Filed under: Heb Gategori
Wel drapia! Anghofies i wylio’r rhaglen Nadolig! Ro’n i wedi dechre paentio drws fy estyniad ac aeth pob dim arall yn angof – yn cynnwys yr amser. Oes, mae gen i Sky+ bellach ond nes i anghofio ei recordio yndo… wedi meddwl bod y botwm ‘record series’ yn ddigon ond doedd o ddim, yn amlwg.
Diolch byth am S4C Clic – dwi newydd ei wylio rwan. Roedd Clic yn arfer fy ngyrru’n benwan am ei fod o’n stopio a mynd i gysgu bob dau funud ond mae’n amlwg eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth iddo fo – gweithio’n champion rwan.
Doedd Dilwyn y draenog yn gariad? Mae Mam newydd ddeud wrthai ar y ffôn bod ‘na lwyth ohonyn nhw yn y maes carafannau – mae pobl mewn pebyll yn aml yn cael braw gyda’r nos pan mae ‘na rywbeth pigog yn crwydro i mewn i’r fflap blaen yn chwilio am fwyd! Ac mewn maes pebyll a charafannau, awn nhw byth yn llwglyd, na wnan? Sbarion bwyd bob man does?
Mae’n siwr eich bod chi wedi laru ar luniau o’r eira bellach, ond dyma i chi rai o’r pen yma beth bynnag – heddiw oedd y tro cynta i mi fentro ar y ffordd wedi oriau’n rhawio’r eira i wneud lwybr golew – ydi, mae’n ddwfn yma.
Dwi’n gwybod mod i’n lwcus mod i’n byw wrth ochr y ffordd fawr, felly os dwi wir angen mynd i rywle, dwi’n gallu dal y bws/gritar/tractor. Ac wrth lwc, mi gafodd y boilar ei drwsio bythefnos yn ôl felly dwi reit glyd a chynnes. Dydi’r dwr ddim yn mynd i lawr y peips fyny staer, ond mae gen i wres dan y llawr yn y stafell gawod newydd, felly dim problem fanno – os fyddwch chi’n codi ty/estyniad ryw dro – ewch am y gwres dan draed – mae’n ddrud ond mae o werth o!
Dwi hefyd yn lwcus bod gen i’r gêr i gyd ar gyfer slejo a chae serth reit drws nesa – mi rydw i a Del wedi cael hwyl garw yn llithro i lawr y llethrau. A does na’m ‘work out’ tebyg i gerdded yn ôl i fyny mewn siwt sgio… heb sôn am rawio eira i ryddhau’r car. Ond dwi’n dal i besgi ar raddfa frawychus. Gas gen i ddeiets ond mi fydd raid i mi neud rhywbeth cyn y gyfres nesa o Byw yn yr Ardd.
Diffodd y gwres fyddai’n gweithio mae’n debyg – mae’r corff yn llosgi caloriau fel peth gwirion pan mae’n oer. Ond stwffio hynna… nai jest chwysu mwy yn yr ardd – pan fyddai’n gallu gweld unrhyw wyrddni eto.
O a, wedi cael ymateb anhygoel i’r canu (o fath…) ar ‘Carolau Gobaith’. Oedd, roedd gen i ofn, drwy mhen ôl ac allan, a nacdw, dwi byth yn mynd i neud ffasiwn beth eto. A nacdw, dwi ddim isio clywed y bali CD chwaith!
Mae fy nghartre i’n Nadoligaidd iawn ( er mod i’n dal i aros am y goeden gan fy mrawd) ond yn ‘carol-free zone’! Os o’n i’n eu casau nhw cynt…
Beth bynnag, Nadolig Llawen! A llefaru hwnna ydw i, nid ei ganu.
Filed under: Heb Gategori
Mi fydd rhaglen Nadolig Byw yn yr Ardd yn cael ei darlledu nos Lun yr 20fed am 20:25 ac yna ail ddarllediad 23:12:10 @13:55 a 29:12:10 @1500. Hon fydd yr un efo Dilwyn y Draenog ynddi. A’r uchelwydd, ac mi fydd Russell a Sioned yn gwneud rhywbeth Nadoligaidd ond dwi’m yn cofio be! Ond mi fyddwn ni’n tri efo’n gilydd mewn cartref hen bobl ym Methesda, efo llwyth o blant bach yn canu’n ddel a llwyth o bobl h^yn yn sbio’n hurt arnon ni…
Sut mae’ch trefniadau Dolig chi ta? Mae’r adeiladwyr wedi gorffen gwneud fy ‘wetroom’ o’r diwedd felly mi gai lanhau’n iawn toc, er mwyn gosod fy addurniadau. Ond dwi angen enw Cymraeg ar gyfer wet room rwan. Nes i holi ar Facebook a chael llwyth o gynigion da fel ‘sblashdy’, ‘leithdy’ ‘dyfrdy’ ‘gwlychdy’ ayyb. Dwi’m yn siwr pa un sydd orau. Gwerthfawrogi unrhyw farn neu gynigion pellach!
