Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Carys Tractors, cwch gwenyn, gwenyn, lilac
A dyma ni, fy nghwch gwenyn newydd sbon danlli. Gewch chi weld y trafferth gawson ni’n ei rhoi at ei gilydd yn y rhaglen ar ôl wythnos Steddfod yr Urdd…
Carys sydd ar y dde a fi ydi’r blob mewn lilac. Wel … haws ei gadw’n lân na gwyn tydi?
Dyfan Davies ein dyn sain gymrodd y lluniau yma i gyd, felly diolch i ti am eu gyrru atai Dyfs.
Ond dydi paratoi i gadw gwenyn ddim yn hawdd. Jest cyn dechre ffilmio, mi gofiodd Carys ei bod wedi anghofio dod â’i – ym – dwi’m yn siwr be oedd hi’n eu galw nhw – ond pethe efo lliain neu gynfas yn sownd i ddarnau o bren sy’n cael eu rhoi dros y cwch agored fel hyn – y pethau pinc ‘ma:
Ond roedd yn rhaid eu cael ac ro’n i angen rhai i mi fy hun beth bynnag, felly mi es i chwilio am hen gynfas (binc, streipiog) ac mi gafodd ei rhwygo’n ddarnau gan Carys. Chwilio wedyn am ddarnau o bren a phenderfynu y gwnai darnau o bamboo y tro yn iawn. Mi wnaethon ni drio eu swtffwlio ond stwffwl bach pathetic iawn sydd gen i felly bu’n rhaid troi at edau a nodwydd. A dyma fi a Dafydd y gwr camera yn brysur yn gwnio. Mae’n rhaid multi-taskio yn y job yma ‘chi! Roedd y pwytho fymryn yn fler a brysiog ond roedden nhw’n gweithio’n champion yn y diwedd, fel y gwelwch chi uchod.
Roedd hi’n ddiwrnod braf heb ormod o wynt felly mi fihafiodd y gwenyn yn berffaith a chafodd neb ei bigo. Ond roedd Carys wedi deud y dylwn i fynd i sbio arnyn nhw ymhen wythnos i weld os oes gynnyn nhw ddigon o fwyd – sef rhyw ‘sugar solution’ mewn bwced. Ond mae hi’n chwythu mwya ofnadwy tydi a phan ffonies i Carys heno, mi ddeudodd mai gadael lonydd iddyn nhw fyddai orau. Dydi gwenyn ddim yn hoff iawn o’r gwynt – tueddu i’w gwylltio.
Felly dwi’n cadw draw nes bydd y tywydd yn callio! Ond es i fyny at y cwch heno jest i weld – heb ei gyffwrdd – i wneud yn siwr bod y gwenyn yn dal yna, ac oedd, roedd na un neu ddwy yn hedfan i mewn ac allan. Ffiw.
Felly am y tro, dyma i chi luniau amrywiol o’r criw yn eu gwisgoedd ac ati – Heledd y cyfarwyddwr ydi’r un fach. Y cyfarwyddwyr eraill yn ormod o fabis mae’n debyg …!
Welsoch chi’r rhaglen neithiwr? Doedd priodas a blodau Sioned yn edrych yn wych? Llongyfarchiadau i ti Sioned, a phob lwc!
Ond eitem y ‘Gwenyn Prysur’ oedd gen i, a dyma i chi lun roddodd Selwyn, perchennog yr ardd ar ein gwefan Facebook ni, a llun arall o Sion, Andrew ac Emyr efo fi. Criw da!
Ro’n i’n gorfod gwenu o weld bod y cynhyrchwyr wedi golygu’r darn lle ro’n i’n cwyno bod Selwyn wedi llosgi’r sosejus … ond roedden nhw’n ddu bitsh, wir yr! Blasus er hynny.
Ond mae na lot wedi digwydd ers y diwrnod braf hwnnw yn Ardudwy.
Ia, fy nghwch gwenyn i ydi hwnna, yn llawn gwenyn, ac mi gewch chi luniau o’r diwrnod y cyrhaeddon nhw pan gai’r lluniau gan Dyfs, y dyn sain …
Ond bore ma oedd hyn, ac mae’n ddigon pell o’r ty, sbiwch:
Dydi Del ddim yn mynd i’r pen yna a dwi’n trio ei dysgu i gadw draw hefyd. Roedd ‘na wenynen arni fel roedd y criw ffilmio’n gadael a doedd hi DDIM yn hapus!
Ond mi fu adeiladu’r cwch ei hun yn dipyn o sioe … welwch chi mo hynny ar yr eitem nesa yn saga y gwenyn, gan ein bod ni wedi gorfod rhoi’r camera o’r neilltu i bawb helpu i gael y bali peth efo’i gilydd.
