Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brenhines, gwenwyn, gwenyn, haid, heidio, hollti, marw, mel i gyd, neithdar, paill, poison, Poisoning, robbing, trist, ymosodol
Newyddion trist mae arna i ofn. Cofio’r cwch o wenyn blin oedd gen i? Yr haid hedfanodd dros yr ardd gan fy nychryn yn rhacs oedd hi. Gwenyn prysur tu hwnt, yn hel paill a neithdar fel pethe gwirion, ond ymosodol a deud y lleia! Felly mi nath Carys a fi hollti’r cwch fis Mehefin a mynd a 4 ffram, gan gynnwys y frenhines, i’r cwch gwag oedd gen i yng ngardd fy rhieni.
Carys ydi honna, a hen gwch ges i’n ail law ydi hwnna. Rois i niwc ges i gan Carys ynddi llynedd, ond naethon nhw rioed lwyddo’n dda iawn, a rheiny fu farw dros y gaea.
Wel, roedd gen i obeithion mawr am y gwenyn yma a’u brenhines hynod gref. Ac roedden nhw’n gneud yn dda.
Ond rhyw dair wythnos yn ol, dyma be oedd ar lawr o flaen y fynedfa:
Pentwr o wenyn wedi marw, wedi pentyrru ar ben ei gilydd ac wedi dechrau cynthroni. Roedd y drewdod yn ofnadwy. A thu mewn i’r cwch, roedd hi’n waeth. Carped dwfn o gyrff.
Wel, ro’n i’n meddwl i ddechre mai haid arall oedd wedi ymosod arnyn nhw, achos doedd na’m tamed o fel ar ol yn y fframiau.
Roedd Carys yn ofni mai salwch o ryw fath oedd o, felly nes i ffonio’r insbector gwenyn. Mi ddoth fore Sadwrn, a deud nad oedd o rioed wedi gweld y fath beth o’r blaen.
“Possibly robbing,” medda fo, “but probably poisoning.” Ond roedd y cyrff wedi pydru gormod i ni gael sampl digon mawr i’w yrru i’r gwyddonwyr wneud profion i weld sut wenwyn oedd o.
Mi ddylwn i fod wedi hel llond jar yn syth a’i gadw yn y rhewgell.
A ble fysen nhw wedi dod o hyd i’r gwenwyn? Wel, os oedd rhyw arddwr/ ffarmwr wedi bod yn defnyddio chwynladdwr cry ar ‘chwyn’ oedd mewn blodau ar y pryd… Mi fysa hynny’n ddigon. Does na’m gwenyn lleol eraill wedi marw, jest y cwch yma oedd yn anlwcus, beryg.
Mor drist. Ond dyna ni, dydi cadw gwenyn ddim yn fel i gyd … (Sori!)
A gan mod i wedi hollti’r cwch arall hefyd, dwi’m yn meddwl y bydd gen i fel i’w roi i neb eleni, sori… Flwyddyn nesa ella!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cwch gwenyn, diod siwgr, gwenyn duon Cymreig, haid, heidio, siwgr
Dim lluniau – rhy wlyb a sgen i’m mynedd, ac mi wnai eu hychwanegu eto – ond bellach, mae gen i dair cwch o wenyn!
Y cwch cyntaf, sy’n hapus braf. Gwenyn duon Cymreig
Yr haid – sydd rwan yn y cwch newydd ro’n i wedi ei pharatoi ers prynu’r stwff yn Llanelwedd. Cymysgedd ydi’r rhain dan ni’n meddwl – y drones yn wahanol – mwy o felyn ynddyn nhw.
Cwch llawr caled – brynais i gan John Porthmadog am £35, sydd â niwc brynais i gan Carys. Roedd hyn wedi ei drefnu cyn i’r haid hedfan dros fy mhen i! Gwenyn duon Cymreig.
Wedi rhoi digon o ddiod siwgr i’r 2 gwch newydd i’w helpu i setlo, ac hefyd am fod neges wedi dod drwy’r gymdeithas gwenynwyr bod llawer o wenyn yn llwgu i farwolaeth ar hyn o bryd am nad oes digon o fwyd iddyn nhw. Dyna pam fod rhain wedi heidio mae’n siwr, i chwilio am rywle efo mwy o fwyd. Wel, mi edrycha i ar eu holau nhw.
