Ngwyl y Gelli Gandryll. Sesiwn stand-yp Dylan Moran oedd y peth gorau o ddigon, ond roedd Jo Brand yn ail agos. A drychwch be oedd yng ngardd fy ffrind Cêt yn Nhrefeca!

P1010210Ia, Byw yn yr Ardd oedd yr ysbrydoliaeth iddi! Neis gweld ein bod ni’n ysbrydoli chydig o bawb. Ac yn ystod fy nghrwydro, mi wnes i gyfarfod cryn dipyn oedd yn deud eu bod yn mwynhau ac wedi mynd ati i blannu eu hunain yn sgil ein gwylio; pobl nad oedd wedi meddwl garddio cyn hynny. Wel ia, os ydw i’n gallu garddio, mi fedar unrhyw un!

Gyda llaw, dwi’n gwybod bod pob man yn edrych yn ffantastic yn y tywydd yma, ond wir rwan, mae crwydro Cymru fel wnes i wedi agor fy llygaid go iawn i’r hyn sydd ganddon ni yng Ngwalia. Mi fu Del a finne yn beicio ar hyd camlas Aberhonddu, a chael modd i fyw – mae’n hyfryd!P1010178 A braf oedd gallu sbecian i mewn i erddi pobl o ochr y gamlas hefyd. Es i mlaen o fanno wedyn (via camlesi y Goetre a Glyn- nedd) i Dresaith, a chysgu am dair noson uwch ben y traeth. Wel … nefoedd a deud y lleia:P1010288P1010313 Do, mi gafodd Del a finna amser bendigedig – am nesa peth i ddim o bres, ac yn llawer mwy ‘gwyrdd’ na taswn i wedi hedfan dros y môr i rywle poeth – ond roedd hi mor boeth yn Nhresaith, dwi wedi cael lliw haul neis iawn! Yr unig broblem efo mynd i ffwrdd mewn tywydd braf ydi sut i ddyfrio’r ardd adre wrth gwrs. Wel, wrth lwc, mae gen i ffrind sy’n glen iawn ac mi fu hi’n dyfrio fy llysiau i gyda’r nos – diolch Luned! Mae na adar neu rywbeth wedi bwyta rhes gyfan o foron, ond ar wahân i hynny, mae popeth yn edrych reit lewyrchus, a’r blodau wedi ffrwydro o ran lliw a maint. Mae hi fel gardd drofannol acw! Oes, mae na waith chwynnu rwan – a thorri’r bali lawnt wrth gwrs … ond mae’r batris wedi cael bywyd newydd yn sgîl fy wythnos o ymlacio a dwi’n barod iawn i dorchi llewys.