Dyma i chi Wyn, y cyfarwyddwr y diwrnod hwnnw, yn trio cael trefn ar yr un o’r bocsys oedd yn gwrthod mynd i’w le, a Dafydd y dyn camera yn amlwg yn chwysu braidd ar ôl bod wrthi’n brysur efo morthwyl ei hun. Mae Dyfs a Carys Tractors yn y cefn yn reslo efo rhyw ddarn arall. Mi fuon ni drwy’r pnawn yn ffidlan efo fo! Ac wedi iddyn nhw fynd, mi fues i’n rhoi 3 côt o stwff cadw pren rhag pydru ar y cwbl.
A’r wythnos yma, ffilmio’r gwenyn yn cyrraedd – a dyma fi yn barod amdanyn nhw yn fy lilac…
Ond gewch chi weld y gwenyn eu hunain eto, fel ddeudis i – tyd laen Dyfs!
Yn y cyfamser, mae ngardd i’n tyfu fel peth gwirion. Dyma i chi luniau o sut mae’n edrych bore ma – efo hostas anferthol a’r darn dwi wedi ei ail-blannu wedi i’r gwyddfid ladd dau wrych a hanner. Azalea ( blodau wedi mynd bellach), coeden eirin a thipyn o Monkshood ( Cwcwll y mynach?) a lilis a geraniums dwi wedi eu symud o rannu eraill o’r ardd. A’r hyn sydd ar ôl o’r ‘celf yn yr ardd’ wnaethpwyd llynedd ydi’r blerwch yn y cefndir … Ar wahân i hwnnw, mae’n gwella yma!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: azalea, gena goeg, great diving beetle, penbyliaid, weigela
Ro’n i’n hel algae o’r pwll y diwrnod blaen a dyma sylwi bod nifer y penbyliaid wedi mynd i lawr yn arw.
Hm. Gena Goegs? Creyr Glas? Ond naci, gyfeillion, rhyw greadur nad o’n i’n gwbod am ei fodolaeth o’r blaen!
Ro’n i wedi sylwi ar rywbeth bach tebyg i sgorpion yn nofio o gwmpas y lle, ond ges i sioc pan welais i un efo’i ‘gyrn’ yn sownd mewn penbwl bach druan. A sioc mwy fyth pan welais i un ANFERTHOL – dwbl maint y llall – hyd fy mys bach yn hawdd- efo slaff o benbwl tew yn ei gyrn yntau. Nes i ei dynnu allan efo rhwyd i drio achub y penbwl, ond doedd hwnnw’n ddim byd ond slwtsh, y creadur.
Erbyn dallt, larva y ‘Great diving beetle’ ydi o, sy’n ‘ fierce carnivores.’ Ti’n deud wrtha i, mae’n rhaid bod hwn wedi bwyta tomen o benbyliaid i dyfu i’r maint yna. Dyma be ffindies i ar y we:
“The large, pointed, sickle-shaped jaws are sunk into the prey like hypodermic needles. Digestive enzymes are pumped into the body of the prey and the resulting ‘soup’ is sucked back up.
Great Diving Beetle larvae will eat anything they can catch. Their favourite prey includes tadpoles and any other insects within reach. They are also cannibalistic and will eat other Great Diving Beetle larvae. Large larvae in the final stage before pupation, are of sufficient size to even catch and eat small fish.
Nefi wen. Fel rhywbeth allan o ‘horror film’ tydi? Nes i rioed feddwl fod y fath bethau erchyll yn digwydd yn fy mhwll i. Ia, trefn natur mi wn, ond os lwyddai i ddal un arall, mi gaiff fynd i’r ffos i drio byta rwbath arall – mae fy mhenbyliaid wedi mynd yn gythgiam o brin!
O, a dyma be ydi’r trychfil pan mae o wedi tyfu’n oedolyn – ac mae’r rhain yn byta bob dim arall hefyd, damia nhw.
Ta waeth, cofio fi’n deud bod na ryw ddringwr/wyddfid wedi lladd o leia dau o nghoed/ grwychoedd i? Dwi wedi tynnu’r rheiny allan bellach a phrynu’r rhain yn eu lle:
Azalea hotspur coch, fydd yn edrych fel hyn rhyw ddydd, gobeithio, ond bychan a thila iawn ydi o ar hyn o bryd.
Ond mae azaleas wrth eu bodd yn Ffrwd y Gwyllt fel arfer, felly dwi’n gweddio gai fflach o liw gwych yma toc.
