Filed under: Heb Gategori
Dydi o’m yn edrych yn le da iawn i gael gardd nacdi? Ond dyna pam es i’n ôl am y de yn ddiweddar, i garchar sy’n goblyn o anodd dod o hyd iddo. Roedd y sat nav isio fy ngyrru i mewn i gae gwag. Ond beryg bod yr awdurdodau ddim isio tynnu gormod o sylw at y lle.
Ond unwaith dach chi yno, dach chi’n gweld pa mor fawr ydi o. Llwyth o adeiladau mawrion, uchel, newydd sbon yr olwg. Maen nhw wrthi’n ail-wneud y lle ar hyn o bryd, felly roedd ffilmio ynghanol yr holl swn Jacs Codi Baw ac ati yn chydig o gur pen. Ond sbiwch uchel ydi’r ffensus. Amhosib eu dringo am eu bod yn plygu am yn ôl os ydach chi’n mentro rhoi cynnig arni.
Ond ynghanol hyd i gyd, mae na ardd – un lewyrchus iawn hefyd.
A chriw annwyl iawn ( wir yr!) yn gweithio ynddi. Dyna i chi Harlyn Thomas, sy’n gweithio’n y carchar ac yn un o arweinwyr y prosiect garddio:
Wel, dyna ddiddorol. Dwi’m yn cael rhoi ei lun o yn siarad efo fi fan hyn. Bob tro dwi’n trio ei lwytho, mae na neges yn dod fyny yn deud rhywbeth am ‘ofynion diogelwch’. Rhyfedd. Lluniau ‘stills’ o’r rhaglen ydi’r rhain – do’n i’m yn cael mynd â chamera i mewn fy hun. O wel. Mae Harlyn yn dipyn o gymeriad beth bynnag, yn siarad fel pwll y môr, ac mi gewch ei weld a’i glywed ar y rhaglen nos Fercher. Wel, dwi’n meddwl mai dyna pryd welwch chi o – dwi’m yn siwr faint o raglenni sydd ar ôl a bod yn onest!
Reit, gawn ni weld os fedrai lwytho lluniau o’r garddwyr eu hunain ta… Aha! Llwyddiant!
( ond dwi’n cael trafferth symud y bali lluniau ma i ffitio siap newydd y blog…ggrrrr … trio eto.)
Dwi wedi methu eto. os na fyddwch chi’n gallu gweld y llun o 4 boi mewn crys oren yn iawn, cliciwch ar y llun ei hun, ac fe ddaw i fyny yn llawer mwy ei faint.
Fflipin technoleg…
Dwi’m yn cofio eu henwau i gyd, ond roedd y rhan fwya’n dod o dde Cymru. Neb yn siarad Cymraeg chwaith ( er mod i’n amau fod un neu ddau yn gallu’n iawn dim ond eu bod yn anfodlon cyfadde hynny am ryw reswm). Fel y gwelwch chi, roedden nhw i gyd yn gwisgo crysau oren, a dim ond y ‘garden party’ oedd yn cael eu gwisgo. Nhw ydi ‘elite’ y carchar; nid pawb sy’n cael ymuno â’r criw yma. Yn un peth, mae’n rhaid iddyn nhw fod â hanes hir o fod yn fechgyn da yn y carchar – ‘low risk’ – gan fod angen defnyddio offer go beryg i arddio. Mae pob hof a rhaw a secateur yn cael ei gadw’n ddiogel mewn sied gadarn a rhif ar bob un – rhaid gofalu bod pob rhif yn ôl yn ei le ar ddiwedd pob sesiwn. Ond wedi deud hynny, roedd rhai i mewn am droseddau difrifol iawn, iawn. Ai’r carchar oedd wedi gwneud iddyn nhw gallio dros amser? Dwn i’m.
