Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bysedd y cwn, carol Gerecke, cornel gysgodol, dagrau solomon, hebe, hellebores, toriadau
Reit, dwi’n nacyrd. Newydd fod yn trio achub tair coeden sydd wedi cael eu crogi gan wyddfid yn dawel bach heb i mi sylwi. A rwan mae gen i fynydd o wyddfid a darnau o goed wedi pydru ar fy lawnt ac mae nwylo fi’n brifo, heb sôn am fy nghefn. Nai gymryd llun ryw ben.
Dwi wedi bod yn wirioneddol brysur yn yr ardd yn ddiweddar. Yn un peth, ges i gwmni Carol Gerecke eto, a’i chyngor ynglyn â be i neud efo 1) hebe sy’n rhy fawr, 2) hebe sy’n diodde. Yr ateb – llifio’r hebe anferthol a rhoi stwff lladd chwyn ar y bonyn oedd ar ôl.
Dyma’r canlyniad ar ôl bod wrthi efo llif a loppers.
Doeddech chi methu gweld dim o hynna cynt. Roedd y rhosyn ar y dde yn cael ei gwasgu o’r ffordd a’r planhigion oddi tani yn gonars. Dwi wedi bod yn palu ac ychwanegu compost a newydd blannu dau beth bach digon del yno ( methu cofio’r enw rwan – llun ryw dro eto).
Ac wele lun isod o’r canghennau gafodd eu torri i ddangos i chi pa mor fawr oedd hi. Anghenfil o hebe. A’r llall? Ei thocio bron i’r bôn ( roedd ‘na ddeilen fach neu ddwy yn fanno) a chroesi bysedd. Mi wnes i hefyd wneud toriadau o’r hebe iach a’u rhoi mewn pot fel hyn. Croesi bysedd y gwnaiff rhai o’r rheina wreiddio rhag ofn mod i wedi lladd yr hebe oedd y sal…
Hefyd, mae gen i gornel gysgodol iawn yn y cefn, sydd ddim yn cael llawer o haul – na gwynt, ac sydd â phridd wirioneddol dda.
Dyma’r gornel wedi i mi dorri tipyn o’r iddew oedd wedi mynd yn rhemp dros y wal. Rhy gynnar i chi weld y dagrau solomon sy’n tyfu wrth droed y cerrig a’r hosta hyfryd sy’n tyfu ar y chwith bob blwyddyn.
Mi nath Carol roi cyngor ar be arall fysa’n addas i’w tyfu yno, a dyma nhw:
A llun isod o Gareth yn ffilmio wedi i ni blannu – ac mae o’n sathru fy nagrau solomon i yn fanna! Dyna un peth am gael criw camera yn eich gardd – maen nhw’n sathru bob man tydyn!
Gewch chi weld yr eitem yn o fuan, ac mi wnai gymryd lluniau wrth i’r lle altro. Ond dwi wedi mopio efo fy hellebores pinc a phiws. Roedd gen i rai gwyn yn barod ond heb fod yn torri’r hen ddail yn ddigon cynnar i’r blodau gael mwy o faeth. Mi fyddan nhw’n well flwyddyn nesa, dwi’n addo! Edrych ymlaen yn arw i weld y bysedd cwn amryliw hefyd. Mi wnan yn lle lupins achos roedd y malwod yn gneud minsmît allan o’r rheiny.
O, a dyma Carol yn mwynhau paned haeddiannol ar ôl y gwaith na i gyd!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: ceanothus, henaint, Herald Gymraeg, rosmari, swej
Dyma’r golofn oedd yn yr Herald heddiw. Byddaf, mi fyddai’n sgwennu am arddio yn fanno hefyd weithiau, felly i chwi bobl y de neu Gogs sy’n rhy dynn i brynu’r Daily Post ar ddydd Mercher ( pan mae’r Herald Gymraeg ynddo fo), dyma fo ( ond efo llun neu ddau) ( O, a dwi’n sylweddoli mod i wedi sillafu ceoanthus yn anghywir – ceanothus (?!) neu rywbeth felna ydi o i fod…):
Gan fod y cennin pedr allan o’r diwedd, a’r awr ar fin newid, dwi’n teimlo fod y gwanwyn wedi cyrraedd a’r haf ar ei ffordd. Ac er mod i’n mwynhau misoedd y gaeaf, mae teimlo’r haul ar eich wyneb wastad yn gneud i chi deimlo’n fwy iach, rhywsut yntydi? Felly dwi wedi bod yn garddio.
