Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brenhines, gwenwyn, gwenyn, haid, heidio, hollti, marw, mel i gyd, neithdar, paill, poison, Poisoning, robbing, trist, ymosodol
Newyddion trist mae arna i ofn. Cofio’r cwch o wenyn blin oedd gen i? Yr haid hedfanodd dros yr ardd gan fy nychryn yn rhacs oedd hi. Gwenyn prysur tu hwnt, yn hel paill a neithdar fel pethe gwirion, ond ymosodol a deud y lleia! Felly mi nath Carys a fi hollti’r cwch fis Mehefin a mynd a 4 ffram, gan gynnwys y frenhines, i’r cwch gwag oedd gen i yng ngardd fy rhieni.
Carys ydi honna, a hen gwch ges i’n ail law ydi hwnna. Rois i niwc ges i gan Carys ynddi llynedd, ond naethon nhw rioed lwyddo’n dda iawn, a rheiny fu farw dros y gaea.
Wel, roedd gen i obeithion mawr am y gwenyn yma a’u brenhines hynod gref. Ac roedden nhw’n gneud yn dda.
Ond rhyw dair wythnos yn ol, dyma be oedd ar lawr o flaen y fynedfa:
Pentwr o wenyn wedi marw, wedi pentyrru ar ben ei gilydd ac wedi dechrau cynthroni. Roedd y drewdod yn ofnadwy. A thu mewn i’r cwch, roedd hi’n waeth. Carped dwfn o gyrff.
Wel, ro’n i’n meddwl i ddechre mai haid arall oedd wedi ymosod arnyn nhw, achos doedd na’m tamed o fel ar ol yn y fframiau.
Roedd Carys yn ofni mai salwch o ryw fath oedd o, felly nes i ffonio’r insbector gwenyn. Mi ddoth fore Sadwrn, a deud nad oedd o rioed wedi gweld y fath beth o’r blaen.
“Possibly robbing,” medda fo, “but probably poisoning.” Ond roedd y cyrff wedi pydru gormod i ni gael sampl digon mawr i’w yrru i’r gwyddonwyr wneud profion i weld sut wenwyn oedd o.
Mi ddylwn i fod wedi hel llond jar yn syth a’i gadw yn y rhewgell.
A ble fysen nhw wedi dod o hyd i’r gwenwyn? Wel, os oedd rhyw arddwr/ ffarmwr wedi bod yn defnyddio chwynladdwr cry ar ‘chwyn’ oedd mewn blodau ar y pryd… Mi fysa hynny’n ddigon. Does na’m gwenyn lleol eraill wedi marw, jest y cwch yma oedd yn anlwcus, beryg.
Mor drist. Ond dyna ni, dydi cadw gwenyn ddim yn fel i gyd … (Sori!)
A gan mod i wedi hollti’r cwch arall hefyd, dwi’m yn meddwl y bydd gen i fel i’w roi i neb eleni, sori… Flwyddyn nesa ella!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: crwybr, ffrwd y gwyllt, gwenyn, mêl, NGS, paill, Sioe Fach y Patsh
Drapia’r glaw yma. Roedden ni fod i ffilmio mewn dwy ardd NGS ddydd Iau ond bu’n rhaid gohirio. Ond ro’n i wedi mynd i weld y ddwy – Tyn Twll, Llanfachreth a gardd ‘Anti’ Beryl ( dydi hi’m yn fodryb i mi, ond mae hi’n nabod Cadi FFlur yn dda) yn Bontddu a dan ni’n siwr o ffilmio yno eto – maen nhw’n werth eu gweld, dwi’n addo. A sôn am NGS, mae Bryngwern ( lle fuon ni’n ffilmio llynedd) ar agor dydd Sul yma, ond mae’r perchennog, Hilary Nurse yn flin fel tincar am fod y glaw wedi chwalu bob dim! Hefyd, mae pob dim yn gynharach nag arfer tydi, felly mae ei hoff flodau wedi darfod yn barod. Ond mi fydd yn werth mynd yno run fath – ar ffordd Dolgellau-Bala – ac maen nhw’n addo tywydd gwell at ddydd Sul.
