Filed under: Heb Gategori | Tagiau: beic, dawnsio bogel, Llangrannog, Llynnoedd Cregennan, The Help, Tresaith, y Ship
Nabod fama? Mae o yng Ngogledd Cymru …
Meirionnydd …?
Naci, nid Llyn Cynwch, ond Llynnoedd Cregennan. Rhywle sy’n hyfryd bob amser ond yn enwedig pan mae’r golau’n berffaith, fel hyn. Mi gymrais i hwn rhyw ddwy flynedd yn ôl, ond dwi newydd wneud calendr ( fymryn yn hwyr) ar fy nghyfer i a Mam, ac mae hwn yn un o’r lluniau.
Mam a fi oherwydd ein bod ein dwy yn cael penblwyddi go fawr o fewn y dyddiau nesa. Fi’n 50 ( ia, dwi’n gwybod, dwi isio crio) a Mam yn 70 ( mae’n rhaid ei bod hi mewn mwy fyth o sioc). A dan ni’n cychwyn am Gaerdydd bore fory i weld sioe Oliver. Dyna ydi ei hanrheg hi gen i a fy chwaer ( sy’n dod hefyd). Ond dwi wedi cael un dathliad yn barod.
Nabod fama ta?
Y Gorllewin?
Gwersyll go enwog yno … ia, Llangrannog. Dydd Sadwrn dwytha oedd hyn. Diwrnod perffaith ynde? Mi fues i a 10 o ffrindiau yn aros yn Nhresaith am y penwythnos, ac mi wnes i ac Ann feicio o Dresaith i Langrannog ac yn ôl ( do, i fyny ac i lawr yr elltydd erchyll yna!). Cychwyn yn ôl ydw i fan hyn:
Ac os dach chi’n beicio – dwi’n argymell prynu siaced y lliw yna – maen nhw’n eich gweld chi o bell! A dyna’r beic brynais i mi fy hun fel arheg Nadolig. A dyma’r ddau feic ( fy hen un ydi’r llall) yn erbyn wal tafarn y Ship yn Llangrannog, lle cafwyd prynhawn hwyliog a bwyd blasus tu hwnt – a phawb yno’n Gymry Cymraeg!
A dyna’r unig luniau dwi am eu rhannu efo chi. Mi fyswn i’n cael fy mlingo taswn i’n dangos y rhai dawnsio bogel (belly dancing).
Gyda llaw, roedd na goeden camelia wedi blodeuo’n llawn yn Nhresaith. Anhygoel ar gyfer Ionawr ynde?
Mae fy nghriw coleg yn trio trefnu penwythnos yn sir Fôn rwan – anodd a deud y lleia!
Iawn, pacio ar gyfer Caerdydd amdani. Dim amser i sbio ar yr ardd yn anffodus. Gyda llaw, newydd orffen nofel ‘The Help’ ac wedi mwynhau’n arw. Ysu isio gweld y ffilm rwan.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: addurniadau, adolygiadau llyfrau, coeden Nadolig, nadolig, Naomi, pyncjar, Taid-Tad-cu, The Girl with the Dragon Tatoo, Thunk
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!
Mi fues i’n tynnu a chadw’r addurniadau Nadolig i gyd heddiw – dim mynedd aros tan y 5ed. Maen nhw’n edrych yn rhyfedd unwaith mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd yn fy marn i, yn hen a llychlyd rhywsut.
Ond dyma sut oedd fy nghoeden i. Naomi fy nith a Cadi Fflur fy ngor-nith sy’n busnesa yn yr anrhegion. A nagoedd, doedd hi ddim yn goeden werdd – h.y. coeden ro’n i’n gallu ei hail-blannu. Mae mrawd yn tyfu a gwerthu coed Dolig felly ro’n i’n ailgylchu mewn ffordd wahanol – cadw’r busnes yn y teulu ynde. Mae arna i ofn ei bod hi’n gwywo yn y gwyllt rwan, ond mi fydd yn troi’n gompost ymhen blynyddoedd yn bydd?
Roedd yr anrhegion yn plesio dwi’n meddwl – roedd Nain (96) yn edrych reit hapus efo’i llyfr ‘Taid/Tad-cu’ o leia.Chwip o lyfr difyr, gyda llaw. Adolygiadau da hyd yma – nid bod llawer o’r rheiny i’w cael y dyddiau yma, fel ers talwm. Adolygiadau hynny yw, nid rhai da. Felly dwi am ddeud mod i’n mwynhau hunangofiant Sharon Morgan ar hyn o bryd. Difyr ofnadwy. Felly dwi’n argymell hwnnw i chi hefyd. Ac mae un Tudur Owen yn rhyfeddol o ddiddorol hefyd – ond dwi wedi deud hynny o’r blaen. Dwi jest isio’i ddeud o eto am fod cyn lleied o gyfleon i bobl ganmol llyfrau yn gyhoeddus. Dwi’m wedi darllen un Elinor Bennett Wigley eto, felly methu rhoi fy marn am hwnnw.
A dyma gwpwl o luniau eraill o’n diwrnod Nadolig i chi:
Meg a Robin efo’u taid ( fy nhad i) ydi’r rheina. Es i am dro ar y beics efo nhw heddiw – fi ar fy meic newydd sbon danlli – a ges i bali pyncjar. Ho hym. Doedd Dad ddim efo ni, gyda llaw, jest y plant a Nia, eu mam. Ond roedd o’n antur a gawson ni hwyl.
A dyma fi efo nhw yn dynwared Thunk, cymeriad allan o gomic fyddwn i’n ei ddarllen pan ro’n i oed Robin. Alien bach efo clustiau mawr a thrwyn fel mochyn oedd o. Rhywun arall yn ei gofio? Mae fy chwaer yn taeru mai ‘Flunk’ oedd o, ond dwi’n 100% siwr mai Thunk oedd o.
A dyma i chi’r ieuenga yn ein teulu ni:
Caio ydi hwn, brawd bach Cadi, a thipyn o gymeriad sy’n tyfu’n gyflym, bobol bach. Llyfrau gafodd o gan ei anti ( ym, oce ta, hen anti) Bethan. Rhai am dractors ac ati. A Jac y Jwg a rheina. Mae’n bwysig eu cael nhw i fwynhau llyfrau cyn gynted â phosib tydi? Rhywbeth difyr, addysgiadol a hwyliog i’w wneud tra mae’r tywydd yn rhy oer a gwlyb i wneud fawr ddim yn yr ardd. Mi ddylwn i glirio a chwynnu mwy rwan mae’n siwr, a dwi wedi gneud chydig. Ond ddim llawer. Mae’n ddrwg i’r lawnt i chi gerdded drosto pan mae hi mor wlyb â hyn tydi … dyna fy esgus i.
Iawn, trwsio pyncjar ydi’r joban nesa … ar ôl i mi hwfro’r llanast adawodd y goeden a’r holl gnau ar eu holau. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn treulio amser efo fy nheulu i wneud rhyw waith felly – o, a mynd i weld ffilm newydd ‘The Girl with the dragon tatoo” efo fy chwaer gyda llaw – wedi mwynhau’n arw. Dim mynedd efo pobl sy’n sbio lawr eu trwynau ar y llyfrau chwaith – mi wnes i eu mwynhau nhw’n aruthrol.
2012 wedi dechrau’n dda – ar wahân i’r pyncjar.