Do’n i rioed wedi bod mewn carchar o’r blaen ac roedd o’n brofiad rhyfedd a hynod ddiddorol. Do’n i’m yn nerfus o gwbl – roedd na warden efo ni bob amser yn un peth ( hyd yn oed i fynd i’r ty bach)- ond roedd y bechgyn – wel, dynion – yma yn hynod gwrtais. A chlen iawn, iawn. Ac un ohonyn nhw yn ffarmwr oedd i mewn am dyfu cannabis yn ei feudy. Doedd y lle’n gwneud dim lles o gwbl iddo fo yn ôl y swyddogion fues i’n siarad efo nhw. Nid carchar ydi’r ateb bob tro. Ond dyna ni, dyna sut mae’r system yn gweithio – ar hyn o bryd. Ond roedd hwn yn amlwg yn gallu edrych ar ôl ei hun – slaff o foi cyhyrog – oedd yn cyfadde ei fod wedi bod yn gweithio ar ei gyhyrau yn y gampfa ers cyrraedd. Mae’n help edrych fel boi peryg os dach chi isio llonydd, mae’n siwr gen i.
Fel y gwelwch chi, mae eu llysiau nhw’n werth eu gweld hefyd. Ac roedden nhw i gyd yn cydnabod bod garddio yn gwneud byd o les iddyn nhw – ymarfer corff, cyfle i fod yn yr awyr agored, y pleser o weld canlyniad eu gwaith caled – a gallu ei flasu wedyn. Ac efallai cymhwyster i gael swydd garddio ar ôl cael eu rhyddhau. Doedd gan fawr neb gymhwysterau gwerth sôn amdanyn nhw cyn dod yma.
Roedd Medwyn Williams a’i wraig yno efo ni, gan eu bod wedi gofyn iddo fo agor yr ardd yn swyddogol, a gawson ni bob i fasged o lysiau i fynd adre efo ni! Dwi’m yn siwr os oedd Medwyn angen llysiau, ond ro’n i ( a’r criw) yn ddiolchgar iawn, a dwi’n dal i fwyta eu tatws nhw!
Yn bendant, dyma un o’r diwrnodau ffilmio mwya difyr ac addysgiadol i mi eu cael erioed yn gweithio ar ‘Byw yn yr Ardd’. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r eitem.
O, a gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r rhaglen hir, estynedig o Sioe Fach y patsh nos Lun yma – ar ôl Pobl y Cwm. Gawson ni goblyn o hwyl yn ei ffilmio beth bynnag – ac ro’n i’n rhy brysur i gymryd lluniau, sori …
Filed under: Heb Gategori
Mi ges i brofiad od iawn yn Abertawe yn ddiweddar. Yn un peth, aros yn y Premier Inn yn Wind St. Fy nghyngor i – peidiwch. Onibai eich bod chi wedi meddwi ac yn gallu cysgu’n sownd drwy swn meddwon a miwsig a chlybio i lawr yn y stryd oddi tanoch chi. Lwcus bod gen i blwgiau clustiau. Ond ai ddim yn ôl yno eto, mae hynny’n siwr. A G&T yn TGIF (neu be bynnag di enw’r lle) yn £4.35!!! Sut maen nhw’n gallu fforddio meddwi?
Ta waeth, y bore canlynol, ro’n i yng ngardd y brifysgol yn sbio ar wenyn. Mae dau artist wedi gwneud – ym, mae’n anodd ei ddisgrifio – celf? Perfformiad celf? Wel, y peth ma – am eu bod nhw ( a miloedd o bobl eraill) yn poeni am yr hyn sy’n digwydd i wenyn y dyddie yma.
Owen Griffiths ar y dde ydi un o’r artistiaid a fo fu’n siarad efo ni am y prosiect – yn y glaw trwm! Ond nid y fo oedd yn delio efo’r gwenyn. Chris Jones oedd hwnnw, ac er ei fod o – a’n dyn camera ni yn y siwtiau pwrpasol, doedden nhw ddim yn rhy hapus – dydi gwenyn ddim yn hoffi glaw!
Felly roedden nhw reit flin ac yn byzzian o gwmpas yn gacynaidd iawn. Mi gadwais i’n ddigon pell y tu ôl i’r ffens werdd oedd o amgylch y ddau cwch gwenyn.
