Filed under: 1
Lwcus i mi gymryd y llun yma pan wnes i, achos erbyn y diwrnod wedyn, roedd y dail i gyd wedi cael eu chwythu i ebargofiant! Ond mae’n chwip o acer tydi? Mae gen i awydd cael mwy o gwmpas yr ardd er mwyn cael gwledd o liw fel yna yn yr hydref. Neu wneud babis ohoni. Dwi wedi trio ‘layerio’ ambell gangen. Mae’n rhy gynnar eto i weld os ydyn nhw wedi gweithio, ond os oes gan rywun dips am sut i wneud babi ‘acers’, mi fyswn i’n falch iawn o gael gwybod.
Mi wnes i blannu dwy goeden (methu cofio’r enwau rwan, ond dwi’n siwr i mi flogio am y peth ar y pryd) ym mhen draw’r ardd hydref llynedd yn y gobaith o gael mwy o liw. Ond mae un ohonyn nhw wedi marw ers yr haf am fod coed eraill wedi ei chuddio heb i mi ddallt a chafodd hi’m golau haul, y greadures. Y bali dogwood na oedd y bai mwyaf. Mae hwnnw wedi tyfu i bob man a rwan dwi isio ei dynnu allan. Ond mi fydd hynny’n dipyn o brosiect mae arna i ofn. Clwy y garddwr ynde – plannu gormod.
O, ac mi ges i’r teclyn yma gan Russell llynedd:
Rhyw ddarn o ‘wire netting’ efo gwellt ynddo fo. Rhywbeth i ddenu pryfetach buddiol oedd i i fod, ond hyd y gwela i, rhywbeth i ddenu llygod ac adar ydi o. Mae na Ditw Mawr wedi bod yn fy neffro i’n blygeiniol bob bore am ei fod yn cnocio’r ffenest efo’i big – yn goblyn o uchel! Dwi wedi bod yn ei wylio wedyn, a dwyn ambell ddarn o wellt mae o, wedyn rhoi lab i’r ffenest. Fel tase fo’n meddwl ei fod o’n dwyn o nyth rhyw ditw arall ac yn dangos ei hun!
Mi rois i’r peth ar sil y ffenest am ei fod o’n cael ei hambygio gan lygod ar y llawr – roedd y diawliad yn llusgo’r gwellt i’r tyllau yng ngwaelod y ty i wneud eu nythod Dwi’n meddwl mai ffling geith o rwan, onibai fod ganddoch chi syniadau gwell?
Filed under: 1
Smart tydw?! Dyma un o’r gwisgoedd ges i’n anrheg gan bobl Nigeria. Cyn-ddisgybl brynodd hwn i mi, chwarae teg iddo fo. Mi yrrodd deiliwr draw i’r pentre i fesur y 5 o’r criw ffilmio, a threfnu gwisg i bawb! Ac mi nath fy nharo … rydan ni’n mynd i drafferth mawr i wneud ein gerddi yn lefydd lliwgar tydan? Wel, tyfu bwyd mae pobl Nigeria – dydyn nhw’m yn trafferthu llawer efo blodau. Ond mae eu gwisgoedd nhw yn llawn lliw a phatrymau, sy’n tynnu’r llygaid go iawn a gwneud i chi wenu a theimlo’n hapus. Does na’m rhyfedd ein bod ni i gyd mor depressed yn y wlad yma yn mynnu gwisgo du, llwyd, brown a nefi blw!
Ro’n i jest isio rhannu hynna efo chi.
A sbiwch sut maen nhw’n gwneud eu tai yn lliwgar …
Do, ges i amser anhygoel yn Gbara, y trip gorau erioed. Ac mae bod adre yn dipyn o sioc i’r system. Dwi’n colli’r swn, y chwerthin, y croeso, y plantain … a does gen i jest ddim mynedd ar hyn o bryd. Dim mynedd llnau’r ty a dim mynedd cael trefn ar yr ardd. Mi fyddai wedi setlo eto erbyn wsnos nesa mae’n siwr. Ac mi ai i hel fy ffa a’r moron rhyw ben. Ond ddim rwan.
Un llun arall i godi gwên – Mei Williams, y dyn camera a’r cyfarwyddwr gymrodd hwn, a dwi wedi gwirioni efo fo. Mynd i’w fframio a’i roi ar y wal. Mwynhewch!