Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brenhines, gwenwyn, gwenyn, haid, heidio, hollti, marw, mel i gyd, neithdar, paill, poison, Poisoning, robbing, trist, ymosodol
Newyddion trist mae arna i ofn. Cofio’r cwch o wenyn blin oedd gen i? Yr haid hedfanodd dros yr ardd gan fy nychryn yn rhacs oedd hi. Gwenyn prysur tu hwnt, yn hel paill a neithdar fel pethe gwirion, ond ymosodol a deud y lleia! Felly mi nath Carys a fi hollti’r cwch fis Mehefin a mynd a 4 ffram, gan gynnwys y frenhines, i’r cwch gwag oedd gen i yng ngardd fy rhieni.
Carys ydi honna, a hen gwch ges i’n ail law ydi hwnna. Rois i niwc ges i gan Carys ynddi llynedd, ond naethon nhw rioed lwyddo’n dda iawn, a rheiny fu farw dros y gaea.
Wel, roedd gen i obeithion mawr am y gwenyn yma a’u brenhines hynod gref. Ac roedden nhw’n gneud yn dda.
Ond rhyw dair wythnos yn ol, dyma be oedd ar lawr o flaen y fynedfa:
Pentwr o wenyn wedi marw, wedi pentyrru ar ben ei gilydd ac wedi dechrau cynthroni. Roedd y drewdod yn ofnadwy. A thu mewn i’r cwch, roedd hi’n waeth. Carped dwfn o gyrff.
Wel, ro’n i’n meddwl i ddechre mai haid arall oedd wedi ymosod arnyn nhw, achos doedd na’m tamed o fel ar ol yn y fframiau.
Roedd Carys yn ofni mai salwch o ryw fath oedd o, felly nes i ffonio’r insbector gwenyn. Mi ddoth fore Sadwrn, a deud nad oedd o rioed wedi gweld y fath beth o’r blaen.
“Possibly robbing,” medda fo, “but probably poisoning.” Ond roedd y cyrff wedi pydru gormod i ni gael sampl digon mawr i’w yrru i’r gwyddonwyr wneud profion i weld sut wenwyn oedd o.
Mi ddylwn i fod wedi hel llond jar yn syth a’i gadw yn y rhewgell.
A ble fysen nhw wedi dod o hyd i’r gwenwyn? Wel, os oedd rhyw arddwr/ ffarmwr wedi bod yn defnyddio chwynladdwr cry ar ‘chwyn’ oedd mewn blodau ar y pryd… Mi fysa hynny’n ddigon. Does na’m gwenyn lleol eraill wedi marw, jest y cwch yma oedd yn anlwcus, beryg.
Mor drist. Ond dyna ni, dydi cadw gwenyn ddim yn fel i gyd … (Sori!)
A gan mod i wedi hollti’r cwch arall hefyd, dwi’m yn meddwl y bydd gen i fel i’w roi i neb eleni, sori… Flwyddyn nesa ella!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bwced bwydo, bwlio, Carys Tractors, cwch, cynnes fel tôst, Dolgamedd, gwenyn, haid, mêl, perllan, pigiadau, spirit level
Dyma sut mae pethe yn y gwyllt: yr haid wan sy’n y cwch mwya, ar y chwith. Yr un gynta ges i sydd drws nesa, ac mae’r un ddiarth yn y cefndir. O, a sylwch ar y grug gwyn ym mlaen y llun – wedi ei blannu fel na fydd raid teithio’n rhy bell … dio’m yn llawer, ond mae’n well na dim!
Felly dyma’r crown board ar ben y wahanlen, ac os sbiwch chi’n ofalus mae na un neu ddwy wenynen yn codi drwy’r tyllau i weld be goblyn sy’n mynd ymlaen.
Pan gyrhaeddodd Carys, y peth cynta nath hi oedd stwffio lwmp mawr o foam i mewn i’r fynedfa.
Gosod y strap a’r flanced ar lawr wedyn a’r ddwy ohonon ni’n gosod y cwch yn ofalus yn y canol. Doedd hi’m yn drwm o gwbl – fawr o fêl ar ôl ganddyn nhw nagoes, bechod?
Clymu’r cyfan fel parsel bach taclus a’i gario i’r car.
Car Carys, achos roedd fy fan i yn y garej yn cael brake pads newydd …
Sef yr hen berllan yma sydd am yr afon o’r ty. Pêl ydi’r peth gwyn na’n y canol. A dyma’r ty mewn silwet – jest i ddangos i chi y pellter o’r ty i’r berllan.