A rhywbeth arall dwi wedi bod isio ei brynu ers tro ydi Weigela – un nana variegata ges i, efo blodau fel hyn:
Ond fydd yn tyfu i fod y maint yma rhyw ddydd, gyda lwc:
Gawn ni weld, ond maen nhw’n edrych reit hapus hyd yma. gewch chi lun ohonyn nhw pan fydd na fwy i’w weld!
O, ac mae’r gwenyn yn cyrraedd wsnos nesa … weihei! Mwy am hynny eto …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Blaen Brigyn, Duncan Brown, gwyfynnod, moths, naturiaethwr
Mae’n siwr eich bod chi, fel fi, wedi clywed llais y naturiaethwr (gwybodus a thrylwyr sydd â diddordeb arbennig yn hanes naturiaethol Cymru), Duncan Brown ar y radio ganwaith, ond dyma sut mae o’n edrych:
Dydi o’m yn hoffi cael tynnu ei lun – tueddu i edrych yn gas – felly dyma un arall efo rhyw arlliw o wên:
Mi fydd yr eitem hon wythnos nesa dwi’n meddwl – neu’r wythnos wedyn. Ges i weld ei ardd o, sy’n llawn planhigion efo hanes neu enwau difyr neu i ddenu bywyd gwyllt – a gwyfynnod. Moths ydi’r rheiny. Mae o’n perthyn i sawl mudiad a phrosiect sy’n cofnodi a chyhoeddi gwybodaeth gwerthfawr, a dyna pam ei fod o’n dal a chofnodi gwyfynnod yn ei ardd o leia unwaith yr wythnos, a phan fydd o a’i wraig, Jill, yn mynd ar wyliau yn y campafan welwch chi’n y cefndir, mae’r teclyn dal gwyfynnod yn dod hefyd.
A dyma i chi lun o hwnnw, wel, un ohonyn nhw:
A be ydi’r holl focsys wyau? Wel o dan rheiny y byddan nhw’n cuddio nes iddo fo agor y caead yn y bore.
Doedd y diwrnod roedden ni yno ddim yn gasgliad arbennig medda fo, ond ges i fy syfrdanu gan y rhai oedd yno, dyna i chi hwn, er enhgraifft:
Edrych fel brigyn tydi? Ond gwyfyn ydi o – wir yr. A dyma i chi lun sy’n dangos ei faint o. A maint fy rhychau i hefyd, ond dyna fo.
Dwi’m yn cofio’i enw o rwan ( mi fydd Duncan yn deud ar y rhaglen) ond rhywbeth fel Blaen Brigyn? Mae gan wyfynnod enwau Cymraeg hyfryd ( diolch i Duncan a’i fêts) fel Teigr Cochddu, Bwrned Chwe Smotyn, Teigr y Benfelen , Gem Fforch Arian ayyb. Ac mae na gryn dipyn o wahanol wyfynnod yn y byd ma – ac mae Duncan fel encyclopedia.
Mae ei wybodaeth am enwau planhigion hefyd, hanes planhigion, a hanes enwau planhigion yn syfrdanol. Codi cywilydd ar rywun a deud y gwir.
Ond mae ei gi o, Pero, yn boncyrs. Dyma fo, efo un o’i hoff degannau. Tra dwi’n sgwennu hwn, mae’r llun reit wrth ymyl y frawddeg yma, ond pan fyddai’n clicio’r botwm ‘cyhoeddi’ mi fydd o wedi symud, mwn.
Roedd gen i ddiddordeb mewn gwyfynnod eisoes, ond mae gen i fwy rwan. A’r rheswm roedd gen i ddiddordeb? Am mod i wedi gweld gwyfyn anghyoel ar fy ffenest i ryw noson, un mawr, gwyn, oedd yn edrych yn union fel brenhines y tywlyth teg yn sbio i mewn arnai – a nago’on, do’n i ddim wedi bod yn yfed! Mi wnai chwilio ar y we rwan i weld os fedrai ddod o hyd i lun sy’n dangos be welais i … na, wedi chwilio’n ddyfal a does na’m byd tebyg i be welais i, ddim hyd yn oed llun artist. Ond falle bod rhain yn rhoi rhyw fath o syniad i chi- ond roedd corff y gwyfyn fel siap corff dynes hir, denau, osgeiddig, nid pry!
O wel, os welai wyfyn tebyg eto ai i chwilio am fy nghamera.
Dwi newydd fod yn chwilio eto o dan ‘moth on window’ ac mae hwn yn agosach ati mae’n debyg:
A dwi’n meddwl mai gwyfyn tebyg i hwn oedd o, ond dwi’m yn siwr: