Filed under: Heb Gategori
Bechod, chawsoch chi’m gweld plant Rhydypennau yn canu eu cân i Byw yn yr Ardd wythnos yma! O wel. O leia mae eu lluniau nhw ar y blog yma, a does wybod, falle y cawn ni weld eu perfformiad nhw rywbryd eto.
Ond sôn am y biniau brown dwi am wneud wythnos yma. Dwi’n meddwl bod pawb yng Nghymru â’r opsiwn hwnnw bellach, tydyn? Cywirwch fi os ydw i’n anghywir. Dyma fy min brown i yn llawn o wair a chwyn ac unrhyw fwydiach nad yw’r pryfed genwair yn eu hoffi yn y mwydy (nionod/winwns yn un peth), ac ydw, dwi’n rhoi peth o’r toriadau gwair yn fy min compost i, ond nid y cwbl – mae na ormod ohono fo.
Dwi wastad wedi bod isio gwybod be’n union sy’n digwydd i gynnwys y biniau hyn wedyn, ac wythnos dwytha, yn y glaw, ges i wybod. Mi gewch chithau weld yr eitem o fewn y pythefnos nesa, neu dair wythnos, dwi’m yn siwr eto.
Mae biniau ardal Meirion a Dwyfor i gyd yn mynd i fan hyn, Canolfan ail-gylchu Ffridd Rasus, Harlech.
Ac isod, dyma i chi ble mae’r cyfan yn cael ei storio i ddechrau, a dydi’r arogl ddim yn ddrwg o gwbl, fel rhyw fath o seilej melys.
Mae’r cyfan yn mynd drwy rhyw broses o fynd drwy wahanol beiriannau i dynnu’r pethau sydd ddim i fod ynddo fo, fel bagiau plastig ac unrhywbeth sydd ddim yn bosib ei dorri i lawr i’r maint angenrheidiol.
A dyma i chi’r dynion clen ac annwyl fues i’n siarad efo nhw yn Harlech – Steven, rheolwr y safle ar y chwith, a Steffan, Rheolwr yr holl fusnes ailgylchu yn y sir ar y dde ( dwi methu cofio ei deitl swyddogol o, ond dyna mae o’n feddwl yn y bôn). Ac oes, mae angen gwisgo’r helmedau na hyd yn oed ar gyfer trin compost. Byd felly ydi hi bellach de.
Diwrnod difyr iawn, er gwaetha’r glaw, ac mi gafodd Del fynd am dro ar draeth Harlech wedyn.
A sôn am honno, mi gafodd ‘starring role’ yn y Sioe cofiwch, dyma Gwion o Traws wedi gwisgo fel Del ym mherfformiad CFFI Traws ar y bore Iau. Dad ydi’r boi yn y dici bo, a fi, ia, fi, ydi honna yn y canol! Dim ond bod Gwenlli dipyn delach na fi go iawn. Roedden nhw’n dda iawn, yn haeddu gwell na 4ydd yn fy marn i (!) ond dim ond 2 farc ar ôl y criw ddoth yn 3ydd oedden nhw. Da iawn, griw Traws!
Filed under: Heb Gategori
Ia, Russell ydi hwn, wedi gwisgo’n smart ac yn llofnodi un o’i lyfrau yn y noson lawnsio yn y Galeri nos Wener. Roedd hi’n chwip o noson dda, rhaid i mi ddeud, a Russell wrth ei fodd. Dwi’m yn meddwl ei fod o wedi sgwennu cymaint yn ei fyw!
Do, mae o wedi cyhoeddi llyfr, ei hunangofiant. Rhan o gyfres newydd ‘Nabod’ gan Wasg Gwynedd, ac mae’n lyfr hyfryd iawn, llawn lluniau lliw newydd sbon gan Gerallt Llewelyn, yn ogystal â hen luniau’r teulu o Russ yn fabi ac yn hogyn ifanc. Dydi o’m wedi newid llawer.