Wedyn, am 6.00 y nos, roedd na berfformiad – côr yn canu i’r gwenyn. Roedd na gerddor wedi bod yn cyfansoddi cân yn arbennig iddyn nhw ar ôl gwrando ar dapiau o wenyn, ac yna wedi bod yn hyfforddi côr i’w chanu. Doedden nhw’m yn gorfod dysgu geiriau, dim ond hymian oedden nhw.
Ac er gwaetha’r glaw, daeth torf reit dda i wrando arnyn nhw. Ond dim ond rhyw ddau funud a hanner barodd y darn felly roedd pawb chydig ar goll wedyn. ‘Do we clap?!’ ayyb. Ond roedd pawb i’w gweld wedi mwynhau (ac roedd na win ar gael), a holl bwynt y peth oedd tynnu sylw at wenyn a’r problemau sy’n eu wynebu ac mi lwyddodd i wneud hynny yn sicr. Dwi’m yn meddwl eu bod nhw’n disgwyl i’r gwenyn werthfawrogi’r canu a bod yn onest. Ond pwy a wyr?
Dyma i chi lun o’r côr yn ymarfer – anghofies i dynnu lluniau yn ystod y perfformiad ei hun!
Chydig ohonyn nhw oedd yn gallu siarad Cymraeg neu’n fodlon siarad efo ni ar gamera am y profiad, ond roedd y rhai gawson ni’n dda iawn. Mi ddylai fod yn eitem ddifyr – a gwahanol. A gobeithio y bydd yn gneud lles i’r gwenyn yn y pen draw.
Filed under: Heb Gategori
Ydan ni wedi bod yn ffilmio dramor? Naddo, Borth-y-gest ydi fama, ar un o’r diwrnodau heulog prin gawson ni fis Gorffennaf. Aled y cyfarwyddwr, Barry/Archie y dyn sain a Gareth y gwr camera ydi’r rhain, ar un o’n diwrnodau ffilmio neisia ni hyd yma!
A dyma i chi olwg arall ar y traeth hyfryd hwn:
A be oedden ni’n ei wneud ar draeth? Wel, dychmygwch fod â thy a gardd uwchben yr olygfa hon. Mae ‘na rai yn ddigon lwcus, cofiwch. Mae gan Enfys Chapman ardd sydd â llwybr (preifat) sy’n arwain yn syth i lawr i fan hyn. Mae’n lwybr eitha serth, a dydi Enfys ddim yn ifanc, ond mae’n mynd i fyny ac i lawr yn ddyddiol efo’i chi. Prawf arall bod cwn yn eich cadw’n ifanc a heini.
A dyma’r olygfa o dop yr ardd:
Bendigedig ynde? Mi fyswn i wedi gallu aros yno drwy’r dydd a deud y gwir. Ond mae na fwy i’r ardd hon na dim ond golygfa a llwybr preifat i’r môr. Mae Enfys wedi bod yn diodde’n arw ers blynyddoedd ers i ryw awyren ollwng llwyth o pesticide ar y tir roedd hi’n ei ffarmio yn ochrau Rhydychen. Mi effeithiodd arni mor ofnadwy, bu bron iddi farw. Roedden nhw ar fin diffodd y peiriannau yn yr ysbyty ond mi erfyniodd ei gwr arnyn nhw i’w chadw’n fyw am ddiwrnod arall gan mai dyna fyddai penblwydd eu priodas. A myn coblyn, mi wellodd!
Ond ers hynny, mae hi wedi gorfod bod yn hynod ofalus be mae hi’n ei fwyta – llysiau a ffrwythau organig yn unig, a dyna mae hi’n eu tyfu yn ei gardd. Gan ei bod hi’n mynd yn h^yn, mae garddio’n mynd yn anos o hyd, ac roedd hi’n cyfadde nad oedd cystal graen ar bethau ag arfer – yn enwedig ar ôl y gwyntoedd cryfion fu’n taro Eifionydd y noson cyn i ni gyrraedd.
