Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cnocell fraith fwyaf, cnocell fraith leiaf, gwenyn, Ioan Morgan, pegiau, swil
Dwi wedi cael benthyg zoom lens Ioan Morgan, yn ogystal â’i declyn ‘charjio’. Ac wrth gwrs, doedd na’m golwg o’r adar diddorol wedyn, dim ond titws a llinosiaid ac ati. Ond ro’n i wedi gwirioni efo’r titw bach yma oedd yn dangos diddordeb mawr yn y pegiau ar fy lein ddillad …
Dim clem pam, wrth gwrs, ond mi fu’n chwarae efo’r peg yna am oes.
Ond o’r diwedd, daeth y gnocell fraith fwya – dwy/dau ohonyn nhw:
Un bob ochr, ylwch. A dyma un yn agosach:
Ond mae’n rhaid tynnu llun drwy’r ffenest i ddal rheina – maen nhw’n bethau swil ofnadwy. Ond ble oedd fy ffefryn, fy seren, y gnocell fraith leiaf? Wedi deuddydd doedd ‘na’m golwg ohoni. Ond yn y diwedd:
Ieeee! Ac mae hwn yn llawer llai swil na’r rhai mawr, ges i gymryd hwn o’r drws. Mi fues i wrthi’n clician fel peth gwirion, nes i’r bali gnocell fawr hedfan i mewn fel bwli go iawn:
Ond dwi’n hoffi’r llun yma, rhaid i mi ddeud. Rhywbeth yn sidêt iawn am y ffordd mae’r gnocell fach yn hedfan does?
Wel, gan y bydd Ioan isio’i lens yn ôl toc, mi es i rownd yr ardd yn chwilio am bethau i’w zoomio. Ac wele … un o fy ngwenyn:
Roedd ‘na griw mawr ohonyn nhw ar y blodau yma – byth yn cofio’r enw sori – brwshus toilets ydyn nhw i mi, nid eu bod yn edrych fel rheiny fan hyn. Ta waeth, mae’n amlwg bod y gwenyn bach cymreig wrth eu bodd efo nhw – lwcus, a finne efo o leia tri phatshyn mawr ohonyn nhw. Roedd y swn yn hyfryd.
Dwi wedi rhoi tair ffram arall yn y cwch ac mae angen rhoi mwy at ei gilydd rwan – ond dwi’n gweithio yn ein maes carafannau pan nad ydw i fan hyn, felly mae’n anodd dod o hyd i’r amser. Efallai nai roi cynnig arni heno – tra’n gwylio ffilm yr un pryd…?
Ia, y maes carafannau … mae Mam isio ymddeol felly bydd raid i ni’r plant drio gweithio allan pwy fedar gymryd drosodd neu sut fedran ni rannu’r gwaith. Anodd … mi fysa’n hurt gwerthu a ninnau wedi bod yn gweithio mor galed i’w gael o’n gweithio ac yn edrych cystal. Hmmm …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Coeden Afalau Enlli, ffrwd y gwyllt, Nikon D3000, sied eco, Sioe Rhydymain
Dwi wedi colli charger fy nghamera da ( Nikon D3000) ers misoedd. Dim clem ble dwi wedi’i roi o. Felly wythnos dwytha nes i archebu un newydd drwy’r we – un oedd i fod i allu ‘charjio’ pob math o fatris, yn cynnwys y D3000. Hy. Dwi wedi methu gneud pen na chynffon ohono fo. Ond neithiwr, mi feiciais draw at dy fy ffrind, Luned. mae gan ei mab hi, Ioan, yr un camera, felly dwi wedi cael benthyg ei charger o, a bore ma, ges i fodd i fyw yn cymryd lluniau. Nefi, mae camera da yn gneud gwahaniaeth!
Iawn, rhai bach ydi’r rhain ( haws a llawer cynt eu lwytho i’r blog yma) ond mae eu safon yn dal gymaint gwell na’r camera bach Olympus.
Dyma rai i roi syniad o sut stad sydd ar yr ardd y dyddiau yma:
Reit ddel yma tydi?Do, dwi wedi bod yn torri’r lawnt yn hogan dda – ond fydda i’m yn trafferthu tacluso llawer ar ochrau’r borderi, rhaid cyfadde. Mi wnai ryw ben.
Dyma du mewn y ty gwydr:
Ydi, pob dim ar draws ei gilydd braidd, ond bocsys sy’n gorfod gneud y tro fel silffoedd … dal i ddisgwyl i’r tomatos gochi hefyd. Ond mae gen i un ciwcymbar anferthol! Neith o gadw at Sioe Rhydymain ddiwedd Awst? Go brin …
Dyma’r goeden afalau Enlli gafodd ei sythu efo parau o deits – llwyth o afalau ylwch!
