Nes i anghofio sôn … ges i docyn i weld drama yn Abertawe ar ôl ffilmio ar y Vetch – cynhyrchiad o’r enw ‘Little Dogs’ gan National Theatre Wales ar y cyd efo Frantic Assembly. Doedd gen i’m syniad be i’w ddisgwyl, do’n i’n gwybod dim ymlaen llaw heblaw fod Sian Phillips ynddo fo. A bobl ifanc. Ro’n i wedi cymryd mai criw o bobl ifanc gyffredin Abertawe oedden nhw, ac mai math o brosiect cymunedol oedd hwn, ond erbyn dallt, roedd gan bob un o’r cast unai brofiad actio blaenorol ( teledu a’r llwyfan proffesiynol) neu wedi bod mewn coleg drama.
A fy marn? Nes i fwynhau’r egni a’r dawnsio a’r cyfarwyddo yn arw. Roedd y set yn arbennig o glyfar – yn enwedig y darn ciwbicls tai bach. Roedd ‘na ôl pres ar y set ( o gymharu â be dwi wedi arfer sgwennu ar ei gyfer gyda theatr mewn addysg!) ac ro’n i’n llawn cenfigen. Ond un o’r perfformiadau ‘na lle dach chi’n gorfod aros ar eich traed a dilyn yr actio o un lle i’r llall ydi o, ac i rywun efo pen-glin giami fel fi, roedd hynna’n boen – yn llythrennol. Roedd ambell aelod h^yn o’r gynulleidfa yn amlwg yn cael trafferth ar ôl hanner awr hefyd. A dwi’m yn rhy hapus yn gorfod trio stwffio fy hun i fan da bob pum munud er mwyn gallu gweld yn iawn.
Ond, roedd ‘na actio da iawn; roedd Ms Phillips yn sefyll allan wrth reswm, er nad oedd hi’n deud fawr o ddim tan y diwedd. A ges i nghyffwrdd gan y gân ganodd hi. Methu cofio be roedd hi rwan – cân werin Gymraeg nad ydw i wedi ei chlywed ers blynyddoedd. Hyfryd.
Darren Evans o Abertawe oedd yr actor sylwais i arno fwya – perfformiad sensitif, da. Roedd rhai o’r lleill yn well na’i gilydd.
Ond pan ges i’r rhaglen ar y diwedd, chwilio am enw’r awdur ro’n i am hir – yn ofer. Doedd na’m sgript. Addasiad o stori fer gan Dylan Thomas ydi o – wel, naci, wedi ei ysbrydoli gan y stori mae o. Ond doedd na’m cyfeirio at sgript nac awdur a dyna oedd y gwendid mae arna i ofn. Ddois i oddi yno’n dal i bendroni be’n union roedden nhw’n drio’i ddeud. Roedd o’n bortread dewr, bywiog, gonest o fywyd pobl ifanc ar nos Sadwrn yn Wind St ( ac unrhyw dre Gymreig arall) ond trist uffernol oedd y canlyniad. Efallai mai gwneud i ni gydymdeimlo oedd y bwriad, ond mi fyswn i wedi licio gweld ochr arall iddyn nhw. Mae pobl ifanc yn gneud mwy na meddwi, cael rhyw a chega ar blismyn wedi’r cwbl.
Mae’n siwr bod araith Sian Phillips ar y diwedd wedi cyffwrdd â hynny, ond ro’n i’n rhy brysur yn sbio arni a’r effaith Maypole o’i ffrog ryfeddol oedd yn llifo’n rubannau i lawr o’r balconi, i wrando’n iawn. Ac roedd fy mhen glin a nghefn i’n sgrechian erbyn hynny.
