BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gaeaf go iawn
Ionawr 23, 2010, 5:49 pm
Filed under: 1

Tydw i’n byw mewn ardal wirioneddol hyfryd? Mae fan hyn rhyw 4-5 milltir uwch ben Ffrwd y Gwyllt fel yr heda’r frân am y Rhobell. Mynydd ydi’r Rhobell gyda llaw. Un da i gerddwyr hefyd – welwch chi neb arall yno!

Ia, dwi’n gwybod, roedd pob man yn edrych yn ddel yn yr eira. Ond mae rhai mannau yn ddelach na’i gilydd! Er bod bywyd yn haws rwan bod y stwff gwyn wedi mynd, gallu gyrru i bob man yn ddidrafferth ac ati, dwi’n gweld ei golli o’n arw. Dwi newydd roi’r slej i gadw yn y sied a theimlo reit drist. Gai ei ddefnyddio fo eto eleni tybed? Ew, ges i hwyl efo fo. Ar y llethr yn y cae drws nesa, ac yn Gwanas efo Meg a Robin – a fan hyn, pan es i am dro efo ffrindiau a slejo’r rhan fwya o’r ffordd adre i lawr y ffordd fach gul oedd yn eira hyfryd, sglefriog! Ro’n i’n defnyddio fy ffon gerdded fel math o ‘rudder’ a brêc – hwyl garw!

Ond doedd yr adar ddim yn rhy hoff o’r eira nagoedden? Bron nad o’n i’n cael fy mygio gan y ddau robin goch yma bob tro yr awn i allan. Ac ro’n i wedi rhedeg allan o gnau a hadau a methu mynd i’r dre i brynu mwy. Wel, a deud y gwir, mi wnes i lwyddo i fynd i’r dre fwy nag unwaith yn ystod y cyfnod eira, ond ro’n i wastad yn anghofio prynu dim i’r adar. A dyna pam ro’n i’n torri’r rheolau ac yn rhoi crystion iddyn nhw. Roedd o’n well na dim byd o gwbl yndoedd?

Ond ro’n i’n teimlo’n ofnadwy wrth agor cyrtens fy llofft bob bore- llwyth o adar bach llwglyd yn aros yn eiddgar amdanai – a’r ddau robin goch ar stepen y drws hyd yn oed. Felly mi wnes i archebu sach o hadau a ‘mealworms’ a pheli braster gan yr RSPB. Daeth y fan â’r cwbl o fewn deuddydd ac ers hynny, mae adar Ffrwd y Gwyllt yn pesgi, bobol bach.

Mi fyswn i’n cynnwys llun agos ohonyn nhw efo’r camera newydd ond dwi’n dal i drio’i ddallt o …

Geirfa/vocab:

ardal wirioneddol hyfryd – truly beautiful area

dwi’n gweld ei golli o’n arw – I miss it a lot

robin goch – robin

rhedeg allan o – run out of

hadau – seeds



Yr eira
Ionawr 5, 2010, 10:32 pm
Filed under: 1

Dyma sut roedd Ffrwd y Gwyllt yn edrych bore ma pan es i a Del am dro. A gan ei bod hi wedi bod yn bwrw eira’n drwm eto heno, mae na o leia dwy fodfedd arall yma rwan. A dwi wrth fy modd efo’r eira. Wrth gwrs, dwi’n ddigon lwcus i fyw ar ochr y ffordd fawr felly dim ond mater o rawio chydig ydi hi i fedru mynd i’r dre i nôl llaeth. Neu yn fy achos i, i Gwanas i slejio efo Meg a Robin. Argol, gawson ni hwyl! Ond dwi’n meddwl y bydd gen i gleisiau ar fy mhen ôl ar ôl mynd tin dros ben ar ôl taro carreg neu lwmp anarferol o fawr o faw gwartheg. Ond mi ai eto fory os gai hanner cyfle.

Sori, ond pwy sydd isio garddio (na gweithio) pan mae na slejio i’w wneud?! Iawn, dwi’n poeni braidd am fy holboellia coriecia, dwi’m wedi rhoi unrhyw beth drosto fo i’w arbed rhag y tywydd oer ma. Ond duw, mae’n edrych reit iach hyd yma. Ac mae’n siwr y dylwn i fod wedi codi fy mitrwt a moron erbyn hyn. Ond mae’r sbrowts yn dal yn llai na marblis felly doedd na fawr o bwynt. Falle y tyfan nhw ar ôl yr eira ma!

Mae hi’n benblwydd arna i toc gyda llaw ( ia, gewch chi yrru cardiau, dim problem, anrhegion hefyd os leciwch chi, dwi’n mwynhau chydig o sylw, hyd yn oed os ydw i’n mynd yn hen) a dwi wedi penderfynu gwario arnaf fi’n hun. Dwi newydd archebu camera go iawn. Nid un bach sy’n ffitio’n fy mhoced fatha hwn, ond un mawr, efo lens, a’r enw Nikon yn fawr arno fo. Ro’n i mor genfigennus o luniau Mei Williams oedd yn Nigeria efo fi. Roedd gen i luniau ocê o bobl Gbara, ond mae ei luniau o’n ffantastic! Ia, dwi’n gwybod, mae o’n digwydd bod yn chwip o ffotograffydd hefyd, ond mae camera fel yna yn help! Felly cyn bo hir, gewn ni weld os fyddwch chi’n gallu deud y gwahaniaeth yn fy lluniau i. A chofiwch wylio’r ddwy raglen ‘Gwanas i Gbara’ ar Ionawr 13 a 20.

A dyma lun arall o’r cae uwch ben y ty:

VOCAB/GEIRFA: eira – snow; cleisiau- bruises; fy mhen ôl – my posterior/bum; poeni- worry; edrych reit iach – looks quite healthy; penblwydd – birthday. And remember to watch ‘Gwanas i Gbara’ on Jan 13 & 20.