Ond Mared Lewis, yr awdures o Fôn wnaeth y gwaith caled o holi Russ a rhoi pob dim ar bapur, a dyma hi efo’i meibion, Russell a fi: Mae hi’n haeddu medal am lwyddo i gael trefn arno fo! A diolch iddi am wneud cystal job o’r llyfr.
Mae rhywbeth yn deud wrtha i y bydd ‘Gwyrdd fy Myd’ yn gwerthu’n arbennig o dda, aeth o fel slecs ar y noson beth bynnag – sbiwch gwag oedd y bwrdd gwerthu wedi dim ond hanner awr!
Gobeithio y byddwch chi i gyd yn heidio i’ch siop lyfrau leol i’w brynu. mae’n werth ei ddarllen, os dim ond i weld be mae James, ei frawd yn ei ddeud amdano: “…a’r peth gora am y ffaith ‘i fod o ar y teledu ydi y medri di roi switch off iddo fo pan ti isio! Ac mae hynny’n beth anodd iawn i’w neud i Russ mewn bywyd go iawn!”
Gwych iawn, James.
Rwan, dwi’m yn genfigennus o gwbl wrth gwrs, nacdw; dwi wedi addo sgwennu hunangofiant fy hun erbyn tua 2012 ( pan fydda i wedi cyrraedd carreg filltir go bwysig … ahem) ond dwi’m wedi meddwl llawer am hwnnw eto. Ond gan mod i wedi rhoi sylw i lyfr Russell, dwi am dynnu sylw sylw at lyfr i blant sydd gen inna yn y siopau ers sbel, dim ond bod neb yn rhoi affliw o sylw i hwnnw! Dyma fo:
Chwip o lyfr ar gyfer plant o tua 8 oed i ryw 13, un stori yn iaith y de a’r llall yn iaith y gogledd, ac mae un â llyffantod ynddi – pethau mae gen i ddiddordeb mawr ynddyn nhw ers blynyddoedd, ond yn enwedig ers magu cymaint ohonyn nhw yn fy mhwll i. Dyna ni – jest isio deud. Dwi’n hapus rwan!
Filed under: Heb Gategori
Dwi’n meddwl mai un o’r dyddiau ffilmio i mi ei fwynhau fwya oedd y diwrnod efo plant a garddwyr Rhydypennau, ger Aberystwyth! Am griw annwyl, clen a bywiog. Ac roedd y criw bach yma wedi cyfansoddi cân am ‘Byw yn yr Ardd’, cofiwch! Dwi’n croesi mysedd y cewch chi eu clywed nhw’n canu ( a dawnsio) ar y rhaglen cyn bo hir.
Ond y rheswm roedden ni yno oedd am fod ganddyn nhw ardd. Chwip o ardd – sbiwch ar y blodfresych yma!
A deud y gwir, mae ganddyn nhw gae chwarae enfawr, a choed i ddringo ynddyn nhw hefyd, rhywbeth sy’n brin iawn mewn ysgolion bychain cefn gwlad sydd â dim ond sgwaryn o darmac i chwarae arno fel arfer, ond stori arall ydi honno…
Beth bynnag, mae plant Rhydypennau’n lwcus iawn. Maen nhw’n lwcus o Helen, yr athrawes sy’n mynd â nhw i’r ardd, ac o Tudor, y garddwr go iawn, sy’n helpu gyda’r ardd er fod ei deulu ei hun wedi hen adael. Fo ydi’r dyn tal ar y dde yn y llun yma:
Mae o’n arddwr profiadol iawn sy’n ennill mewn sioeau yn aml, a ges i fynd i weld ei ardd o adre hefyd. Mi fyddai angen llwythi o luniau i ddangos y cwbl, ond dyma i chi un rhan ohoni:
Roedd o’n gwrthod deud be oedd ei gyfrinach o, ond paratoi’r pridd yn ofalus a thrylwyr cyn plannu dim oedd y prif beth. Ac mae o’n dod o linach hir o arddwyr, felly mae o yn y gwaed.
