BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Lwyddiant Sioned
Gorffennaf 30, 2009, 9:28 pm
Filed under: 1

Sioned's modelBe ydi hwn? Wel, rhan o’r arddangosfa wnaeth Sioned i ddod yn ail yn y gystadleuaeth ‘Florist of the year’! Do, mi nath hi’n wych, felly llongyfarchiadau MAWR i ti Sioned. Roedden ni i gyd yn gwybod dy fod ti’n uffernol o beryg.

A dyma lun o’i gwaith hi i gyd efo’i gilydd:

Sioned's finished alcove



cling film a phryfed genwair
Gorffennaf 30, 2009, 1:00 pm
Filed under: 1

I’r sied bore ma i weld bod pryfed genwair yn gallu symud clingfilm! Y petha ar hyd y llawr i gyd a chwlwm anferth ohonyn nhw wedi hel o dan y bwced, ar hyd yr handlen – bob man! Help …



Malwod yn y ty bach tyfu
Gorffennaf 29, 2009, 7:57 pm
Filed under: 1

Dwi’n gwybod bod gan bob creadur byw yr hawl i fod ar y ddaear ma, ond sori, mae malwod yn gwneud fy mhen i i mewn. Ia, dwi’n gwybod bod hwnna’n idiom Seisnig, ond dydi’r rhai Cymraeg ddim yn cyfleu yr un teimlad rhywsut. Mynd ar fy nerfau i? Deud arna i? Drysu mhen i’n rhacs? Fy ngyrru i’n benwan/hurt bost/wallgo ulw?

Maen nhw’n gwneud y cwbl lot. Ac oherwydd y bali tywydd erchyll, gwlyb ma, maen nhw’n cael modd i fyw. Ac am ryw reswm, maen nhw wedi gwirioni efo fy nhy bach tyfu i. Dwi’n gallu gweld eu llwybrau nhw ar y plastic. A dyma be naethon nhw i fy mhupur gwyrdd i.

P1010001 Mi gafodd fy letus ei sbydu hefyd, a does na’m sôn am fy sbigoglys. Argol, mae isio gras.

A dwi’n difaru f’enaid cytuno i fynd â phryfed genwair i’r Steddfod. Mae fy nhy plastig i’r rheiny yn siapio’n ddel, yn llenwi a mynd yn drwm. Ro’n i wedi meddwl mynd adre o’r Steddfod i nôl y teclyn a’r bag pryfed newydd ar y nos Fawrth, ond chai ddim. Rheolau’r maes carafanau ydi – unwaith ti mewn, ti’n aros. Felly dwi angen rhoi’r cynnwys yn rhywle arall tra bydda i’n y Steddfod. Rhywle lle wnawn nhw ddim boddi yn yr hylif maen nhw’n ei greu, na dianc. Help.

Yn y cyfamser, mi wnes i ofyn i’r cwmni yrru bag newydd o bryfed genwair i mi i gyrraedd ddydd Gwener. Ond mi gyrhaeddodd ddoe a dim ond am rhyw ddeuddydd allan nhw fyw yn y bag. AAAAA! Felly dwi wedi rhoi cardfwrdd yng ngwaelod bwced, pot plannu ar ben hwnnw, rhoi hanner y pryfed yn hwnnw a gadael y gweddill yn y bag (a’i dop ar agor), rhoi chydig o sbarion moron iddyn nhw, clingfilm ar ben y cwbl a chydig o dyllau iddyn nhw fedru anadlu. Ryw ben fore Gwener, mi wnai chwilio am fwced arall i roi cynnwys y ty pryfed ynddo, a gweddio y byddan nhw’n dal yn fyw ar ôl wythnos.

A rhywsut, dwi’n mynd i orfod cadw’r bali pryfed genwair newydd yn hapus a chysurus yn fy adlen tra dwi’n Steddfota. Cymhleth?! Mae’n hurt!

O, a dwi’n disgwyl dynes gosod blodau yma unrhyw ddiwrnod, Naci, nid Sioned, un arall, sef Mim, sy’n mynd i neud y blodau ar gyfer priodas fy nith, Leah. Dyma hi pan oedd hi’n ifanc. Leah, nid Mim. Del de!

sc002dc024



Wedi’r sioe
Gorffennaf 24, 2009, 10:32 am
Filed under: 1

Ges i andros o hwyl yn y sioe – a Russell hefyd! Mi welais i ambell gerdyn coch ar gaetsiau ei ieir a’i hwyaid. A do, mae o wedi dyweddio efo Jen, y ferch ddaeth o i’w nabod wedi iddi ei ffansio ar y teledu. Da de! Maen nhw wedi prynu ty yn Rhosgadfan hefyd – efo ambell gae yn sownd ynddo fo. Mae Byw yn yr Ardd wedi newid bywyd Russ yn llwyr yndo?

