BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Y ty gwydr fflat
Chwefror 21, 2011, 7:36 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , ,

Wel, dyma sut siap oedd ar fy nhy gwydr bore ma.

Edrych braidd yn drist tydi? Roedd o mor fflat, roedd hi’n amhosib agor y drws.

A dyma i chi lun agosach ohono fo:

Nid bod hynny’n gneud fawr o wahaniaeth.

Ond y newyddion da ydi mod i wedi prynu cebyl hirach ( 50m) heddiw a newydd ei chwythu’n ôl i’w lawn dwf. Mae o’n edrych dipyn callach rwan. Ond gan mod i’n mynd i ffwrdd i’r Eidal am benwythnos hir (pen-blwydd un o fy ffrindiau a thocynnau i’r gêm – weihei) mi fysa’n well i mi roi dipyn o gerrig go drwm ynddo fo rhag ofn i ni gael tipyn o wynt tra dwi i ffwrdd. O, a does na’m un o’r hadau wedi blaguro eto. Do’n i’m yn disgwyl iddyn nhw neud, ond diawch, mae hi reit gynnes i mewn yn fanna. Efallai y cai gnwd o domatos call eleni am y tro cynta rioed.

Ond wrth droi’n ôl am y ty, ges i fraw – wel, sypreis bach neis ta. Roedd ‘na llyffant yn fy mhwll, ar ganol dodwy wyau!

A dyma’r grifft newydd sbon danlli. Mae’r llyffant yn fanna’n rhywle, ond mae’n un da am guddio. Sgwn i os fydd y penbyliaid yn byta’r algae? Gawn ni weld – dwi’n croesi mysedd. A dwi’n gobeithio y bydd mwy o lyffantod wedi dodwy erbyn i mi ddod yn ôl o Rufain. Mi gafodd digon o fabis eu magu yma a dod yn ôl i’r man lle cawson nhw eu magu maen nhw, meddan nhw ynde? Dwi wedi gweld dau gorff crempogaidd ar y ffordd gefn ers sbel, felly os fyddan nhw’n dysgu osgoi’r ceir, mi ddylen ni fod yn iawn.

Dwi’n teimlo bod y gwanwyn ar ei ffordd go iawn rwan. Mae’r lilis gwyn bach i gyd allan ond dwi eto i weld unrhyw ben melyn ar fy nghennin pedr. Ar ôl Rhufain…

O, ac oes gynnoch chi dips ynglyn â ble i fynd a be i’w wneud yn Rhufain, mi fyswn i’n ddiolchgar iawn – dwi rioed wedi bod yno o’r blaen.



Ty gwydr yn colli gwynt
Chwefror 18, 2011, 4:29 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: ,

Mae angen rhoi mwy o wynt yn y bali ty gwydr ma bob 4-5 diwrnod felly mi brynais yr extension lead mwya yn y siop yn dre – 20 metr. Ond dio’m yn ddigon hir – mae angen  o leia 10 metr arall. Felly mae’r ty gwydr yn sigo ac edrych yn pathetic a thrist. Mi fyswn i’n cymryd llun ond sgen i’m mynedd. Falle gymrai lun fory – pan fydd o hyd yn oed yn fwy fflat.

Mae isio gras!



Y ty gwydr ac Ynyshir
Chwefror 13, 2011, 6:41 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

Dyma be oedd hanes fy nhy gwydr £24.99 i ar ôl i wyntoedd cryfion y gaeaf ei daflu ryw ganllath i fyny’r ffordd fawr. Do’n i ddim adre ar y pryd, un o’r adeiladwyr oedd yn gweithio ar fy nghwlychdy ( wet room?) i welodd o’n fflapian ar y ffordd i’r Bala a’i lusgo’n ôl i’r ty. Ond roedd y ffram wedi sigo a’r polythene yn dyllau i gyd. Aeth o i’r bin. Ond roedd o wedi para blwyddyn, oedd yn wyrth ynddo’i hun.