Ond mae na gorneli bach difyr a cherfluniau hyfryd yn yr ardd hefyd:
A dyma i chi lun o Enfys ei hun.
Mae hi’n ddynes ddiddorol ofnadwy, sydd wedi gwneud pob math o bethau yn ei bywyd. Ac yn mwynhau pob eiliad o’i bywyd, er gwaetha’i phroblemau. Ac mae’n addoli ei phlant a’i hwyrion sy’n dod i’w gweld yn aml. Dwi’m yn eu beio nhw!
Dwi’n gobeithio y cewch chi weld yr eitem hon cyn bo hir. Does na’m llawer o raglenni ar ôl rwan! A dwi am fynd yn ôl i grwydro mwy ar Borth-y-gest efo Del toc – mae’n ardal wirioneddol hyfryd.
Filed under: Heb Gategori
Daeth fy ngor-nith, Cadi draw i’r ardd wythnos dwytha, a dod o hyd i bathew bach wedi marw. Mi fynnodd gydio ynddo fo a’i anwesu fel babi bach! Tipyn o job oedd ei pherswadio i’w ollwng er mwyn i ni gael ei gladdu dan y goeden afalau. ‘Wyt ti isio deud rhywbeth?’ gofynais cyn ei orchuddio efo pridd. ‘Oes. Ta ta,’ meddai. Mor mater-o-ffaith â hynna!
A dyma fo, cyn ei gladdu, ylwch:
Dwi’n meddwl y dylech chi weld sut mae fy nhomatos ‘ben i lawr’ yn dod ymlaen bellach – dyma nhw – digon o flodau a ffrwythau, ond dim ond un sydd wedi troi’n oren hyd yma ( rhai oren ydyn nhw i fod, nid rhai coch) ac roedd o’n flasus tu hwnt. Ond gan ei bod hi’n bwrw glaw bob blwmin dydd rwan a dim haul wedi eu taro ers oesoedd, dwi’m yn meddwl y bydd na lawer ohonyn nhw’n werth eu gweld erbyn Sioe Rhydymain ddiwedd y mis. Bw hw.
Ond rhywun sydd â llysiau sy’n werth eu gweld ydi Ian Hughes o Gaergybi. Ac mae hynny’n dipyn o wyrth gan fod Ian yn gwbl ddall. Mi gollodd ei olwg yn un lygad yn 1972 ac yn y llall yn 1979. Mae o angen ffon wen i fynd i bob man, a dyna sut mae o’n crwydro o gwmpas ei ardd. Ond mae ganddo gof anhygoel hefyd.
Mae o’n cofio lle mae pob dim, hyd yn oed yn cofio be blannodd o yn lle a phryd. Dyma fo yn cerdded am ei sied, yn gwbl hyderus. Ac wrth gwrth, mae’r sied – a’r ardd yn hynod daclus gan fod yn rhaid i bob dim fod yn ei le priodol, er mwyn i Ian gael dod o hyd i’w wahanol declynnau, ac i osgoi damweiniau wrth gwrs.
Ac mae ei ardd yn werth ei gweld, mae’n tyfu digon o lysiau i gadw’r teulu a’i ffrindiau i fynd am fisoedd! Mae na flodau yno hefyd, ond ei wraig sy’n delio efo’r rheiny.
Mi wirionais i efo’i iaith o hefyd – Cymraeg cyfoethog, heb yr un gair Saesneg, byth! Ac mae o’n cofio englynion a darnau o farddoniaith a rhyddiaith ar ei gof, felly mae sgwrs efo fo yn bleser pur. Mi fysa’n gwneud chwip o raglen radio…
Edrych ymlaen yn arw at weld yr eitem rwan.
O, a gyda llaw, mae cân plant Rhydypennau i’w gweld mewn clip ar wefan Byw yn yr Ardd!
Ac un llun bach ohona i ac Ian i orffen: