BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Jeli mafon duon a chili
Hydref 5, 2013, 5:26 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , ,

image
Meddwl sa chi’n hoffi syniad newydd, gwahanol am be i’w neud efo’r holl fafon /mwyar duon. Ydyn, maen nhw’n dal o gwmpas. Ac ro’n i’n rhedeg allan o le yn y rhewgell.
Gweld hwn yn y papur wnes i – jeli efo chili. Y cwbl sy angen ei neud ydi rhoi 450g o fafon, 2-4 chili wedi eu torri- dim rhaid bod yn rhy fan, a 450g o siwgr caster – ond dwi di defnyddio chydig llai a bod yn onest. Gawn ni weld os fydda i’n difaru – mewn sosban. Dod a fo i’r berw yn raddol, hel unrhyw sgym sy’n codi ar y top, a’i fudferwi am awr. Dim ond fanno dwi wedi cyrraedd tra’n sgwennu hwn.
Ond wedyn, mi fydda i’n ei roi drwy ryw ridyll bach sy gen i, ‘fine-meshed’, ei dywallt i jar a’i adael i oeri. Mae o i fod yn ddigon i lenwi jar 1/4 litr ond dwi am drio jariau bychain. Wedi eu prynu ar gyfer rhoi mel yn bresantau i ffrindiau ro’n i, ond gan nad oes gen i fel eleni, waeth iddyn nhw neud jam fel hyn, ddim.
Nai bostio llun eto nes mlaen.
Ond peidiwch a disgwyl pethau mawr. Nes i drio gneud jam damsons a gneud llanast. Wel, nid llanast chwaith, mae o reit flasus, jest fymryn yn…galed. Stori hir. Ond yn y bon, ni ddylid rhoi coel yn y prawf setio drwy roi plat yn yr oergell…dio’m yn gweithio efo damsons.
O ia, mi fydd Tyfu pobl yn dechrau nos Fawrth nesa, 8.25 neu 8.30, rwbath felna. 6 rhaglen. Dwi wedi gweld 5 hyd yma a digon difyr ydyn nhw hefyd!
Ond dim jams, na jelis, jest fi’n dal i fod yn Byw yn yr arddaidd ydi hyn.



Newid enw
Medi 7, 2013, 8:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , , , , , ,

Rhag ofn eich bod chi’n poeni ble mae Byw yn yr Ardd wedi mynd, mae’r enw wedi newid. Tyfu pobl fydd enw’r gyfres yma, ac mi fydd gwybodaeth amdani yn eich papurau lleol yn fuan, gobeithio. Roedd na rywbeth ar Radio Cymru hefyd, ond glywes i mono fo. Mi fedrai wastad ‘wrando eto’ mae’n siwr. Da ydi technoleg ynde? Heblaw am y dechnoleg ar y wefan yma, neu fy ipad i. Dyna un rheswm pam nad ydw i wedi bod yn blogio llawer yn ddiweddar – mae’n ormod o gybol! Methu cywiro fy hun heb fynd rownd y byd a chychwyn eto, ac mae’r cursor am ryw reswm yn y man gwbl anghywir felly dwi methu gweld be dwi’n depio! Aaaaa!

Nes i roi’r ffidil yn y to ar ol sgwennu hynna pnawn ma, ac mae’n bihafio’n well heno, diolch byth.
Reit, ble ro’n i? O ia. Tyfu pobl. Pan welwch chi’r gyfres mi fydd yn gneud mwy o synnwyr. A peidiwch a phoeni, mi gewch chi dips tyfu yr un fath- wel, tyfu llysiau o leia. Weles i’r rhaglen gynta wythnos dwytha ac mae’n edrych reit dda! Mae’r bosys yn hapus hefyd, felly ( yn dibynnu ar y ffigyrau gwylio am wn i), bosib y bydd na Dyfu Pobl o ardal wahanol flwyddyn nesa. Gawn ni weld pa mor blwyfol ydi’r Cymry. Ydi rhywun o Abertawe/ Machynlleth/Wrecsam yn mynd i fod a diddordeb mewn pobl o Ddyffryn Nantlle? Difyr fydd gweld.
Ond welwch chi fawr o ngardd i, felly dyma ambell lun!
image

image

A dyma lle bu coeden Dolig fechan wnes i ei phlannu ryw ddeg mlynedd yn ol, dyfodd i fod yn anghenfil – sitka spruce oedd hi os cofia i’n iawn. Blwmin pigog beth bynnag! Ond rwan, diolch i hen gyfaill a’i fwyell, mae hi wedi mynd, a’r dderwen fach yma’n cael llonydd i dyfu yn lle.
image

image
A dyma luniau o Sioe Rhydymain a’r cylch. Nid fy llysiau i oedd rhain, ond Crispin a Karen, dau ddysgwr lleol. Chawson nhw’m cynta chwaith, ond mae nhw’n ddel tydyn?
image
Ond fi nath y chytni yma – efo afalau o’r ardd (mae gen i gannoedd) a nionod coch (siop – dwi’n cael dim hwyl ar dyfu nionod) a ges i 3ydd, cofiwch. Haeddu cynta os dach chi’n gofyn i mi, ond dyna fo…
image
A dyma fy ffrind Olga, a’i dalmatian, Juno. Doedd hi’m wedi meddwl cystadlu, ond nes i fynnu ac mi enillodd ddosbarth y ci mawr! Ro’n i wedi gadael Del druan adre…
image
A cwpwl o luniau eraill dwi’n eitha balch ohonyn nhw:
image

image
Ac yn olaf, Del efo’i ffrind newydd Thor, neu Thorne neu Thornton. Ddim yn siwr iawn pa un sy’n gywir bellach. Ffrindiau wedi ei fabwysiadu a ddim yn rhy hoff o’r enw Thorne. O’n i’n meddwl sa Sion yn swnio’n debyg i Thorne i glustiau ci ond dyna fo. Doedd Del ddim yn rhy hoff ohono fo i gychwyn ( mae o dwtsh yn fawr a thrwm a thrwsgl…) ond maen nhw’n gneud yn iawn rwan a’i chynffon yn troi fel hofrennydd pan mae’n ei weld. Diolch byth!
image