O ia, dynion pwysig oedd y ddau mewn jyrsis piws. Y Llewod neu’r Rotari, dwi’m yn cofio pa un rwan. Llewod dwi bron yn siwr, sy’n noddi’r garddwyr gorau bob blwyddyn ac yn rhoi medalau iddyn nhw. Mi fydd na lun swyddogol yn y Cambrian News toc! Ac roedd y plant mor falch o’r medalau. Y criw fydd yn dod i arddio amser chwarae ydi’r rhain, nid dim ond am fod ‘Miss’ yn deud. Ac wedi cael blas arni’n yr ysgol, mae’r rhan fwya wedi cael eu rhieni i ddechrau garddio hefyd!
Y cynnwrf mawr wrth adael, oedd casglu’r llysiau oedd yn barod fel bod merched y gegin yn gallu paratoi pryd o fwyd o’r ardd iddyn nhw drannoeth. Ac oedd, fel arfer, roedd y plant oedd yn deud nad oedden nhw’n hoffi ffa/pys/blodfresych yn edrych ymlaen yn arw at fwyta’r rhain. Dylai bod gardd ym mhob ysgol yng Nghymru!
Filed under: Heb Gategori
Rhag ofn eich bod chi’n poeni amdanon ni, fydd na’m Byw yn yr Ardd wythnos yma oherwydd rhyw gêm griced, wedyn mae hi’n Sioe ac yna Steddfod, ond rydan ni’n dal wrthi’n ffilmio a garddio ac mi fyddan ni’n ôl ar ôl Steddfod. Ac mi fydda i’n dal i flogio bob wythnos!
Filed under: Heb Gategori
Dyma i chi fwgan brain efo steil ynde! Hoffi’r lipstic yn arw. Dyna i chi un o’r pethau difyr welais i yn Rhandir Lôn Price, Wrecsam ganol Mehefin. Clamp o randir efo 118 o blotiau i gyd.
A dyma pwy fues i’n eu holi yno:
Aled Pritchard sydd ar y chwith ac Alun Emanuel ar y dde, dau o’r pedwar Cymro Cymraeg sy’n garddio yno. Mae Aled wrthi ers 20 mlynedd, ac roedd o’n gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Rhandiroedd 15 mlynedd yn ôl, cymdeithas i ofalu nad oedd bobl y rhandiroedd yn cael eu gwasgu allan gan y Cyngor i wneud lle i adeiladwyr neu fesydd parcio neu be bynnag! Oes, mae angen mwy o dai ac ati yn Wrecsam, ond mae angen ardaloedd gwyrdd fel hyn hefyd, ac mae gan bobl hawl i dyfu eu llysiau eu hunain a mwynau’r awyr iach.
Maen nhw’n boblogaidd iawn yn yr ardal: mae na 4 rhandir yno i gyd, a 174 o bobl ar y rhestrau aros, 93 o’r rheiny yn gobeithio cael plot yn Lôn Price. Ond wn i ddim faint o’r rheiny sy’n athrawon wedi ymddeol fel Aled ac Alun! Dechreuodd Alun arddio yma cyn ymddeol hefyd, 12 mlynedd yn ôl a deud y gwir, ac mae plotiau’r ddau yn werth eu gweld.
Ond dwi’m yn siwr sut maen nhw’n dod o hyd i’r amser i arddio gan fod y ddau bron yn brysurach wedi ymddeol! Ac mae Aled ar bwyllgor technegol yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesa. Ond ges i ambell dip defnyddiol iawn ganddyn nhw – e.e – mae’r domen gompost yn le delfrydol i dyfu courgettes!
Yn union fel pawb arall dwi wedi eu cyfarfod ar randiroedd, maen nhw’n deud bod na gymdeithas arbennig yno; pawb yn helpu ei gilydd, yn rhannu planhigion a dyfrio os fydd rhywun i ffwrdd mewn cyfnod sych ac ati. A dyma’r plot smartia yn eu hôl nhw. Mae o’n hynod smart tydi?
