BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Tydi’r hydref yn hyfryd
Hydref 24, 2013, 12:39 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , ,

imageTydi'r hydref yn hyfryd
Am fod lliwiau’r ardd mor fendigedig heddiw, rois i’r gorau i weithio ar y nofel a mynd allan efo’r ipad. Cymaint haws na chwilio am y camera mawr. A dyma i chi agweddau gwahanol o ngardd i – ac ydw, i loves my acer, i do.
imageimageimage
Dwi wedi gwirioni bod cymaint o flodau’n dal yn fyw, a rhai wedi atgyfodi o’r marw. Sbiwch ar fy mlodau haul i:image
Dwi wedi’i ddeud o o’r blaen, ac mi ddeudai o eto: yr Hydref ydi fy hoff dymor i o ddigon. Es i am dro efo Del ar y beic bore ma, a sbiwch golygfeydd – Dolgamedd, ty fy rhieni ydi’r lle bach llwyd yna yn y coed – yn y pellter. Nefoedd ynde!image
A dyma lun gymres i efo fy ffon 3G o dy fy ffrindiau, Luned a Richard morgan neithiwr. Machlud gwefreiddiol.image
O, a gyda llaw, rois i lwyaid bach o’r jeli mafon duon a chilli mewn grefi efo’n cinio dydd Sul, ac roedd o’n flasus, bobol bach.
Ac mae’n wir ddrwg gen i bod rhaglen Tyfu Pobl wedi pechu rhai o drigolion Penygroes – mi wnaethon ni ffilmio mwy o bethau fyddai wedi eu plesio nhw, ond rhaglen am arddio ydi hi yn y diwedd, a doedd na’m lle i’r darnau hynny yn y diwedd. Gobeithio y gwelan nhw fwy i’w plesio erbyn diwedd y gyfres…