Filed under: 1
Y ddynes werthodd y ty i mi yn 2000 blannodd y wisteria yma. Doedd o’m yn rhy hapus yma bryd hynny, ond ers i mi ei anwybyddu’n llwyr, mae o wedi tyfu fel triffid, wedi blodeuo’n ddel, a rwan – sbiwch be mae o wedi neud! Malu fy landar i’n rhacs! Dyma lun agosach i chi gael gweld y difrod:
Mi fydd raid cael trefn ar hwnna rwan, dicini. Ei wneud o fy hun? Dwn i’m, gawn ni weld. Dwi’m yn siwr iawn lle i ddechrau a bod yn onest. Nefi, mi fysa handiman yn handi o gwmpas y lle ma … A be ddylwn i ei wneud i wneud yn siwr na fydd y bali wisteria yn malu’r landar nesa, dwch? Unrhyw syniadau?
A dwi angen golchi ngwallt mwya ofnadwy, ond does na’m dwr fyny staer. Y rhew a’r eira neithiwr o bosib. Dydi’r peipiau ddim wedi byrstio na rhewi na dim byd felly – mae gen i ddwr lawr staer. Beryg mai airlock ydi o eto fyth, a finne efo tapiau coblyn o anodd cael fy ngheg o’u cwmpas nhw i chwythu. Dwi wedi bod yn trio nes mae fy ngwefusau i’n sôr …
Mi wnes i fynd i sbio ar fy nhanc dwr cyn hynny, rhag ofn mai rhywbeth oedd o’i le yn fanno. Ond na, roedd o’n iawn. Dyma fo, ylwch. Ia, yn yr eira. Ro’n i fod i fynd i Wrecsam am ddiwrnod o siopa a phictiwrs heddiw, ond mae hi wedi ta ta ar y syniad yna. Bali eira! O wel, trio golchi ngwallt yn y sinc golchi llestri amdani rwan, mwn …
Filed under: 1
O’r diwedd, dwi wedi bod yn profi’r pridd sydd gen i yn Ffrwd y Gwyllt. Mi brynais i ‘kit’ bychan am £2.99 a mynd ati ddoe. Y cam cynta oedd rhoi pridd hyd at y llinell cynta yn y tiwb fel uchod. Pridd o’r patsh llysiau ar waelod yr ardd oedd hwn, sef pridd naturiol yr ardd, efo chydig o dail gwartheg ers llynedd neu’r flwyddyn cynt (dwi’m yn cofio’n iawn) a pha bynnag wrtaith arall dwi wedi bod yn ei ychwanegu dros amser. Ond mae na datws, nionod (sal iawn), bitrwt a chennin (tenau tu hwnt) wedi bod yn tyfu yno ers hynny. Naddo, dwi’m wedi rhoi llawer o sylw i’r patshyn yma felly dwi’n gwybod bod y pridd angen help.
Y cam nesa oedd ychwanegu’r powdr gwyn: Aeth y rhan fwya i mewn i’r tiwb! Wedyn, ychwanegu dwr (o’r ffrwd yn fy achos i) hyd at y 4edd linell:
Yna, rhoi’r caead ymlaen ac ysgwyd y cynnwys yn dda.
Wedyn, ei adael i setlo ( es i i ateb fy ebyst) a gweld pa liw oedd yr hylif yn y diwedd. Dyma liw fy mhatsh pridd sydd ddim wedi cael llawer o sylw:
Tua 5.5 ddeudwn i – cytuno? Iawn ar gyfer tyfu tomatos (hah! Rhy oer mêt!), moron a thatws. Ac ydyn, mae fy nhatws yn iawn yna. Ond dwi’m wedi trio moron yno ers tro. Yn amlwg, mi ddylwn i. Ond wedi deud hynny, mae moron yn hapus mewn pridd rhwng 5.5 a 7.00.
Iawn, y gwely dyrchafedig nesa, sy’n llawn pob math o gompost a phridd a thywod a bob math o nialwch. Mae’r cennin wedi bod dipyn hapusach yno, fy moron yn weddol, fy mitrwt llawer iawn mwy nag yn y patsh arall, ond roedd y sbrowts yn chwerthinllyd. Iawn, mi es drwy’r un broses eto a dyma’r canlyniad:
Niwtral felly, 7.0. Da i ddim ar gyfer tatws, ond yn well ar gyfer ffa (do, mi ges i rai da yno llynedd), nionod ac ati. Felly dwi am symud fy nionod i’r gwely yna i weld os gai well lwc eleni. Dwi mor falch mod i wedi gneud y prawf yma o’r diwedd! Os nad ydach chi wedi trafferthu eto – dowch laen – mi fydd o werth o – am £2.99!
Filed under: 1
Ia, llanast. Dwi’m yn siwr be oedd enw’r planhigyn yma, ond math o glust eliffant oedd o. Dyna enw fy mam ar blanhigion felna beth bynnag. Ac yn y ty mae o wedi bod erioed, nid tu allan. Mi ddigwyddodd hyn yn ystod y cyfnod oer ‘na ryw bythefnos yn ôl. Roedd o ar sil ffenest y porch – mae’r ffenest yn wydr dwbl ac mae na wres i fod dan y llechi. Dyma’r ffenest i chi, ac am ryw reswm dydi’r staenaiu coch ar y silff llechen ddim i’w gweld. Ond credwch chi fi, mae’n edrych fel tase’r planhigyn ma wedi gwaedu dros bob man:
Drws nesa i fy sgwarnog. Falle y dylwn i fod wedi cynnau’r gannwyll. O wel, Rhy hwyr rwan.
Mae o’n edrych yn gelain, ond dwi’m isio ei daflu o; roedd o’n chwip o blanhigyn smart, ga drapia! Dail gwyrdd a choch hyfryd iawn. Tybed ddaw o’n ôl yn fyw os wnai jest gadael llonydd iddo fo tan y gwanwyn? Neu a ddylwn i wneud rhywbeth iddo fo? Mae’n siwr bod y gwraidd yn iawn tydi? Os na chlywa i’n wahanol gan unrhyw un, ei adael ar y silff wna i – a gweddio.
Dydi’r holboellia coriecia ddim wedi marw eto ond dydi o’m yn edrych yn hapus iawn. Gai lun o hwnnw i chi eto. Ac mae’r sbrowts yn dal fel marblis – llai na marblis!
Ond dwi’n dal i fwynhau’r eira. Gawson ni gawod drom nos Sadwrn fan hyn, a dyma be fu Robin a finna’n ei wneud ar ôl cinio dydd Sul. Pengwin eira yn lle dyn eira. Ac mae o’n ddigon o sioe tydi? Ond mae’n siwr ei fod o wedi toddi erbyn heddiw. Neu wedi colli ei bîg o leia. Vocab/geirfa: llanast – a mess; planhigyn – plant; edrych yn gelain- looks dead; gadael llonydd iddo fo-leave it be; y gwanwyn – spring.