Carys yn deud ‘fan hyn!’Sbiwch yn ofalus ac mi welwch bod ‘na ddwy flocen goncrit fanna – un yn lân a newydd, y llall yn fwsog i gyd, ac mae Carys yn gwirio efo spirit level bod y cyfan yn gwbl lefel.
A dyna ni, y cwch yn ddiogel yn ei chartref newydd.Mi ai draw eto fory i roi’r supers yn ôl arni, a’r bwced bwydo, a chroesi bysedd y cawn nhw lonydd i gael babis a chryfhau. Roedd hi’n wan iawn, iawn, bechod, dim swn byzzian na dim, a dim ond rhyw ddwy wenynen ddaeth allan pan dynnodd Carys y foam allan o’r fynedfa. Mae Carys yn deud y dylwn i roi rhywbeth ychwanegol dros y cwch hefyd, i’w helpu i gadw’n gynnes yn ystod y nosweithiau oer ‘ma. Mae gen i ddarn hir o sbwng mae rhywun yn ei ddefnyddio i gysgu arno mewn pabell, neith y tro yn champion. Ddois i o hyd iddo fo ar ochr y ffordd fisoedd yn ôl – a gwybod y byddai’n ddefnyddiol ryw dro. Bosib roi chydig mwy o bethau drosti ac o’i chwmpas hefyd i ofalu eu bod nhw’n gynnes fel tôst.
Ond am y tro, nos da fy ngwenyn bach. Croeso i’ch cartref newydd.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Carys Tractors, cwch, cystadlu, gwenwyn, gwenyn, haid, mêl, pigiad, rhedyn, Sioe Ganllwyd, Sioe Rhydymain, Sioe Talybont
Wel, dwi bron yn barod ar gyfer Sioe Talybont ddydd Sadwrn. Mi fyddwn ni’n ffilmio yno – Carys Tractors a fi, yn cystadlu yn erbyn ein gilydd yn yr adran fêl! Mi ddoth hi draw ddydd Iau dwytha i fy helpu i dynnu’r mêl. Dim ond o’r cwch wreiddiol – dim digon i’w sbario gan y lleill, ac roedd yr haid ddiarth yn rhy bifish beth bynnag, a dim ond 6 ffram gymrais i, naci, 7 efo’r ffrâm dwi am gystadlu efo hi fel ffrâm mewn câs, er nad ydi hi wedi ei ‘chapio’ yn iawn.
Capio ydi cwyr dros y tyllau llawn mêl. Dydi’r ochr yma ddim yn ddrwg, ond rhywsut, aeth ‘na fys drwy’r cwyr ar yr ochr arall – wps. Ond mae Carys yn deud bod pawb yn yr un cwch eleni ( ha – jôc …cwch …?) a fydd gan neb fframiau gwych iawn. Y cystadlu sy’n bwysig ynde …
A dyma’r aeddfedwr yn llawn ( wel, efo cwpwl o fodfeddi) o fêl: Arogl hyfryd pan dach chi’n tynnu’r caead na. Rydan ni wedi ffilmio’r broses o gael y mêl i mwn i fanna felly gewch chi weld hynny ar S4C cyn bo hir.
A dyma’r mêl wedi ei dywallt i jariau ddoe. Na, dio’m llawer nacdi? Y tair jar fawr ar gyfer cystadlu ( un yn sbâr rhag ofn i mi gael damwain ar y ffordd i Dalybont), yr un ganolig i mi – ro’n i eisoes wedi mynd ag un at yr Hughesiaid sydd pia’r tir lle dwi’n cadw’r cychod, a dwi’n rhoi’r rhai bach yn anrhegion i deulu a ffrindiau. Nagoes, sgen i’m labeli eto – dim pwynt trafferthu efo cyn lleied o fêl nagoes! Mae o’n fêl golau iawn, iawn a blas bendigedig arno fo. Oes gen i obaith yn Nhalybont? Dim clem. Dibynnu os nath y mwslin ei waith yn iawn yn ei hidlo am wn i. Dwi wedi llenwi’r rhai mawr i’r top fel bod lle i mi grafu unrhyw gync oddi ar y top cyn dydd Sadwrn. Ac os na chai hwyl arni, mae ‘na gystadleuaeth jar o fêl yn Sioe Rhydymain ddydd Llun hefyd – ac un ar gyfer dechreuwyr yn Sioe Ganllwyd ar Fedi’r 15fed!