Ond dwi’n falch mod i wedi ei weld o. Roedd o 100% gwell na’r pryd Indiaidd ges i yn yr un adeilad cyn y sioe!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Abertawe, adain Avion, ailgylchu, Bwlch yr Oerddrws, bywlys, celf cymdeithasol, Cregennan, gwartheg Highland, Mark Rees, national Theatre Wales, penbwl, rhandir, rhandiroedd, sedum, sied eco, vetch
Tydi’r tywydd ma’n hyfryd? Ond dwi wedi cael llond bol o ddyfrio’n barod. Mi fuon ni’n ailwneud to’r sied eco ( mwy am hynny yn y blog nesa) felly mae angen cadw’r planhigion yn fyw does! Cofiwch chi, geith y gweiriach a’r coed sydd wedi blaguro a ffynnu yno sychu’n grimp ( nes i drio tynnu’r rhan fwya) ond dwi’n benderfynol o achub y bywlys (sedum). Ia, dwi’n gwybod nad oes angen llawer o ddwr ar rheiny ond maen nhw angen peth ar ôl cael eu styrbio a’u codi does?
Ond mae’r ardd yn edrych yn wych ar hyn o bryd – a myn coblyn, weles i benbwl yn y pwll! Ia, un. Sydd ddim wedi troi’n llyffant – does gynno fo’m coesau hyd yn oed. Methu dallt pam fod hwnnw wedi goroesi’n well na’r rhai oedd yn ‘normal’ ond dyna ni. Peth rhyfedd ydi natur.
Os ydach chi’n gwylio BYYA, mi fyddwch chi eisoes wedi gweld yr eitem am y Vetch, ond gan mod i wedi bod yn brysur yn tynnu lluniau yno, dwi’n mynd i’w rhoi ar y blog a dyna fo!
Do, mi gafodd cae pêl-droed y Vetch ei enwi ar ôl math o bys o’r enw ‘vetch’ a rwan, wedi i’r lle gael ei ddymchwel a’i adael am saith mlynedd i droi’n dir diffaith, llawn mieri, mae ‘na bys yn tyfu yno eto. A ffa. A thatws. A pak choi. Bob dim a deud y gwir.
Mae’n llawn rhandiroedd bychain sy’n cael eu cynnal a’u mwynhau gan bobl sy’n byw yng nghyffiniau’r Vetch. Ond prosiect celf ydi o, fel rhan o gynllun mwy ‘Adain Avion’, sydd yn ei dro yn ran o gynllun Olympiad diwylliannol Cymru. Mark Rees ydi cyfarwyddwr prosiect Adain Avion, ac ar ôl sgwrsio efo fo am sbel nes i sylweddoli ble ro’n i wedi ei weld o o’r blaen: mewn siwt dynn o’r 70au ar y stryd yn y Bermo. Fo oedd yn cyfarwyddo ( ac yn actio yn) y sioe wych gan National Theatre Wales, oedd yn arwain y gynulleidfa o gwmpas y Bermo ac yn dod â’r trigolion i mewn i’r perfformiad. Chwip o syniad, oedd yn profi mai rhywbeth cymdeithasol ydi celf – neu o leia yn gallu bod, efo tipyn o weledigaeth.
Fo ofynnodd i’r artist Owen Griffiths feddwl am sut i greu celf cymdeithasol, cymunedol yn ardal Abertawe, a’i syniad o oedd trawsnewid y Vetch yn ardd. Ro’n i wedi cyfarfod Owen o’r blaen hefyd – fo oedd y tu ôl i’r côr fu’n canu i’r gwenyn rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl – cofio? A naddo, dwi’m wedi dechrau canu i fy ngwenyn i. dwi’m isio iddyn nhw heidio …
Ta waeth, ges i ddiwrnod hyfryd yn y Vetch efo’r criw i gyd, ac mae’n syniad sydd wirioneddol wedi gweithio. Mae pobl na fyddai byth wedi dod i nabod ei gilydd bellach yn ffrindiau, yn rhannu syniadau a gwybodaeth a chael hwyl efo’i gilydd. A mae yno ‘gelf’ mwy traddodiadol hefyd:
Fel dach chi’n gweld, roedd hi’n gymylog i gychwyn ond daeth yr haul allan i wenu arnon ni – a finnau’n dal i orfod aros yn fy nghôt gynnes oherwydd ‘dilyniant’ … the joys o fod yn gyflwynydd teledu!
