BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Mwy o fadarch
Hydref 27, 2010, 7:46 pm
Filed under: Heb Gategori

Iawn, mwy am y cwrs madarch ‘na ym Mhlas Tanybwlch:

Ro’n i wedi dewis talu i fod yn fyfyrwiwr preswyl i gael profiad llawn o’r adeilad – a’r bwyd. A sbario gorfod golchi llestri a chodi’n gynnar a gorfod yfed sudd oren yn lle gwin gyda’r nos wrth gwrs. A syniad da iawn oedd hynny.

Roedd ’na hanner dwsin o bobl o ochrau Blaenau yn mynychu’r cwrs ar ‘day release’ fel petae hefyd, ambell wyneb yn eu mysg nad o’n i wedi ei weld ers dros chwarter canrif! Ond mi fyswn i wedi nabod y ‘dreadlocks’ ’na yn unrhyw le. Oedd, roedd ’na gymeriadau ar y cwrs yma, yn cynnwys dyn tawel drodd allan i fod yn wyddonydd go bwysig fu’n dangos i ni sut i weld Andromeda efo’i sbienddrych ar y nos Sadwrn oer, hynod glir. Wel, mi lwyddodd rhai i’w weld. Dim ond miloedd ar filoedd o sêr welais i, nid y cysgod tywyll ro’n i fod i chwilio amdano. Ond falle mai gweld drwy’r cysgod o’n i, dwn i’m. A dyma i chi gymeriad arall, Llwydyn, yn rhoi sws i Patrick Harding:

Ond yn ôl at y madarch. Sleids o wahanol fadarch o bob siap, lliw a llun, rhai’n wenwynig, rhai’n wych mewn padell o fenyn, ac yna i ffwrdd â ni am dro yn y bws mini i fannau sy’n llawn ffwngws. A dwi’m yn mynd i ddeud lle mae’r mannau hynny, neu mi fyddwch chi wedi eu sbydu cyn cwrs 2011 – ond maen nhw i gyd o fewn llai nac awr a hanner o Faentwrog…

Y sioc ges i oedd fod ’na gymaint o fadarch gwahanol sy’n berffaith saff i’w bwyta – rhai sy’n edrych yn hyll iawn, yn gwbl anfwytadwy, ond nefi, y noson honno yn ôl yn y plas, mi gawson ni wledd! A ges i un arall ar ôl mynd adre nos Sul wedi mynd a Del am dro i’r coed efo fy llyfr newydd sbon ‘How to Identify edible mushrooms’.  Boletes o bob math, parasols anferthol sy’n edrych yn union fel parasols (ond gair o rybudd – mae ’na rai tebyg iawn, ond dipyn llai sy’n gallu eich lladd…Dyma’r rhai iawn i chi, a cofiwch sylwi ar y fodrwy am y coesyn – mae’n gallu symud i fyny ac i lawr:

Roedd y parasols bron mor flasus, o, iawn, yr un mor flasus â’r hyfryd saffron milk caps (lactarius deliciosus – roedd yr hen bobl yn gwybod eu stwff) oedd yn wirioneddol fendigedig, er eu bod nhw’r pethau mwya anhebyg i’r madarch bwytadwy rydan ni wedi arfer efo nhw. Dyma lun ohonyn nhw, yn fy masged ( efgo cwpwl o bethau eraill oddi tanyn nhw):

Ac mi fysech chi’n disgwyl bod hylif oren yn dod allan ohonyn nhw – sy’n troi’n wyrdd! – yn brawf pendant eu bod nhw’n wenwynig. Ond na, tydyn nhw ddim. Ond unwaith eto, mae ganddyn nhw frodyr digon tebyg sy’n wenwynig, felly byddwch yn ofalus, prynwch lyfr da – ac ewch ar gwrs.