A’r gornel dywyll sydd yn dal braidd yn dywyll felly dwi wedi torri mwy o ganghennau er mwyn i’r bysedd y cwn lliwiau gwahanol sydd wrth y bonyn gael mwy o olau er mwyn i mi gael blodau fel sydd ar y ddau arall!
A chydig o luniau sbar o’r sied eco ayyb … mi fydd y criw ffilmio’n ôl yma ar ôl Steddfod. Gawn ni weld os fydd cystal graen yma erbyn hynny!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Byw yn ol y Papur newydd, clematis, dringwr, ffrwd y gwyllt, heuchera, hunangofiant, Llanelwedd, rhedyn, Sian James
Dwi’m wedi bod yn ffilmio wsnos yma, felly dyma gyfle i ddangos chydig o luniau o Ffrwd y Gwyllt i chi. Cofio Carol a finne’n cael gwared o hen wrych hebe oedd wedi tyfu’n llawer rhy fawr? Wel, o flaen y bobyn, nes i blannu’r heuchera welwch chi ar flaen y llun, a gan fod hwn wedi ei dynnu rai wythnosau’n ôl, mae o dipyn mwy na hyn rwan. Mae o wrth ei fodd! Mae’r tiarella’n ffynnu hefyd, gan eu bod nhw’n cael dipyn o haul bellach, ac mae’r planhigyn dail tebyg i glust eliffant yn y cefn ges i’n rhodd gan gymydog yn hapus braf yma hefyd, heb sôn am y rhosod.
Dyma i chi lun weddol hen bellach, pan oedd yr azaleas allan:
Edrych yn dda acw tydi? Ond mi welwch fod ‘na redyn yn tyfu’n dda yma hefyd, a dyna be dwi wedi bod yn gorfod ei neud yn ddiweddar … trio cael gwared o’r rhai sy’n taflu gormod o gysgod dros – neu’n tagu planhigion eraill. Nefi, mae’n waith chwyslyd eu rhwygo allan o’r pridd pan maen nhw wedi tyfu’n angenfilod mawrion. Dwi’n tyllu’n ddwfn efo’r fforch, yn neidio ar goesyn y fforch, yn troi a throi, yn cydio’n y pelen efo nwylo i’w droi bob sut er mwyn rhyddau’n gwreiddiau, a dwi wedi disgyn yn fflat ar fy mhen ôl fwy nag unwaith efo’r blwmin pethau. Dwi’n gwybod am bobl sy’n talu pres da am blannu’r rhedyn yma yn eu gerddi, ond gwyliwch eich hunain – maen nhw’n ehangu a hadu eu hunain fel pethau gwirion!
Sbiwch yn ofalus ar y llun yma ac mi welwch ‘fforch’ y goeden hebe wnaethon ni drio ei thocio er mwyn iddi dyfu’n well … ond does na’m un deilen ar ôl arni. Beryg ein bod ni wedi lladd honna, a marw wnaeth fy nhoriadau hefyd. O wel. Ond mae’r planhigion mawr ar waelod y llun yn mynd yn wallgo – mi welwch chi un o’r blodau melyn – tebyg i flodyn haul bychan. Ond dwi wedi anghofio enw’r blodau yma, a phryd wnes i eu plannu. Unrhyw un yn gallu fy helpu? Ond dwi’n cofio enw’r dringwr blannais i wrth droed y bwa – Clematis montana primrose star. Mae’n tyfu’n dda ond dwi’m yn debygol o weld blodau arni eleni gan mai yn y gwanwyn mae’r rheiny’n dod mae’n debyg. Dim ond gweddio y cawn ni aeaf cleniach tro ‘ma – dyma’r 3ydd cynnig ar gael rhywbeth i dyfu dros y bwa, bu farw’r lleill yn gelain llynedd a’r flwyddyn cynt.
Mae’r ty gwydr yn dal yn gyfan a llawn planhigion tomato, ciwcymbar a chourgette ( ac un goeden chillis) ond dim ond rhyw 5 tomato bach sydd wedi tyfu hyd yma, a’r rheiny’n dal yn wyrdd. Ond mae gen i domen o flodau felly aros fydd raid. Mae na 2 giwcymbar yn tyfu’n dda, un bron yn barod i’w fwyta, ond blodau’n unig sydd ar y courgettes o hyd, drapia. Ac roedd na lygoden y maes yn y peth wythnos dwytha – yn sbio arnai mwya powld! Byta di fy nghiwcymbar i, ac mi ai i fenthyg cath, gwd boi… Dydi Del ddim yn un dda iawn am ddal llygod.
Mae’r rhan fwya o’r penbyliaid wedi troi’n llyffantod ond mae na ambell un yn dal heb goesau – ydi hyn yn nam neu ydyn nhw jest yn cymryd eu hamser dwch? A dwi’m wedi gweld fy ngwas y neidr du a melyn eto eleni. Mae’n cael ei eni yma bob blwyddyn a dwi’n siwr mod i’n ei weld erbyn Gorffennaf fel arfer …
Ta waeth, dyma i chi gwpwl o luniau’n dangos be arall dwi wedi bod yn ei neud yr haf yma: Ia, cyfres arall efo Tudur Owen – ‘Byw yn ôl y Papur newydd’ – y 1920au sydd dan sylw tro ma, a gawson ni hwyl, bobol bach! Mi fydd y 6 rhaglen yn cael eu darlledu o fis Medi ymlaen, felly cofiwch amdani. Yn y cyfamser, byddwch yn amyneddgar efo Byw yn yr Ardd – dwi’n siwr y byddwn ni’n ôl ar ôl Sioe Llanelwedd! Mae’n debyg bod Sioned a Russell yno rwan, ond dwi’m yn siwr os a i eto. Ches i’m gwahoddiad beth bynnag! Mae gen i ddigon i’w wneud fan hyn yn y cyfamser, a gawson ni lansiad hyfryd yn Llanerfyl nos Iau – hunangofiant Sian James – y llyfr perffaith i’w ddarllen yn eich carafan yn y glaw yn Llanelwedd … mae’n wych!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Groundworks, Llandudno, Mostyn, plas
“Mae ‘na fistar ar Mistar Mostyn.” Dwi wedi clywed y dywediad yna droeon dros y blynyddoedd ond doedd gen i’m clem pwy oedd Mistar Mostyn – tan yn ddiweddar. Y teulu Mostyn oedd un o’r teuluoedd cyfoethocaf yng Ngogledd Cymru, nhw ddatblygodd Llandudno a’r stad pia ei hanner o hyd, a dyma’r hen blasdy:
Mae’n dyddio’n ôl i’r 1500au, ac mae’n hyfryd. A dyma i chi be welwch chi wrth fynd drwy’r cyntedd at ble mae’r plasdy mwy ‘modern’:
Sgen i’m syniad faint ydi oed hwnna, ond dio’m yn edrych yn newydd … a be am y plasdy ‘newydd’? Wel, dwi’m yn siwr pryd gafodd o’i adeiladu, ond mi gafodd ei adnewyddu yn y 1840au, a dyma fo:
Oes, dipyn o seis arno fo does? Ond does ‘na neb o’r teulu Mostyn wedi byw yma ers 2009. Mae’r arglwydd presennol, sy’n ddim ond 26 neu 27, yn byw yn Llundain ac yn picio yma ambell benwythnos, felly ty ha ydi yn y bôn. Ty ha?! Ond mae na 5 person yn cael eu cyflogi i ofalu am y ty a mwy yn gofalu am y stad a dau arddwr. Dim ond dau, lle unwaith bu 52.
Dyma lun o Syr Thomas Mostyn Mostyn – (Knight. 1535 – 1617 yn ôl y we). Tybed ai fo oedd Mistar Mostyn y dywediad? Ond beryg mai un o’r rhai ddaeth wedyn oedd o, gan eu bod nhw’n farwniaid toc wedyn, nid dim ond ‘syr’. Ond ro’n i isio dangos llun hwn am ei fod o’n caru adar! A finne, mêt – a dwi wedi cael ymateb da iawn i hanes y Gnocell fraith leiaf. Dyna destun colofn yr Herald wsnos yma!
Ond yn ôl at Mostyn. Roedden ni gyd fel criw wedi synnu at ysblander y ty a jest a marw isio sbecian drwy ffenest, ond fiw i ni – dwi’m yn amau mai dyma’r tro cynta i gamerau teledu gael dod yma; yn sicr, dydi o ddim ar agor i’r cyhoedd, a doedden ni m’ond yno am fod ‘Groundworks’ wedi ein gwadd ni yno am eu bod nhw’n atgyfodi’r hen erddi efo help criw o hogia sydd ar brosiect dysgu bod yn arddwyr. A chriw da oedden nhw hefyd. Dyma un yn yfed ei baned allan o jwg am nad oedd digon o fygiau i bawb efo ni!A rhai o’r lleill yn gweithio ar yr ardd Siapaneeg na chafodd byth ei chwblhau:
Ond y prif brosiect ydi’r hen ardd fu’n tyfu llysiau – y ‘walled garden’ mwya i mi ei weld erioed!
