Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cnau castan. chestnur, Cynan Jones, hunangofiant, madarch, mushroom garden, Nantmor, oyster, shiitake, The mushroom garden, wystrys, Yr Ardd fadarch
I ddechre, dyma lun o lansiad yr hunangofiant:Robin fy nai 8 oed sydd efo fi – seren y noson! Mi wnaeth o araith fach hyfryd wrth gyflwyno’r copi cynta o’r wasg i mi – ei ewyrth Rhys yn ei ddagrau!
Ond blog am arddio ydi hwn i fod, felly dyma luniau o’r Ardd Fadarch ( The Mushroom Garden) yn Nantmor, lle fuon ni’n ffilmio wythnos dwytha:
Cynan Jones a’i deulu sy’n rhedeg yr ardd ( fo sy’n y llun efo fi). Hobi ar ran Cynan oedd o i gychwyn, ar ôl mynd ar gwrs adanabod madarch ym Mhlas Tanybwlch, ac mae o’n cyfadde iddo droi’n obsesiwn. Ond mae’n obsesiwn sydd wedi troi’n fusnes llwyddiannus, sy’n gyrru rhwng 60 a 100 kilo dros Brydain gyfan. Rhai wedi eu sychu:
A rhai yn ffres o’r ddau ‘container’ mawr sy’n twyllo’r madarch i dyfu fel pethau gwirion.
Madarch wystrys llwyd neu grey oyster ydi’r rheina, a rhai melyn neu aur ydi’r rhai … wel, melyn … edrych fel clustiau Shrek tydyn?
Ond mae o’n tyfu rhai ‘chestnut’ neu gnau castan hefyd.
Grrr … llun anghywir. Wystrys ydi’r rheina – mae’r lleill wedi mynd i dop y blog am ryw reswm! Ond y rhai crwn, siap madarch mwy cyffredin ydyn nhw. Blasus tu hwnt. A sut yn union mae o’n llwyddo i’w tyfu? Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen yn bydd! Cyn Dolig ryw ben – dwi’m yn gwybod pryd yn union.
Ond yn y cyfamser, os dach chi isio anrheg Nadolig cwbl wahanol ( a rhesymol), am £8, gewch chi flocyn tyfu madarch shiitake ganddo fo – efo taflen cyfarwyddiadau. A nagoes, does dim angen rhyw sied dywyll, dim ond sil ffenest a dwr. Dwi wedi cael un a dwi’n edrych ymlaen yn arw at fedru casglu a choginio a bwyta fy madarch fy hun! Efo bacwn ac wy yn y bore … mmm.
Mae o’n gwerthu rhywbeth rhyfeddol o’r enw Umami hefyd: Blas cwbl wahanol i unrhyw flas arall, metalig, bron. Gawson ni flasu peth, a doedd Gwennan ddim yn ‘keen’ ond roedd y gweddill ohonon ni wedi gwirioni. Edrych ymlaen at ei ychwanegu at gawl neu omlet neu rywbeth. Iym.
O, a dyma’r llyfr madarch mae Cynan yn ei argymell – os ydach chi awydd dysgu sut i gasglu madarch gwyllt yn ddiogel.
Ges i ddiwrnod hyfryd efo Cynan a June yn yr Ardd Fadarch – er ei bod hi’n oer yno! Ac mi wnai adael i chi wybod sut mae fy mlocyn madarch yn dod yn ei flaen.
Llun o Cynan a June i orffen: A sylwch ar y wasgod ‘fadarch’ ddel gan Cynan! Obsesiwn?! Nes i anghofio gofyn os oedd o’n breuddwydio am fadarch.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: blackberries, casglu, chanterelles, cnau, Coed y Brenin, Edward Werner, Gifts from the garden, gin eirin tagu, Gwrach y Gwyllt, Hanka, Higher Sorbian, madarch, mafon duon, mwyar duon, puffball, wiwerod
Mi fydda i’n mwynhau’r hydref am sawl rheswm; tywydd gwell gan amlaf – er nad ydi hi’n rhy wych yma hyd yma; ond mae hel cnau, madarch a mafon duon ac ati yn rhoi pleser mawr i mi. Mae’r cnau yn eitha da eleni, dim ond bod ‘na ormod o wiwerod o gwmpas. Nid yn unig maen nhw’n dwyn bwyd yr adar, ond maen nhw’n sbydu fy nghoed cyll i hefyd!