Mae’r ffaith ein bod ni wedi dechrau ffilmio eitemau ar gyfer ‘Byw yn yr Ardd’ yn gic ychwanegol yn y pen-ôl wrth gwrs. Dwi’m isio i bawb weld y llanast felly dwi wedi bod yn tacluso a thocio chydig. Ond mae’r pwyslais ar ‘chydig’. Mae ’na rai pethau mae gen i ofn eu cyffwrdd am nad ydyn nhw’n edrych yn iach iawn ac mae gen i ofn eu lladd nhw. Dyna i chi’r ceoanthus blannais i llynedd.
Coeden hyfryd efo blodau glas ydi hi – i fod. Ond ar ôl y gaeaf yma, dwi’m yn meddwl y gwelai flodyn arni byth. Mae hi’n sych a brown ac mae’n debyg mai cael ffling fydd ei hanes hi, ond dwi isio i rywun sy’n dallt y pethau ’ma ei gweld hi gynta. A does wybod, ar ôl iddi gael chydig mwy o haul, efallai y gwelai ddeilen arni. Ond go brin; dwi wedi crafu chydig ar y rhisgl i weld os oes ’na wyrddni yna – nagoes. Beryg mai ex-ceoanthus ydi hi bellach. Ond mi fydd ei thaflu yn brifo.
Ac mae’r rosmari blannais i yn yr un stad. Yn kaput. Ac mae sawl planhigyn arall yn cymryd ei amser i ddeilio felly dwi’n meddwl mai i’r bin brown yr aiff rheiny hefyd. Joban ddrud ydi’r garddio ’ma ynde? Doedd y ceoanthus ’na ddim yn rhad. Heb sôn am y goeden apricots ( dwi methu cymryd at y gair bricyll am ryw reswm; hen air hyll tydi?). Ond mae’n debyg mai breuddwyd ffwl oedd meddwl y gallwn i dyfu’r fath beth ym Meirionnydd. Mae’r goeden geirios yn blwmin styfnig hefyd – mae hi yma ers dwy flynedd rwan a dwi’m wedi gweld unrhyw beth tebyg i geiriosen arni. Ond mae angen amynedd i arddio. Beryg mai dyna pam nad ydi o’n apelio at bobl ifanc rhyw lawer.
Yn ôl astudiaeth gan gylchgrawn ‘Gardeners’ World’, doedd 40% o bobl rhwng 25 a 34 ddim yn gwybod sut i docio rhosod na thyfu planhigion o hadau. Y? Be sy’n haws na rhoi hadyn bach mewn pot o bridd a rhoi chydig o ddwr iddo fo? Nefi wen.
Doedden nhw chwaith ddim yn gallu nabod planhigion. Iawn, ocê, dwi’m yn wych am gofio enwau planhigion, ond dwi’n gwybod be ydyn nhw. Dwi jest yn gwneud fy enwau fy hun iddyn nhw os ydi’r enw go iawn yn mynd yn drech na fi. Fel y blodau brwshys toilet a’r goeden clust-dlysau. Wel, dydi ngho i ddim cystal ag oedd o am ryw reswm.
Ia, iawn, oherwydd henaint mwn. Ond mae’n debyg bod garddio yn cadw pobl dros 50 yn iau, yn ôl rhyw astudiaeth arall. Ond dwi’m wedi cyrraedd fan’no eto, felly dwi’n gobeithio gweld gwelliant pan ddaw’r pen-blwydd hwnnw. Yn y cyfamser, dwi’n mwynhau darllen bod garddio’n gwneud pobl yn fwy optimistaidd yn ogystal â bod yn fwy heini na phobl sydd ddim yn garddio. Heini – iawn, mae’r ardd yma wedi gwneud i mi chwysu mwy na wnaeth unrhyw gampfa erioed. Mae cribinio mwswg o’r lawnt yn un o’r ‘work-outs’ caleta i mi ei brofi erioed, heb sôn am hwffio’r peiriant torri gwair i fyny ac i lawr y grisiau. Optimistaidd? Wel, mae hynny’n anghenrheidiol yn yr ardd, debyg iawn. Os nad oes gynnoch chi ffydd a gobaith bob tro dach chi’n plannu rhywbeth, be goblyn ydi’r pwynt? Ac os nad ydi o’n gweithio eleni, wel trio eto flwyddyn nesa mewn rhan arall o’r ardd ynde.