Mae o’n anferthol! 2.4 acer. Pan gafodd ei godi yn 1830, mae’n rhaid ei fod yn anhygoel, ac yn 1965, roedd na 12 garddwr yn dal i weithio yno, ac yn tyfu llysiau hyfryd. Ond wedyn, mi fu’n le i fagu ffesantod, ac wedyn yn blanhigfa coed conifer, a choblyn o waith oedd ei glirio eto a llwytho pridd a thail yno er mwyn gallu tyfu llysiau eto. Ond maen nhw’n llwyddo. Gyda chymorth y ty gwydr 350+ troedfedd sy’n dyddio’n ôl i tua 1790.
Ro’n i wedi gwirioni efo’r criw a’r lle. Un o’r dyddiau sy’n gwneud i mi deimlo’n hynod lwcus yn cael cyflwyno rhaglen fel ‘Byw yn yr Ardd’! Ew, dwi’n cael gweld pethe a dysgu cymaint. Ond mi wnes i un smonach … golles i transmitter y meic radio i lawr y ty bach … wps. Dim clem os dio’n gweithio bellach.
Mwy o luniau i chi i orffen, yn cynnwys gardd rosod hyfryd un o’r garddwyr llawn amser, a’r ‘M’ am Mostyn ar y ty – methu aros i weld yr eitem. O, a fydd hynny ddim tan Gorff 27 o leia – dydan ni’m ar yr awyr o gwbl fis yma! Bali gemau pêl-droed a sioe a ryw bethe felly. Grrr.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Felinheli, Gampfa werdd, Guto, india corn, polytunnel
Dwi wedi dod dros colli fy ngwybedogiaid. Bosib eu bod nhw’n rai sydyn iawn am ddysgu hedfan ac wedi gneud hynny tra ro’n i i ffwrdd? Ond go brin. O wel. Flwyddyn nesa falle. A phun bynnag, mae’r gnocell fraith leiaf – a’i phlentyn yn dod i’r ardd bob dydd, a’r un ifanc yn bwydo hyd yn oed os dwi wrth y bwrdd picnic wrth ei ymyl! Gai lun call un o’r dyddie ma…
Ond ges i goblyn o hwyl wythnos dwytha, rhaid cyfadde. Nabod fama? Ia, y Felinheli.
A cofio’r boi yma? Fues i’n dysgu Ffrangeg iddo fo yn Amlwch, cofiwch – ac mae’n cofio’n eitha da – er na ddewisodd o astudio’r pwnc. Ond dyna fo, difaru mae o erbyn heddiw, fel pawb arall. Dysgwch iaith arall y diawlied diog! Ond mae o’n arddwr reit dda. Ia, Guto ydi hwn, sy’n rhedeg y Gampfa Werdd yn y Faenol, ger y Felinheli. Fuon ni yno dair blynedd yn ôl ac roedden ni isio gweld sut mae’r lle wedi altro.
Fel y gwelwch chi, mae hi wedi altro’n arw – llwyth o blanhigion gwahanol yn tyfu’n dda, er gwaetha’r ceirw sy’n chwalu pob dim weithie … a pholytunnel mawr sydd â chnwd da o india corn, tomatos ac ati. Bydd pobl yn mynd yno i wella eu iechyd meddwl, ond jest i helpu ac ymlacio hefyd. Maen nhw’n hapus iawn i dderbyn gwirfoddolwyr sydd unai’n gallu garddio neu isio dysgu garddio. Y gampfa werdd ydi enw’r lle, felly rhowch hwnnw yn Google ac mi gewch y manylion. Yno i helpu i gasglu stwff i’w werthu yn noson cynnyrch lleol gwyl y Felinheli o’n i, dyma un o’r bocsys aeth i fwt y car:
Ia, artichokes a bob dim! Aeth y tatws i gyd, a’r rhan fwya o’r bagiau golosg maen nhw hefyd yn eu gwneud. A dyma i chi rai o’r stondinwyr eraill.
Brynais i’r ffedog yna, a ges i bâr o glust-dlysau del iawn hefyd! Syniad gwych ydi cael noson fel yna a dwi’n siwr bod y cynhyrchwyr lleol wedi gweld budd ac elw. Cofiwch chi, roedd na gymaint o sêr Rownd a Rownd a’r byd teledu yn y dent – oedd yn cuddio rhag y camera, mae’n syndod i ni ffilmio unrhyw un o’r cwsmeriaid yno. Ond diwrnod da – hir, ond hwyliog. A drannoeth, ges i weld rhywle anhygoel, ond gewch chi’r hanes hwnnw yn y blog nesa…