A rwan, y ty gwydr ma sy’n llawn gwynt cyn cychwyn… mae o wedi ei chwythu  i fyny a’i osod. Ar frys, dwi’m yn deud, roedden ni eisoes wedi ffilmio dwy eitem arall mewn gwahanol leoliadau cyn dod nôl i Ffrwd y Gwyllt ac roedd hi’n dipyn o ras ei godi cyn i’r haul fachlud.

A dyma fo. Wel, llun o’r we – nid y fi ydi honna. Mi gewch chi lun o f’un i – os fydd o’n dal yma wsnos nesa.

Roedd y cyfarwyddiadau yn deud bod modd ei godi mewn deg munud. Ha! Os oes dau ohonoch chi wrthi falle, ac os oes gynnoch chi le gwastad, clir i’w roi o. Roedden ni’n gorfod llifio canghennau, tynnu drain a mieri a hanner coeden yn gynta. Diolch yn fawr i’r criw – Dafydd Baines, Gareth Owen ac Aled Rhys Jones – am balu mewn! Roedd y llawr yn dal braidd yn gam – ar allt a bod yn onest, ond doedd dim amser i wneud dim am y peth felly mae fy nhy gwydr yn sgi-wiff – fel y rhan fwya o bethau yn fy ngardd i! Ac mae un ochr yn dal angen ei zipio i fyny am nad oedden ni’n gallu ffendio’r bali zip. Mae’n siwr y daw o i’r golwg ryw ben.

Dim ond 3 potyn o hadau persli oedd gen i i’w rhoi ynddo fo, ond dwi newydd blannu hadau kale a spinach felly gawn ni weld sut hwyl gaiff rheiny. Os ydi o am wrthsefyll gwyntoedd o 56km yr awr, bydd angen gwerth 50kg o blanhigion ynddo fo. Rhyw 5 owns sy na ar hyn o bryd…

Mae gen i fwy o ffydd yn y ty gwydr yma welson ni yn CAT, Corris,

ond mae’r model yma werth rhyw £10,000 os cofia i’n iawn.

Bosib mai £5,000 oedd o, ond mae hynny’n rhy ddrud hefyd.

Fel mae pethe, mae fy mybl gwyn i i’w weld yn amlwg iawn iawn o’r ffordd fawr – mae pawb sy’n pasio wedi sylwi arno fo, felly mi fyddan nhw’n gwybod pwy bia fo os fydd o’n hedfan am y Bala fel y llall.

Mi fuon ni yn Ynyshir hefyd, y lle RSPB i’r de o Fachynlleth. Do’n i erioed wedi bod yno o’r blaen ac mi wirionais yn rhacs – mae’n hyfryd yno.

Roedden ni’n lwcus bod y dynion tywydd yn anghywir; daeth yr haul allan, felly roedd y lle ar ei orau:

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd y lle’n llawn adar wrth gwrs, ond lluniau iphone ydi’r rhain felly do’n i methu cymryd rhai da iawn yn agos. Ond dyma i chi’r wiwerod sy’n bwydo o dan yr anghenfil o fwydwr sy’n hongian wrth ymyl y prif adeilad:

 

A dyma Russell Jones ( ia, un arall!) sy’n gweithio yn Ynyshir.

Does gynno fo’m cweit cymaint o liw haul â’r Russell ni ar hyn o bryd ( mi losgodd hwnnw yn Affrica yn ôl y sôn…) ond mae o’n ddyn yr awyr agored go iawn ac yn nabod ei adar gwyllt i’r dim. Mi wnes i fwynhau yn arw yn ei gwmni o ac mi fyddai’n sicr o fynd yn ôl i Ynyshir, yn enwedig os gai weld Glas y Dorlan yr haf yma.

Dydyn nhw’m yn caniatau cwn felly mi fydd raid i Del aros y y car, bechod.

Os na fuoch chithau yno erioed, mae’n werth mynd, wir yr. Ond mi fysa sbienddrych yn syniad da.