Roedd garddwyr yn sgorio’n uwch ar gyfer categori o’r enw ‘Life satisfaction’, ac yn fwy iach herwydd eu bod nhw’n bwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Dwi’n cymryd mai’r rheswm dros hynny ydi am eu bod nhw’n llwyddo i dyfu digon eu hunain. Hm … wel, ges i lwyth o afalau llynedd, mae’n wir, ond i gyd ar yr un pryd. Ac roedd rhywbeth arall yn bwyta fy swej i cyn i mi gael gafael ynddyn nhw, a dim ond am rhyw bythefnos barodd fy mefus. Ond mae gen i lond rhewgell o fafon cochion.
Ond eleni, mae gen i dy gwydr. Un hyll ofnadwy sy’n debyg i portaloo ac yn gorfod cael ei chwythu i fyny bob wythnos (wir yr), ac mae angen rhoi tunnell o gerrig ynddo fo i’w rwystro rhag hedfan am Lyn Tegid pan fydd y gwynt yn codi ( nid fy syniad i oedd o!), ond os lwyddai i dyfu cnwd da o domatos am y tro cynta yn fy myw, mi fyddai’n hapus a llawen a llawer iawn iau na fy oed. Ond dwi ddim yn optimistaidd …
Mae ein hen gapel Methodist ni yn y Brithdir wedi ei droi’n feithrinfa: ‘Seren Fach’ – enw da o gofio hanes yr adeilad ynde? Wel, mae’r lle wedi ffynnu a thyfu a chael estyniad a gardd chwarae newydd, ond mae angen planhigion, felly es i draw yno efo Carol Gerecke wythnos yma. Dyma hi efo Eleri Nanthir ( gynt) o flaen yr hen gapel.
Ond dim ond rhyw £800 sydd ar gael i brynu planhigion – £1,000 ar binsh, ac mae’r ardal oedd gan Eleri mewn golwg braidd yn fawr; fysa’r pres yna ddim yn mynd yn bell iawn.
Dyma’r cefn, ac roedd Eleri wedi gobeithio gallu plannu pethau rownd y 3 ochr, yn dilyn y ddwy ffens a’r wal gerrig, ac yn y teiars anferthol gafodd eu rhoi gan Saracens Bala fel ‘planters’.
Ond beryg mai dim ond ar hyd un wal neu mewn patshys bychain y bydd modd plannu. Ar ben hynny, mae’r pridd yn fwy o glai na dim byd arall. Ac mae tair o’r pedair teiar yn rhy uchel i blant bach fedru plannu a chwynnu. Syniad Carol oedd rhoi llysiau yn rheiny, fel ffa, pys ac ati. Ac er mwyn i’r pres fynd yn bellach, dywedodd y gallai Eleri ofyn i rieni a bobl leol roi planhigion at yr achos. Dwi’n gêm i roi geraniums – mae gen i domen ohonyn nhw! A’r pethau sy’n edrych fel brwshys toilet – byth yn cofio’r enw. Mae Carol isio rhai o’r rheiny ei hun gen i beth bynnag.
Ond fel mae’n digwydd, mae na gylch o blanhigion a choediach o flaen y feithrinfa:
Mae ‘na lawer gormod wedi eu gwasgu i mewn iddo fo a digon hawdd fyddai eu trawsblannu i’r cefn. Felly dyna arbed pres yn fanno’n syth.
Ond os ydach chi’n weddol lleol neu’n digwydd pasio, oes gynnoch chi blanhigion y gallech chi eu rhoi at yr achos? Mi fysa’r plant a’r staff i gyd yn hynod ddiolchgar! Ac mi fyddai’n help i fagu cenhedlaeth newydd o blant sy’n caru planhigion ac yn eu dysgu sut i blannu eu bwyd eu hunain …
Dydyn nhw’m yn barod amdanyn nhw eto, ond mi fyddan nhw toc, o fewn yr wythnosau nesa ‘ma.