Dyma un o’r garddwyr mwya profiadol. Gerwyn, os cofia i’n iawn. Dyn oedd yn arfer dod i wylio’r elyrch yn chwarae yno, sydd rwan â phatsh bron yn union ar ble roedd y stand y byddai o’n mynd iddo’n gyson. Dyn hyfryd, roddodd radish a dail betys i mi fynd adre efo fi – diolch Gerwyn – blasus tu hwnt!
Roedd y lle’n llawn o syniadau gwych am sut i ailgylchu – drychwch – bol peiriant golchi ydi’r ‘brazier’ yma!
Ac mae gynnyn nhw bopdy ar gyfer gneud pizzas ac ati sy’n werth ei weld:
Ond roedd trio mynd i mewn ac allan o’r lle yn broblem – doedden ni jest methu trin y goriad a’r clo a dyma Huw ein dyn sain yn brwydro – am hir! Ond gawson ni fynd am ein cinio yn y diwedd – a chwip o ginio rhesymol tu hwnt yn un o gaffis Eidalaidd canol y dre. Lle da ydi Abertawe. A doedd na’m swn o Wind St yn y gwetsy Premier yn Salubrious Place tro ma … roedd hi’n erchyll yno tro dwytha! Bosib eu bod nhw wedi gneud rhywbeth i’r ffenestri? Neu jest noson dawelach.
Mae’r gerddi yn y Vetch yn werth eu gweld, yn werth eu cadw, ac yn werth eu defnyddio fel patrwm ar gyfer ardaloedd eraill … gawn ni weld.
Cwpwl o luniau eraill, cwbl wahanol rwan, i ddangos i chi pa mor dlws ydi’r ardal dwi’n byw ynddi: Ac un o wartheg Highland fy mrawd, ar Fwlch yr Oerddrws – del ydi hi de!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Coedpoeth, Gardd fotanegol genedlaethol Cymru, Judith Stroud, Llanarthne, Meddygon Myddfai, mynach, Pol Wong, Shaolin, Zen
Ia, mynach ydi hwnna, yn gwneud math o kung fu (Shaolin), a hynny yng ngardd fotaneg cenedlaethol Cymru, sydd i lawr yn y de, nid nepell oLanarthne. Do’n i rioed wedi bod hyno o’r blaen, a welais i’m llawr o’r lle chwaith!
1. Roedd hi’n tresio bwrw.
2. Roedden ni’n rhy brysur yn ffilmio’r eitem, sef trio dallt sut fath o ardd ydi gardd Zen. Mae ‘na un yno, a dyma hi:
Gewch chi weld mwy ohoni pan fydd yr eitem ar y teledu ( dim clem pryd). Mi ddaeth yr ardd i Lanarthne nôl yn 2001 o sioe flodau Chelsea, ar ôl ennill gwobr yn, a dydi hi’m yn fawr iawn a bod yn onest. Dwi’m yn siwr pa mor fawr ydi rhai ‘zen’ go iawn, ond y syniad ydi eu bod nhw’n lefydd i synfyfyrio, lle i enaid gael llonydd; mae’n le i ddod yn un efo natur, ac i chi gael dod o hyd i chi eich hun yno. Felly does na’m ffys na ffrils, does na ddim dwr na chimes na swn adar yn canu na swn gwynt yn y coed – dydi’r goeden sy’n y llun ddim yn ‘zen’ iawn felly!
Mae’r pethau sydd i fod yno i gyd â symbolaeth, e.e. y graean wedi cribo = dwr neu gymylau, cerrig = mynyddoedd neu ynysyoedd.