Es i am dro efo ffrind ddoe i Goed y Brenin a dod o hyd i chanterelles anferthol, hyfryd, oedd ddim wedi cael gormod o sylw gan falwod.Hyfryd wedi eu ffrio efo pupur du a chydig o hufen. O, ac es i am dro efo dyn o Leipzig rai dyddiau ynghynt, Edward Werner, sydd wedi cyfieithu ‘Gwrach y Gwyllt’ i Sorbeg Uchaf. ‘Hanka’ ydi’r enw Sorbeg ar y nofel rwan. Ydi, mae’r iaith yn bod – googlwch ‘Higher Sorbian’. Iaith leiafrifol arall, yn ardal yr Almaen ( mae ‘na Sorbeg Isaf hefyd), ac roedd Edward yng Nghymru ar gyfer cynhadledd ym Mangor. Ac fel y rhan fwya o bobl yn nwyrain Ewrop, mae o’n gallu gweld madarch lle fysech chi a fi’n cerdded heibio heb weld dim. Mi gawson ni omlets madarch gwyllt wedyn – efo chanterelles a puffballs –
Maen nhw’n fwytadwy os ydyn nhw’n dal yn wyn tu mewn – fel arfer pan maen nhw’n fychan. Ond mae na ‘Giant puffballs’ ar gael – sbiwch!
Nid Edward ydi hwnna gyda llaw, llun ges i oddi ar y we ydi o. Dim clem pwy ydi’r boi yna. Dwi’m wedi gweld puffball fel’na erioed. Ond blasus iawn meddan nhw!
Mae’r eirin tagu ( sloes) yn brin ofnadwy yn yr ardal yma, gyda choed sydd fel arfer yn diferu efo nhw yn gwbl wag neu efo dim ond un neu ddwy eirinen fach unig arnyn nhw. Mae gen i ffrindiau sydd â llond rhewgelloedd o eirin llynedd, ac mi gai rheiny os oes angen meddan nhw, ond dwi wedi gweld riset ar gyfer gin mafon ( neu fwyar) duon sy’n edrych yn neis – digon tebyg i’r eirin tagu, ond efo pod vanilla yn ogystal â’r gin, eirin a siwgr. Ond sdim rhaid defnyddio’r vanilla chwaith – ond mae gen i rai ers Uganda o hyd.
Ac mi fydd yn haws rhoi’r mafon duon mewn jar kilner na photel gin ( i gychwyn o leia) am fod yr eirin gymaint mwy. Mae’n well ei gadw am 12 mis cyn ei yfed, ond mi fydd yn iawn ar ôl 3 mis hefyd. Mae modd gwneud gin hyfryd efo damsons hefyd ond dydi hi’m yn flwyddyn wych ar gyfer rheiny chwaith, yn anffodus. Na, yr unig beth sy’n tyfu’n dda yma ydi mafon duon. Mae nghoese i’n dyst o hynny ar ôl cael codwm fechan ar y beic rai dyddiau’n ôl wrth fynd i lawr drwy’r goedwig. Glanio wysg fy ochr mewn mieri, cofiwch. Fues i’n tynnu draenen ar ôl draenen allan o mhen ôl.
Ta waeth, ges i sioc o weld yn atodiad garddio’r Telegraph, eitem o’r enw: “How to Grow Blackberries”. Be?! Fysa unrhyw un call yn PLANNU mafon duon yn eu gerddi?! Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n tyfu’n wyllt ym mhobman, yn y wlad a’r ddinas? Os oes rhywun isio planhigion, mae croeso i chi ddod i ngardd i i dynnu faint fynnwch chi o’r gwreiddiau. Dwi’n cael tyg o war efo nhw’n aml iawn. Ond nefi … plannu mafon duon? Mae ‘na bethau od yn digwydd ym myd garddio, ond dyna un o’r pethau rhyfedda eto.
O ia, os dach chi isio syniad garddwriaethol am anrheg Nadolig, mae na lyfr newydd o’r enw ‘Gifts From the Garden’ gan Debora Robertson ar gael am £16.99 (Kyle Books) ( rhatach ar Amazon wrth gwrs – ond cefnogwch eich siopau llyfrau lleol cyn iddyn nhw ddiflannu!). Dwi’m wedi ei weld o, dim ond y clawr:Ac mae na sawl llyfr arall gyda’r un enw – fyny i chi! Ond efallai y dylwn i gael copi gan fod angen i mi wneud eitem ar gyfer rhaglen Nadolig Byw yn yr Ardd, a does gen i’m syniad be fydd hwnnw eto. Mi fydd Sioned yn gwneud addurniadau o ryw fath mae’n siwr, Russ yn sôn am anrhegion Nadolig ar gyfer garddwyr am wn i, a bosib bod na rywbeth i mi yn y llyfr yma. Ond dwi wedi gneud eitemau am gin eirin tagu a gwin poeth/mwll/mulled o’r blaen – be sydd ar ôl?! Unrhyw gynigion, yn enwedig os ydyn nhw’n gymreig mewn rhyw ffordd, rhowch wybod, unai drwy’r blog yma neu ein tudalen Facebook. Diolch!
Reit, dwi’n mynd am dro ar y beic efo Del rwan, efo rycsac llawn potiau plastic ar fy nghefn i hel mafon duon. Mae ‘na rai anferthol, hyfryd i fyny’r ffordd i gyfeiriad Llanfachreth.