Cwch gwenyn a thy gwydr
Chwefror 5, 2011, 12:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau:

Wedi dod dros y gêm uffernol ‘na nos Wener? Na finna. Symudwn ymlaen at bwnc arall…

Daeth Aled, un o gyfarwyddwyr Byw yn yr Ardd draw bnawn Iau, efo fan wen yn llawn bocsys. Mewn un, roedd hwn:

Ia, ty gwydr rydach chi’n ei chwythu i fyny. Syniad hurt? Gawn ni weld. Maen nhw’n deud nad ydyn nhw’n chwythu i ffwrdd, ond gawn ni weld os ydi hynny’n wir hefyd! Tasen ni wedi ei osod nos Iau, dwi’n ei chael hi’n anodd credu na fyddai o’n nofio yn Llyn Tegid erbyn heddiw. Dwi wedi treulio deuddydd yn rhedeg ar ôl caead fy mwydy, fy wheely-bins a gorfod codi fy sied beics yn ôl ar ei thraed. Balwn fawr fel hon? Hm. Mae’n dal yn y bocs ar hyn o bryd ac mi fyddan ni’n ffilmio’r dadorchuddio a’r gosod ddydd Iau nesa. Mae pwysau’r planhigion i fod i’w gadw i lawr – ond sgen i’m planhigion i’w rhoi ynddo fo, heblaw’r 3 potyn bach o hadau persli rois i mewn pridd ar fy sil ffenest wythnos dwytha. Gwell i mi ddechrau plannu, beryg.

Ac yn y bocsys eraill:

Ia, cwch gwenyn modern, plastig. Edrych yn rhyfedd tydi? Mi gafodd Aled a finna gynnig ar roi dau o’r pethe wax at ei gilydd, y pethe lle mae’r mêl i fod i gasglu. 10 munud yr un yn ôl y cyfarwyddiadau. Ha! Mi fuon  ni am fflipin oes! Roedd angen gweithio allan pa ddarnau oedd yn mynd i lle, gwneud iddyn nhw ffitio, morthwylio ‘tacks’ i mewn – oedd yn goblyn o job, roedd bob dim mor fach a ffidli, wedyn bwydo’r darnau mawr o wax i mewn iddyn nhw yn ofalus… mi rwygodd cornel f’un i – roedd y bali wax yn toddi doedd! Grrr…Roedden ni’n dau’n gweld y bliws ar un adeg. Felly os ydach chi am gael un o’r rhain – mae angen mwy o amser na mae’n ddeud yn y cyfarwyddiadau, iawn? Onibai eich bod chi’n wych am DIY wrth gwrs. Ond mi fydd Carys Tractors yn dod i ffilmio’r gosod go iawn efo fi, ac mae honno wedi hen arfer gwneud cychod gwenyn allan o ddarnau o hen garafanau.

Mi fyswn i’n cynnwys llun ohoni taswn i’m wedi dileu’r cwbl lot fis dwytha! Roedd fy iphoto wedi llenwi gormod felly fues i’n dileu llwyth o luniau ro’n i wedi meddwl na fyswn i eu hangen eto. Ga fflamia. Mi ddylwn i fod wedi eu cadw ar CD mae’n siwr ond doedd gen i’m mynedd. Oes na ffordd hawdd o gadw lluniau dwch?

Omlet ydi enw’r cwmni sy’n gwneud y cwch gwenyn ma – nhw oedd yn gyfrifol am gwt ieir plastig, gwahanol hefyd. Edrych fatha cwmni o Gymry tydyn? Ddim yn siwr os ydyn nhw. Ond nofel Nia Medi o’r un enw ddoth gynta! Hen bryd i honno sgwennu’r dilyniant hefyd tydi? ‘Mwy o wy’ ydi’r teitl ar hyn o bryd, ond dwi’n dal i ddisgwyl gweld mwy na’r bennod gynta. Tyn dy fys mas, Nia!