Pol Wong, mynach Shaolin o Goedpoeth, Wrecsam sy’n arbenigwr mewn athroniaeth zen ydi hwn, boi difyr tu hwnt, a fo oedd yn gorfod gneud ei kung fu yn y glaw, y creadur! Mae ei wisg o’n hyfryd tydi?
Ac mae ei wylio yn mynd drwy’r symudiadau yn brofiad rhyfedd – hypnotig rhywsut. Mae kung fu Shaolin yn wahanol iawn i’r kung fu dwi wedi ei weld ar y ffilmiau, mae’n debyg i Tai Chi ond – yn wahanol! A Pol ydi’r mynach shaolin cyntaf go iawn y tu allan i China ( stori hir ond ddifyr). Ei dad o sy’n dod o China a’i fam o Wrecsam, ond roedd ei dad wedi dysgu’r hen ddull Shaolin yn ei bentref nôl yn China a’i ddysgu wedyn i’w fab. Wedyn mi fu Pol yn byw efo mynachod Shaolin yn China am sbel.
Erbyn hyn, mae o’n athro kung fu yn Wrecsam – ac yn rhoi gwersi uniaith Gymraeg! Mae ei stori yn haeddu rhaglen gyfan iddo’i hun a deud y gwir. Efallai y caiff rhywun gomisiwn i fynd yn ôl i’r deml Shaolin efo fo cyn bo hir – cyn i’r Llwyodraeth newid y lle’n llwyr – ac os wnawn nhw roi caniatad i ffilmio yno wrth gwrs. Ond mi fysa’n werth trio!
Ges i gyfle i weld ambell beth bach arall yn y gerddi, fel yr arddangosfa gan Judith Stroud o luniau yn ymwneud â Meddygon Myddfai:
Difyr tu hwnt – a jest y peth os ydi hi’n glawio! Hefyd, roedd na ddarnau o gelf hyfryd wrth ymyl y siop:
Sut i ddod â bywyd newydd i hen lestri wedi torri! Mae gen i lwythi acw erbyn meddwl …
Ac yn ddiweddarach, yn Abertawe, nes i ddotio at y gwely blodau yma: O na fedrwn i blannu efo’r fath weledigaeth o ran lliw …
Gyda llaw, dyma fy ngor-nith a fy ngor- nai Cadi a Caio efo’u mam a’u chwech nain – ydi hyn yn record?! Sgen rywun arall chwech nain yn dal yn fyw?!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Beryl, braf, carthffosiaeth, corn simdde, da iawn, fforch, hen dai, larfa chwilen blymio fawr, llanast, lori garthion, mynach Shaolin, vetch
Llwyddodd Beryl i godi £600 at elusennau drwy wahodd y cyhoedd i’w gardd! Da iawn Beryl. Dwi’n siwr bod y goeden blannais i wedi bod yn help mawr …
Ond fydd fy ngardd i ddim yn barod i’w dangos i neb am sbel … sbiwch llanast: Gadewch i mi egluro…
Roedd Mam yn gwaredu pan ro’n i’n sôn am brynu’r ty yma.
“Pam na wnei di brynu byngalo bach neis, syml? Does ’na’m byd ond trafferth i’w gael efo hen dai.”
Byngalo?! Ddim dros fy nghrogi. Dwi’n hoffi hen dai, tai â hanes a chymeriad yn perthyn iddyn nhw. Ac mi arwyddais y siec. Ond roedd Mam yn iawn wrth gwrs (tydyn nhw wastad?); dwi wedi gorfod arwyddo sawl siec arall ers hynny.
Y corn simdde roddodd y cur pen cynta i mi. Ro’n i’n teipio’n hapus braf un noson wlyb a stormus pan ddisgynodd llun go fawr oddi ar y wal, ynghyd â hanner y plastar. Roedd y corn yn gollwng a’r dwr wedi bod yn diferu i lawr cefn y wal ers dyddiau. Ac os ydach chi wedi gweld fy nghorn simdde i, mae o’n un go anarferol, yn anferth.
Bu’n rhaid ei dynnu i lawr fesul carreg a’i ail osod i gyd. Mi gostiodd hynna geiniog a dimau i mi.
Wedyn roedd angen gwres canolog yndoedd, a chegin gall. A ffenestri. Aw. Wedyn mae’r system dwr wedi bod yn boen. Dwr ffos oedd yn dod drwy’r tapiau i ddechrau; dwr ffos ydi o hyd yn y bôn ond fod y darn hwnnw o’r ffos wedi ei ffensio i ffwrdd ac mae gen i beipen yn mynd am oes nes cyrraedd hymdingar o danc mawr plastig, modern ( erchyllbeth o friciau hynafol oedd gen i cyn hynny, oedd angen ei garthu dragwyddol). Dydi’r un newydd ddim wedi bod yn gweithio’n rhy dda chwaith.
A rwan? Y system garthffosiaeth sydd wedi mynd ar streic. Tanc o hen frics ydi hwnnw hefyd, i lawr yng ngwaelod yr ardd efo llechen go drom drosto. Ro’n i wedi sylwi ychydig fisoedd yn ôl bod angen ei wagu, felly daeth y lori garthion draw ( siec arall) a dyna ni am sbel eto, meddwn i. Ond nefi wen, rai wythnosau’n ôl dyma sylwi ei bod hi’n wlyb domen o gwmpas y llechen eto. Be goblyn? Dwi’m yn defnyddio cymaint â hynna o ddwr (dwi’n ofalus iawn gan nad oes sicrwydd bod gen i ddigon o ddwr yn y lle cynta!), a dwi’n prynu sebon golchi ‘non-biological’ a stwff ‘eco’ i llnau’r ty bach ayyb, gan nad ydi’r hen danciau yn gweithio os dach chi’n lladd y bacteria i gyd. Felly mae o i fod i ddiflannu’n daclus, nid gor-lifo dros fy riwbob i. Er, mae hwnnw’n tyfu’n dda iawn erbyn sylwi … peidiwch a phoeni, wnai’m cynnig fy nharten riwbob i neb ond fi fy hun.
Daeth yr adeiladwr draw a phenderfynwyd bod yr hen system wedi nogio a bod angen tyllu a gwneud un newydd. Ar hyd gwaelod yr ardd. Lle mae – cywiriad – roedd – gen i lawer iawn o flodau del iawn. O, na … iawn, mi ddechreuais i godi chydig o flodau i’w hachub ac i’w rhoi i Mam ac ati, ond wedyn aeth bywyd yn brysur ( rhwng molchi a golchi a mynd i’r ty bach yn ein maes carafannau) ac mi wnes i anghofio.
Ges i ffit pan gyrhaeddodd y lori a’r digar bach. Fues i’n palu a thyrchu fy Nagrau Solomon, fy mheli mawr glas ( byth yn cofio’r enw), fy mhabi coch, fy rhosod mynydd ac ati
ac ati nes i nghefn i sgrechian a’r fforch falu ( un newydd sbon! Ac ydw i’n gallu dod o hyd i’r garanti? Nacdw siwr).
Felly nes i benderfynu y byddai pob dim arall yn ddigon tyff i dyfu’n ôl. Ryw dro.
Dridiau yn ddiweddarach, ro’n i’n gallu fflysho a molchi’n hapus, ond roedd gwaelod yr ardd yn edrych braidd yn … wel, yn frown. Mae nghefn i’n sgrechian eto ar ôl bod yn gosod fy ychydig blanhigion yn ôl yn eu lle ( a chwarae tyg-o-war efo gwreiddiau a cherrig) a thaenu hadau gwair ar y darn sydd i fod yn lawnt denau, a dwi’n falch iawn o unrhyw smotyn o law. Fy ngardd druan. Iawn, mae’n gwella’n ara bach, a dwi’n gobeithio gallu dangos llun i godi gwên ymhen rhyw fis. A flwyddyn nesa, mi ddylai fod yn werth ei weld eto. Falle.