Taclus tu hwnt. A be dwi’n ei hoffi am randiroedd ydi eu bod nhw mor agored a hapus i bawb sbio ar blotiau ei gilydd. Mae na ffensus a giatiau i stopio fandaliaid o’r tu allan wrth gwrs, ond dydi hynny ddim yn ddigon da i bawb …
Roedd hwn fel Colditz! Ond dyna fo, dwi’n dallt y boen os ydach chi’n chwysu am wythnosau a misoedd, dim ond i weld ryw sgrwb yn pigo eich tomatos chi i gyd. Dyna fyddai’n digwydd i mi yn Nigeria, a do’n i DDIM yn hapus! A sôn am domatos … sut mae fy rhai ben i lawr i’n gneud? Wel, ar ôl dechrau digon pathetic, yn well o lawer na’r disgwyl a deud y gwir. gewch chi lun wsnos nesa!
Filed under: Heb Gategori
Mi welsoch chi’r ddynes yma a’i gardd wythnos yma: Owena Jones, o Benmaen, Pwllheli. Dynes smart ydi hi ynde! A thy a gardd smart hefyd.
Mi wnes i fwynhau ein diwrnod efo hi’n arw, er ei bod hi’n oer ac yn bwrw glaw yn y bore ac yna’n boeth yn y pnawn, a finna, oherwydd gofynion teledu, yn gorfod aros yn yr un dillad drwy’r cwbl! Roedd Owena wedi bod yn ddigon o optimist i beidio a gwisgo cot law o’r cychwyn … hmff.
Dyma ni’n dwy yn mwynhau gwydraid o donic ( a doedd na ddim gin ynddo fo, wir yr, ro’n i angen gyrru adre wedyn):
Ar dop y graig ydan ni, jest o dan hen dwr Gruffydd Jones, hen daid ei gwr. Fo gododd y twr er mwyn gallu gweld y llongau’n dod i mewn; roedd ganddo longau fyddai’n teithio’r byd i nôl pren ar gyfer ei iard goed. A dwi’n mawr obeithio y caiff Owena hwyl ar ei dynnu i lawr er mwyn ei ail-godi’n smart a diogel at y dyfodol. Mae’n brosiect gwerth ei neud, yn sicr.
Mi wnes i edmygu ei choeden Ceanothus hi yndo? Wel mae ganddi un bychan arall yn y blaen – ar y dde fan hyn. Dwi wrth fy modd efo’r blodau gleision na a do, dwi wedi prynu un fechan i mi fy hun o’r diwedd – ceanothus thysiflorus ‘Skylark’. £6.50 o’r ganolfan arddio sydd wrth ymyl Corwen, jest ar ôl y tro am Rhuthun. Mae hi’n ‘extremely hardy’ ond angen lle llawn haul felly dwi wedi ei rhoi hi ar waelod yr ardd ( lle dwi wedi torri’r coed). Dwi’n gobeithio y bydd hi’n tyfu ynghynt na’r gwrych – ac yn uwch ( 10 troedfedd mewn deg mlynedd …) fel bod y glas i’w weld pan fyddwch chi’n pasio ar y ffordd. Gawn ni weld! Ond mae hi’n edrych yn reit hapus hyd yma – ac yn mwynhau’r glaw. Fel mae gweddill yr ardd … ffiw. Mwy o law ar y ffordd hefyd meddan nhw, felly dwi’n llawer hapusach fy myd rwan! Dwi’n poeni am fy mhlanhigion gan mod i i ffwrdd gymaint yn ffilmio gerddi pobl eraill – a gwneud pethau fel hyn:
Ia, fi ydi honna, yn godro ym Mrynsiencyn ddoe. Rhan o’r gyfres dwi’n ei gneud efo Tudur Owen am Oes Fictoria. A do, mi ges i laeth allan ohoni! Bydd raid i chi wylio ‘Byw yn ôl y Llyfr’ fis Medi i weld …