Alla i’m deud fod y gyfres wedi newid fy mywyd i rhyw lawer chwaith. Dwi wedi dysgu cryn dipyn am dyfu llysiau, do, ac mae na well graen ar y lawnt. Ond digon tebyg ydi mywyd i yn y bôn. Erbyn meddwl, fy nghyfres deledu gynta i newidiodd fy mywyd i – Amdani. Cofio hwnnw? Wedi sgwennu cwpwl o’r cyfresi hynny ro’n i’n gallu fforddio rhoi deposit ar Ffrwd y Gwyllt, a dyna pryd wnes i adael Bethesda a symud yn ôl i fro fy mebyd.

Ac wedi 4 noson yn y sioe, dwi bellach yn ôl adre. Newydd fod am dro ar y beic efo Del, a dyma hi, yn falch o fod yn ôl yn fy ngardd i:P1010011Do, mae pethau wedi tyfu’n arw yn yr holl law ‘ma. Yn cynnwys y lawnt. Croesi bysedd y bydd hi’n sych toc i mi gael torri tipyn arni. A haleliwa, mae ‘na rywbeth mawr wedi digwydd i’r holboelia coriaecia! mae o wedi tyfu fel peth gwirion yn ystod y pythefnos dwytha ‘ma:P1010008 Ond dwi’m yn gwybod pryd gai amser i fynd ati i docio a chwynnu pob dim – mae’n Steddfod wythnos nesa ac mae gen i domen o waith a threfnu i’w wneud cyn hynny.

O ia, dyma i chi ddau gymeriad arall y bum i’n eu gweld yn y de ‘na – y ddau Huw, sydd â rhandiroedd yn Ynyswen, nid nepell o Dreorci.

Dyma Huw Price, sydd â phatsh taclus dros ben:P1010035Mae o’n tyfu’r un cnydau bob blwyddyn, fel ei dad o’i flaen o.

A dyma Huw Davies, sydd â gardd tebycach i f’un i – rhyw fymryn yn wyllt mewn mannau! Mi fydd o’n trio tyfu rhywbeth ychwanegol, gwahanol bob blwyddyn, ac mae’n cael cryn hwyl arni. P1010036 Mi welwch chi hanes y ddau pan fydd y gyfres yn ôl ar yr awyr fis Medi.



Gerddi Cribyn a rhandiroedd Caerdydd
Gorffennaf 18, 2009, 1:23 pm
Filed under: 1

P1010005Dwi wedi bod yn crwydro cryn dipyn yn ddiweddar, yn sbio ar erddi o bob math ar gyfer y bloc nesa o Byw yn yr Ardd. Dyma i chi ran o ardd hynod iawn yng Nghribyn, Ceredigion: Gerddi Cae Hir. 25 mlynedd yn ôl, dim ond caeau oedd yma, ond mae gwr o’r Iseldiroedd, Wil Akkermans wedi llwyddo i droi’r cwbl yn ardd hyfryd – a hynny heb ddefnyddio peiriannau! Wel, heblaw am Jac Codi Baw ar y dechrau. Fo nath y cerflun Celtaidd yr olwg ma hefyd. Hyfryd tydi? Mi fyswn i wrth fy modd yn gallu gwneud rhywbeth felly acw, ond dwi’m yn gweld sut allwn i dyllu digon heb JCB a dwi’m yn ffansio gweld un o’r rheiny yn malu fy ngardd i! Mae Wil wedi ymddeol bellach a’r plant sy’n rhedeg y sioe ond mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld be maen nhw’n ei wneud efo’r lle.

Dwi wedi bod yn sbio ar randiroedd hefyd. Mi welsoch chi Brenig Jones  wythnos dwytha, y gwr hyfryd sy’n dal i fedru palu rêl boi er ei fod yn 88 oed. Mi ddywedon ni ar y rhaglen ei fod yn ei 90au – felly dwi’m yn siwr bellach pa oedran sy’n gywir! P1010030 Roedd y rhandir yna yn un llawn pob math o fathiau, tai gwydr wedi eu gwneud o sgrap, pob dim ar draws ei gilydd – y rhandir traddodiadol. Ond yn ein prifddinas, mae na randiroedd sy’n edrych fel rhywbeth allan o’r Ideal Home Exhibition. Taclus, perffaith, yn reolau i gyd – sbiwch!P1010010

Yn y rhandir yma yn y Rhath, mae ganddyn nhw hyd yn oed le ar gyfer pobl sydd mewn cadair olwyn, neu’n ddall neu rannol ddall. Mae’r gwelyau ma’n ddigon uchel i chi fedru eu trin o’ch cadair, a digon o le rhyngddyn nhw i symud yn ddi-drafferth. A sylwch ar y label mawr i’r rhannol ddall allu gweld yn iawn:P1010017 Elen King a’i theulu fu’n ein dangos ni o gwmpas y lle – dyma nhw o flaen eu patsh bach nhw, newydd hel bwyd ar gyfer swper:P1010020 Llond gwlad o ffa a thatws, ac roedd ganddyn nhw ddewis eang o lysiau o bob math. Mi fydd Steffan y bychan yn sicr yn arddwr erbyn iddo fo dyfu’n ddigon hen i fedru dal fforch. Mae o’n hapus braf yn y goetsh na tra mae ei rieni’n chwynnu a phalu.

