Filed under: Heb Gategori | Tagiau: capten, cyfieithu, garddio, Gwreiddyn Chwerw, Jerry Hunter, Môr-Ladron yr Ardd, natur, nofelau am arddio, Steddfod, The Secret Garden, Uwchgwyrfai
Rhyfedd o fyd, ro’n i newydd ddeud mewn digwyddiad bach difyr yng ngardd Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr nad oes nofelau Cymraeg am natur, garddio, blodau ac ati, a dyma Jerry Hunter yn cyhoeddi hwn:
Rwan ta, dwi’m wedi ei ddarllen, a dyma sydd ar y broliant: ‘Nofel i oedolion yn ymdrin â safle’r ferch tua chan mlynedd yn ôl, wrth i Mari, y prif gymeriad, roi genedigaeth i’w thrydydd plentyn’ ond o be dwi’n ei ddeall, mae ‘na gryn gyfeirio at flodau a ballu. Bydd raid i mi ei ddarllen cyn gallu deud wrthach chi faint yn union o flas y pridd sydd ynddi. Dwi’n gobeithio nad oes gormod, gan mod i wedi penderfynu ceisio llenwi’r bwlch fy hun – pan gai gyfle! Ond mae hi wedi ei chanmol i’r cymylau gan y gwybodusion a rhai wedi deud ei bod hi’n nofel sy’n rhaid ei darllen fwy nag unwaith i ddeall pob dim sydd ynddi. Nid nofel ffwrdd â hi mohoni felly, ond fyswn i’m yn disgwyl un felly gan Jerry Hunter a bod yn onest. Boi clyfar.
Ond, dwi newydd gyfieithu nofel i blant hyd at tua 7 oed sy’n BENDANT yn ymwneud â garddio a thyfu pethe.
Disgrifiad Gwales: Stori am y Capten Cranc creulon a’i long Ych a fi! Mae’r criw wedi cael llond bol ar fwyta bisgedi, ond wedi dweud eu cwyn wrth y capten drwg ei hwyl, daw’r bisgedi i’w cyfeiriad drwy’r awyr. Un diwrnod fe lania’r môr-ladron ar ynys gan chwilio am drysor, ond hadau ac offer garddio sydd yno. Addasiad Cymraeg o The Gardening Pirates.
Mi wnes i wir fwynhau cyfieithu hon, a ges i’r gwahoddiad oherwydd Byw yn yr Ardd! Da de … a dyma i chi sut mae’n dechrau:
Llong yr ‘Ych-a-fi’ oedd y llong dristaf i hwylio’r moroedd erioed. Roedd y môr-ladron druan mor ddigalon â gwymon gwlyb am mai’r cwbl oedd i’w fwyta oedd bisgedi â blas fel baw ci. Ych-a-fi!
Pam oedden nhw’n bwyta pethau mor ffiaidd? Am fod Capten Cranc, yr hen grinc annifyr, yn mynnu hynny, ac os byddai unrhyw un yn cwyno, byddai’n taflu’r bisgedi atyn nhw, fel ffrisbis bach caled. Aw!
Un diwrnod, glaniodd yr ‘Ych-a-fi’ ar ynys. Roedd map trysor gan Capten Cranc ac ymhen dim, roedden nhw wedi dod o hyd i’r man ar y map. ‘Tyllwch, y tyrchod!’ gwaeddodd Capten Cranc, ‘neu mi dafla i fisgedi atoch chi!’ Ond fe daflodd nhw’r un fath.
Ond o diar! Pan godon nhw’r gist, nid aur oedd ynddo. Ond pecynnau o hadau, bagiau o bridd a theclynnau garddio.
Roedd y Capten mor flin, bu bron iddo ffrwydro. Bu’n rhaid i dri môr-leidr ei gario’n ôl i’r llong. Sylwodd neb ar Gwen y forwyn fach yn llenwi ei phocedi â phecynnau, yn dodi’r pridd dan ei dillad a chuddio rhawiau yn ei sgidiau.
