BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwahanol erddi Dyffryn Nantlle
Awst 2, 2013, 8:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , ,

Iawn, gan fod y WordPress poenus ma’n dal i wneud bywyd yn anodd i mi, dwi newydd fod am dro ar y beic tra’n aros i’r lluniau canlynol lwytho i fyny ( neu i lawr, pa bynnag un ydi o).
Amrywiol luniau o’r gerddi rydan ni wedi bod yn gweithio/chwysu/busnesa a ffilmio ynddyn nhw ydyn nhw, a rhai wedi cael gwell hwyl arni na’i gilydd. Dyma un oedd newydd gael ei blannu….image
A dyna’r un ardd eto, efo un o’i pherchnogion hapus. Ond rhain ro’n i’n eu hoffi fwya, dim bwys gen i am bregeth Russ am fethu bwyta blodau!image

A dyma rai gerddi eraill:image
imageimage
Gwych ynde! Bydd raid i chi wylio’r gyfres yn yr hydref i weld yr hanes a dod i nabod y cymeriadau. Achos dwi newydd glywed na fydd o mlaen fis Medi rwan, ond ryw dro ym mis Hydref. Hir yw pob ymaros…
A mwy o erddi:image Bocsys taclus iawn fanna sylwer … Fe gewch yr hanes!imageimage Russ wrth ei fodd efo broccoli rywun yn fanna!
image
Grrr…dwi’m yn gallu gweld hwn wrth sgwennu a llwytho i weld os ydi popeth yn y lle iawn, felly dwi’n gneud hyn yn ddall, fel petae. O, dechnoleg… Weithiau dwi’n dy gasau!
Ta waeth, dwi’n gobeithio mai rhywbeth oedd ar wal un o dai ein garddwyr ydi hwn, nath i mi chwerthin, a deud ia, cytuno i’r carn, gyfaill.image
Ac yn ola, llun o ddwy nain yn dangos eu wyr bach newydd (wrth ymyl y petunias). Fy chwaer i ydi’r flonden, Dorothy Ann ydi’r nain arall a Mabon Llewelyn ydi’r bychan – fy ngor- nai newydd i! Llongyfarchiadau Leah a Gareth. A Leah ydi’r unig un o fy nithoedd a neiant sy’n dangos unrhyw ddiddordeb mewn garddio hyd yma. Ond does wybod faint o gyfle gaiff hi rwan, efo 3 plentyn bach i’w magu!image



Camelia
Ebrill 27, 2011, 9:26 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , ,

Wps – dwi ar ei hôl hi efo’r blog wythnosol. Dwi wedi bod yn brysur, sori.

Wel? Dach chi’n mwynhau gweld BYYA yn ôl ar y sgrin? Eitemau digon difyr does? Roedd hi’n amlwg mod i wedi cael llond bol yn trio rhoi’r ty gwydr i fyny doedd? A dwi ddim yn hapus efo fo – gorfod rhoi gwynt ynddo fo bob wythnos, ac yn y cyfnodau poeth, braf, mae o’n llosgi bob dim yn grimp! Dim ond un planhigyn courgette sy’n dal yn fyw a does na’m golwg rhy iach ar hwnnw chwaith ( mi gafodd y parsli oedd yn yr eitem ei chwalu’n rhacs pan fu’r bali peth yn fflapian yn y gwynt …). Ydw, dwi’n gallu rheoli’r tymheredd drwy agor y drws, ond os dwi i ffwrdd yn gweithio, fedrai ddim na fedra? Ac os dwi’n ei adael ar agor drwy’r amser, be am noson fel heno pan mae hi’n mynd i rewi, meddan nhw?

Ond dwi am roi fy nhomatos ynddo fo toc beth bynnag. Maen nhw’n tyfu rêl bois yn fy ‘wet room’ o dan y ffenest velux.

Tybed oes ‘na rai ohonoch chi wedi cael trafferth efo’ch camelias eleni? Oes, mae gen i un sy’n cael diod o haearn bob hyn a hyn – yn ôl cyfarwyddiadau Carol Gerecke, ond mae gen i ddwy arall – un na welais i’r un blodyn arni tro ma, ac un arall, sydd fel arfer yn wych, ond sy’n edrych yn symol iawn bellach. Mae’r blodau wedi hen wywo ers i mi gymryd y llun yma, ond y canghennau sy’n fy mhoeni i – dydyn nhw’m yn arfer sigo felna, ac mae na un at y gwaelod sy’n edrych fel tase fo ar fin marw go iawn. Dwi’n ei dyfrio, dwi wedi bod yn rhoi ‘feed’ iddi – ond mae’n dal i edrych yn sal. Unrhyw un ag unrhyw gyngor i mi?

Hefyd, dros y gaea, heb i mi ddallt, roedd ‘na ryw ddringwr wedi tyfu’n bellach na’r hen fonyn wedi pydru ym mhen draw’r ardd ac wedi crogi coeden fach arall ( dim clem be ydi hi – blodau pinc) a dau wrych nes eu bod yn gelain, fwy na heb. Dwi wedi bod yn rhwygo a thynnu a thocio ( a bytheirio, waeth i mi gyfadde) a dyma beth o’r llanast:

Does gan y ddau wrych ddim gobaith dod yn ôl – nid yn daclus o leia, ond mae’r goeden blodau pinc yn edrych yn obeithiol. Dwi angen tynnu’r lleill allan yn y bôn ryw ben a phlannu rhywbeth arall yn eu lle nhw. Ond be?!

A phryd gai amser? Dwi wedi bod yn ffilmio yn Waunfawr ddoe – gewch chi hanes Duncan Brown a’r gwyfynnod tro nesa, yn trio rhoi cwch gwenyn at ei gilydd heddiw ( mae ‘na draethawd yn fanna…) a dwi’n mynd i Lanbedr, Harlech fory. Wedyn mae’n benwythnos gwyl y banc tydi, a’r maes carafannau’n llawn a thoiledau angen eu glanhau, a dwi’n gobeithio mynd am dro ar y beics efo ffrind arall o gaerdydd a’i chi mawr bywiog hi bnawn Sadwrn. A dwi angen sgwennu beirniadaeth ar gyfer Steddfod Wrecsam … a dyfrio’r ardd. A llnau’r ty – sy’n edrych fel tase ‘na gorwynt wedi bod drwyddo fo. A golygu straeon ac ysgrifau ar gyfer cyfrol ‘Taid-Tad-cu’ … does ‘na’m llonydd i’w gael!

Ond mi ges i amser i blannu heuchera a rhywbeth ges i gan Meryl i fyny’r ffordd ( gwraig Buck, y boi oedd yn gneud sloe gin efo fi llynedd) – dwi’m yn siwr be ydi o, nid anhebyg i deulu’r heuchera, ond dail tipyn mwy. Maen nhw’n edrych yn eitha hapus lle bu’r hebe mawr ‘na.

Wythos dwytha gymrais i’r llun yma – mae’r patshyn wedi tyfu’r hurt ers hynny – gewch chi weld llun ryw ben eto.

O, a llun bach del o Sioned, Russ a fi yng Nghaerdydd i orffen. Mae Sioned yn priodi toc – ond dwi’m yn cofio pryd. Wythnos nesa efallai? Neu’r wythnos wedyn. Efallai y gwnaiff rhywun ddeud yn gall wrthai – mae ngho i fel gogor … henaint dicini …