Dwi wedi cael fy ail bigaid gyda llaw – nid wrth dynnu’r mêl, ond gan y bali haid bifish – yn syth ar ôl codi’r wahanlen. Aethon nhw’n wallgo, er mod i wedi mygu a gneud bob dim yn ofalus, dawel. Ges i bigiad drwy ddefnydd y wisg, cofiwch, yn fy mraich. Fy mai i am wisgo crys T, debyg – ond roedd hi’n boeth! Do’n i’m yn teimlo fel taswn i ar fin mynd i sioc anaphylactic ( gallu digwydd efo’r ail bigiad os oes gen i alergedd), felly rois i bopeth yn ôl yn ei le, a ges i lonydd gan y gwenyn milain erbyn cyrraedd y ty ( ar ôl cerdded reit drwy’r rhedyn uchel!). Dim byd mawr yn codi i gychwyn, cymryd tabled antihisthamine rhag ofn. Ond erbyn trannoeth, roedd y patshyn coch yn fawr ac yn cosi ac yn goblyn o boeth. Aeth o ddim i lawr am 4 neu 5 diwrnod chwaith, er gwaetha’r tabledi. Drapia, dydi nghorff i jest ddim yn licio gwenwyn gwenyn mêl. Gawn ni weld os fydd ymateb y 3ydd pigiad yn llai … dwi’n croesi mysedd.
Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn trio cael gwared o’r rhedyn sydd wedi dechrau mynd yn wallgo yn yr ardd: Ond mae’n goblyn o anodd tynnu’r cwbl lot a’r gwreiddiau. Dyma be ddigwyddodd i fforch eitha newydd, gwerth tua £46:
Ond ges i hen un bren, solat am £12 yn mart Dolgellau. Mae honno’n wych!
Roedden nhw’n gneud pethe i bara ers talwm. Es i a’r un £46 yn ôl i’r siop, yn gobeithio cael fy mhres yn ôl, ond na, un newydd yn ei lle hi ges i. O wel. Dwi’n ystyried talu rhywun ifanc, cryf i dynnu’r gweddill gyda llaw – mae nghefn i’n fy lladd i!
A digwydd bod, dyma i chi rywun cryf, sydd ddim llawer iau na fi ( Geraint fy mrawd) yn tacluso rhan arall o’r ardd … gewch chi weld y canlyniad yn y blog nesa! Ac i orffen, llun bach od ( dwi’n hoffi sgwarnogod):
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cwch gwenyn, diod siwgr, gwenyn duon Cymreig, haid, heidio, siwgr
Dim lluniau – rhy wlyb a sgen i’m mynedd, ac mi wnai eu hychwanegu eto – ond bellach, mae gen i dair cwch o wenyn!
Y cwch cyntaf, sy’n hapus braf. Gwenyn duon Cymreig
Yr haid – sydd rwan yn y cwch newydd ro’n i wedi ei pharatoi ers prynu’r stwff yn Llanelwedd. Cymysgedd ydi’r rhain dan ni’n meddwl – y drones yn wahanol – mwy o felyn ynddyn nhw.
Cwch llawr caled – brynais i gan John Porthmadog am £35, sydd â niwc brynais i gan Carys. Roedd hyn wedi ei drefnu cyn i’r haid hedfan dros fy mhen i! Gwenyn duon Cymreig.
Wedi rhoi digon o ddiod siwgr i’r 2 gwch newydd i’w helpu i setlo, ac hefyd am fod neges wedi dod drwy’r gymdeithas gwenynwyr bod llawer o wenyn yn llwgu i farwolaeth ar hyn o bryd am nad oes digon o fwyd iddyn nhw. Dyna pam fod rhain wedi heidio mae’n siwr, i chwilio am rywle efo mwy o fwyd. Wel, mi edrycha i ar eu holau nhw.
Iawn, gwell picio i dre – dwi wedi rhedeg allan o siwgr.
Dyna lle ro’n i a Del yn chwynnu yn yr ardd ( wel, chwilio am lygod oedd Del) pan glywais i’r ‘hum’ uchel ma…
sbio i fyny i weld haid o wenyn yn troi’r awyr uwch fy mhen yn ddu. Wel, yn llwyd ta, doedd hi’m yn haid anferthol.
Brysio i gau drws y gegin, yna rhedeg i nôl fy nghamera a mynd am y gwyllt – ffor’na roedden nhw wedi mynd.
A myn coblyn, dyma’r bocs ‘niwc’ brynais i gan John Porthmadog am ddegpunt wythnos dwytha. Ro’n i wedi rhoi fframiau ynddi, yn cynnwys dwy ffrâm gafodd eu bwyta gan lygod yn y cwch sbâr. Wedi ffonio Carys, ac os fedar hi, mae hi am ddod draw heno neu fory. Ecseiting de!