Roedd un hadyn rhyfedd iawn yr olwg yng ngwaelod y gist. Cuddiodd Gwen yr hadyn hwnnw o dan ei het.
Wel, fel’na roedd o’n dechrau gen i cyn gweld unrhyw olygydd, ond mi fydd yn ddifyr gweld faint fydd wedi ei newid. Ac os dach chi isio gwybod be sy’n digwydd, wel, mi fydd y llyfr ar werth yn y Steddfod am £4.99 – bargen!
Dwi’n synnu nad oes mwy o straeon gwreiddiol am natur ac ati a bod yn onest, rhywbeth fel ‘The Secret Garden’ gan Frances Hodgson Burnett. Dwi’n cofio mai hwnnw oedd ein llyfr dosbarth yn fy mlwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gader ac mi wnaeth gryn argraff arnai ar y pryd. Ond efallai mai fi sy’n dwp a bod nofelau Cymraeg am natur wedi eu cyhoeddi eisoes. Allwch chi feddwl am rai? Rhowch wybod.
O ran fy ngardd i, dwi’n dal i frwydro efo’r rhedyn sy’n mynd yn wyllt acw ac yn dechrau cymryd drosodd. Ond argol, di’m yn hawdd eu tynnu allan unwaith maen nhw wedi mynd yn fawr a’r gwreiddiau wedi stwffio eu hunain dan gerrig – mae gen i ofn chwalu fy waliau! Ond yn ara bach a bob yn dipyn, dwi’n dechrau ennill. Ond mae fy nghefn i’n brifo. Ond dwi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn y malwod. Un broad bean sydd wedi tyfu gen i – un! Ac mae’r malwod wedi tyllu mewn i hwnnw, hyd yn oed. Sglyfs. Ac mae rhywbeth wedi bwyta’r mefus oedd bron yn barod neithiwr. Dydi o’m yn deg!
O leia mae’r gwenyn wedi cael mymryn o haul – tan heddiw. Os gai gyfle heddiw, mi ai i weld faint o fêl maen nhw wedi ei gynhyrchu – os o gwbl. Croesi mysedd …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: afalau, bumblebees, cachgibwm, cacwn, Coed camu-drosodd, gwenyn mêl, gwenyn meirch, popsox, wasps
Iawn, dwi wedi cael llond bol o bobol yn drysu rhwng gwenyn mêl, gwenyn meirch/cacwn a cachgibwms!
Dyma fy ngwenyn mêl Cymreig i yn yr ardd ddoe: bach, mwy du/brown na melyn a wnawn nhw mo’ch pigo chi onibai eu bod nhw’n meddwl eich bod chi’n ymosod ar eu cwch nhw ( neu’n eistedd arnyn nhw) – – un pigiaid gewch chi ac mi wnan nhw farw wedyn. Ond mae ‘na wahanol fathau sydd efallai fymryn mwy neu â mwy o felyn/aur.
A dyma wenyn meirch/cacwn/wasp sy’n fwy milain, yn niwsans pan fydd hufen iâ neu rywbeth melys o gwmpas lle ac yn gallu eich pigo fwy nag unwaith:Mae ‘na wahanol fathau o’r rhain ym Mhrydain hefyd, ond maen nhw wastad â streips melyn llachar.
A dyma’r cachgibwm/bumble bee:yn dewach, yn llawer mwy swnllyd ac yn flewog, ac yn anaml yn pigo. Dwi’m yn nabod neb sydd wedi cael eu pigo gan rhain, er fod y peth yn bosib os fydd rhywun yn gas efo nhw.
Iawn, ydi hynna’n glir rwan?!
Gyda llaw, i’r rhai sydd â diddordeb, mae fy ngwenyn yn dal yn fyw, dim golwg heidio ar neb eto, a dwi wedi rhoi’r gorau i roi siwgr iddyn nhw tra bydd y tywydd gwell yn para. Ac mae’r haid ges i dipyn mwy blin na’r rhai ges i gan Carys. Dwi’n gallu mynd drwy’r haid wreiddiol heb iddyn nhw styrbio o gwbl, ond mae’r haid ddiarth yn ddiawlied bach piwis! Efallai nad ydyn nhw wedi arfer efo rhywun yn eu trin nhw, dwn i’m – ond mi fydd raid iddyn nhw arfer fan hyn, mêt!
Mae na lawer ohonoch chi’n holi am y coed camu drosodd. Wel, mae gen i flodau hyfryd arnyn nhw’n barod, ond mi wnes i dynnu mymryn bach gormod ar un fel bod y ‘V’ wedi hollti fymryn. Wps. Ond dwi wedi lapio hen bopsox amdano ac mae’n edrych reit hapus. Ffiw.
O ran y coed afalau eraill, mae’r un Enlli’n mynd i roi ryw 6 afal i mi leni, ond mae’r hen, hen goeden afalau ( fymryn yn sur) yn drymlwythog a deud y lleia – pob cangen fel hyn:
Os oes rhywun isio gneud chytni afal, dewch draw. Gewch chi lwyth gen i cyn iddyn nhw ddenu’r gwenyn meirch/cacwn.
Mae’r malwod wedi chwalu fy llysiau eto eleni. Coblyn o job ydi trio bod yn organig. Dwi wedi taenu chydig o belets glas yn fy rhywstredigaeth mae arna i ofn – rhy hwyr i’r swej a’r ffa a’r bitrwt, ond yn help gawr i’r blodau. maen nhw hyd yn oed wdi sglaffio fy lilis gwynion del i, sbiwch!
Wedyn dyma i chi ddau lun ‘arti’ ( wel, mwy arti na’r hyn dwi’n arfer eu cymryd) nad o’n i’n gallu penderfynu pa un oedd orau:
Gewch chi benderfynu. Ac ydw, dwi’n gwybod, dwi’n ‘biased’ os ydi Del yna …
Iawn, i dre rwan i nôl y fforch rois i fid arni yn y sêl ddydd Iau – hen un – cryfach na’r pethau newydd sy’n malu o hyd, gobeithio! A welai chi yn y Sioe ddydd Mawrth. Dwi’m yn gweithio yno, dim ond mynd o ran mwynhad a chymdeithasu. Hwyl am y tro!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: alergedd, gwahanlen, kamikaze, pigiad, pigiad gwenyn mêl, queen excluder, stingo
Doedd y gwenynwyr eraill methu credu nad o’n i wedi cael pigiad o gwbl gan wenyn – erioed, er mod i’n cadw gwenyn ers dros flwyddyn rwan. ( Cacwn/gwenyn meirch/wasps, do, ddigon!) Ac roedden nhw’n deud y dylwn i fynd ati i gael fy mhigo, rhag ofn fod gen i alergedd. Ddim diawl o beryg! Ond dyna fo, mae o newydd ddigwydd – ar fy ffer i, bore ma! Fy mai i oedd o, heb drafferthu gwisgo welintyns, heb sôn am y siwt llawn, ac wrth gydio yn un o’r jariau bwydo siwgr, mi lithrodd o fy llaw a glanio efo clec ar y ‘queen excluder’ neu’r ‘wahanlen’. Wel, mi wylltiodd hynny’r gwenyn debyg iawn, a finna yna’n trio siarad efo nhw ‘Popeth yn iawn, dim ond fi sy ma – sori am hynna …’ ond aeth un wenynen yn syth am fy sannau yndo – a bang!
Rwan, i chi sy rioed wedi cael pigiad gan wenyn, ydi, mae’n brifo, ond ddim yn uffernol. Dwi di cymryd tabled antihisthamine yn syth – rhag ofn, ac wedi rhoi stwff o’r rnw ‘Stingo’ arno fo ( ges i o yn Seland Newydd ar ôl cael pigiad gan rywbeth milain iawn dan y dwr yn Bali). Mae’n dal i’w deimlo, yn ‘throbbio’ fymryn am sbel, wedyn yn llosgi chydig, dibynnu be dwi’n neud. Ond dwi’m yn meddwl bod gen i alergedd, does ‘na fawr o chwydd a dwi’m yn meddwl mod i’n mynd i fynd mewn i sioc! A dyma’r pigyn ei hun:
Roedd o’n dal yn fy nghroen i pan dynnais i’r hosan, yn dal i bwmpio’r gwenwyn i mewn. Fel’na mae gwenyn yn gneud dach chi’n gweld – gwaelod ei phen ôl hi ydi hwnna, bechod. Wrth bigo, maen nhw fel peilotiaid kamikaze, yn gwybod eu bod yn mynd i farw, am fod rhan o’u cyrff yn cael ei adael ar ôl. Dwi’n teimlo’n euog, braidd, ond o leia nes i ei sathru er mwyn ei rhoi allan o’i phoen yn syth … wel, ocê ta, ei sathru am mod i’n flin wnes i!
Ond o leia dwi’n gwybod nad ydi un pigiad yn rhy ddrwg … cam pwysig yn fy ngyrfa fel gwenynwraig!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Aberystwyth, braf, brenhines, cacen goffi, celloedd, Commins Coch, continuity, cychod gwenyn, dant y llew, drone, Dyn y Mêl, gwenyn, gwenyn segur, mwng, nefi, pifish, pigiad, Plas y Fronfraith, Wil Griffiths
Roedden ni’n lwcus o ran y tywydd – roedd hi’n braf ar Fehefin 25! Ond dwi’m yn cofio i mi weld haul gwerth ei alw’n haul ers hynny.
A phrin oedd o cyn hynny hefyd ynde, a gan fod Wil wedi deud wrthai bod ei wenyn o’n hen bethe cas, ro’n i fymryn yn nerfus, rhaid cyfadde – er mod i’n eitha siwr mai tynnu coes oedd o. Dyma fo a fi yn paratoi i fynd i weld ei wenyn yng Nghommins Coch, nid nepell o Aberystwyth:A nefi, dydi’r siwt anferthol yn’n gneud dim i mi nacdi? Ta waeth. Roedd y criw yn fwy nerfus na fi, wel, Em y dyn sain o leia, ond mae o’n edrych reit hapus fan hyn:
A dyma i chi Gwennan y cyfarwyddwr – sy’n edrych fel tase ganddi ddwylo anferthol fan hyn-
Ond yn edrych fel tase hi’n mynd i briodas yn fama:
Pam na fedra i edrych felna mewn gwisg wenyna?!
Beth bynnag, am fod ei wraig ac un o’i feibion yn ymateb yn ddrwg i bigiadau gwenyn, mae gwenyn Wil rai caeau i ffwrdd, ar hen stad Plas y Fronfraith – enw tlws de? Ac mae’r fynedfa yno fel rhywbeth allan o’r ‘Secret Garden’:
Roedd gynno fo lawer iawn mwy o wenyn ers talwm, ond mae o’n mynd yn h^yn rwan, ac yn torri’n ôl.
A deud y gwir, ar ôl dros 50 mlynedd, mae o’n deud mai eleni fydd y flwyddyn olaf. Bechod. Ond mi fydd o’n dal i helpu gwenynwyr newydd. Mae o mor brofiadol, mi fyddai ei golli o’n anferth o golled. Dyma fo’n dangos sut i ddal ‘drone’ neu wenyn segur, er mwyn ymarfer dal brenhines heb ei gwasgu i farwolaeth:
Heb fenyg, sylwch. Hm. Dwi’m digon profiadol na hyderus i wneud hynna eto, ond mi fydd raid ryw ben, debyg. A gyda llaw, tydi gwenyn segur ( y rhai mawr, gwrywaidd) ddim yn pigo! Na’r frenhines chwaith – ond mae’n rhaid mynd drwy’r gweithwyr – sydd YN pigo – i gael gafael arnyn nhw does.
Ac roedd Wil yn deud y gwir – mae ei wenyn o’n bifish. Un cwch o leia – nid yr un roedden ni’n ei ffilmio – ond hon:Roedd hi fymryn i ffwrdd o’r cychod eraill, ac wedi bod yn flin ers y diwrnod iddyn nhw gyrraedd – o rywle arall. Doedden ni’m fod i fynd ar gyfyl honna. Ond, mae gwenyn yn gallu arogli o bell, ac yn anhapus weithie pan fyddan nhw’n arogli bobl ddiarth – yn enwedig rhai efo rhyw offer electronaidd a ryw boom mawr blewog.
Dyma i chi Em yn recordio swn y cwch – tua diwedd y pnawn! Roedd o wedi ymlacio digon erbyn hynny, ar ôl sylweddoli ei fod o reit saff yn ei siwt. Ond fyddai o byth wedi gneud hynna reit ar y dechrau!
Ond wyddoch chi be, mi gafodd Wil o leia tri pigiad! Roedden ni’n gorfod tynnu ein penwisg oherwydd ‘continuity’ – yr aflwydd hwnnw – a bang – aeth un yn syth i’w dalcen o! Fel bwled yn union – ac un o’r cwch bifish, synnwn i daten. Wedyn, ges i brofiad annifyr iawn – profiad na ches i ei debyg o’r blaen ac un nad ydw i fawr o isio’i brofi eto! Naddo, ches i mo fy mhigo, ond aeth gwenynen yn sownd yn fy ngwallt i. O, nefi. Dydi hynna ddim yn neis. Mae’r wenynen yn panicio ac yn gwylltio ac yn gneud y swn rhyfedda – sy’n frawychus mor agos i’ch clust chi! A finna jest yn dal fy mhen ar i lawr ac ofn cyffwrdd dim efo nwylo – yn gweiddi – ‘sgen rywun grib?!’ A Wil methu gweld lle roedd hi, ynghanol y mwng mawr yma! Dim ond am eiliadau barodd y peth mae’n siwr, ond roedd o’n teimlo fel oes! Ac mi hedfanodd i ffwrdd yn y diwedd, diolch byth. Do’n i’m yn ffansio pigiad ar fy mhenglog.
Beth bynnag, unwaith gawson ni’n penwisgoedd nôl mlaen, aeth popeth fel wats, a finna wedi fy nghyfareddu. Wyddech chi mai dant y llew ydi’r blodau gorau un iddyn nhw yn y gwanwyn? Dim mwy o chwynnu rheiny i mi felly! Mi gewch chi weld yr eitem ymhen rhyw fis, am wn i, a dysgu be ddysgais i. Ond ‘swn i wedi gallu aros yno am oriau.
Dyma i chi 3 jar o’i fêl o: y ddwy olau yn mynd rownd sioeau ers blynyddoedd, a’r un dywyll? Casglwyd honna ryw haf pan fu’r ffermwyr yn ychwanegu molasses i’w gwair seilej – felly mae na flas triog du arni!
A dyma’r gacen wnaeth Mrs Griffiths i ni: cacen goffi – sef be ddeudis i ar raglen Geraint Lloyd mod i’n eu casau. Ond allwn i’m pechu – a dwi wedi dysgu bod na gacen goffi – a chacen goffi. Roedd hon yn hyfryd!
A dyma’r criw efo platiau gweigion. Diwrnod bendigedig! A mwy o luniau o wenyn Wil – yn ffanio er mwyn oeri’r cwch a hithau mor gynnes tu allan ( dwi’m wedi dallt y camera bach yna’n iawn eto):
A sut mae ngwenyn i? Yn costio ffortiwn i mi mewn siwgwr! Gorfod eu bwydo’n gyson am fod y tywydd yma mor erchyll. Ac mae na dipyn o gelloedd brenhines yn y gwch wreiddiol a bydd raid penderfynu be i’w wneud am y peth. Dwi wedi bod yn malu ambell un – sydd ddim wastad yn syniad da – ond sgen i’m cwch sbâr i roi brenhines newydd ynddi – a dwi’m isio mwy! Tair cwch yn hen ddigon – yn enwedig gan nad ydw i’n debygol o gael mêl eleni … bw hw.