Roedd awdur ‘The Horse Whisperer’, Nicholas Evans yn meddwl ei fod o a’i wraig wedi bwyta hanner kilo o chanterelles ( madarch melyn, rhyfedd yr olwg) ond Cortinarius speciosissimus, neu’r deadly webcap oedden nhw. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r ddau’n dal i aros am arennau newydd, ond maen nhw’n lwcus eu bod yn fyw. Ond tasen nhw wedi gwneud be dwi wedi bod yn ei wneud, sef gosod y madarch ben i lawr ar ddarn o bapur am rai oriau i weld pa liw sy’n disgyn allan ohonyn nhw, mi fydden nhw wedi gallu gweld nad chanterelles mohonyn nhw.

Mae ’na gymaint allwn i ei ddeud am fadarch ac am yr hyn ddysgais i; dwi hyd yn oed wedi cael syniad am nofel … Ond yr hyn oedd yn fy mhoeni oedd y diffyg enwau Cymraeg. Fu’r hen Gymry’n rai am fwyta unrhyw beth heblaw madarch y maes cyffredin ys gwn i? Neu a gafodd yr enwau eu hanghofio dros y canrifoedd? Mae Twm Elias a’i gyfeillion wrthi’n hel a chreu enwau, felly os gwyddoch chi am unrhyw enwau lleol i chi, gadewch i ni wybod.

O ia, dyma lun o fadarch prin iawn y daeth Twm o hyd iddo fo, ond dwi’m yn cofio ei enw o rwan!



Madarch
Hydref 18, 2010, 6:09 pm
Filed under: Heb Gategori

Helo ers talwm. Mae’n ddrwg iawn gen i, dwi wedi bod yn rhy brysur ers wythnosau i arddio heb sôn am flogio am arddio. A bod yn onest, dwi’m wedi bod yn garddio’r dyddie dwytha ‘ma chwaith, heblaw am dorri’r lawnt am y tro olaf eleni (gobeithio) a hel algae o’r pwll.

Mae gen i fy llyfr fy hun yn dod allan toc ( Yn ôl i Gbara) a thair cyfrol dwi wedi eu golygu i ddod allan cyn Dolig (‘Nain/Mam-gu’ – yr anrheg Nadolig perffaith!; ‘Creigiau Aberdaron’, chwip o nofel arall gan Gareth F Williams a ‘Cymeriadau Maldwyn’ – cyfrol  ddiddordeb mawr i bobl yr ardal honno a thu hwnt) a dwi wedi bod yn ffilmio fel ffwl (Byw yn yr Ardd Nadolig yn dechrau toc) yn ogystal â picio am dridiau o wyliau i Sbaen – ro’n i ei angen o! A mynd ar gwrs madarch i Blas Tanybwlch.

Wele fadarch:

Cynnwys fy masged ar ôl bod yn crwydro yn y goedwig wrth ymyl ty fy rhieni neithiwr ydi hwnna. Chanterelles ( melyn) yn fwytadwy – amau’n fawr os ydi’r lleill – jest hel bob dim i mi gael profi fy sgiliau ‘nabod’ cyn eu anghofio, ro’n i. Mae gen i lot mwy o luniau o rai bwytadwy ond dwi’m wedi llwytho’r rheiny eto. Mi wnai, addo.

Cymeriad a hanner o’r enw Patrick Harding oedd y tiwtor, dyn sy’n edrych fel rhywbeth allan o lyfrau Harry Potter. Neu fel Twm Elias, oedd yn helpu Patrick ar y cwrs ac yn rhoi enwau Cymraeg i mi pan fedrai o.

Siantrel ydi chanterelles! Ac Angel Angau ydi’r Destroying angel – chwip o enw da ynde! A dyma hi, y peth hir, gwyn tlws ma, ond fel mae’r enw’n ei awgrymu – un hynod, hynod wenwynig.

Ond mi fyswn i wrth fy modd yn gweld un – ac mae’n rhoi syniadau i mi am nofel yn barod… ond maen nhw’n bethau prin tu hwnt. Os welwch chi un, gadewch i mi wybod!

Mae na rai eraill sydd ddim yn edrych yn fwytadwy o gwbl, fel hwn…

Ond wir yr, mae o’n hyfryd mae’n debyg!

gewch chi glywed llawer mwy am fadarch dros yr wythnosau nesa ma – dwi’n ‘hwcd’!