Ac wedyn ges i sioc. Roedd na wyneb cyfarwydd ynghanol y pys a’r ffa dringo:P1010025 Boi o Ddolgellau (chydig yn iau na fi) oedd yn arfer chwarae rygbi efo mrawd. Waeth i mi gyfadde, dwi wedi anghofio ei enw o. A finna wedi bod yn siarad efo’i dad o neithiwr! Embaras. Ond dwi ar frys i sgwennu’r blog ma cyn mynd i’r sioe yn Llanelwedd- dim amser i ffonio neb! Gyrra neges os wyt ti’n darllen y blog ma! Ond mi wnewch chi ei weld o a’i deulu eto dwi’n siwr – eitha posib y bydd o a’i deulu yn rhaglen Dolig 2009, gan mai ei fwriad wrth ddechrau’r rhandir oedd tyfu ei lysiau ei hun ar gyfer eu cinio Dolig. Chwip o syniad da. Mae’n edrych yn addawol a deud y lleia. A’r plant wrth eu boddau yn helpu i godi tatws:P1010024 Mwy o randiroedd yn y cofnod nesa… isio mynd i bacio rwan – a mynd i dre heno i weld be fydd hi fel yna heb Sesiwn Fawr!



%*$£@!* malwod!!
Gorffennaf 10, 2009, 2:41 pm
Filed under: 1

Fy hoff lysieuyn yn yr ardd ydi’r meip. Maen nhw wedi tyfu’n hyfryd, y piws yn wledd i’r llygad a’r blas, bron yn hufennog, yn arallfydol.

Ond dim ond rhyw 8 sy’n tyfu yn y bocs ar hyn o bryd. Dyna pam wnes i blannu llwyth o hadau mewn potiau wythnosau yn ôl. Ond roedden nhw’n tyfu’n ara ofnadwy, felly ges i dy bach tyfu (rhad iawn, £25) a’i roi yn erbyn talcen y ty, sy’n wynebu’r de, ond eto â chysgod coed rhag iddo fynd yn hurt o boeth, a rhoi’r potiau yn fanno. Dyma fo, wrth ymyl y bwced tatws, sy’n gweithio’n grêt hyd yma:P1010028

Rois i domatos a chillis ac ati yno hefyd, a phlannu hadau sbigoglys (spinach) a chourgettes ac ati hefyd. A ddau artichoke ges i gan Buck fyny ffordd. Wedyn es i lawr i’r de am dridiau i ffilmio mwy o eitemau ar gyfer Byw yn yr Ardd. Gewch chi hanes rheiny mewn blog arall ryw dro. Ond pan ddois i’n ôl – y peth cynta wnes i – cyn hyd yn oed agor drws y ty!- oedd agor zip fy nhy bach tyfu newydd i gael golwg ar y cynnwys. Roedd y cyw-blanhigion radish a betys a letus wedi tyfu’n rhyfeddol – gwenu? Ro’n i fatha giât. Nes i mi sbio ar fy mhlanhigion meip. Doedden nhw ddim yno. Y cwbl oedd ar ôl oedd hyn – a hanner un o’r artichokes. P1010029

Roedd y tomatos yn llawn llysnafedd sgleiniog hefyd. AAAAAAA!!!!!! @£$%^&* malwen fawr dew wedi chwalu fy meip yn ulw! Yr hen ast iddi! Y bwbach! Y snichyn llysnafeddog slei o uffern!

Wedi ymdawelu chydig ( ac yfed mwg o goffi du, cryf), mi wnes i blannu mwy o hadau meip a’u rhoi yn y ty bach tyfu- ar y silff uchaf un. A nes mlaen, dwi’n mynd i daenu pelets o gwmpas gwaelod y ty bach. Ydw, pelets. Naci, nid y rhai ‘drwg’ sy’n niweidio bywyd gwyllt; mae’r rhain yn wahanol, dach chi’m yn gweld cyrff malwod marw yn crebachu ar hyd lle. Maen nhw’n mynd i guddio neu dwrio i rywle a marw’n dawel allan o olwg unrhyw fronfraith neu ddraenog (meddan nhw). Mi fyswn i’n defnyddio plisgyn wy ond allwn i byth a bwyta digon o wyau mewn pryd.