Dwi’n dal i fwydo fy nghacen Dolig efo Tia Maria a Brandy bob hyn a hyn – ogla bendigedig arni. Ac mae fy mins peis yn prysur ddiflannu ( dyna sy’n digwydd efo llond ty o blymars, trydanwyr ayyb…) ond mae’r anrhegion Nadolig yn fy nrysu. Dwi newydd brynu voucher ‘Go Ape’ i nhad sy’n ei 70au… dach chi’n meddwl eith o? Cwrs rhaffau uchel yng Nghoed y Brenin ydi ‘Go ape’, llwyth o zip wires ac ati. Duwcs, fydd o’n iawn yn bydd? Mae o’n dal reit ffit a chry… ond erbyn cofio, dwi’m yn siwr sut un ydi o am uchder. Hm.
O ia, a cofiwch am ‘Carolau Gobaith’ heno a nos Sadwrn. Sbiwch smart ydw i ar ôl oriau dan law dynes golur a gwallt broffesiynol… O na fyddai byjet Byw yn yr Ardd yn gallu cynnwys y fath berson! Ond yn sgil yr hinsawdd economaidd bresennol, dwi’m yn gweld hynna’n digwydd rhywsut. O wel…
Nadolig Llawen os na fydda i wedi blogio cyn hynny. A gobeithio na fydd ein gerddi’n diodde gormod yn yr holl rew ac eira o’r Arctig ynde. A chofiwch brynu digon o fwyd i’r adar!
Filed under: Heb Gategori
Dyna brofi bod y ‘loft insulation’ yn gweithio. Mi gliriodd y paneli haul yn o handi wedyn! Dwi wrth fy modd efo’r eira, rhaid i mi ddeud – gan mod i’n byw ar ochr y ffordd fawr, does gen i fawr o broblemau teithio. Ond dwi’m wedi gyrru i weld fy rhieni yn Nolgamedd ers sbel – mae na allt yn fanno sydd fel rhaeadr o rew. Beryg bywyd – felly cerdded sy raid i fanno.
Mae Del wrth ei bodd efo’r eira hefyd, yn rhowlio a griddfan ynddo fo bob cyfle gaiff hi. Dwi’n cymryd mai griddfan efo pleser mae hi?
Mae na blanhigion wedi diodde wrth gwrs – do’n i’m digon trefnus i roi pob dim yn y sied mewn pryd. O wel.
A dwi’n bwydo’r adar yn gyson a dyma i chi un ymwelydd dyddiol:
Tydi’r bol coch na’n wych? Hyd yn oed heb zoom lens gwych, mae hwn yn lun golew drwy’r ffenest tydi? Mae o’n rhy ofnus i mi fedru cymryd llun heb ffenest rhyngom ni.
Dwi newydd brynu teclyn bwydo adar sy’n glynu i’r ffenest hefyd ond heb gymryd lluniau eto. Roedd gen i un arall flynyddoedd yn ôl ond mi gafodd ei falu’n rhacs gan wiwer… y jaden.
Mae’r ty yn altro gen i hefyd – ‘wet room’ – stafell wlyb? wleb? bron a’i gorffen lawr staer:
Mae ‘na sinc a thy bach yna hefyd – a chwpwrdd i gadw papur ty bach rhag gwlychu! A llechi ydi’r silffoedd i gadw sebon a siampw – syniad ges i ar ôl bod yn Uganda. Mae teils llechi dipyn drytach na theils gwyn cyffredin – ond mae llechi gymaint deliach ac os gneud rwbath, ei neud yn iawn ynde… a rwan, gan mai toilet lawr staer ydi hwn, mi ddylai fod yn haws cadw’r ty’n lân pan fydd y criw camera’n dod acw i ffilmio ar ddiwrnod gwlyb, mwdlyd!
Jest disgwyl am y plymar i osod y tapiau a phen y gawod rwan… ew, edrych ymlaen, sgynnoch chi’m syniad!