BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwyliau!
Medi 17, 2011, 11:03 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Ydw, dwi’n cael mynd. Ie, i fan’no. I Seland Newydd – cwpan y byd, rygbi, kiwis, maoris … fydda i yno! Dim byd i neud efo Byw yn yr Ardd ( y gyllideb ddim cweit yn stretsho digon) ond rwan bod y ffilmio a’r trosleisio wedi dod i ben ( tan rhaglen y Nadolig wrth gwrs) – dwi’n rhydd! A digwydd bod, ges i ebost gan ffrind i mi o Auckland yn deud “I’ve a spare room if you want to come for the rugby …” Wel. Wel wel wel! Be fysech chi wedi ei neud?! Ro’n i wedi cadw cyfnod o 3 wythnos yn rhydd ar gyfer mynd i rhywle, oedd yn digwydd taro ar gêm Cymru v Fiji, De Affrica v Samoa a’r chwarteri. Ond mi fyddai adre erbyn y gêm derfynol. Neu yn yr awyr – dwi’m yn cofio rwan.

A dwi wedi cael tocynnau ar gyfer y ddwy gêm uchod! Gai weld Sam ein capten glew a’i hogia yn stwffio’r Fijiaid – gobeithio. ( Dwi’n sgwennu hwn cyn gêm Samoa ac yn nerfus baridd). Mi fydda i yno beth bynnag – chwiliwch amdanai mewn het Gymreig – efo 3 hogan arall o Seland Newydd. A dau gennin wedi eu chwythu i fyny ( hi ofynnodd…). Roedd hi’n arfer bod yn briod efo Cymro; gwraig weddw ydi hi bellach, ers blynyddoedd, bechod.

Ond gan mod i wedi pasa plymio scuba, dwi’n mynd i Bali yn gynta, i Tulamben lle mae na lefydd gwych i wneud scuba. Ac mae’n rhad, bobol bach – wel, efo’r cwmni dwi wedi dod o hyd iddyn nhw. A llofft yng nghefn yr ysgol blymio am 10 euro y noson! Nai adael i chi wybod sut le oedd o – ond mae’n well gen i lefydd plaen, syml. Dwi wastad yn teimlo’n annifyr mewn gwesty crand. Ac mae’r rhain yn swnio’n hynod llorweddol ( laid-back?!) a dwi’n mwynhau bod efo pobl felna. A chroesi bysedd y cai weld pob math o bethau. Os nad ydach chi wedi plymio dan dwr – mae’n union fel gardd lawr fanna, felly byw yn yr ardd dan dwr fydda i!

Hyfryd de? Felly tan fyddai wedi dod yn ôl – hwyl i chi – a chofiwch wylio rhaglen Enlli a’r rhaglen o ffefrynnau’r gyfres dros y flwyddyn! O, a ‘Byw yn ôl y Papur Newydd’ sy’n dechrau ar ddechrau Hydref. Mae’r cyfan ar Sky+ gen i, achos dwi na Tudur wedi gweld y gyfres ‘BYOYPN’ yn iawn eto chwaith.

Tan toc.



Ty’n Twll, Llanfachreth
Medi 10, 2011, 1:13 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Pan fydd dau artist yn cael eu dwylo ar ddarn o dir, dach chi’n siwr o gael gardd greadigol. Ac artistiaid ydi Pete a Sue Nicholls, sy’n byw ddim yn bell o gwbl ohona i. Mae’r ty i fyny ffordd fach gul sy’n dringo i fyny o lannau Pwll y Gele, sydd i fyny’r ffordd am Lanfachreth o Bontnewydd, ger Dolgellau.

Mae eu gardd nhw’n ran o’r cynllun NGS rwan, ac os cewch chi gyfle, ewch yno. Mi fuon ni’n ffilmio yno ddiwedd Awst, er gwaetha’r glaw! Mae gynnyn nhw ddwy acer o goedwig, gardd lysiau, rockery ac ati, sy’n llawn creadigaethau o bren: ro’n i wedi gwirioni efo’r ty adar yma! A Pete sy’n gneud bob dim allan o bren – dyna ei gyfrwng o. A Sue ydi’r un sy’n gneud pethau allan o gerrig. Fel yr ‘urns’ neu’r casgenni yma sydd wedi eu gneud o ddarnau gwastraff o lechi a cherrig mân. Maen nhw’n hyfryd tydyn? Ond ei chef d’ouvre ydi’r cawr 35 troedfedd sy’n gorwedd yn dawel yn y goedwig … Mae hwn yn bendant yn werth ei weld – a’i gyffwrdd. A’r ffaith eich bod yn gallu gweld copa Cader Idris drwy’r coed yn gyffyrddiad clyfar iawn. Mae’r ddau yn bobl ffit iawn, sy’n rhedeg marathons hefyd -ble maen nhw’n cael yr amser i arddio?!

Mae’r ffordd maen nhw wedi defnyddio hen ddarnau o bren, sgidiau ac ati yn wefreiddiol a rhywbeth i sylwi arno ym mhob twll a chornel.

Mae gynnyn nhw bwll llawn carp: heb damed o algae ynddo fo; ci sy’n goblyn o gymeriad a phob math o fywyd gwyllt a chwt ieir y byddai unrhyw iâr yn falch ohono!

Gardd wirioneddol hyfryd – a chwarae teg i Pete am gytuno i gael ei gyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgwr ydi o, ac roedd o’n nerfus tu hwnt, ond mi nath jobyn dda. Da iawn, Pete! Braidd yn rhy swil i siarad oedd Sue – yn Gymraeg o leia. Daliwch ati, y ddau ohonoch chi!

 



Sioe Rhydymain
Medi 2, 2011, 7:40 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , ,

A dyna hynna am flwyddyn arall. Oedd, roedd na gystadlu brwd unwaith eto, ond doedd na’m hanner cymaint o lysiau a blodau ag arfer. Do’n i’m wedi gallu cystadlu llawer chwaith -1) rhy brysur efo’r trefniadau fel un o’r ysgrifenyddion 2) stwff ddim digon da. Doedd gen i’m un rhosyn oedd yn iawn ar y diwrnod, dim un tomato coch, ac roedd llawer o flodau fysa di gneud yn grêt ar gyfer ffiol o flodau fel arfer wedi darfod ers dyddiau. Bw hw.

Ond … ges i ail am fy nghiwcymbar! A chan mai dyna’r ciwcymbar cynta i mi ei dyfu erioed, ro’n i wedi gwirioni. Iawn, dim ond 3 oedd yn y gystadleuaeth, ond ges i ail, iawn! Dwi’n hapus!

Ges i 3ydd efo fy afalau Enlli hefyd ( o’r goeden ddangosodd Carol Gerecke i mi sut i’w sythu) – ac roedd na lwythi yn y gystadleuaeth yna … felly nyyy! Ches i’m byd am fy jeli mintys eleni na fy nhorth drisl lemwn ond roedd hi’n flasus iawn run fath. Ches i’m amser i goginio unrhyw beth arall. Ond fyswn i byth yn mentro ar y gacen nofelti – mae na rai da ffor’cw … O, ac er mod i wedi llwyddo i dyfu nionod am y tro cynta, doedd gen i’m digon o rai da i’w harddangos- a sbiwch safon: Dewi Wyn Evans ( Dewi Blod) ddaeth yn gynta, ail a 3ydd! Dim ond 4 nath gystadlu ar y casgliad o 6 llysieuyn yn yr adran leol a gesiwch pwy ddoth ola … Na, dim moron yn fy masged i a dim ond un courgette ond sbiwch maint y tatws na! Ac roedd y dail kale wedi gwywo’n rhacs erbyn diwedd pnawn. O wel. Nes i drio’n do …

Dyma i chi flas o be oedd yn digwydd tu allan, y cneifio efo gwellaif: ffarmwrs swil yn mynd a’u defaid adre: A rhai o’r hogia’n pôsio ar ben bryncyn: Digon o hwyl, ond nes i sgwennu colofn Herald ( wel, rant) am y cwynion ges i am y blerwch yn y rhaglen, ac os oes gynnoch chi awydd ei darllen hi – dyma chi!

Y Golofn:

Cropian i ngwely wnes i nos Lun. Sioe Rhydymain. Cofio fi’n canmol y sioe yn y golofn hon rai blynyddoedd yn ôl a deud bod y bobl sy’n trefnu’r pethe ’ma angen clod a phob cefnogaeth? Wel, ges i wahoddiad i fod ar y pwyllgor wedyn yndo, wedyn fethes i a gwrthod cael fy ngwneud yn un o’r ysgrifenyddion.

Nefi wen. Mae’r swydd yn cael ei rhannu fel nad ydi hi’n ormod o dreth ar amser neb, ond fi sydd yng ngofal y rhaglen. Iawn, roedd hi allan yn gynharach nag arfer, ond roedd ’na gamgymeriadau … ar y clawr hyd yn oed! Oedd, roedd o’n deud Dydd Llun Gwyl y Banc, ond efo’r dyddiad 28.8, a 29.8 oedd hi ddydd Llun ynde. Ylwch, dwi reit dda efo geiriau ond fu rhifau erioed yn un o fy nghryfderau. Dwi bron yn siwr fod gen i rywbeth o’r enw ‘Dyscalculia’, sef math o ddyslexia rhifau. Dyna pam fethais i fy Lefel ‘O’ mathemateg deirgwaith. Mi wnes i ebostio’r rhaglen at aelodau eraill y pwyllgor i weld os oedden nhw’n hapus ond unai mae gynnyn nhw ddyscalculia hefyd, neu wnaethon nhw’m trafferthu i sbio arno fo!

Na, dwi’m yn trio beio eraill, jest trio ei rannu … mi ddylwn i fod wedi sylwi, yn enwedig o gofio mai un o fy swyddi ‘go iawn’ i ydi golygydd llyfrau. Mi ddylwn i hefyd fod wedi sylwi ar y smonach yn y risêt am ‘Picnic slices’. Yn y fersiwn Gymraeg, roedd o’n deud 2 owns o fenyn, yn yr un Saesneg: 12 oz. A naci, nid trio fficsio pethau o blaid y Cymry Cymraeg oedden ni, wir yr. A llongyfarchiadau i Carys Fronalchen am guro efo’i sleisiau picnic hi beth bynnag. Ges i eu blasu ac roedden nhw’n hyfryd, ond anghofies i ofyn faint o fenyn ddefnyddiodd hi.

Bu cryn sylw hefyd i’r gystadleuaeth Llun camera, gan mai’r testun yn ôl y rhaglen oedd ‘Gaeaf 2012/Winter 2010.’ Mae’n siwr mai 2011 oedd o i fod, a doedd dim disgwyl i’r rhai oedd yn deall Cymraeg fedru gweld i’r dyfodol hyd y gwn i.

Mae’n siwr bod ’na gamgymeriadau eraill hefyd, ond, fel y dywedodd cwpl neis iawn o Lanuwchllyn wrtha i, “ Y bobl sy’n gwneud ffys o’r pethau bychain yma yw’r rhai lleia parod i wneud y gwaith eu hunain …” A do, mi ges i nhemtio i gyhoeddi o lwyfan y neuadd – “Os nad ydach chi’n hapus, mae croeso i chi gael y swydd!” Ond wnes i ddim, dwi’n ormod o fabi. Mae’n haws rhoi fy nghwynion i lawr ar bapur …

O ia, bu pobl yn cwyno hefyd na chawson nhw gopi o’r rhaglen. Argol, fues i’n eu rhannu rhwng bobl yr ardal a siopau a busnesau’r dre am ddyddiau, doeddech chi rioed yn disgwyl i mi alw ym mhob ty yn Rhydymain a’r Cylch?! Dwi’m adre hanner yr amser fel mae hi! Unrhyw un sy’n cynnig ei hun fel dosbarthwr – gwych – cysylltwch efo ni â chroeso.

Iawn, dwi’n teimlo’n well rwan. A dwi’n falch o ddeud y cafwyd sioe ragorol heb ddropyn o law. Aeth pob dim fel wats, roedd pawb wedi mwynhau, a’r beirniaid wedi eu plesio, er nad oedd cymaint o flodau a llysiau ag arfer, ond o gofio’r tywydd diweddar, does ’na’m syndod. Pawb yn cwyno am eu diffyg tomatos coch … mae fy rhai i’n dal yn wyrdd, er gwaetha’r ty gwydr gwynt (sydd angen ei chwythu i fyny eto … Grrr). Ond, mi lwyddais i dyfu ciwcymbar am y tro cynta yn fy myw, ac er ei bod hi fymryn yn felyn, roedd hi’n hir a thrwchus, a ges i ail! Dim ond tri oedd yn cystadlu, ond dyna fo. Dwi’n dal yn gwenu.

Roedd yr adran gwaith cartref yn wych fel arfer, a’r cacenni’n fendigedig. Mi fydd pobl y cylch yn bwyta bara brith a thorthau drisl lemwn am wythnosau. Roedd safon y defaid yn uchel tu hwnt eto, a diolch i’r holl ffermwyr o bell ac agos am fynd i’r drafferth o ddod a’u hyrddod a’u sbinod a’u pic yps i Rydymain. Ond beryg mai cystadleuaeth y cwn sydd fwya poblogaidd bellach. Am fod gen i ddigon i’w wneud fel roedd hi, mi wnes i adael Del druan adre. Mi fu cryn holi amdani, ond mae angen rhoi cyfle i gwn eraill does …

Un peth wnaethon ni’n iawn fel pwyllgor oedd penderfynu anghofio am y cwpanau bychain plastig ’na eleni, y rhai sy’n ddrud am yr hyn ydyn nhw a jest yn hel llwch. Y tro yma, roedd yr enillwyr yn cael mwg smart efo ‘Sioe Rhydymain a’r Cylch’ arno. Rhywbeth defnyddiol! Roedd un o’r beirniaid wedi dotio gymaint, yn lle cydnabyddiaeth am feirniadu roedd o jest isio mwg!

Felly diolch i fy nghyd-drefnwyr am eu gwaith caled, diolch i bawb am ddod a chystadlu, ac os oes unrhyw un isio helpu flwyddyn nesa, mae Cyfarfod Blynyddol y Sioe ar nos Fercher, Tachwedd 2il am 8.00. Braf fyddai gweld wynebau newydd …