Ac os na fydd yr hadau yma’n cael llonydd … mi wnai roi’r ty bach tyfu ynghanol y pwll llyffantod!

Dwi’m yn siwr am yr honiad isod weithiau … nid pan mae na falwod o gwmpas y lle.

P1010027



Manion
Gorffennaf 5, 2009, 11:49 am
Filed under: 1

Wel, dwi wedi penderfynu ei bod hi’n amhosib garddio’n iawn a gneud pob dim arall mewn bywyd. Mae angen tocio yma was bach. Bob tro dwi’n mynd am dro yn yr ardd, dwi’n cael fy ngwlychu’n socien gan ryw gangen neu wrych neu rywbeth. Dwi’n trio eu torri’n ôl ond mae na rywbeth arall wedi tyfu’n hurt yn y cyfamser. Ac mae’r drain yn mynnu tyfu drwy bob dim ar y lefel ucha (lle mae’r pwll a’r gwely llysiau). Unrhyw dips ar sut i gael gwared o redyn? Mae’r bali peth yn tyfu ynghanol fy rocket i!

Wedi deud hynny, dwi’m yn cwyno, mae’r ardd yn edrych yn anhygoel ar hyn o bryd.P1010106Ges i sioc ei bod hi’n edrych cystal ar y rhaglen wythnos yma! Ro’n i yn Ffair haf Llanelltyd ddoe, ac mi soniodd sawl un am y peth. Mae ‘na rai yn meddwl mod i’n cyflogi garddwr i fy helpu i – ha! Nacdw wir. Chwys fy hun sy’n gyfrifol am hyn, diolch yn fawr! A thipyn o gachu iar. A’r haul a glaw ar yn ail rydan ni wedi bod yn ei gael ers wythnosau. A dwi wedi cael tipyn o hylif llawn maeth o’r pot pryfed genwair – ond wedi colli ambell un hefyd am eu bod yn disgyn i’r ‘sump’ ac yn boddi os na fydda i’n cadw golwg ar y peth bob dydd.

A sôn am Ffair haf Llanelltyd – nes i benderfynu cystadlu efo Del mewn dau gategori: 1. yr adran cwn mawr (doedd na run i gwn canolig) ac mi gafodd ail! Wel, chyffd bois bach. Yr ail gategori oedd – cwn ufudd. Roedd y boi wedi deud nad oedd disgwyl iddyn nhw gerdded wrth eich sawdl, dim ond aros, eistedd ac ati. Wel, mae Del yn gneud hynny’n dda, ond dydi hi rioed wedi gorfod cerdded wrth fy sawdl i. Mi wnes i drio efo hi yn fychan, ond dydi o jest ddim yn natur cwn Cymreig. Maen nhw’n licio bod ar y blaen. Felly mi wnes i dalu fy mhunt beth bynnag, am hwyl. A myn coblyn – pan ddechreuodd y cystadlu, roedd yn rhaid cerdded efo hi wrth fy sawdl ar dennyn, wedyn yn ôl heb dennyn, wedyn gneud iddi eistedd, ac yna gobeithio y byddai’n aros wrth i mi gerdded i ffwrdd ohoni, cyn ei galw atai. O, nefi.

Mi nath sbaniel Dylan Davenport osod y safon i bawb. Hy. dangos bod gan bosmon ddigon o amser sbar i hyfforddi ei gi… Mi nath sawl un o’r cwn eraill gambihafio’n arw, felly ffiw, ro’n i’n dechre ymlacio. Ac yna, daeth fy nhro i … wel, Del a fi. Naddo, nath hi’m cerdded wrth fy sawdl, ond nath hi’m tynnu llawer chwarae teg. Tynnu’r tennyn, a diaw, aeth hi’m yn rhy bell. Pan ofynnais iddi eistedd, mi neidiodd i fyny a llyfu fy wyneb. O, diar. Ond mi eisteddodd wedyn yn hogan dda ac aros am hir, hir (wel, roedd o’n teimlo’n hir i ni) a rhedeg fel diawl atai pan alwais i hi atai – a ges i lyfiad mawr dros fy wyneb eto! Ro’n i wedi gwirioni efo hi – roedd hi wedi gneud gymaint gwell nag o’n i wedi ofni, ond chawson ni’m byd. Pawb yn deud y cawson ni gam! Mi allen ni fod wedi cael trydydd. Tro nesa …

Gyda llaw, mae ffeiriau haf fel hyn yn lefydd gwych i brynu planhigion yn rhad. Dim ond un ges i gan mai dim ond punt oedd gen i ar ôl erbyn prynu llond gwlad o gacen gri, bara brith, wyau ac ati. Bydd raid i mi feddwl llai am fy mol a mwy am fy ngardd tro nesa.