Mentro eto ym Mai
Mehefin 2, 2013, 4:56 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Mentro i flogio dwi’n ei feddwl. Mae angen amynedd Job i wneud hynny efo WordPress y dyddie yma. Dwi’n meddwl mai isio pres gen i i gael fersiwn gwell maen nhw. Ond gawn nhw fynd i ganu! Onibai fod Byw yn yr Ardd yn fodlon talu, wrth gwrs … mae’r ceinioge’n brin yn Ffrwd y Gwyllt a dyna fo.
Yn y cyfamser, rhegi a gwylltio wrth lwytho lluniau a thrio rhwystro’r hyn dwi’n ei sgwennu rhag diflannu fydd hi.
Yn gynta, dyma i chi rai lluniau dwi wedi eu cymryd efo’r ipad drwy’r app instagram. Hoffi rhain, rhai i mi ddeud.photo

Ond mae llwytho’r rheina’n cymryd drwy’r nos. Asiffeta, mae isio gras.Iawn, driwn ni lun gymerwyd bore ma ta, o Meg fy nith a Del fy nghi yn y cae nid nepell o’r ty pan aethon ni am 8 milltir ar y beic bore ma.image Dwy ddel, ylwch …

Mi fu Jac a Tesni, plant Sioned fy nghnither yma chydig ddyddiau’n ôl, ac mae’r ffrwd fel magned i blant yr oed yna:imageimageimage
Ond mae chwarae’n siwr o droi’n chwerw yn y diwedd, pan ti’n chwarae efo dwr, ac mi gafodd Tesni druan socsan…image
Gwell oedd eu gyrru i rannau eraill o’r ardd i sychu:
imageimage
Ydi, mae fy ngardd i’n nefoedd i blant! Ac i minna, rhaid i mi ddeud.
O, a mae na griw arall o Ferched y Wawr yn dod draw wythnos nesa. Felly dwi wedi bod yn chwynnu, bobol bach. Mae’n edrych yn dda yma!photodel
Ac er mod i wedi pasa llwytho mwy o stwff am y cynllun yn Nyffryn Nantlle heddiw, mae gen i ofn colli hwn i gyd, felly dyna ni am y tro. Ffiw!



Llysiau yn Nantlle
Mai 21, 2013, 1:03 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

WEDI GWYLLTIO’N GANDRYLL AM FOD WORDPRESS YN DAL I CHWARAE SILI BYGYRS FELLY LLUNIAU A SGRIFEN AR WAHAN, IAWN!!!

Do, dwi wedi bod ar ei hôl hi efo’r blogio. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio, dyna pam!

Dwi wedi bod i fyny ac i lawr fel io-io i Ddyffryn Nantlle, gan mai dim ond yn yr ardal honno y bydda i a Russell yn ffilmio eleni. Dim ond 12 diwrnod ffilmio sydd wedi eu clustnodi i mi  am y flwyddyn ( toriadau S4C yn taro rhai yn waeth na’i gilydd!) a dwi wedi gwneud 5 diwrnod o fewn cyfnod byr – mewn termau garddwriaethol.

A iechyd, rydan ni wedi bod yn gweithio’n galed. Ty Margaret ym Mhenygroes oedd yr un caleta – llond gardd o goncrit a cherrig oedd angen ei balu’n ddwbl. Roedd ein cefnau, ein dwylo, ein breichiau – bob dim yn sgrechian ar ôl hynna! A chwarae teg, er mai dim ond Russ, Craig, Margaret a fi welwch chi wrthi ( o, a mab Margaret weithiau ond doedd o’m yn teimlo’n rhy dda y diwrnod hwnnw, y creadur) ar y sgrin, roedd y criw i gyd yn palu mewn pan nad oedden nhw’n ffilmio – efo rhawiau, gordd, sgriwdreifar, y cwbl. Fydden ni byth wedi gorffen onibai. Diolch, hogia.

Oes, mae gan raglenni garddio dros y ffin fyddin o weithwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw, ond S4C dlawd ydi hyn, a does dim byddin, iawn! Mi gysgais i fel twrch meddw y noson gynta honno ar ôl slafio yng ngardd Margaret. Dim ond gobeithio y tyfith y llysiau yno, ddeuda i!

Gardd Lynwen yn Llanllyfni oedd hi wedyn – gardd dipyn llai a dipyn haws ei thrin, diolch byth, gan fod Lynwen eisoes wedi palu chydig arni dro’n ôl, ac roedd y pridd gymaint haws ei dorri a’i balu o’r herwydd. Ond roedd hi’n dal yn waith caled.

Diolch byth am help Llywela, merch Lynwen, oedd yn chwip o weithwraig er mai dim ond 4 oed ydi hi. Gawson ni lot fawr o hwyl efo hi, a dwi’n meddwl ei bod hithau wedi mwynhau hefyd. A synnwn i daten na fydd Lynwen yn chwip o arddwraig …

Drannoeth, gardd Debbie ac Eifion oedd dan sylw. OND GEWCH CHI’R HANES HWNNW TRO NESA ACHOS DWI DI LARU EFO WORDPRESS AM HEDDIW …