Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cadi, coed ffrwythau, rhododendrons, sudden oak death, to eco
Dyna’r ardd pnawn ‘ma – chydig o haul yn gneud gwahaniaeth tydi? Mymryn o liw o’r diwedd. Mae’r grug yn edrych yn dda, ac mae’r daffs y pen arall a’r eirlysiau yn hyfryd. Dechre meddwl am ffilmio rwan. Bu Rhian, y cynhyrchydd acw ddydd Mawrth i weld sut siap oedd ar bethe ac i drafod be fyddwn ni’n ei ffilmio eleni.
Wel, to newydd i’r bali sied eco, gobeithio! Ond mae’r rhododendrons mawr yr ochr arall i’r ty yn mynd ar fy nerfau ers blynyddoedd. Y ponticum – y rhai drwg ydyn nhw, felly mae angen cael gwared ohonyn nhw. Ac mi sylwodd Rhian ar hyn:
Rwan, mae’n bosib nad ydi hyn yn ddim byd, ond roedd o’n edrych yn debyg i’r ‘Sudden oak death’ roedd hi wedi bod yn ei archwilio ar y we … hm. Felly rydan ni am yrru’r lluniau at bobl sy’n dallt eu stwff – rhag ofn. Os mai dyna ydi o, mi fydd angen rhoi gwybod i DEFRA! Gylp. Felly nai adael i chi wybod. Ond maen nhw’n mynd beth bynnag.
Rydan ni’n gyrru’r llun hwn at Carol hefyd, i weld os fydd ganddi syniadau be fedrai neud efo’r gornel anghofiedig hon:
Fanno wnes i blannu’r tair coeden ffrwythau ges i drwy bapur Sul. Bu farw’r goeden apricots/bricyll yn syth ac mae honno wedi cael ffling. Mae na goeden geirios yn dal yn fyw ( jest abowt) yn y pen pella ond dim ffrwythau arni eto, er gwaetha addewid yr hysbys papur newydd. Roedd hwnnw’n deud y byddai gen i ffrwythau o fewn blwyddyn. Dyma’r drydedd rwan a – dim yw dim. Mae na goeden eirin wrth flaen y llun sydd â gwell graen arni – ond dim eirin. Ac o’r golwg wrth y wal, mae gen i goeden afalau ges i gan fy mrawd, roddodd domen o afalau i mi!
Ond pan symudais i yma gynta, roedd gen i wrych reit ddel wrth flaen y ty. Mi gynigiodd Geraint ( fy mrawd) ei thocio hi – a dyna’i diwedd hi. Bu farw.Ond mae na gangen ohoni wedi atgyfodi – dyna’r dail bach gwyrdd welwch chi ar flaen y llun. Felly dwi wedi bod yn hel y stwff marw:
Tomen ohono fo, ond mae o’n wych ar gyfer cynnau tân yn y woodburner. A ddechrau’r wythnos, mi wnes i blannu chydig o daffs i roi lliw i’r lle nes daw’r goeden at ei hun yn well.
Anodd eu gweld – ond maen nhw yna – mewn tri lwmp efo blodau ar y lwmp ar y dde. Dwi am roi eirlysiau yno hefyd unwaith y bydd hi’n amser trawsblannu’r rheiny. Mi fydd hi’n ddel yma gwanwyn nesa, siawns!
Sôn am ddel …
Dyma Caio bach a Cadi efo Del. Y ddau wedi mopio efo hi – ond nid eu mam … Del yn colli ei chôt aeaf braidd – wps. A dwi wrth fy modd efo’r llun yma … roedd Caio wedi bod yn rhannu ei ryscs efo hi, felly wrth gwrs, roedd hi’n disgwyl mwy – ond doedd o’m yn rhannu tro ma!
Mi fu hi’n disgwyl fanna am oes, bechod. Dwi fod i fynd a hi i gael y snip rwan, erbyn cofio, ond dwi methu wynebu’r syniad o’i rhoi hi mewn lampshed am dair wythnos. Gneud fydd raid, mwn. Unrhyw un ag unrhyw air o gyngor?!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: beicio, cennin pedr, grug, llygod bach
Ro’n i jest isio dangos i chi pa mor brydferth ydi fy ardal i o’r byd. Ffrind o Ben Llyn ydi honna yn y pinc, ac roedd hi wedi gwirioni. Mae’r rhan yma o Feirion yn berwi efo llwybrau tawel fel yna, sy’n berffaith ar gyfer beicio. Coblyn o allt i gyrraedd fyny fan’na, cofiwch – ond mae o werth o! Ac oes, mae na ddefaid yn y caeau ond mae Del yn ufudd a ddim yn rhedeg ar eu holau – dim ond beics!
A dyma i chi un o’r coed basion ni. Fel rhywbeth allan o ffilm tydi? Roedd na goedwig gyfan felna tan llynedd – y rhan fwya wedi eu torri rwan. Ond mae’n haws gweld y golygfeydd rwan am wn i.
A dyma i chi Del a fi a meic newydd, lyfli i!
Dwi wedi bod yn gweithio’n galed yn yr ardd hefyd – ond fysech chi byth yn deud. Dyma rai o’r blodau sydd allan: A dyma sut oedd yr unig gennin pedr oedd ar fin blodeuo ar Chwefror yr 2il.
Ond dwi newydd fod yn sbio arno ac mae’n dal yn union yr un fath. Ond mae cennin pedr Gwanas yn eu blodau ers wythnosau! Ond mae na flodyn allan ar y camellia:
Dim ond gobeithio na fydd hi’n rhewi’n gorn eto rwan, neu mi fydd y pinc yn troi’n frown yn syth …
Mae fy saets i’n edrych yn dila iawn. Dwi wedi bod yn ei docio i drio ei achub, ond dwn i’m … gawn ni weld. Sbiwch trist ydi o ar hyn o bryd:
Oes angen tocio mwy arno tybed? Ond dwi’n dal i ddefnyddio’r dail i goginio a dwi’m isio colli’r cwbl!
Yn wahanol i llynedd, mae fy mhatsyn mawr gwyllt i o rug a’r blodau bach piws na ( methu cofio’r enw rwan) yn llawn iawn, ac nid wedi ei droi’n grempog gan lygod bach. Beryg bod y diawlied wedi bod yn rhy brysur yn sglaffio bylbiau blodau eraill … roedd gen i fwy o gennin pedr na hyn, i fod!
Dwi wedi bod yn taenu fy nghyfrinach ( Super dug) fel peth gwirion felly siawns na welai wahaniaeth ymhen rhyw wythnos neu ddwy … croesi bysedd.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Adra, anrheg, chwyn, Cymraeg, Del, Gaynor Davies, llysiau, Nain, radio Cymru, Taid, tocio, When God was a rabbit
Chwefror yn barod?! Mae 2012 yn rasio heibio myn coblyn. Mi fues i’n tacluso a thocio dros y penwythnos, jest cyn iddi rewi. Siapio chydig ar goediach a gwrychoedd, fel eu bod nhw’n tyfu’n well pan ddaw’r gwanwyn. Mae’r bin brown yn orlawn, y bin compost yn llawn at yr ymylon a llwyth o stwffiach yn pydru mewn pentwr yn y gornel bellaf ( rhyw fath o domen gompost sy’n sicr yn gweithio gan fod gen i chwyn ffantastic yn tyfu yno).
A sôn am chwyn, tydi’r llun uchod yn grêt? Anrheg bach Cymraeg, difyr ar gyfer y dynion yn eich bywyd sy’n garddio – neu o leia’n rhoi cynnig arni. Fan hyn maen nhw ar gael:
http://www.adrahome.com/index.php?main_page=product_info&products_id=575&language=cy
Cyfle i chi gefnogi cwmni Cymraeg. Ydw i’n cael hysbysebu ar hwn dwch? Dwi’m yn gweld pam lai a dwi’n meddwl ei bod hi’n ddyletswydd arnai i roi sylw i gynnyrch Cymraeg o Gymru. Dach chi’n cytuno? Cofiwch chi, dydi’r llechi bach yma’n dda i ddim i mi gan nad oes gen i unrhyw ddyn yn fy nheulu sy’n garddio. Roedd Taid Frongoch, tad fy mam, yn tyfu llysiau yn arbennig o lwyddiannus, ond mae o wedi’n gadael ers blynyddoedd rwan, fel y taid arall, Taid Gronant, ond doedd o’m yn trafferthu efo llysiau o gwbl mae’n debyg. Nain oedd yr un oedd yn hoffi blodau ond er ei bod hi’n rhyfeddol am 96 ac yn dal i fyw ar ei phen ei hun ( dyma hi efo Del), dydi hi’m yn gallu garddio ryw lawer rwan. Fi sy’n gneud hynny iddi, fwya. Jest plannu pethau mewn potiau a chadw trefn ar y rhosod a’r chwyn. Mae hi wrth ei bodd efo lliw o gwmpas y lle, a gawson ni flwyddyn dda yn 2011, chwarae teg.
Mae Mam yn garddio’r mymryn lleia ( ond fi sy’n tocio’r rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd. Ond mae’n un da am godi waliau, chwarae teg. Y ddawn yn dod yn handi acw weithie!
Rhywbeth arall sydd ar werth ar wefan ‘Adra’ ydi hwn:
Mae gen i bot neu ddau fel yna fy hun a dwi wrth fy modd efo nhw. A rhag ofn nad ydw i i fod i hysbysebu un cwmni yn ormodol, maen nhw ar gael hefyd ( neu mi roedden nhw llynedd …) yn y farchnad ar sgwâr Dolgellau sy’n cael ei chynnal ar fore Sul unwaith bob mis. Braidd yn drwm i’w postio hefyd, ddeudwn i. Ond mae o i fyny i chi! Roedd na rai yn ‘Spectrum’ Machynlleth ar un adeg hefyd.
Er mod i wedi bod yn tacluso, mae arna i ofn bod y ty gwydr ‘chwythu i fyny’ yn dal yn grempog ar y gwair. Dwi’m wedi sbio ar y bali peth. Mi wnai drio ei chwythu i fyny eto pan gai’r amser a’r awydd, jest i weld faint o byncjars sydd ynddo fo. Ac ydw i’n mynd i drio eu trwsio? Ym … gawn ni weld.
O ia, ges i goblyn o hwyl yn sgwrsio efo Gaynor Davies ( nid Gaenor ydi hi naci? Naci, siwr mai Gaynor ydi hi) ar Radio Cymru bnawn Sul. Ro’n i’n cael dewis tair cân a malu awyr am hir rhyngddyn nhw – pleser pur. Os ydach chi isio gwybod sut fath o falu wnes i, mi fydd i’w glywed ar yr iplayer ar wefan radio Cymru am ryw bythefnos, dwi’n meddwl. Dwi’n mwynhau’r radio fel cyfrwng. Cymaint mwy o ryddid na sydd ar deledu – am ei fod o gymaint rhatach, felly llai o bwysau i fod yn fyr a chryno.
Yn darllen ‘When God was a rabbit’ rwan – hwnnw’n bleser pur hefyd.