Iawn, gwell picio i dre – dwi wedi rhedeg allan o siwgr.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: beic, beicio, brenhines, Glynllifon, gwenyn diarth, Gwenynwyr Meirionnydd, heidio, Herald Gymraeg, Merched y Wawr, swarm control, yr urdd
Wedi bod braidd yn brysur yn ddiweddar, rhwng sgwennu nofel ar gyfer yr arddegau, chwynnu ( rhywfaint), lladd malwod, gweithio yn ein maes carafannau ( oedd fel ffair dros y gwyliau ond sydd fel y bedd rwan), a beicio i Steddfod yr Urdd efo Merched y Wawr. Hanes hynny yn yr Herald ddydd Mercher, a dyma lun o’r ddwy fues i’n beicio efo nhw ar y dydd Sul: A’r criw i gyd wedi cyrraedd Glynllifon ar y dydd Llun:
Ond dwi wedi bod yn brysur efo’r gwenyn hefyd. Yn un peth, mae gwenyn diarth wedi bod yn ymosod ar fy nghwch i! Ga drapia nhw. Roedden nhw wrthi eto pnawn ma felly dwi wedi gneud y fynedfa’n llai i ngwenyn druan i fedru amddiffyn y lle’n haws. A myn coblyn, roedd fy mhortsh i’n llawn gwenyn am sbel pnawn ma – methu dallt pam nes i mi gamu tu allan a gweld eu bod nhw’n hofran o gwmpas twll yn nho y portsh. Dwi’m yn siwr ai fy ngwenyn i ai’r gwenyn diarth oedden nhw, ond maen nhw wedi rhoi’r gorau iddi rwan. Roedd ‘na ddwy wenynen arall wedi landio’n y portsh erbyn i mi ddod nôl o fynd am dro ar y beic, ond roedden nhw wedi blino’n rhacs, ac er i mi eu rhoi ar goeden mewn pot tu allan tua hanner awr yn ôl, maen nhw’n dal yno, heb symud.
Bydd raid cysylltu efo Carys Tractors i ofyn be sy’n mynd ymlaen. Mae gen i gwch arall yn barod iddyn nhw os mai isio heidio oedden nhw, ond dwi wedi bod yn checio celloedd brenhines yn rheolaidd, a does na’m golwg heidio arnyn nhw. O, arhoswch chi funud … mae na wythnos wedi pasio’n sydyn ar y naw does? Ddylwn i fynd atyn nhw rwan – heno – ond mi fyddan nhw’n flin oherwydd yr ymosodiad gan y gwenyn eraill a dwi’m isio creu hafoc! Dwi am aros tan fory. Ond ddoth Carys yma wsnos cyn dwytha, ac mae fy nghwch i’n gneud yn iawn – ond ddim llawer o fêl hyd yma, a’r penderfyniad oedd y dylid gadael iddi gryfhau yn hytrach na’i sblitio. A brenhines gweddol ifanc ydi hi o hyd felly ddylen nhw ddim bod yn rhy awyddus i heidio.
Ac mi ddylwn i ddallt y busnes heidio ma rwan, achos o’r diwedd, ges i fynd ar ddiwrnod agored Gwenynwyr Meirionnydd, a heidio ( swarm control) oedd y pwnc.
Dyma ni, yn heidio i lawr am gychod Paul & Pauline Aslin yn Arthog, wrth ymyl Dolgellau ar bnawn Sadwrn Mai 19. A dyma ni wrth y cychod.
Criw mawr ohonon ni does?! Do, ges i fraw hefyd. A’r rhan fwya yn wenynwyr newydd fel fi – dyna pam eu bod nhw yno – i ddysgu. Nifer fawr yn Gymry Cymraeg hefyd, a dysgu Cymraeg mae Pauline, ond mae’n hogan glyfar, felly fydd hi’m chwinciad cyn dod yn rhugl. Ond fel mae’n digwydd, 5 o’u cychod nhw sydd i lawr y ffordd yn Nantycneidiw, a’r rheiny sy’n ymosod ar fy nghwch i, y diawlied! Dwi’n gallu deud nad rhai bach duon Cymreig ydyn nhw achos maen nhw’n fwy, ac yn fwy melyn:
Doedd Pauline ddim yn siwr pam eu bod nhw wedi penderfynu trio dwyn mêl fy nghwch i chwaith … hm. Ta waeth, difyr ydi gweld sut mae pobl eraill yn gofalu am eu gwenyn, ac mae Paul & Pauline mewn lle delfrydol – coed Sycamorwydden ymhobman, ac mae’n llawer cynhesach yno ( yn nes at y môr) nac i fyny fan hyn. Felly efallai mai isio bwyd hawdd ei gael mae eu blwmin lladron nhw!
Beth bynnag, yn Arthog, mi fuon nhw’n dangos a thrafod sut i reoli heidio efo neu heb ddod o hyd i’r frenhines. A sut i’w cael nhw’n ôl os ydyn nhw’n heidio. Dwi wedi prynu sgep yn barod ar gyfer yr achlysur – roedd John o Borthmadog, gwenynwr profiadol yn gwerthu llwyth o’i hen offer a waries i £100 yno – yn syth! Mi wnai gymryd lluniau o be brynais i rywbryd eto – ond nefi, dwi angen sied ar gyfer yr holl stwff ma.
Mae ‘na gyfarfod arall yn lle Sue a John yn Nhai Cynhaeaf y Sadwrn yma ( 16) a dwi am drio mynd. Marcio brenhinesau sydd dan sylw tro ma. Mae dysgu pethau yn ddifyr, ond cyfarfod pobl eraill sydd wedi gwirioni fel fi, yr un mor ddifyr!