Bechod am ddydd Sadwrn – sef fory. Addo cawodydd maen nhw a dyna pryd mae Sioe Fach y Patsh. Croesi bysedd mai dim ond cymylau gawn ni. Ac mae gen i ryw hen beswch annifyr wedi codi – a’r hen boen ‘na yn yr ysgwyddau sy’n arwydd bod annwyd/ffliw ar y ffordd. Dim ond gweddio y bydd y garglo halen yn gweithio ac y bydd gen i lais ac egni fory …
Ond, er gwaetha’r tywydd, llwyddwyd i wneud diwrnod da o ffilmio ddydd Mercher, fan hyn, yn Ffrwd y Gwyllt. Gewch chi weld sut siap sydd ar fy nhy gwydr ( dal i gadw’r un ciwcymbar fawr at Sioe Rhydymain), y gornel gysgodol lle driodd Carol a finne roi mwy o liw ynddi, hanes y camerau adar – a’r gwenyn. Y diwrnod cyn i’r criw gyrraedd, roedd Carys Tractors wedi galw efo siwtiau ar eu cyfer. A dyma fanteisio ar fynd i weld fy ngwenyn gan ei bod hi’n braf.
Ym … pan dynnon ni’r caead, roedd hi’n amlwg bod rhywbeth ddim cweit fel y dylai fod:
Dach chi’n gweld y crwybr ( honeycomb) drwy’r tyllau? Dydyn nhw ddim i fod fanna. Wedi tynnu hwnna, sbiwch llanast:
‘Bad beekeeping’ yn barod! Ro’n i wedi bod yn rhy araf yn gneud a gosod fframiau ychwanegol i lenwi’r bocs, felly roedd fy ngwenyn prysur wedi dechrau llenwi’r bwlch eu hunain … wps. Bu’n rhaid tynnu’r cwbl oddi yna a’i roi mewn bwced … ac mi wnes i fframiau newydd yn o handi!
Dyma sut roedd y bocs i fod i edrych:
A sbiwch ffram dda sydd gen i’n y canol – llwyth o fêl ar honna!
Nôl â ni i’r ty wedyn, a rhoi’r crwybr mewn sosban oddi mewn sosban arall yn llawn dwr poeth:
Gan fanteisio ar flasu peth ohono fo cyn ei doddi yn gynta …
ew, melys. Ond dydi’r mêl yma ddim wedi cael cyfle i aeddfedu felly neith o’m cadw’n hir iawn. Mae o’n ffresh, ydi, efo blas ysgafn, ffresh, ond ffermentio neith o yn ôl Carys.
Yn ara bach, dyma’r stwff yn toddi … Nes ei fod yn edrych fel cawl minestrone. Y paill ydi’r darnau bach coch ac oren, gyda llaw.
Wedi gadael iddo oeri, roedd y wax wedi caledu ar y top, ac wedi hidlo’r mêl drwy fwslin, ges i 4 jar o fêl! Es i â un i Nain ac un i fy rhieni, ac mi gaiff fy chwaer y llall. Mae hi i fod i alw heddiw ryw ben – efo Cadi Fflur gobeithio. Mae Caio chydig yn rhy ifanc i werthfawrogi mêl dwi’n meddwl.
Dwi angen bocs ‘super’ arall rwan am fod fy nghwch yn datblygu mor gryf, mor sydyn – a bydd angen 11 ffrâm arall yn barod pan ddaw hi! A chwch cyfan arall yn o handi wedi hynny – mae’r gwenyn yn amlwg yn licio’u lle yma ac yn cael hen ddigon o fwyd yn fy ngardd i. Gewch chi eu gweld nhw eto toc – a finna efo nhw, yn edrych dipyn llai, gobeithio – es i ar ddeiet ar ôl gweld y siap oedd arna i …