Gyda llaw, fues i’n Llundain yn ddiweddar ( dim byd i neud efo BYYA) ac es i i’r British Museum. Nes i wirioni efo’r stwff o Africa, a phan weles i hwn, hen, hen geiliog brass o Benin, nes i feddwl am Russell.
Felly mae hwn i ti, Russ. Do’n i methu ei brynu (llawer rhy ddrud, hyd yn oed tase fo ar werth!) felly rhaid i lun iphone neud y tro. Ond tydi o’n smart?
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Aber, cortyn, hedfan, Machynlleth, tacsi, trên
Wedi cyrraedd adre’n hwyr iawn o Lundain neithiwr ( trên Aber wedi mynd hebddan ni gyd, oherwydd problemau ‘overhead cables’ yn Euston, felly tacsi i Mach o’r Amwythig – nhw oedd yn talu – efo gyrrwr tacsi oedd ddim yn stopio siarad, Chinese oedd methu siarad gair o Saesneg na Chymraeg heblaw ‘thank you’ a ‘Machynlleth’ a dynes o Loegr oedd yn siarad drostan ni gyd diolch byth), roedd hi’n fore arnai’n mynd i ngwely.
Felly pan ges i alwad ffôn tua 7 gan un o fois yn Cyngor yn deud “Beth, mae dy dy gwydr di’n fflapian!” do’n i ddim yn hapus. Ond wedi sbio drwy’r cyrtens, roedd o’n iawn. Ty gwydr yn hedfan – mi fysa wedi mynd onibai am y cortyn oedd yn ei ddal yn sownd i goeden. Es i allan i drio ei ddal i lawr. Ha! Cydio yn un o’r darnau defnydd sydd â math o beg ynddo fo – ac mi ddoth i ffwrdd yn fy llaw!
Grrr… fy seedlings dros y siop i gyd. Wedi llwyddo i’w glymu lawr yn well ond dwi di blino gormod i gynnwys llun…
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Coed y Brenin, Corris Mine Explorers, rafftio, Snow Bikers, Tryweryn
Dwi wedi bod yn brysur yn mwynhau fy hun yn ddiweddar. Oedd, roedd Rhufain yn wych ond does dim rhaid teithio’n bell i gael diawl o amser da. Dwi wedi bod yn cael gwefrau lu i gyd o fewn rhyw 20 milltir o ngharte.
Rafftio fues i bore ‘ma – efo Mam, sy’n 69. A naci, nid ni sy’n y llun. Roedd na foi’n cymryd lluniau ohona i’n cael fy ngwlychu’n socien ond weles i mo’r lluniau cyn gadael. Ond ro’n i rwbath tebyg i’r boi ar y dde. Yn Frongoch oedden ni, lle cafodd fy Mam ei magu – ac yn afon Tryweryn ddysgodd hi nofio – cyn codi’r argae. nefi, gawson ni hwyl.
Ac rhyw 10 diwrnod yn ôl, fues i’n Corris Mine Explorers efo Dad.
Tipyn mwy difyr na’r trip Brenin Arthur – dydi hwn ddim yn addas i blant ifanc, ac mae o wir yn agoriad llygad ac yn werth ei wneud. A dim ond lawr y ffordd yng Nghorris! Pwy fysa’n meddwl bod na fyd arall dan ddaear yn fanno? Byd sydd wedi ei agor i ni – am bris reit rhesymol.
Os ydach chi’n diodde o glawstroffobia neu ddim yn hoffi’r tywyllwch, wnewch chi ddim ei fwynhau o. Ond mi wnes i a Dad ei fwynhau o’n arw. Ac mae’n goblyn o job ei gael o i wneud pethau fel hyn fel arfer.
Ond yr hufen ar y gacen oedd y pnawn dreuliais i yng Nghoed y Brenin, Ganllwyd efo Graham a Jackie sy’n rhedeg cwmni beicio mynydd Snow Bikers. Iawn, dwi’n beicio bob dydd ryw ben, ond rhyw feicio digon diniwed, dim byd hard-core, er mod i wedi mynd lawr trac go hawdd yng Nghoed y Brenin efo Del gwpwl o weithiau. Ond mae Graham yn diwtor arbennig iawn, a ges i fodd i fyw yn dysgu technegau newydd a sut i wir falansio’n gywir. Er mod i chydig yn annifyr pan gymerwyd y llun yma…