Roedd Mam yn iawn doedd?
Gyda llaw, dyma lun gymrais i o’r bali larfa Chwilen blymio fawr efo penbwl yn ei gyrn. Rhai o’r we ddefnyddiais i’r tro dwytha – all my own work rwan, mêt. Cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy.
Yn y blog nesa gewch chi fy hanes yn y de wythnos dwytha – yn gwneud kung fu efo mynach Shaolin ac yn joio mas draw ar y Vetch efo llwyth o veg …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Abergynolwyn, azaleas, Beryl, Bontddu, Gwennan, NGS, Sioe Rhydymain, Sioned Byw yn yr Ardd, Tanybryn
Ges i ddiwrnod hyfryd yng ngardd ‘Anti’ ( dim perthynas) Beryl ddoe. Mi fydd ei gardd ar agor i’r cyhoedd drwy gynllun yr NGS ddydd Sul:
Ac er fod y rhan fwya o’r magnolias wedi darfod, mae’r azaleas yn sicr yn werth eu gweld – a chymaint o bethau eraill hefyd. Mwy o luniau i chi:
A llechi o Fryncrug a Chorris – ardal ei theulu:
A llwythi o bethau bach od a difyr mae’n eu cael yn anrhegion gan wyrion a ffrindiau:
A phethau mae’n eu prynu ei hun:
Mae hi a’i ffrindiau yn cyfadde eu bod yn gwario ffortiwn mewn canolfannau garddio!
A sbiwch, difyr, wyddwn i rioed o’r blaen bod gan y ‘Bleeding heart’ ddau enw arall. Dyma i chi’r blodyn siap calon wedi agor chydig i neud ‘trowsus Dutchman’:
A dyma’r ‘Ddynes mewn bath’:
Tydi o’n wych?! Ond dwi’n ei weld o’n debyg i ‘alien’ o’r gofod hefyd, fy hun.
Ges i ddarn o blanhigyn ro’n i’n ei ffansio ganddi – ac wedi ei blannu wrth y ffrwd neithiwr. Dyma lun ohono fo: ond dwi’m yn cofio’r enw – rwbath yn dechre efo ‘r’ – swnio’n debyg i rouge-rywbeth? Rhywun yn gallu fy helpu?
Ond mae Beryl ( cyn athrawes gynradd Dolgellau) yn gallu troi ei llaw at fwy na blodau. Welwch chi mo’r rhain ar y rhaglen, ond falle y cewch chi weld peth o’i gwaith llaw os ewch chi draw ddydd Sul ( hi sy’n y gardigan las gyda llaw): Mae na oriau o waith yn mynd mewn i’r pethau ma – gwaith cywrain, bobol bach. Roedd Gwennan, ein cyfarwyddwraig, sydd wedi mopio efo’r Nadolig o hyd, jest a drysu isio eu prynu! Yn enwedig y St Nicholas/Sion Corn na …
Dim rhyfedd bod Beryl yn ennill o hyd yn yr adran gwaith llaw yn Sioe Rhydymain. Mae’n haeddu clod am fod yn hostess heb ei hail hefyd – gawson ni ginio a phwdin a chacenni lu ganddi! Dydi hynna’m yn digwydd i ni’n aml … pobl Abergynolwyn de – hen bobl iawn. Diolch Beryl! Pob lwc ddydd Sul a gobeithio y daw pobl yn eu cannoedd.
A sôn am Sioe Rhydymain ( Awst 27) – dwi newydd lwyddo i berswadio Sioned BYYA i feirniadu’r blodau! Ieeee! Dim ond isio rhywun i wneud y llysiau rwan – a nacdw, dwi ddim yn mynd i ofyn i Russell – dydi o’m yn gyrru a dwi’m yn pasa mynd i’w nôl o!